Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

AT OLYGYDD Y "GWLADGARWR."

---..'---.------..---------.-.-----------EISTEDDFOD…

----LLYTHYR O'R AMERICA.

LlYTHYR MORDDAL 0 MILWAUKEE,…

News
Cite
Share

LlYTHYR MORDDAL 0 MILWAUKEE, WISCONSIN. Hynaws Olygydd,—Yn eich rhifyn diwedd- af o'r GWLADGARWR ymdd.angosodd ysgrif o dan v penawd uchod, yr hon, efallai, ar y cyfan aydd gymeradwy. Y mddengys oleiafmai bach- gen ffamws yw yr ysgrifenydd. Meddyliwyf na fwriadodd i'w lythyr gael ei gyhoeddi, onite buasai yn fwy gwyliadwrus gvdag un dosran o hono. Pv wed fod pymtheg cant o filldir- oedd o'r ddinas hono, Milwaukee, i lany mor, ac nad oes mor yn nes atynt na New York." Tua deuddeg cant sydd. Prin cant sydd o Milwaukee i Chicago, ac mai yn rhy brin o un cant ar ddeg o Chicago i New York. Dy- wed hefyd "fod Ilyn Michigon yn 400 milldir o hyd." Mi fum yn ymnofio ynddo lawer gwaith yn ystod dwy flynedd, a 330 milldir oedd ei hyd wrth bob awdurdod y pryd hyny. Naw deg yw ei led mwyaf, a hyny o Mil- waukee, Wisconsin, i Grand Haven Michigon. Yn nesaf, dy wed. Gwelsom 8,000 o longau yn dylod i mewn i Chicago mewn un wyth- nos." A rawjd y bvd Naddo erioed Y mae hyn yn peru i mi feddwl am chwedl y seiri melldigedig hyny yn Llanwonno, pan fu hen wraig farw, a liwythau yn gwneud y coffin. Llythyrenau plwm oedd ganddynt yn gwneud ei hoedran a'i henw ar y clawr, ac y mae yn debyg fod dwy cypher, 00, dros hen ganddynt, ac nis gwyddent beth i'w wneud o honynt; ond penderfynocld un ei hoelio ar y clawr, a gosododd hwy ar ol 79, nes darllenai yn 7,600. Yr un fath yr wyf yn meddwl y bu ar Morddal a'i ddwy cypher ddiweddaf. Byddai pedwar ugain o longau mewn wylh- nos yn eithaf average, ac nid wyf yn credu ddarfod i long o ddwy fil o dynelli gyrhaedd yno eto, er y dywed Morddal gall y llongau mywaf o bob gwlad ddyfod yno. Cofier, nid bychanu yw fy amcan, ond dangos y gwirionedd. Gallai dyn ddweyd am oriau ar fawredd Chicago. Y mae Clerk- street-north and south-yn filldiroedd lawer o hyd, a braidd yn berffaith union a gwastad am tua phum' milldir, a'r unig anwastadedd oedd oddeutu yr afon, lie y codasant yr heol yn gydwastad a'r bont; ond eto, drawbridge, neu bont agored, fel y dywedir, sydd dros yr afon; ac yn wir, y mae llawer pont o'r fath dros yr afon yn y -gwahanol ystrydoedd. Yr oedd, a diamheu fod rhagor, naw o reilffyrdd o wahanol gyfeiriadau yn arllwys trigolion, anifeiliaid, a nwyddau yno bob dydd. Yr oedd addoldy Cymreig, a thua dau cant o wrandawyr yn mynychu iddo y pryd hyny, sef y flwyddyn y ganwyd y GWLADGARWR, os priodol y gair, ac y mae rhyw flas ar fy ngen- au yn awr wrth gofio mor hyfryd oedd genyf gael gafael ynddo ef a'r Punch Cymreig, druan, yn un sypyn yn Post Office Bloomington, Il- linois ac yn wir, fe fu yn dda iawn wedi hyny genvf i'r GWLADGARWR fy nilyn rai miloedd o filldiroedd yn mhellach—i Galifor- nia ac Oregon, ac yr wyf yn meddwl i rai rhifynau o hono fod yn ddifyrwch i mi yn yr Idoho Territory. Yn awr, pan feddyliwyffod papyrau Cymreig yn myned i lefydd pell; er enghraifft, dyma y GWLADGARWR yn myned i swyddfa'r Drych yn Utica, fe fydd sport iawn yno gan.y rhai sydd yn gwybod gwell, weled fel y mae rhai dynion yn stretchio ac yn wir, fe fydd cymdeithion Morddal yn chwertbin am ei ben pan welont ei ysgrif yn y GWLAD- GARWR yn y llyfrgell yn Millwaukee, fel yr wyf ac ereill yn chwerthin am ben yr Aber- dare Times yn dweyd ryw dair wythnos fod Proffeswr ———— wedi darganfod fod Mount Hood yn Califfornia yn 14,000 troedfedcl o uchder, (os hyny oedd yr uchder, o herwydd nid wyf yn cofio yn iawn, ond dyna yw ar fy atlas ond nid yn Califfornia y mae Mount Hood, eithr yn Origon. Saif chwe' chant a haner o filldiroedd i'r gogledd-orllewinol o San Francisco, Califforaia. Mi a'i gwelais lawer gwaith a'r eira oesol ar ei ben. Cwmbach. J. B. D.

YMWELIAD A CHYMRU.

YSGOL FRYTAN iIDD ABERCR WE.

LERPWL.