Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
18 articles on this Page
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. Bydded i'n cyfeillion y Beirdd o hyn allan gyfeirio eu holl Gyfansoddiadau Barddonol yn y modd ac i'r cyfeiriad canlynol: — REV. W. CALEDFRYN WILLIAMS, Groes Wen, GWLADGARWRl Near Pontypridd.
[No title]
Y mae llawer o'n beirdd wedi gwrando arnom o dro i dro yn ewyllysgar wrth nodi diffygion a berthyn iddynt, ond y mae rhai o honynt ar ol; gan hyny, dodwn y rheolau canlynol idd- ynt fyned wrthynt: a chrefwn ar yr Argraff- ydd i'w gadael i ymddangos am rai wyth- nosau Ceisiwoh bapyr a elwir note paper, tuag wyth mod- '6dd o hyd, a phedair mcdfedd a haner o led, i ysgrifenu arno. 2. Ceisiwch ino du, nid japan, ond ine eyffredin a fetthir yn y masnachdai; os nad ellwch "wneuthur ine hiinuin. 3. Ysgrifenwch eich geiriau yn eglur, heb !,°d yi rhy fan. i pheidiwch a dodi y Uinellau yn rliy agos y gilydd 4. Gofelwcbt am ddechreu ar frig y ddaleri, ac ,ll'j ar ei hochr, a chedwoh y papyr yn Ian heb ei ddiwyno Mwjkw bndron nac a sug tybaeo. 5. Na cbytiygiwca ai na haner !len gyda y peth lleiaf a ysgnfenwch, oblegyd <lefcyd<!iwch ddainau o bapyrau, niodf -dd neu ddwy o byddant me« n perygl o fyned ar goll. 6. Gofelweh, "Ith selio eich llythyrfiu, am i'r glyd beidio cyfhwrdd a'r ^rlleniad oddifewn. 7. Cymerwcli (,fal am dalu y llythyr- doll 8. Is a ddysgwyliwch i'ch eynyrchion gael ymddan- ffos yr wythllos pyntaf anfonocb, fel na siorner chwi a eh eyfeillio,. Rbaid cael amser i ddarllen, ae i bwyso y eyfan-oddiadnu cyn eu danfon i'r swyddfa. 9. Gofelweh bob amser am ddodi y gair GWLADGARWR oddi allan i'ch "ytLyrau. 10. Os bydd genych 1) thyr cyfrinachol, neu III, a chwenychoch ei weled yn argr-'ft'edig, dodweh (far en ar ei ben ei hun, ae Did ar ddalen fyddo yn cynwys cyfansoddiad barddonol.
DAU BENILL
DAU BENILL I Mr Morgan Lewis, Columbia Brydeinig, gynt Aberdar, am ei ffyddlondeb a, i ddidwylledd dyn- garol. Lie byddo gwir ddyngarwch wedi gwreiddio, N id oes a all ei atal i flaguro Y galon lie y byddo yn blanedig, Mor llawn y sydd a'r dyfnfor mawr chwyddedig- 0 hedd a chariad, gonestrwydd, ac haelfrydedd, ffyddlondeb pur, a phob gwir foesawl rinwedd; Un fedda galon o'r desgrifiad yma Yw Morgan Lewis, brawd Odyddol gwir dda. Er iddo i bellafoedd byd auturio O'i enedigol fro-bro anwyl ganddo; Ni ddarfu anghono i frodyr (Jristionogol, Ychwaith ni wnaeth anghofio'r Rhosyn* siriol; Er pelled yw efe o'n cyfarfodydd, Mwy mynych ynddynt mae na llawer Odydd; 0 bydded llwyddiant ar ei holl ymdrechion, A doed ar fyr ynoli ymru dirion. Aberaman. HYWEL CYNON. Rhosyn Morganwg" yw enw y Gyfrinfa Odyddol, yn yr hon y mae Mr Morgan Lewis yn aelod.
DEIGRYN MERCH.
DEIGRYN MERCH. Hardd yw'r lili yn y boreu. ) n ei mantell wlithog gain; A thra siriol yw ei golwg, Er yn nghanol dyrus ddrain; Ond mil harddach genyf weled Deigryn bach o lygad merch Mae fel enaint i fy nghalon, v Lleinw ynof ysbryd serch. Gweled merch yn colli deigryn i A rydd brawf o ysbryd mwyn Ac o dymer dda garuaidd, t. Pwy all ddirnad faint ei swyn ? Gwna wefreiddio fy nheimladau, Ac argraffu'n hynod ddwys Ar fy nghalon, ryw gymhellion Am gael meddu'r feinwen lwys. Llawer awr yn syn mi sefais Yn y goedwig werdd ei nod, Mewn dyddordeb wrth gael gweled Hidlaid ddeigryn dail y coed Ond melusach i fy ysbryd, Ydyw bod yn nghwmni mereh, I gael syllu ar ei deigryn- Perlyn llawn o swyn a serch. 0 na fyddai yn fy meddiant, Gostrel aur o gywraint waith, Ynddo cadwn fel gwiw drysor Ddeigryn merch-y gemyn llaith, Fel y gallwn ei arddangos Fel arwyddlun natur gu, Ac fel swyddwr dros y galon, Fod o'i mewn rhinweddau lu. Dinas. J. Rees.
EDRYCH AR Y RHYFEDDODAU.
EDRYCH AR Y RHYFEDDODAU. Edrych ar y blodau siriol Yn mwynhau hyfrydawl wledd, 0 her ddafnau gwlith y boreu, Perffaith degwch yw eu gwedd; Anfeidroldeb fu'n eu llunio, Ef a wnaeth eu ffurf a'u lliw Y blodeuyn bach dystadlaf Ddengys ddwyfol allu Duw. '< n eu hymyl gwel y dderwen- Gadarn fel herfeiddiog gawr, Yn hyf ledu ei changenau Dros eiddilod man y llawr Ddarlun pur o ddiysgogrwydd Weli yn y dderwen gref Gwawdia ruthr gwyntoedd creulawn, 'Sgydwa'i phen wrth wrando'i lief. Tro dy olwg i'r gwastadedd, LIe mae r coedydd preiff yn do, Gwel yr afon fel brenines, n ymrolio trwy y fro Delw amser sydd i'w ganfod, Yn yr afon ar ei thaith Nid yw'n aros nac yn hepian, A mewn rhwysg i'r dyfnfor maith. Penderfyniad sydd yn amlwg Yn mhob dafn o'i dyfroedd pur; Chwardd yn ngwyneb dyfais ddynol, Hyrddia ffwrdd y cadarn fur; Ar y llechwedd uwch yr afon, Yn ddiysgog mae y graig, Fel pe'n cadw rhif y dafnau, Sydd yn myned ffwrdd i r aig. Ar ei phen mae coron henaint, Llwyd a gwelw yw ei grudd; Rhycha'i gwyneb, hyllt ei bronau, 0 henafol olwg brudd; Dyma ddarlun o'r sefydlog, Erys pan fo'r coed yn ddellt; Kid yw'n ffoi pan rua'r daran, Amser rifa'n ngoleu'r mellt. Cwmbach. MEUDWY MWYN.
EN iLYN I'R HAF.
EN iLYN I'R HAF. Yr haf, 0 dymor rhyfedd,-e ddyru 0 dyddorawl ymgeledd I ddynion gweinion eu gwedd, Gwenith er maith digonedd. Cwmaman. DIARFOG.
I'R CYBYDD.
I'R CYBYDD. Ceibio am olud mae'r Cybydd-am aur, Y muria hwn beunydd Hwn yw ei dduw yn ei ddydd, 0 galon erch dig'wilydd. Cwmaman. DIARP-OG-.
C\N 0 GLOD
C\N 0 GLOD I Mr D. Rees, Ilywydd gwaith glo Nixon, yn Mountain Ash. Gydweithwyr hofl: o rodiad hardd, A wnewch ymddwyn a theimlad,bardd, A'i awen fywiog fel ar dan, Er canu clod i'r Cymro glan. Diwydrwydd hefyd, sobrwydd coeth A gadwai'n dda a i wneud yn ddoeth, I fod yn llywydd gweithiau glo, Sydd fawr eu bri o fewn ein bro. Gwaith glo y Navigation sydd n glod i'r meistri nos a dydd Damweiniau dybryd ar bob ]law, Wna Dafydd Rees eu cadw draw. Y glowyr oil ynt lawer cant Aent wrth eu bodd mal ufydd blant; A ffyddiog yn eu llywydd mwyn, Pan bydd rhyw gam e wrendy gwyn. Rhyw fraint annhraethol oedd ei gael, Yn lie disynwyr ddynyn gwael; Bu rhai or giweid yn ein plith, Heb fod yn ddim ond llyw mewn rhith. Didderbynwyneb yw efe, Ei feddwl dreitha yn mhob lie; A'i arwyddair yw breiniau dyn, Heb gadwyn gormes wrtho'n nglyn. Dyrchafu gweithiwr yw ei nod, N is meddwl ddim am hunan glod; A dywed pawb mewn llan allys, Mai llywydd da yw Dafydd Rees. Caiff llawer dysteb yn ein gwlad, Heb wneuthur fawr o un lleshad; Ond pa ryw Gymro dan y nef Deilynga dysteb fwy nag ef; II Hir oes fo iddo llawn o hedd, Ac iechyd hefyd hyd ei fedd, I reoleiddio gweithiau glo, Boed hyny ar ryw fryn neu fro. Rhyw ddynol glod a chyfoeth byd, I rai sydd megys tarth yn nghyd; Ond Dafydd Rees gaiff barch a bri, Tra rheda'r Cynon tua'r lli'. ALAWYDD,
SEFYLLFA Y TLA WD.
SEFYLLFA Y TLA WD. Alaw,-Toriad y Dydd. Mor brydferth ydwyt Walia, Dy faesydd o mor gun A wisgir gan y briaill heirdd, A'r lili decaf un Mor nwyfus yw'th awelon, Mor hyfryd ydyw can Y fronfraith a'r aderyn du, Adseinia'th gymoedd glan: Ond er dy holl ardduniant, Caethiwed erchyll du, Sydd fel ellylles front yn gwau 0 fewn dy furiau di; Y tlawd yw nod ei saethau, Dan orthrwm mae yn byw, Heb gysur yn ei fywyd gwael, Heb gyfaill ond ei Dduw. Nid ydyw gan y ddaear Oad adyn gwael difri, Am nad oes ganddo gyfoeth byd, Nid oes a wrendy'i gri; Ei holl weithredoedd gwiwlon, Pe gwnaethai bonedd byd, Hwy gawsent eu dyledus barch, Eu henwau fyddai n glyd; Ond ar y tlawd ni sylwir, Nac ar ei weithred chwaith Rhaid iddo fod heb foliant byd, Heb wobrau daear laith Ond Duw yw ei wobrwywr, Ei wobr fydd y ne', Mewn pur ddedwyddwch byth y bydd, Heb dlodi yn y lie. Pentre Estyll. LLYWARCH GLAN TAWK.
MARWOL AETH Y B\BAN.j
MARWOL AETH Y B\BAN. Y baban byehan hunodd, do, Er cymaint ei dlysineb, A 'i gludo gadd i'r nefel fro, Lie mae mewn anfarwoldeb. Ymagor wnaeth fel blod'yn blydd, Y boreu yn deg odiaeth Ond Och cyn cyrhaedd haner dydd, Cadd brofi ing marwolaeth. Wrth wel'd y rhosyn bach mor hardd, Deisyfu wnai'r angylion, Ei gael ef fry i'r nefol ardd, 0 gyraedd yr awelon. Mewn gwely oer, y bychan roed I huno hyd y boreu, Pan y ca n llawen roi ei droed I sathru ar ben angau. Y boreu hwn fe gwyd i'r lan. 0 lychlyd wlad marwolaeth, Fel lesu Grist (nid baban gwan) Yn gyflawn mewn corffolaeth. Aberdulais. RHYS All IOAlf.
ENGLYN I'R PARCH E. ROBERTS,…
ENGLYN I'R PARCH E. ROBERTS, PONTrPRIDD. Gwr i lesu gwir isel-yw Roberts, Enwog Rabbi uchel; A gwr mwyn a geiriau mel f' 0 urddas gwerth ei arddeL Bryntroedgam. G. GLANPPEWDWYLLT, )
BEDDARGRAFF Y P \RCH H. DA…
BEDDARGRAFF Y P \RCH H. DA VIES, SPELTER. Mewn hedd y gorwedd ein gwron-Davies, Gwr difai a thirion, Aeth i wynfyd llawnfyd lion, I gyraedd euraidd goron. G. GLANFFBWDWYLLT.
ENGLYNION
ENGLYNION 0 glod i Mr T. Walter Evans, (ri wallter Fcddyg,) am ei lafur difefl fel meddyg y lie. Ein myg wiw feddyg a fu-yn obaith Glyn Ebwy anwylgu Er ein ffawd ef gawd yn gu, Yn achos rhag ein nychu. Rhag dirfawr oerawg derfyn,-dwrn angau, Deyrn ingol a'i ddychryn; Arbedodd, dygodd y dyn I rodio'r ddaear wedy'n. Glyn Ebwy. BRWYNOG.
ENGLYN I'R MEDDWL DYNOL.
ENGLYN I'R MEDDWL DYNOL. 0 feddwl mawr ei foddau,-ysbryd yw A'i asbri dyr rwystrau Un nerthol a wna wyrthiau, < Byw wna hwn byth heb wanhau. Cwmtwrch. Ap STEPHAN.
-IPENILLION
-I PENILLION I Gruffydd bach, mab Mr J. Thomas, (Llew o'r Lwyn,) a Jane Thomas, Aberdulais. 0 Gruffydd bach, yr wyt yn wir, Yn orlawn o hawddgarwch; 0 fewn i'th wyneb tlws yn glir, Y gwena nefol degwch. Cynyddu wnelot ti un bach, Mewn corff a meddwl hefyd, A'th einioes fo yn hir ac iach, A llawn o lwyddiant hyfryd. Dy fywyd fyddo yn y byd, n llawn o bob rhinweddau A'th galon fo yn berwi o hyd, Dros iaith a gwlad dy daclau. Pan ddel yr awr i ti a'r byd I siglo llaw a ch gilydd, Dy gartref fo yn mynwes glyd, Y r Iesu yn dragywydd. Aberdulais. R. AB IOAN.
| Y CYMRY YN NGOGLEDD LLOEGR
| Y CYMRY YN NGOGLEDD LLOEGR j PENOD XII. | Y mae yma, yn y Branch, er nad yw rhif y Cymry dros gant, un Cymro, os teilwng ei alw, yn cadw tafarn, ac y mae yn biti onid i yw fod neb wedi dyfod cyn belled o dre i gyfiawni swydd mor isel a phechadurus i gadw ty ffyliaid ? lie mae Un a'i ddwrn yn certh ddarnio-rhywun, A rhyw' awff yn dawnsio j Ac un gwyllt mewn gwin o'i go', Yn eiddil chwiban iddo Y mae llawer o bethau wedi eu gwneud yn gyfieus a ffafriol i breswylwyr y lie yn ddi- weddar, yn neillduol felly i'r gweithwyr. Rhed cerbydres hwyr a boreu o Middlesbro i lawr yma, gan gario gyda hi ugeiniau os nad canoedd o weithwyr. Yr un modd bob Sad- j wrn eilwaith, rhed cerbydres rad a'r gweith- wyr i fyny i'r farchnad Middlesbro ac yn ol. Gellir myned oddi yma hefyd i draethfor Redcar, neu Rhyd-y-car wrth ei Gymreigio, er ymdrochu a difyr-chwareu yn nhrwst y tonau brigwynion yn misoedd dymunol yr haf. Y mae gan y Cymry le cyfleus iawn i addoli, er nad ydyw yn gapel ac yn lie eang, eto, mae yn gyfleus ac yn weddol rad. Mehefin 12, 1852, sefydlodd y Parch E. C. j Jenkins, Rhymni, eglwys <'ymreig yma gyn- taf erioed, ac oddiar hyny hyd yn awr, barn- wyf fod y by.wyd wedi bod yn aros o hyd yn j mhlith yr esgyrn, er iddynt fod yn hynod wanedd a dilewyrch am amser. Y rhif a ber- i thyn i'r eglwys gymysg hon ydyw 18, ac y maent yn 36 o Ysgol Sul, pa rai a gynaliant eu dosbarthiadau a'r ysgol gan mwyaf yn yr iaith Saesneg. Yma y llafuria y dysgedig a'r difalch dad, y Parch E. Pgeice, un oolynwyr y bydenwog a'r hybarch Dr. Phillips, Neuadd- lwyd. Deallwn fod Mr Preice wedi bod yn yr athrofa bono am tua naw i ddeg mlynedd fel cynorthwydd i'r Doctor, ac iddo yn ystod yr amser hwnw, gopio i'w athraw ei esboniad ar y Testament Newydd bob brawddeg, ac y<! ei lawysgrif eglur a dealladwy ef y daeth allan o'r wasg. Y mae yn feddyliwr cryf ac yn fy fyriwr caled. Ysgrifenodd lawer o erthyglau campus i newyddiaduion Middlesbro a thref- ydd ereill, yn ystod y blyn\ ddoedd diweddaf. Ystyrir ef gan ei gydnabod o alluoedd a medr tu hwnt i'r cyffredin, a pherchir ef wrth gwrs ar gyfrif hyny. Derbynia gymorth i'w gynal oddiwrth ei wasanaethyn y gwaith, yn nghyda rhyw ychydig oddiwrth yr eglwys y mae yn byw yn dda, ac i raddau yn ddedwydd a bodd- longar yn ei hen ddyddiau. Barnwyf fod yr eglwys fechan hon mewn llawer o anfanteision, er yn feddianol ar weinidog sefydlog. Un peth pwysig ydyw, am fod yr aelodau yn gweithio y nos a'r dydd bob yn ail wythnos, ac yn ami ar y Sabboth. Gwyr pawb a wyddant ychydig am y gweithiau tan, fod yn rhaid i'r rhai sydd yn gweithio y ffwrnau blast weithio double shift, ie, a'r Sabboth hefyd. Gwaith, a gwaith byth a hefyd ydyw hi gyda'r tawdd. Y mae pob math o weithwyr yn cael y Sabboth yn rhydd i orphwys, ond y bobl druenus hyn ac O! na ddelai rhyw feddwl a chynllun teilwng allan fel ag i luddias y bobl yma befyd rhag gweithio ar ddydd yr Arglwydd modd bynag. Nid ynt yn well nac anifeiliaid direswm, fel ag y maent yn bresenol, ac yn wir, fe ymddygir at lawer anifail yn well nag y gwneir a hwy. Yr wyf yn hollol gredu fod ya. bosibl i bob meistr gwaith gadw ei waith yn segur ar y Sabboth heb ryw fawr golledu ei hun. Gwn am un tua dwy filldir o'r Branch End yn gwneud hyn. Y mae ei waith bob Sabboth yn sefyll am bedair awr ar hugain a thrwy; j i hyny, galluogir ei weithwyr brese'ioli eu hun- ain yn moddion gras. Dyna meistr teilwng, gwerth i holl feistradoedd y wlad ei efelychu, a gwn y bydd i ti ddarllenydd, lawenhau pan y dywedaf niai < ymro, genedigol o Ddeheudir Cymru ydyw, ac un sydd yn bleidiwr selog i Gymry. Er t'nghraint, y mae Mr Jones yh aelod yn mhwyllgor un o glafdai Middlesbro, ac er rhoddi liiwv o chwareu teg i'r Cymry a ddygir i mevs u yno, <iylanwadodd i gael Cy- inro trwyadl o Borthmadog, Gogledd Cymru, yu feddyg, ac i weini yno, yr hyn sydd wedi bod yn destyn ilawenydd, ac yn fendith werthfawr i ni fel cenedl ar lanau'r Tees, yn enwedig yn Middlesbro. Rywsut, nid yw Cymry v Branch y ]) tit a'r h\ u a ddylent fod, yn dymorol nac yn > sprydol: nid oes fawr lewyrch ar ddim o'u heiddo, a hyny yn herwydd eu bod yn g.. eithio y Sabboth, ac Y11 dueddol i gyfeddach a meddwdod, ac i ym- roddi gyda phob chwantan blysig ac aimuw. Baruwyf mai man a gorchwyl anhawdd ar lawer ystyr ydyw magu a uieitlirin vspryd crefydd gyda y rhai sydd yn gweithio wrth y ffyrnau tawdd canys y maent vn y gwaith pan y dylent fod gartref, yu cysgu pan y dylent fod yn effro, ac yn gweithio ar ddydd yr Arglwydd pan y dylent ei santeiddio. Cawn lawer o Gymry a chref, dd ganddynt yn dyfod yma, ond wedi myned i weithio, ac ymgymysgu a gwyry ffwrllesi tawdd, y maent yn colli y perl o uchel bris, am gyfeiLlach an- nuwiol y dafarn. Yr had ar y graig noeth ydynt, yn gwywo pan gododd yr haul, ac yna fe'u chwythwyd ffwrdd gan bouthwynt brof- eiligaeth a diystyrwch. Chwi wrtligilwyr, sefwch fyn d, ac ystyri weh eich tynged tra- gywyddol, ie, yn wir, ym rolwch a cliodwch acbos tellwng o honoch ac o Dduw y Cymry yn y Branch End. Hoed i chwi yn mhob modd ail feddianu eich safle aurhydeddus. Nac ymfoddlonwch ar yr h n a fuoch fel eglwys gymysgedig a Chymreig, ni fydd hyny yn un caffaeliad i chwi yn bresenol, heb fod ynoch yr awyddfryd anwyl hwnv. i fyim meddianu y tir a gollwyd. Middlesbro gaiff ein syiwadau nesaf. (I'w barhau.)
[No title]
SARON, MAEsTEG.-Cynaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfod blynyddol ar y Sul a'r Llun, yr 8fed a'r 9fed o Fedi, pryd y gweia- yddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. canlyn- ol :—Davies, Glandwr, sir Benfro S. L. Jones, Merth\r; Hughes, Abeitilery Lewis, Salem, (B.); a Lewis, Brynrne yn. Cawsom gyfarfod da a gwlithog iawn. Ni a obeithiwn fod llawer wedi eu dwysbigo yn eu calonau, ac y cawn ni weled llawer yn troi at yr Arglwydd, ac i'w eglwys yn fuan ar ol hyn.-R. E. GLANDWR GER FFYNON DAF.-Cynaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfod blynyddol y Llun a Mawrth, Medi y 9fed a'r lUfed, pan y pregethwyd gan y Parchn. R. Evans, Aberdar; D. Thomas, Abercauaid; D. Jones, B.A., Merthyr a J. Mathews, Castellnedd. Hyfryd yw genym dystio fod y pregethau o dan ar- ddeliad yr Arglwydd. Boed bendith yr Ar- glwydd ar yr eglwys a'r gweinidog.—G. C, CYFRINFA BRYTHON.— Urdd y Jhjngarwyr (Philanthrophics.) Nos Si>lwru diweddaf, cynaliodd y gyfrinfa uchod, yr hon a gynelir yn y Bailey's Arms, Aberdar, g. iarfof neill- duol er arholi ac archwilio ansa* dd y llvfrau a sefyllfa y gyfrinfa am y chwech mis di- weddaf—o'r 22ain o Riiagfyr hyd y 24ain o Yehetiii. Yr archwilwyr ponodedig oeddynt Mr. John Edwards, P.P., G.M., a Mr. J. Junes, P.G.M., Cyfrinfa y Brython, a da genym ddwyn tystiolaeth er clod i'r ysgrifenydd ieu- anc, Mr. John Davies, Aberaman, i'r archwil- wyr gael y llyfrau yn gywir, manwl, a bodd- haol, a sefyllfa y gym ieithas yn hynod ffafriol gyda golwg ar y dyfudol—G. TREFORIS.—Yr Ysqol Frytanaidd.— Y mae yu hysbys i luaws o ddarllen wyr y GWLAD- GARWR ddarfod i H. H. Vivian, Ysw., A.S., addaw sefyll yn haner y draul o godi ysgoldy yn y dref uchod, ar yr amod fod i'r trigolion sefyll yn yr haner arall. ArM iawn y mae pethau wedi cael eu dwyn yn miaen hyd ym hyn—mor aiaf, nes mae y rhai mwyaf ilygad- graff wedi bod yn p 'tr uso pa un a wclsit hyn wedi ei ddwyn oddiamgylch yn y bedwerydd ganrif ar b mtheg ai peidio. Yr oedd yr ar- afvvch hwn i'w briodoli mewn rhan, os nad yn gwbl felly, i arafwch yr arian yn (il-, E)z t i mewn; ond yn awr y mae sail gobaith yn dyfod dipyn yn nes i'r wyneb. Y mae lie i gasglu y bydd y ty yn barod cyn liir, pryd y cailf plant y dref o bob maint a sefy IHa eu cipio i mewn, yr hyn, ond odid, a fydd yn ddechreuad cyfnod hapus yn hanes y Jk Y mae yn dda gan ein calon gael ar ddeail fod y pwyllgor wedi cael cydsyniad Parch. S. Roberts, gynt o Lanbrynmair, i draddodi dar- lith nos Sadwrn, yr 28aill cyfisol, cvm, rcli yr hon sydd i fyned at yr ysgol. Yr ydyni edi clywed ar awdurdod da fod v toevnau yrJ i<io yn hynod gyflym. Bydd 'hvn'yn gal-did mawr i r pwyllgor, ac i'r darlitlmU paichus pan y daw i'r gymydogaetli. Y mae ma gor undebol hefyd wedi ei gychWYll tr's rhai nxis- oedd yn ol. Gwir nad y dym i ddvsgwv 11 iiy w lawer oddiwrtho eto. Ond ai tybed nas "uilwn gael cyngherdd ganddo yn ystod y Kaiuf dy- fodol? Y mae pob swÜt yn gymurth ^n y byddo hi wedi myned yn brin." Dvaa y Dar- lleniadau Ceiniog hefyd. Y mae yn ddi dad! genym y gallai hwn wneud llawer o ddaioni with godi ei safon dipyn vn uweh, a ■ ;idael y cynyrch un gauaf i redeg tua chyfeirLi yr ysgol. Cymerer hynyna fel hynt.—S. T.
[No title]
Yn Nhalaeth Indiana, y mae nu-n v wedi newynu ei hun i farwolaeth o herwy da lod ei gwr wedi ei gadael. Y mae yn Nhalaeth New York, 188,985 o weddwon, llawer o ba rai ydynt wed,hv. milwyr a laddwyd yn y rhyfel diweddai.