Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

SYLW AR YSGRIF "UN O'R GRAIG."

"L" AC EISTEDDFOD Y GLOCH…

EISTEDDFOD ADULLAM MERTHYR,…

EISTEDDFOD ADULLAM, DRILL…

FY LLITH OLAF AT MR. SLICK.

I EISTEDDFOD CWMAFON.

News
Cite
Share

EISTEDDFOD CWMAFON. Mr. Gol.—Pan yn darllen eich newyddiadur poblogaidd ryw^ noswaith, gwelais hysbysiad am Eisteddfod i gael ei chynal yn Bethania, Cwmafon, Nadolig nesaf, ac yr oedd yn hyf- rydwch genyf pan yn darllen yr hysbyslen i weled cymaint o'r testynau wedi eu cyfyngu i'r bobl ieuainc. Y mae yn dda genyf weled y pwyllgor a chymaint o awydd i ddwyn y genedl ieuanc yn fwy i'r amI wg. Byddai yn dda pe b'ai i holl bwyllgorau yr Eisteddfodau i ddilyn eu hesiampl, yn lie rhoddi cyfle i'r un rhai i gael y cwbl bob amser. Y- mae yn ddrwg genyf fod rhai yn dweyd nas gallant yn eu byw weled rheswm digonol dros gy- fyngu y testynau. Os ydynt dros ben oedran i gynyg ar rai o honynt, y mae yno destynau ag sydd yn rhydd i bawb i gystadlu arnynt. Nid ydynt hefyd yn cydfyned ag anfon yr enwau priodol gyda y ffugenwau i'r ysgrifen- ydd. Braidd nad ydym yn gallu darllen eg- wyddorion y dynion ag sydd yn siarad fel yna. Fy meddwl i yw fod y pwyllgor i'w canmol yn fawr yn y cynllun, o herwydd y mae yn gynllun ag sydd yn cynorthwy i'r P. C. i ddala y llenladron sydd yn ein beisteddfodau y dyddiau hyn; a dyma ddywedaf wrth der- fynu, llwydd i bwyllgor Bethania yn eu cyn- lluniau da a phwrpasol. Os bydd eich heis- teddfod mor lewyrchus eleni a'r llynedd, bydd yn ardderchog. EISTEDDFOD WR.

AT MR. ISAAC THOMAS.

AT DANIEL YN NGWLADGARWR MEDI…

GWLADYCHFA GYMREIG YN PALESTINA.