Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Saron Hall, Aberaman, Medi 9, 1867, i wobr- wyo Mr. John Williams, goruchwyliwr pwll Ynyscynon, ar ei ymadawiad a'r lie, i fyned i Treorky, Cwmrhondda. Cawsom gyfarfod lluosog, a dyddoiol iawn hefyd; ond nid oedd y dysteb yn werth ei galw yn dysteb o gwbl braidd, a hyny am fod y teilyngdod yn llawer mwy na'r wobr; ond wedi'r cyfan, yr oedd tysteb fechan fel yma, ar amser mor dlawd a chyfyng ag ydyw ar weithwyr yn bresenol, yn profi ar unwaith beth oedd teimladau calon y gweithwyr pan yn myned i golli eu hen feistr, ac nid ydym yn petruso dyweyd nad ydyw Mr. Williams mor deilwng o dysteb a neb a gafodd dysteb erioed y mae ei ofal mawr am y gweithwyr, yn nghyd a'i fedrusrwydd i awyru y gwaith, yn profi ar unwaith ei fod yn un o'r dynion goreu a fedd yr oes fel arolygwr gwaith glo. Y mae yn dda genym allu dy- weyd i Mrs. Williams gael cydnabyddiaeth gan wragedd gweithwyr Mountainash. Y mai yn ymddangos fod Mr. Williams wedi bod yn arolygwr am rai blynyddau yn Moun- tainash ac ar ei vmadawiad a'r lie, fod y gweithwvr am rodd, tysteb iddo y prydhwnw, ond iddo wrthod, am fod ychydig o anghydfod ihyngddo a rhai o'r meistri; ond i lanw'r bwlch hwnw, cyflwynasant set o lestri te arian gyda'r harddaf a welais erioed i Mrs. Williams. Ond at y cvfarfod. Etholwyd Mr. Pugh, pwyswr y gwaith, i fod yn llywydd y cyfarfod. Wedi anerchiad gan v llywydd yn bwrpasol ac yn fyr, cawsom gyfarchiad gan y beirdd yn ddoniol dros ben. Can gan Hywel Cynon. Araeth gan Rees Price. Can gan T. ab Dewi, 0 paid gormesu'r gweithiwr tlawd," yn bur effeithiol. Araeth a chan gan Benjamin James. Dyrchafai ef Mr. Williams yn benaf am ei ymdrech i gael goleu noeth i'r gweith- wyr. Gair gan Rees Jenkins, y mae y brawd yma yn hen weithiwr i Mr. Williams, a dangosa hiraeth mawr ar ei ol. Gair gan Thomas Davies; dangosai y cyfaill yma hir- aeth mawr ar ei ol, a dywedai fod Mr. Wil- liams wedi dysgu pethau iddo nad oedd ef ei hun wedi meddwl erioed am danynt. Gair gan Wm. Howells. Dywedai yn laf, ar y llawenydd o fod dyn yn cael ei godi yn 2il, fod Cymro yn cael ei godi yn 3ydd, fod gweithiwr yn cael ei godi. Can gan David Jones yn bur ddoniol. Gair gan Evan Mor- gans, Treorky. Can gan Edward Edwards, Treorky, a phenillion o'i waith ei hun yn ateb yr amgylchiad i'r dim. Yr hen frodyr Tho- mas Thomas a James Jones yn cyflwyno'r dysteb, yn nghyd a Mrs. Pugh yn cyflwyno tysteb Mountainash i Mrs. Williams. lawn orchwyl yr anerchiat1-yn hollol Rho allan ein teimlad Nod manwl o'n dymuniad, A geiriau mwyn i'r gwr mad. Cawsom ddifyrwch mawr wrth fyned trwy y seremoni hyn. Gair gan T. ab Dewi, yn benaf ar ddynoliaeth Mr. Williams, yn nghyd a'i allu i awyru gwaith. Anerchiadau gan y beirdd. Can a Chydgan gan Hywel Cynon. Wele rai o gynyrchion y beirdd:— Ein Llywydd caredig svdd 'nawr yn ymadael, Mae teimlad hiraethus gan bawb ar ei ol; Hen undeb eariadus sydd boenus i'w ddatod, Bydd cofion o hiraeth yn llanw pcb col. Mae'n dringo i fyny 0 hyd er's blynyddau, Yn uwch ac yn uwch pob Tsgogiad a rydd; A'r oil trwy ei lafur a'i ymdrech ei hunan, Heb fawr o fanteision wrth ddechreu ei ddydd. Ni fu unrhyw weithfa trwy Gymru yn gyfan, Yn medou gwell heddwoh gwell undeb a thrcfn; A diau fod teimlad holl weithwyr High Duffryn, Yn barod wrth symud i'w ddwyn ar eu cefn. Llwvdd iddo o tralon, hir oes fo i'w deulu, A myrdd o gysuron mewn hedd a mawrhad, A phe y dyehwelai 'nol pto rhyw adeg, Derbynid ef genym fel plant am eu tad. Williams yn wir a welaf- drwy y llun Tra llwyr y darllenaf; Cain ei bryd a thalcen braf—llwydd dibaid Yn ddiau o'm enaid iddo ddymunaf. Didwyll i mi yw dwedyd--y cawswn Fwy cysur a gwyr fyd; A Uawnach havddach o hyd--bob amser Ar ei gyfer fod ei wraig hefyd. Mynych roir Testimonial-i dewyn Diwerth f'o mewn ardal, Ryw orchwyddog swyddog sal, Na fydd ond gwr penfeddal. Ond heddyw y ceir ffrynd haeddol,—cyfiawn Yw cofio'n wresogol Am a wnaeth,-hiraeth ar 61 Hwn a fydd, a'i wen foddol. "John Williams" sydd bob amser-yn siarad Yn siricl heb drawsder, Nes bo'n lion calon cottier Dan ei bwys, herwydd dawn ber. Dyn call a'i ddeall yn dda,—dyn diwyd Yn deall trin Glofa; Awyrwr yw ni wyra Y t&n blin, tyn e ei bla. Diau Insole yw'r dynsawd—ga elw, A'i Golliers waith didlawd Mor unffurf, 'fydd nemawr anffawd Na glo yn brin, o gael ein brawd. Ar ei 6) mae llawer wyla,—gwylied Holl Golliers Cwm Rhondda Na wneir cam a'r dinam wr da, Neu Aberdfir wir brydera. WILLIAM. Canwyd yn Ynyscynon—em eiriau Ei mawrwych enwogion; Ninau rho'wn fawl, didawl don, I'r gwr sy n mhlith goreuon. Mynwesol gymwynaswr,—a brofwyd Yn brif oruchwyliwr Insole gawn yn sel y gwr Yr addien gyfarwyddwr. Haeddianol trwy ei ddoniau-ei ddeall A'i ddiwyd feddyliau; Cwyd bob dydd mewn clodydd clau Ydyw ein dymuniadau. Hynt weddua llwyddiant iddo-yr enwog A'r anwyl hen Gymro Yn ein bryd, ac yn ein bro Da gyfaill gwnawn dygofio. Howfiii WILLIAMS. Wedi talu diolchgarwch i'r llywydd, ym- adawoud b wedi eu llwyr foddluni,—W.

HIRWAUN.¡

[No title]

[No title]