Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. Bydded i'n eyfeillion y Beirdd o hyn allan gyfeirio eu holl Gyfansoddiadau Barddonol yn y modd ac i'r cyfeiriad canlynol:— REV. W. CALEDFRYN WILLIAMS Groes Wen, GWLADGARWR] Near Pontypridd.
[No title]
Alim Cynon.—Nid ydych wedi gofalu am yr acenion yn y llinellau eanlynul "Tu fewn ac allan oil mae'n gampwaith hardd, "Yr adeiladydd wnaeth ei waith yn wych. Hardd a gwasanaethgar yw addurna'n bro, u Wybodaeth ebrwydd i'n o bynciau'r dydd, Gall dynion goreu'r oes roi tro i'n mysg Oddieithr hono gynt lie magwyd fi, 0 hon yn ruddiau'r haf nid megis gynt, A dychwel y mae'n glyd o'u teithiau pell, Mae yr amaethwyr heddyw'n dyweyd yn hy 0 hon cawn anfon cnydau'n tiroedd i." Dylai fod gair un M11 yn y pedwerydd o hydt megys- "Mewn llarrerch dlos ar lanau Cynon wiw. Paham y ciliasoch oddiwrth y cynllun ar ol cychwyn ? Diwygiwch y llinellau, ac anfon- wch y gan yn ol. 6wilym Myddyfi.-Nid prydyddiaeth yw y llin- ellau a anfonasoch er hyny, ni fuasai ynom wrthwynebiad i gyhoeddi peth o'r fath am dro gan fod y gwrthddrychau yn deilwng; ond yr ydym yn ffaelu ag ymgymodi a geiriau fe.1 1, dren, ymddrachdio, sef drachdio ei hun, baratowd, ladies, gweni, yn lie gwenu, gysyr- us, ennid, ymddysglurio oedd." Os gall yr awdwr ddiwygio y llinellau, cant ail sylw. Nid ydym yn wrthwynebus i ddiwygio gair neu ddau mewn cyfansoddiad, ond y mae yn y ddau awdwr a enwyd ormod i feddwl cynyg gwneud hyny. Trodynfab.—Go dda. Dichon y eywilyddia y diogyn wrth ddarllen yr Englynion. Trueni na fuasai y lleill gystal a'r rhai hyn. Y mae y Gair Cyrch cyntaf yn wallus. Nid yw y linell gyntaf o'r ail englyn yn amlwg o ran ei chynganedd, ond y mae yn rheolaidd Nid ydyw "segurion yn air. Yr ydym wedi newid ychydig eiriau. Tawelog.—Gwell fyddai dodi- Fe dreulia rhai o hyd I dawel fro dystawrwydd," yn Ymdreulia rhai o hyd Y n nhawel fro dystawrwydd. Nid ydyw wnaiff" yn gywir wnay dylasai fod. Pa beth a feddylia efe wrth— Ar gyfer cwrdd ac ysgol ?" Gorfu i ni ei newid, ac amryw bethau ereill, oblegyd nid ydyw cwrdd" am gyfarfod yn dda i ddechreu ond y mae yn gwaethygu yn ddirfawr pan elwir addoldy yn gwrdd." Betwsfab.—Nid ydyw y linell gyntaf yn gywir fel y mae byddai yn well fel hyn,- Chwai y muda ar chwim edyn—i'w daith, nid yw daith." Nid ydyw a'u frawddeg yn gywir; dylai fod yn a'i frawddeg. Nid ydyw yw gilydd" yn gywir dylai fod i'w gilydd. Dau Englyn da ar y cyfan. Crwilym Gwyllt.—Paham Gwyllt ? Ai nid Gwi- lym Wyllt fyddai y mwyaf rheolaidd ac unol a rheolau iaith ? r oedd "Cymro Gwyllt yn taraw yn burion; ond nid all Gwilym Gwyllt" wneud y tro y mae asyn gwyllt yn gywir. Nid ydyw "y fydd parhad," nac "erne3t" yn gywir. Sarah Lloyd.—Yr ydym wedi cymeryd ein rhyddid i newid rhai geiriau mewn rhai llinellau yn y pedwar penill cyntaf; yr ydym yn gadael y ddau olaf allan am fod y pedwar cyntaf yn ddigon ar y testyn ac am nad ydyw y rhai hyny mor rheolaidd a'r lleill. Cofied Sarah Lloyd na thai gair ac air yn y brif odl. W. Wyn.—Y mae "Daniel fwyn a'i Anghariad" yn rhy hir. Buasai Daniel fwyn a'igariad" yn well. Yr ydym wedi ei ddodi felly. Brithyll Brithwyn.—Yr ydym yn ffaelu deall pa sut y gall dyn fyddo wedi myned i oedran canolig feddu grym i ddyweyd yn fro," yn lie yn mro "gan rhai," yn lle gan rai; am y ryfeloedd," yn lie am y rhyfeloedd; ac i arfer mwy o ferfau nag sydd a galw am dan- ynt. iddo ddysgu siarad yn well na dyweyd fy hin, rysymi, yn gilch, ffigenw, hin, genif, chi, ar y garwr bach, y gwalle yr wif." Pa beth a feddylir wrth Er trymed ein trwyth, er sugyn i'w sail, y farn ffri, cryn- wn mewn cri, rhai diffrwyth mewn adwyth loan ap Rhys. N ewidiasom rai geiriau yn y -Cywydd. Y mae Man addas rhwng mynyddau," yn hen linell ddeugain mlwydd oed. Y Bardd Glas.—Gwnewch gynyg eto am Englyn gwell. Nid ydym yn gallu canfod priodoldeb yn y ceinbe?," na gwel d yr uchelder," na "nod y Tad. Nid ydyw y linell ddiweddaf o'r Englyn cyntaf i'r Iaith uymraegyn gywir, sef, "Iaith ddoniawi rhwydd iaith ddynolryw." Na'r ddiweddaf 0 r ail, sef Iaith ber mwy i Dduw bo'r mawl. Rhaid i chwi ofalu na chlywo y bobl sydd am gladdu y Gymraeg mo honoch. Yr ydym wedi clywed son am ei chladdu er ys dros haner can mlynedd ond byw ydyw hi hyd yr awr hon, a mwy o arwyddion byw nag a fu arni erioed megys y dywedodd y Doctor Guthrie yn ddiweddar, mai y ffordd debycaf i iaith ddarfod yw idd ei lleuoriaeth ddarfod;" y mae yn rhaid bydd fyw tra byddo ysgrifenu, printio, a darllen ynddi; onid ydyw yn fyw yr awr hon? Gall y Bardd Glas fod yn sicr na fydd hi ddim marw yleni na'r flwyddyn nesaf, bid a fyno, er maint a fygythir. Nid oes neb am iddi farw ond y rhai sydd heb ei deall, a'r rhai sydd yn dewis gwenieithio i'r rhai a'i Uaddent. ■infonir i'r Swyddfa yr eiddo loan ap Rhys, Brithyll Brithwyn, W. Wyn, Sarah Lloyd, Betwsfab, Tawelog, Mab Daear, a Trodynfab. Y mae llawer o'n beirdd wedi gwrando arnom o dro i dro yn ewyllysgar wrth nodi diffygion a berthyn iddynt, ond y mae rhai o honynt ar ol; gan hyny, dodwn y rheolau canlynol idd- ynt fyned wrthynL a chrefwn ar yr Argraff- ydd i'w gadael i ymddangos am rai wyth- nosau 1. Ceisiweh bapyr a elwir note paper, tuag wyth mod- fedd o hyd, a phedair mrdfedd a haiier o led, i ysgrifenu arno. 2 Ceisiwch ine du, nid japan, ond ine eyffredin a werthir yn y masi acbdai; os nad ellweh wneuthur inc eichliunain. 3 Ysgrifenwch eich geiriau yn eglur, heb fod yn rhy fan, a pheidiwch a dodi y llinellau yn rhy agos i'w gilydd. 4. Gofelwch am ddechreu ar frig y ddalen, ac nid ar ei hochr, a chedwch y papyr yn Ian heb ei ddiwyno a dwylaw bndron nac a sug tybaco. 5. Na chynygiwch lai na haner lien gyda y peth lleiaf a ysgnfenwch, oblegyd os defnyddiwch ddarnau o bapyrau, modf-dd neu ddwy o hvd, byddant mewn perygl o fyned ar goll. 6. Gofelweh, wrth selio eich llytbyrau. am i'r glyd beidio eyfhwrdd a'r darlleniad oddifewn. 7. Cymerwch ofal am dalu y llythyr- doll 8. Na ddysgwyliweh ilch cynyrchion gael ymddan- gos yr wyihnos gyntaf jr anfonoch, fel na. siomer chwi a'eh cyfeillior. Rhaid cael amser i ddarllen, ac i bwyso y eyfanfoddiadau cyn eu danfon i'r swyddfa. 9. Gofelweh bob amser am ddodi y gair GWLADGAIIWR oddi allan i'ch llytbyrau. 10. Os bydd genych lythvr eyfrinachol, neu un a chwenychoch ei weled yn argriffedig, dodwch ef ar len ar ei ben ei hun, ac nid ar ddalen fyddo yn cynwys cyfansoddiad bar ddonol.
UNIGEDD.
UNIGEDD. Er gweled heirdd ddinasoedd byd, A'u gwychder cain o bryd i bryd, Mwy swynol im' na rhai n i gyd Yw rhodio mewn unigedd Ni ddaw i'm clyw un och na chwyn, Pan bwyf fy hun draw ar y twyn Ond hyfryd sain yr awel fwyn, Yn chwiban cerddi yn y llwyn, A'r nant yn murmur rhwng y brwyn, Tra'n rhodio mewn unigedd. Cymylau gormes, llid, a chur, A giliant ffwrdd, daw'r oil yn glir, Caf fyw a gwledda gyda'r pur, Tra'n rhodio mewn unigedd; Hyfrydwch sych fy ngruddiau llaith, Tra'n esgyn ar fyfyriol daith, Fry, fry, i'r eangderau maith, I bell ororau nas gall iaith Ddarlunio mawredd Duw a'i waith Tra'n rhodio mewn unigedd, A phasio heibio myrdd o ser Sy'n crogi fry fel perlau ter, Neu wreichion man o ddwylaw Ner, Tra'n rhodio mewn unigedd Unigol fan, mor hyfryd yw I gymdeithasu a fy Nuw Rhyw dyner falm sy'n gwella'm briw, Yw gweled rhyfeddodau gwiw, Tu draw i'r lien 'rwy'n hoffi byw, Tra'n rhodio mewn unigedd. E. D.
MAN I WEDDIO YW!
MAN I WEDDIO YW! (Efelychiad o'r Seisnig.) Tydi, yr eneth wylaidd dlawd, Os ydyw ffawd yn annhrugarog,— Os cerfiodd ar dy wedd yn ddwfn, A'i bwyntil erch y gair newynog, Er nad oes cartref i'th groesawu, clyw— 0 cofia di, Man i weddio yw Tydi, y weddw Iwydaidd, lom, Sy'n brwydro bywyd poeth ag angen, Os gwgu arnat mae y byd, Pan geisi di am dy elusen, 0, d'wed o eigion calon friw, Yn iaith y nef, Man i weddio yw Tydi, yr hen wr penllwyd, tlawd, Sy'n byw'n nyfnderoedd eithaf tlodi, Er fod y byd yn gwgu'n ffrom, Heb ynddo gyfaill i'th groesawu, Dos ar dy lin, a galw ar dy Dduw > n iaith y nef, Man i weddio yw Tydi, y dyn a gododd ffawd I gadair bri mewn rhwysg a mawredd, Gan roddi i ti ar dy rawd, Drysorau'r byd a phob anrhydedd; Bydd ddyn, a d'wed yn iaith dy deimlad byw Yn nghlust y byd, Man i weddio yw Glan Rhondda. TAWENOG.
D \ETH YR HAF.
D \ETH YR HAF. Ciliodd stormllyd wyntoedd gauaf, Daeth yr haf a'i wenau mwyn Balmaidd wyntoedd chwyth y goedwig, Mae ei si i mi mal swyn; Er i'r gwanwyn gefnu arnom, Ar i'r cog i fyn'd yn mhell, Eto llawen y gwnaf ganu, Daeth yr haf, a'r hin sydd well. Daeth yr haf, holl anian wena A r yr haul pan gwyd ei ben; Natur fel yn cydroi diolch. Idd ei Chrewr sydd uwch nen Dolydd a dyffrynoedd wisgir, Bryniau a mynyddoedd ban, A gwerdd-wisgoedd liw hyfrydol— Gogoneddusyw pob man. Daeth yr haf, 0 olwg swynol Sy'n mantellu bro a bryn; Mae golygfa'r goedwig ddeiliog, Yn creu ynwyf deimlad syn; Gwna'r afonig fach ymdreiglo 'N araf, araf ar ei thaith A sisiala wrth y tywod, Mor i mi yn ei hoff iaith. Daeth yr haf, yr adar bynciant Ar gangenau r dderwen gref, Yn soniarus y gwnant ganu, Dyrchant fawl i frenin nef; Yn eu hiaith, dywedant hwythau, Cawsom haf, cydganwn mwy, Tynwn oddiar yr helyg Ein telynau'n iach heb glwy' Daeth yr haf, 0 byddwn hapus Am gael bod ar dir y byw, Lie mae gobaith eto i ni, Er cael hedd a ffafr Duw; Cawsom wel d yr haf naturiol, Ond 0 gwestiwn pwysig yw; A fydd i ni gael meddianu Haf ysbrydol gyda Duw ? Cwmbach. GWESSTTN.
'EI YRFA DDAETH I BEN."
'EI YRFA DDAETH I BEN." Pa le mae'r baban bychan tlws, A'i olwg wridog hardd, Yr hwn ddywedai pawb ei fod Yn rhosyn gwycha'r ardd ? A yw ef yn dysgleirio'n der, Mal un o ser y nen ? Na, na. mae yn y beddrod llaith, Ei yrfa. ddaeth i ben." Pa le y mae'r boneddwr hyf, R hwn oedd yn gryf a gwych, Ac wedi cyrhaedd canol oed, Erioed heb deimlo nych; A yw ef eto yn ei rym, r ochr hyn i'r lien ? Na, na, mae yn y beddrod llaith, Ei yrfa ddaeth i ben. 'Roedd yn y bwthyn acw gynt, Hen wr a'i wallt yn wyn," Dyoddefodd stormydd, gwlaw, a gwynt, Dymorau maith cyn hyn; A yw ef eto yn parhau I ddal y goron wen ?" N a, na, mae yn y beddrod llaith, Ei yrfa ddaeth i ben. Pa le mae'r myrdd dynolryw gaed, Er's 'chydig bach yn ol, Yn teithio'r hyd y ddaear lawr, A ddaeth yr awr i'w nol ? A gym rodd angau rhai'n i gyd O'u trigfan is y nen ? Do, do, maent yn y beddrod llaith, Eu gyrfa ddaeth i ben. Cwmbach. CLTNNOG.
Y WAWR.
Y WAWR. Dan leni oer y ddunos brudd H oil anian huna'n drist ei gwedd; E gladdwyd per ganiadu'r dydd, Fu'n swyno dyn, mewn nosawl fedd Mudandod syn dros fryn a bro, A phrudd-der sy'n dynodi'r rhos; A'r afon ar ei gwely gro, Wna swn murmurawg drwy y nos Ond, Ha mi welaf wyneb gwir, Y swynawl wawr o'r gorwel pell, Yn gwenu ar ddyffrynoedd ir, Gan ymlid t'w'llwch o bob cell; Ireiddio emrynt teulu rllawr, O'u nosawl gwsg wna'i hawel fwyn, A chyfyd cyngherdd gyda'r wawr, 0 amryw seiniau llawn o swyn. 0 mor ddymunol daw y wawr, >. 'i hawddgar wen i stafell dyn, Gan sibrwd iddo, Cwyd yn awr, Mae'r dydd yn dod-rho heibio'th hun Ei balmaidd fflwch awelon cu, Chwareuant ar delynau'r dail, A'r adar fel angylaidd lu, Glodforant Dduw am wen yr haul! Aberdar. IOAN BIGFYR.
' DAU ENGLYN
DAU ENGLYN I Roderick, mab Mr a Mrs David Lewis, Gadlys. Blodeuyn, rhosyn yr haf-yw Roderick, Gwir edrych yn lanaf, 0 urddas, hwn yw'r harddaf Mewn bri, o Deifi i Daf. 0 rinwedd i'w rieni-y byddo I'w buddiol foddloni; I'w ran trysorau diri', O'i rinwedd fo'i goroni. CJ WILYM GELLI DEG.
MAE'R DYDD WEDI DYFOD.
MAE'R DYDD WEDI DYFOD. Mae'r dydd wedi dyfod, mae golwg ysblenydd I'w ganfod yn eglur dros wyneb y byd, Y wawr sydd yn taenu goleuni trwy'r gwledydd, Gan ymlid o'r neilldu'r tywyllwch i gyd; Y dyn a r anifail trwy'r dyffryn sy'n deffro, Ac adar rhwng llwyni delorant yn lion; A phob peth a welir yn awr yn adfywio Dros eang ororau'r bydysawd o'r bron. Mas'r dydd wedi dyfod, yr huan mawreddog A welir yn marchog uwch cymyl y nef, Sy'n taflu'i belydrau dysglaerwych godidog, Er harddu a lloni pob dinas a thref Celfyddyd a masnach sy n awr yn llawn bywyd, Preswylwyr y ddaear mewn cyflro mawr sydd A phob un a phob peth sydd fel pe yn dywedyd Fod rhaid i ni weithio tra r ydyw hi'n ddydd. Trecynon. MARTIN.
MEWN BWTHYN BACH GWYN.
MEWN BWTHYN BACH GWYN. Mewn bwthyn bach gwyn, Ar lechwedd y bryn, 'Rwy'n trigo yn ddedwydd fy nghalon; i an ganu yn lion, Ac ysgafn fy mron, Er gwaethaf y byd a'i drafferthion. Chwibaned y gwynt Wrth fyn'd ar ei hynt, A rhued uwchben y taranau; Nid ofnai'r twrf hwn, dwyf ddiogel mi wn, A thawel yn f' hen gadair freichiau. Er nad yw fy nrych Mor hardd ac mor wych A'r rhai sydd yn byw mewn palasau, Mi wn mod i'n byw 'N fy mwthyn bach syw, Mor llon a chysurus a hwythau. Os ydyw pob bri, Uwch cyrhaedd i mi, A'u cyfoeth yn meddiant f'uwchafiaid, Wyf ddedwydd fy myd, Yn fy mwthyn bach clyd, Yn canu yn nghwmni f anwyliaid. Ystyriwn bob awr, Fod cyfoeth y llawr Yn bethau sy'n cyflym ddiflanu; Gan hyny, ein bryd A fyddo o hyd Ar chwilio am gyfoeth a bery. DEWI lWDREF.
Y CYMRY YN NGOGLEDD LLOEGR.
Y CYMRY YN NGOGLEDD LLOEGR. PENOD XI. Cyn gadael Stockton, dylwn grybwyll un peth yn neillduol, hyny yw, byddai yn dda i lawer a gyfenwant eu hunain yn aelodau eglwysig, ac yn dipyn o lenorion mewn enw yn Nghymru, ddyagu llawer o hunan-ymwad- iad pan wedi dyfod i fyny i'r wlad hon. Y teimlad sydd wedi cael ei ddangos gan y rhai ddaeth i fyny yn ddiweddar ydyw, nad oes yma neb yn mhlith yr ychydig Gymry a ddaeth yma flyinvidoedd ou blaen, yn werth i gystadlu a chyfei i Lachu dim a hwynt; a thrwy hyny, mynant bob enw a blaenoriaeth iddynt eu huuain, oni. le, ymgiliant o'r neilldu i gymy- (logaethau y pied a'r diystyreiddiwch. Tramps a bodau cler y bon ydyw y rhai hyn, yn byw ;u huuanoldei) ac enwau mawr. Mynych y clywir hwy yn eJliw ac yn ymffrostio yr hyn fuont yn Nghymru a'r hyn ddylent fod yma, pe cawsent eu hiawn Ie. Druain o honynt. mae eu hanesmwythder yn fawr ac yn berygl- us Byddai yn fraint a bendith werthfawr ar sefydliadau Cymreig, pe taflid y cyfryw i bair Ceridwen am fis o leiaf, ac iddynt yfed yno ddau neu dri gwydried o ddyfroedd Heli- con yn ddyddiol, nes y ceir prawf ac arwydd- ion fod yspryd gostyngedig ac hunan-ymwadol wedi cymeryd meddiant llwyr o'u rhanau tufewnol. Na feddwl ddarllenydd mai dos- barth o'r cymeriad yna ydyw pawb o Gymry Stockton na, na, mae yma rai yn gwybod beth yw troi yn anrhydeddus mewn cym- deithas, ac yn feddianol ar ysbrydoedd rhydd, difalch, a chymdeithasgar, yn gwybod beth ydyw myned o un lie i le arall, ac o un wlad i wlad arall, a chael eu parchu y cyfeiriad bynag yr ant gan bawb. Os barna rhyw frawd y sylwadau cyffredinol yna o ryw les iddo, gwneled ddefnydd o hon- ynt ac os edrych rhyw un arnynt gyda llygad cenfigenllyd a maleisus, y mae at ei ryddid, a chyflawn roesaw iddo i hyny. Cofied, ni thyr un asgwrn i mi wrth weled ei wg ddu a'i wefl gam. Wel, awn rhag blaen, a hwyliwn ein cerdd- ediad i sefydliad Cymreig arall sydd tuag wyth milldir i lawr ar lan y Tees. Cymerwn yr agerddfad ddarllenydd, a theithiwn bedair milldir ar wyneb yr afon, fel yr arfera y trigol- ion y cymydogaethau yma wneud. Deuwn allan yn Ferry Landing, Middlesbro, a cherdd- wn i lawr oddiyno i bentref cyflym gynyddol, ac i ganol degau o ffwrnau Tawdd, a elwir BRANCH END. Y mae hwn yn hen setydliad, lie y mae canoedd o blant Cymru wedi bod yn cartrefu gyda graddau o ddedwyddwch am lawer o flynyddoedd. Y mae y lIe yn gorwedd wrth droed mynydd o gryn faintioli, a elwir Eston Nob, yr hwn sydd yn enwog am ei gyfoeth mwnawl a'i goffrau gwerthfawr trwy yr holl wlad. Nid annhebyg ydyw i'r mynydd s dd rhwng Aberdar a Merthyr wrth edrych arno o bell. Y mae iddo levlaa, pyllau, a phaches, ac y mae yn llawn bywyd a gwaith drwyddo. Dywedodd mwnwr wrthyf, fod y wythien fwn yn mesur tua 12 troedfedd, ac yn ami i fyny i 18 troedfedd. ( ampus onide ? os gwir. Dichon ddarllenydd y dealli ryw gymaint yn well am dano pe dywedwn mai o 9c. i Is. y mae y mwnwr yn gael y dynell am ei weithio. Y mynydd hwn sydd yn porthi yr holl weith- faoedd heiyrn y cymydogaethau, a dywedir fod ei fwn yn haiarn o'r fath oreu. Ebe y Parch J. Williams, (Byd,) with syllu arno, a gwrandaw helyntion am dano,—" Dear me, mae hwn yna yn fwy ei werthna'n sir ni acw, Aberteifi, gyda'i gilydd." Nis gwn am hynyna, ond hyn a wn, ac sydd > n llawenydd hefyd genyf hysbysu, mai yr un ydyw perchenog y mynydd gwerthfawr hwn a'r rhan fwyaf o'r Ffwrnau Tawdd y Branch, a hwnw (ie, cofia ddarllenydd,) yn Gymro o waed coch cyfan o ardal dawel Felin Gruffydd, Bro Morganwg. Eienw yd} w J. Vaughan, Ysw. Tua 46 mlyn- edd yn ol, yr oedd yn weithiwr tlawd yn ngwaith haiarn Dowlais. Deuwn at ei enw eto yn ein hysgrifau dylynol—iddo ef y pri- odolir sefydliad y Cymry yn y Branch End. Cymro o'r enw Thomas James, o waith Gy- fartha Merthyr, adeiladodd ei waith mawr oil, yr hwn oedd yn Gymro trwyadl, ac yn adeil- adwr penigamp. Arfer y gwr hwn ydoedd gosod ei ddelw a'i nod ar ei holl adeiladau, a'r nod hwnw ydoedd delw o'r Afr ac y mae delw o'r afr yn ei holl ogoniant wedi ei gerfio uwch dor ty engine, yr hon sydd yn gweithio blast i tua 9 o ffwrnau tawdd mawrion. Bydd y ddelw hon yn weledig i bawb am ugeiniau o flynyddoedd modd bynag, fel na faidda un Sais, Gwyddel, Ellmyn, nac Ysgotyn, godi ei lais ac arddel yr adeiladwaith iddo ef ei hun. Y mae y gwaith hwn a gweithydd ereill sydd yn y lie, wedi cynyddu yn ddirfawr yn ystod y pedair blynedd diweddaf, fel y mae yn rhifo 26 o ffwrnau tawdd yno yn bresenol, a rhai o honynt gyda y mwyaf yn Europ, Pymtheg mlynedd yn ol y chwythwyd blast i'r ff wrnes gyntaf yma. Y mae yr Arolygwyr a'r Goruchwylwyr gan mwyaf yn Gymry sobr a chymeradwy, ac adnabyddir hwy yn y lleoedd canlynol yn Nghymru :—A. C. Hill, Ysw., yn Blaenau Gwent; Mr W. Thomas, yn Nowlais; Mr W. Meredith, yn Rhymni Mr J. Jones, yn Nghendl; Mr T. Davies, yn Mhenyeae a Mr T. Williams, yn Ystradgynlais, ac ardal lonydd Gwynfe. Y mae rhai o'r Cymry da hyn yn y wlad yma er ys blynyddoedd. Yma hefyd y mae y Cymro a'r gwladgarwr fonedd- wr Mr T. Clark, North Ormesby, yr hwn gydag un o'r enw John Llywelyn, sydd a'u henwati yn enwog gyda'r gwaith mouldo. Daeth y cyntaf i fyny yma o hen waith celfyddydfawr Monachlog (astellnedd, a'r olaf o weithir.u Pentvrch; a barnwyf nad oes eisiau i'r ddau gyfaill hyn dynu eu hetiau a rhoddi y goreu i neb pwy bynag o'r Saeson gyda'u celfydd- weithiau. Oddiwrth yr hyn i'm hysbyswyd gan Gymro cyfrifol ac ymchwilgar yn yr ar- dal, nid yw nifer y Cymry yma yn bresenol ond tua 100. Bu yn aros yma yn agos 400 unwaith ond symudasant yn deuluoedd cyfain i wahanol fanau o'r wlad yn herwydd y strikes, a rhyw bethau ereill. Drwg ydoedd hyn, canys yr oedd yma rai Cymry mewn sefyllfaoedd gwych, yn gymeradwy ac enwog yn y He, ac yn ddefnyddiol iawn ar gyfrif llawer o bethau teilwng. Fio barhcuc.