Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

GARIBALDI MEWN DALFA.

Y DIWEDDAR MAXIMILIAN.

-.AMERICA. !

PARTS. :

Y FFENIAID YN MANCHESTER.I

News
Cite
Share

Y FFENIAID YN MANCHESTER. Yr wytbnos ddiweddaf cymerwyd dau ddyn i fyny yn Manchester, o dan amgylchiadau drwgdybus. Yr oeddynt yn crwydro o am- gylch y dref rhwng tri a phedwar o'r gloch yn y boreu, a pharodd eu symudiadau hynod i'r heddgeidwaid eu cymeryd hwynt i fyny. Dangosent wrthwynebiad mawr, gan geisio rhoddi eu dwylaw yn eu llogellau, lle'r oedd ganddynt lawddrylliau llwythog. Siaradent gydag aceniad Americanaidd, a honent mai dinasyddion Americanaidd oeddynt. Dywed- asant mai eu henwau oedd John Wright a Martin Williams, a chymerwyd hwynt i fyny o dan Gyfraith y Crwydriaid, a chadwyd hwy yn ngharchar hyd nes y ceid amser i, wnend ymchwiliad. Cafwyd lie i dybied yn fuan mai arweinyddion Ffenaidd oeddynt. Boreu dydd Mercher diweddaf dygwyd hwynt dra- chefn o flaen ynadon y ddinas ac ymddengys fod eu cyfeillion ar ol clywed am eu carchariad wedi penderfynu defnyddio y cyfleusdra i'w rhyddhau yn ystod eu trosglwyddiad o'r car- char i lys yr heddgeidwaid. Drwg genym ddywev d fod yr anturiaeth hon wedi troi allan yn llwyddianus, ac wedi cael ei chanlyn gan ymosodiad angeuoL Ataliwyd cerbyd y car- char gan fintai o wyr arfog, agorwyd ef yn Hyde Road, rhyddhawyd y carcharorion, a saethwyd eu gwylwyr, un o honynt yn farwol. Cymerwyd rhai o'r prif droseddwyr i fyny yn ddioed, a dysgwylid y llwyddid i ddal amryw ereill. Ymddengvs fod v newydd am ymosodiad y Ffeniaid yn Manchester wedi creu llawenydd nid bychan yn mhlith y frawdoliaeth yn yr Iwerddon. Cyneuwyd coelcerthi mawrion ar ben y bryniau yn nghymydogaeth Cork, a cherddodd gorymdaith fawr ar hyd heolydd y ddinas, yn cael eu blaenori gan seindorf. Cafwyd allan yn ddiweddar fod Kelley yn benaeth y pwyllgor Ffeniaidd a eisteddai yn Llundain yn flaenorol i'r terfysg diweddar yn yr Iwerddon. Yr oedd trysorfa y frawdol- iaeth o dan reolaeth y pwyllgor yma, a chan- ddynt hwy y cynlluniwyd y terfysg. Yr oedd Kelley yn gwahaniaethu oddiwrth ei gym- deithion gyda golwg ar y mater diweddaf, ac ar y cyfrii hwnw, cyhuddid ef o fradwriaeth gan rai. I fyny hyd boreu dydd LInn yr oedd holl ymdrechion detectives Llundain a Manchester, i'r rhai yr ymddiriedwyd y gorchwyl anhawdd o ail ddal Kelley a Deasey, wedi bod yn aflwyddianus i ddargarfod ymguddfeydd y ffoaduriaid. Er hyny ni bu eu llafur yn ofer, canys y maent wedi cymeryd amryw o aelod- au enwog y frawdoliaeth Ffenaidd i fyny. Nid oes yn awr ddim llai na 40 o Ffeniaid mewn dalfa yn Manchester. Dywed un Thomas Clinton, Nottingham, yr hwn sydd yn ddyn cyfrifol, ei fod wedi gweled Colonel Kelly yn Wheeler Gate, ger Notting- ham, nos Sadwrn diweddaf. Ar yr adeg y gwelodd ef, yr oedd yn cario bwndel bychan mewn cadach coch, ac yr oedd yn myned i gyfeiriad Narrow Marsh, lie y mae y rhan fwyaf o Wyddelod y dref yn preswylio. Gwnawd ymchwiliad yn y lie, ond yr oeddid heb dddod o hyd iddo pany derbyniasom y newyddion diweddaraf.

Advertising

TESTIMONIAL TO THE REV. JOHN…

Advertising