Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

(Parhad o benod 8.) Wedi eu cael yn nghyd, a derbyn eu harian, arth gyda hwv i neuadd eang, lie y cyfranog- odd a hwy (I giniaw rbagorol. Ond, yn groes i'r rheol gyffredin, nid oedd ganddo ffydd yn y diodydd meddwol. Slow poison y galwai hwy. Yr oedd yn cael ei wawdio am hyn gan rai, ac yr oedd yn dipyn o dyniad yu ol oddiwrth ei boblogrwydd. Yr unig ddiod a ddygwyd i'r bwrdd oedd dwfr gloew o ffynon a darddai o droed bryn bychan mewn ewr o'r pare, a llon- aid gwydryn bychan i bob un o win a wnelsid yn y ty orawn coed ysgaw. Tra yn mwynbau y gwydraid diniwaid hwn, a tbra y bu yr ys- tablwr yn parotoi y cetfylau i'r rhai a ddaeth- ent o bellder ffordd, a thra bu y trulliad yn lapio i fyny mewn papyr gtan bobo ddernyn o deisen iddy) t osod yn en llogelleu, naill ai i'w fwyta ar v fFordd, ? eu ei ddwyn adrefi'w wraig, neu i'r gwr a'r piant, os y wraig fyddai yno yn talu v rhelt, daliodd y boneddwr afael at" y cytie i'w hysbysu fod ei unig fab, a'r etifedd dyfodol yr estate, yn fyw ac iach-iddo ei adael dun ofal maoiaeth gyfrifol yn Ffrairc—ei fod yn dyfod yn y blaen yn llawer gwell nag y dysgwylid cyn a rhai misoedd wedi claddu ei fam (mam y bachgeo)-ei fod yn blentyn cryf ac iachus, ac os parhaai felly y mynai ef adref yr haf dyfodol, an y mynai Gymraes yn fam- aeth iddo yn lie yr estrones, dan ofal yr hon yr oedd yn breseno). Rhoddodd yr adroddiad hwn foddlonrwydd mawr i'r deiliaid, yn neillduol felly, gan ei fod yn cael ei draethn mewn Cvmraeg ddilediaeth. Er fod y Major wedi bod oddicartref am lawer o flyuyddoedd, nid oedd wedi anghofio yr ben iaith a ddysgasai pan yn hogyn yn cydebwareu a meibion a merched deiliaid ei dad. Diau pe buasai yno wres y ddiod at godi yr agerdd y cawsid ar ddiwedd y wledd fwy na thair ban- llsf o Hip, bip, hwre," ond boddlonodd y Major ar eu gwenau serchog fel arwyddion o'u parch a'u cymeradwyaeth. Ar eu hymadawiad yr oedd yrhen foneddig- es, modryb y Major, yn mwlch v buarth yn siglo llaw a phob un, ac yn rhoddi iddynt ail ddiolch am eu harian. Yn mhen ycbydig ddyddiau wedi y diwrnod a nodais, darfu i Lewis ddweyd wrth y boneddwr yn yr ystabl mewn modd disymwth,- "Glywsoch chwi, meistr, fod yr hen Sara o Nantybryn yn glaf iawn ?" I- Sara, Nantybryn," ebe ynteu "beth wyt yn geisio glebran ? Nid Sara yw enw gwraig Llewelyn." Nid ei wraig ef wyf fi yn ei feddwl, syr, ond ei famgu." Ei famgu—mam ei dad-nid yw hono yn fyw, ydyw hi ? "iYdyw'n wir, syr, yn fyw ei gwala, os na fu hi farw wedi boreu beddyw; ac yr oedd hi yn iach ei gwala hefyd hyd pwy ddiwrnod yma ond yr oedd merch Llewelyn yn dweyd wrthyt fi boreu heddyw, pan oeddwn yn dyfod heibio yno wedi bod yn edvych hynt y da hesbion, bod ei mamgu yn dost iawn-bron marw bod ei thad yn meddwl myned tua'r ffair, ond ni welodd ei famgu cynddrwg, ac iddo benderfynu beidio myned, rhag ofn iddi farw cyn y deuai ete yri ol." Brysiodd y boneddwr i'r ty heb ychwaneg o ymgom a'r llanc, acymofynodd a'rgwasanaeth- yddion a oedd gweddw yr hen Rhys, Nanty- bryn, >n fyw-ei fod wedi tybied i'w dad ddy- wedyd wrtho, er ys rhai blynyddoedd yn ol, ei bod wedi warw. ,¡ Gwedd N Rhys, tad Llewelyn oedd hono, syr," ebe ua o'r rnorwynion, ar farwolaeth hono y cymerodd Llewelyn at y tir ond ail wraig ei dadcu yw hon, a llysfamgu Llewelyn. Yr oedd hi yn fyw ac iach hefyd hyd boreu ech- doe, pryd y cymerwyd hi yn glaf iawn, a lied debyg ei bod hi bron ar ben. Y mae yn hen iawa-vn garit ond dwy, ac wedi arfer cael iechyd da iawn erioed, ac y mae dynion o'r fatb yn myned ar unwaith pan elont." Pa beth oedd ganddi at ei chynaliaeth, os oedd rhy wbeth ?" Yr oedd ganddi ar y cyntaf rhyw ychydig ugeiniau o bunoedd wedi eu crafangu pan rh"ddodd y tir i fyny i'w llysfab; ond yr oedd hyny wedi darfod er ys blynyddoedd, ondy mae Llewelyn a'i wraig wedi bod yn lied dirion o honi." Teimlai y boneddwr rhyw chwithigrwydd neill- duol ei fod wedi bod mor esgenlus a pheidio holi yn fwy manwl yn nghylch yr hen ddeiliaid, a braidd na fynai ddigio wrth bawb am na bu sa: rhai wedi dweyd wrtho am yr hen bat- riarches hon a weddillasid o ddeiliaid ei daid. Ond, wedi cael gan ei fodryb, mewn basged fechan, rhy wbeth tyner i'w gynygi'r hen wraig glaf, ymaith yr aeth ar ei draed tua Nanty- bryn i ofyn ei hynt, ac i gael ymddiddan a hi, os oedd yn alluug i ymddiddan ag ef. Dywedodd gwraig Llewelyn wrtho fod ei nain yn llawer gwell nag y buasai, a'i bod yn medddwl ei bod ar wellhad. Aeth ati a chanddi beth o'r danteithion a ddygasai ei meistr iddi. Gadawodd iddi fwyta ychydig dameidiau cyn dweyd wrthi o ba le y daethai, Pan glywodd yr hen wraig goffa enw ei meistr, ymollyngodd ar ei chefn yn y gwely, ac wylodd a chwyniauodd yn y fath fo d, fel yr ofnodd Gwladys y buasai farw yn y fan. Ond yn mhen rhyw dair neu bedair mynyd ymdawelodd, a cheisiodd gynorthwy i godi ar ei heistedd, a phao ddeallodd fod y boneddwr yn y ty, anfonodd i ddeisyfu cael ei weled, a'r hyn y cydsyniodd yn llawen. Yr oedd wedi dweyd eisioes wrth Gwladys, a Gwladys wrth yr hen wraig, mai amryiusedd oedd na buasai wedi ymweled a hi yn gynt. Pan ddaeth at celir y gwely, edrychodd yr hen wraig yn hylbddd a cbraif yn ei wyneb; yna ymaflodd yn ei law ef a'i dwylaw ei hunan. Cusaoodd ei law, a thorodd allan i wylo, nes oedd yn crynu ar ei gwely. "0: Syr Watkin anwyl," ebe hi, "raigofiais am eich tadcu yn y fyuyd y gwelais chwi. Yr ydych mor debyg iddo yn eich gwyneb a phe buasai wedi eich poeri. Fe debygwn fy mod yn ei weled yri awr vn ei got lwyd a'i fotasau a thops Iledr, a het fflatar ei ben, yn dyf.d i'n ty ni dranoeth wedi claddu Rhys, a'r ddau gi yn ei ddilyn—un britb, melvn, a gwyn mawr oedd un o'r ddau. Cafodd hwnw ddrws y llaethdy yn agored, a lladratodd oddiyno del pyn o floneg oedd yn dygwydd bod ar un o'r estyll ond fe fesurodd yr hen wr boneddig ef a'r ginen oedd yn ei law, a gwanodd ei law yn ei boced, ac estynodd ddwy chwe' cheiniog i mi am dano, a siarsodd fi i fyned tua'r castell, a cheisio bloneg yn ei le wedi iddynt ladd y mochyn mawr. Ond ei neges gyda fi oedd sicrhau i mi y cawn y tir eto am yr uu bris ag o'r blaen tra y buasai efe a minau byw. Rhys, mab fy ngwr o'r wraig gyntaf, oedd yr etifedd, ond efe wnaeth yr hen ddyn ei ewyllys, ac yr oedd hono yn cael ei chadw gan eich tadeu, ac efe oedd yn trefnu pethau rhyngom. Y ffordd y gwnaeth oedd rhanu y cwbl rhyngom. a'n gosod yn joint ar y fferm. Pan y buasai Rhys yn priodi yr oedd fy newis i fi, naill ai i fi dalu haner y gwerth iddo ef, ac iddo ynteu chwilio am le, neu iddo ef dalu yr haner i mi, ac i mi ymadael a gadael y tir iddo ef, a'r daoedd a'r cnydau, a phob peth yn eu Ile. Priododd ef cyn pen dwy flynedd wedi claddu ei dad. Dneth eich tadcu a dau auctioneer yma i brisio pob peth, a rhoddodd i Rhys fenthyg cymaint ag oedd yn eisieu arno o arian i dalu i fyny fy rhan i, ac yna symudais ar fy mben fy hunan i'r ty ba h ar y buarth, ac yno y bum wrthyf fy hunan nes i Llewelyn briodi. Pan rhanodd Rhjs, fy llysfab, a finau, cymerodd eich tadeu at fy arian, a gosododd hwynt yn yr ariandy gyda'i arian ei hunan, a rhoddodd ysgrif am y swm, ac am log yn ol pedair punt y cant. Cefais yr arian hyn yn ol bob yn g'ni, fel y byddai eu heisiau arnaf at fy nghynaliaetb. Ni thalais ddimai o ardreth am y ty bach o'r dechreuad ac o herwydd hyny, a bjd fy arian bron ar ben, ceisiodd gwraig Llewelyn genyf ddyfod i'r ty atynt hwy, ac felly y bu, a throwyd fy ben aueddle i yn dy at olchi a chrasu bara, &c. Yr wyf yn awr er ys mwy na phum' mlynedd yn byw yn hollol ar gost Llewelyn a Gwladys, ac yn wir, hid oes genyf ddim lie i achwyn y maent wecii bod yn dirion wrthyf, yn enwedig ag ystyried mai dim ond llysfam oeddwn idd ei dad ond mi fum i yn eithaf fam iddo, ac i rai o'i blant hefyd, ac fe wyr Llewelyn hyny yn ddigon da. Nid oes oud dwy flynedd rhyng- wyf a bod yn gant oed, ac felly, wrthgwrs oed- ran, nid oes genyf lawer o amser eto i'w ddys- gwyl. Nac oes, nac oes; eisieu parodrwydd i fyned oddiyma sydd arnom i gyd, meistr bach. Yr Arglwydd a'ch bendithin chwi, syr rhaid i fi a chwithau farw gweddiwn lawer am bar- odrwydd. Er cystal dynion oedd eich tadeu a'ch mamgu, ac er eu bod yn gyfoethog iawn, buont hwy feirw, ac ar holl feddianau a gwych- der eich tad a'ch mam, y maent hwytbau wedi meirw. Menyw garedig a hawddgar iawn yw eich chwaer. Gobeithio mai celwydd yw nad yw hi ddim yn gysurus ei meddwl gyda'i gwr. Y mae rhai wedi bod yn dweyd yn ddystaw bach mai Owain Williams, y gwas lifrau fu gynt gyda'ch tad, oedd ei chariad hi, ac y buasai hi yn ei briodi ef hefyd pe buasai bvw ychydig yn hwy. Ond, ond, pryd hyny deall- odd yr hen wraig wrth gochni wyneb y bon- eddwr ei bod yn troedio tir gwaharddedig, ac ymollyngodd yn ol ar ei gwely, a throdd allan i wylo yr ail waith; estynodd ei llaw i ffarwelio a'r boneddwr, ac felly y bu yr ymadawiad. (I w barhau.)

TAITH 0 FERTHYR TYDFIL I UTICA.

BEIRNIADAETH CYFANSODDIADAU…