Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Y PARCH. W. T. ROBERTS, B.A.,…

News
Cite
Share

Y PARCH. W. T. ROBERTS, B.A., BRITON FERRY. Hwyrach nad annerbyniol gan liaws cyfeillion a chydnabod y brawd anwyl uchod fydd ychydig nod- iadau coffadwriaethol yn nhudalenau y GOLEUAD. Dymunol fuasai i'r gorchwyl ddisgyri i ran rhyw- un feddai adnabyddiaeth drylwyrach o bono, ac A fedrai wneuthur mwy o degwch a'i hanes. Goddefer i mi ddweyd fod genym feddwl uchel iawn o hono a'n bod yn mawr werthfawrogi ei gymdeithas, ac yn edmygu ei gymeriad a'i waith. Daethom i gyfarfyddiad ag ef yehydig gyda 18 mis yn ol ar ei waith yn ymsefydlu yn fugail ar eglwys Seisnig Briton Ferry. Nis gwyddom nemawt o'i hanes, ac nis gwelsom e.i wyhéb ef cyn hyny. Yr oil wyddem oedd ei fod yn fab i'r diweddar Barcn. T. Roberts, Caer, ei fod yn ysgolor gwych ac yn bregethwr addawol. Mynegai y son am dano ei fod wedi ei eni yn America, a chwedi treulio peth amser yn, Ffrainc. Sonid gyda phwyslais ei fod wedi gweledi llawer o'r byd a chwedi cyfarfod a mathau lawer o ddynion; ei fod wedi cydnabyddu a'r meddyliau disgleiriaf, — hen a newydd— ar ei hynt athrofaol yn Nhrefecca Cenedlaeth- ol Caerdydd a Choleg Duwinyddol Trefecca-Aber- ystwyth. Gyda'r dymuniadau goreu ar ei ran yn gymhlethedig a chryn raddau 0 gywreinrwydd yr ed- rychem ymlaen at ei ddyfodiad ilr Ile. Pan gaw- som fantais i ymgydnabyddu ag ef nid hir y buom heb ein hargyhoeddi ei fod hefyd "wedi ei eni oddi- uchod," a'i fod yn. gydnabyddus a'r Ddoethineb sydd oddiuchod, ac mai y meddwl mwyaf llywodr- aethol yn ei fywyd oedd v meddwl yr hwn oedd hefyd yn Nghrist Iesn." Daeth y teithiwr a'r doeth. awr cyfansawdd yn anwyl ddyn di-rodres ac yn gyf- aill syml. Efe oeddl bugail cyntaf yr eglwys yr ymsefydlodd ynddi, a hithau oedd. ei eglwys gyntaf ynta,u. Dyw- edai yr athraw D. Williams, M.A., Aberystwyth, yn ei gyfarfod sefydliad fod y ffaith yna yn ei wnefuth- ur ef yn I curious," ac y gwyliai gyda dyddordeb eff- eithiau dilynol yr uniad cyntaf yn hanes yr eglwys. a'r bugail. Ni ddychymygai neb y deuai yr undeb i'r terfyn mor fuan ac yn y fath ffurf. Oddiar ym- gymeriad y Parch. W. Richard, Bethel, ac Ysgrifen- yddiaeth Cenhadaeth Gartrefol y Deheudir bu Briton Ferry am rai biynyddoedd heb-yr un bugail yn trig- ianu ynddo. Ymhen ysbaid daeth y Parch, Edward Evans i wasanaethu eglwys Giant's Grave, lie y "rwna waith rhagorol. Ymhen blwyddyn arall daeth Wr, Roberts, ac ar ddiwedd yr haf disgwyliwn Mr. Tohri Davies, B.A., i'r lie yn weinidog i Bethel, Teimlem yn hapus wrth feddwl y cai Methodist- iaeth Briton. Ferry ofalaeth deilwng ar law y tri gwyr hyn. Nid felly y bydd." Megis taranfollt daeth ■V newydd hyd atom Chwefror y 15ed, fod y Parch. W. T. Roberts yn beryglus o glaf. Yn dilyn daeth y ei fod wedi gorfod myned dan driniaeth law4eddygol yn herwydd "Apendicitis," ac nad oedd ssamawr obafth am wellhad. Ymhen ychydig ddyddian yr oedd yn ei fedd gan adael ei anwyl fam yn unig un o'r teulu ar ol, ac eglwys a chymyd'ogaeth mewngalar syn,. Fel yr hysbyswyd eisoes yn nghol- ottau y Goleuad 7' tarawyd ef yn sal yn nhy ei fam J'li Nghaerdydd ar ei ffordd i Gasnewydd i was- anaethu Sabboth Chwefror 7. Yno y bu farw. Ychvdig fisoedd fu ef mewn cyflawn urddau. Or- deiriiwyd ef yn Nghymdeithasfa yr Hendre, Mehefin diweddaf. Nis gallwn lai na dweyd gyda'r lliaws fod amgylchiadau ei farwolaeth yn sad iawn. Dyma i ni ddyn ieuane wedi treulio blynyddoedd amryw i ymbarotoi ar gyfer y Weinidogaeth, wedi enill iddo ei hun radd" uchel, newydd ddechreu ar ei waith, newydd ei ordeinio, yr unig blentyn yn fyw rw fam weddw, yn eael ei alw ymaith heb ei fod ond. megis amlmellu gwaith ei fywyd! lawn yr adgOfiai y Parch. J. Morgan Jones ni ddydd ei ang ladd mai "0 Fryniau Caersalem ceir gweled, Holl daith yr anialwch i gyd, &c. Perthynai i'n cyfaill lawer o nodweddion dymun. ol a gwerthfawr, pa rai fuasent addurn i'r weinidog- aeth pe cawsai fyw. Yr oedd ganddo feddwl uchel a pharchus am safief a gwaith- gweinidog. Ymdeimlai yn ddwys a chyfrifoldeb pregethwr a bugail; nid oedd ganddo y cydymdeimladileiaf a"r hyn elwir yn Pfiestism,' ond dychrynai yr un pryd rhag bod yn ystrydebol. Gwyddai beth oedd yn gredu. Pre. gethai yr hyn gredai, ac ymboenai a gofidiai rhag i'w gyflwyniad ef o'r gwirionedd fod yn amddifad o'r urddas a haedda y gwirionedd gael. Yr oedd yn edmygydd mawr o urddasolion pulpud Cymru a dyheai am feddu digon o feistrolaeth arno ei hun i allu gollwng ei hun i fyn'd" a hebrwng y gen- adwri adref gyda goslef ogleisiol a bloedd gyffrous. Yr oedd "nwyd pregethu ganddo. Un o'i eitiau diweddaf wrthvm ydoedd I feel now I know my people, and they know me. I do enjoy preaching to them."

Advertising

[No title]

GWYDDGRUG, PENCADER.'

Family Notices

CYFARFODYDD MISOL.