Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

ADOLYGIADAU.

News
Cite
Share

ADOLYGIADAU. Y yiodeugrerdd Newydd. Casgliad o Gywyddau'r Bedwaredd Ganrif ar :Ddeg, y Bymthegfed ar Unfed ar Bymtheg. Wedi eu golvgu gyda Nodiadau gan W. J. Gruffydd, M.A., Caerdydd. Argraffwyd gan y Cwmni C'yhoeddiadol Addysg- ol. Dyma gyfrol ddestlus eto wedi ei hychwanegu at lyfrgell efrydwyr barddoniaeth Cymru. Ceir ynddi engreifftiau o waith dau ddwsin ac un o feirdd y tair canrif a enwir ar y wyneb-ddalen, yn dechreu gvda Gruffydd Grug ac yn diweddu gyda Sion Phylip. Mae'r golygydd wedi cymeryd trafferth a gofal mawr, nid yn unig gyda dewisiad y cywydd- au, ond hefyd gyda chymharu'r testyn a'r gwahanol lawysgrifau oedd yn ei gyraedd. Rhoddir yr am- rywiol ddarlleniadau ar waelod y ddalen; ac yn liiwedd y llyfr ceir nodiadau ac eglurhadau yn Saesneg, yn cael eu dilyn gyda Geirfa. Fel casgliad rhagora ar rai fu dan ein sylw yn ddiweddar, oherwydd ei fod yn cvnwys y cywyddau yn gyflawn, ac nid rhanau neu ddetholion. Bydd y nodiadau o werth dirfawr i efrydwyr, ac nid1 oes eisieu ond eymharu y Ilyfr hwn a'r hen Flodeugerdd i gael rhyw syniad pa faint yw dyled darllenwyr y dvdd- iau hyn i ddynion ieuainc dysgedig ac ymchwilgar Cymru. A'r cyfan yn llafur cariad, oblegid nid yw yn angenrheidiol bod yn gyhoeddwr i wybnd fod yn anmhosibl i'r llyfrau hyn droi elw arianol i'r awdwyr. An Introduction to Early Welsh. By the Late John Strachan, Professor of Greek and Lecturer in Celtic in the University of Manchester. Manchester at the University Press. Dyma y gyfrol ag y bu cyfreithio yn ei chylch yn mrawdlys Manceinion, a gohiriwyd ei chyhoeddi am rai misoedd oherwydd yr ymrafael hwnw. Ym- ddengvs fod Dr. Gwenogfryn Evans wedi caniatau i Proffesor Strachan ddefnvddio darluniau o hen lawysgrifau sydd hyd yma heb eu cyhoeddi, ac yr oedd bron yr oil o gynwys y llyfr hwn wedi ei gysodi pan fu yr awdwr farw. Wrth edrych drwy y gyfrol nis gall y darllenydd lai na synu wrth feddwl fod yn bosibl i gyfreithwyr ymwthio i dir- iogaeth mor sech o gramad-eg He i Gymraeg. Ond i ba le nad ant? Sut bynag, dyma'r gyfrol wedi dianc, a dianc yn ddianaf, ac heb ddim colled ond fod enwau'r Proffesor Tout a Proffesor Kuno Meyer yn y Rhagymadrodd ac nid ar y wyneb-ddalen. Traddodwyd cynwys y Gramadeg fel darlithiau yn MTirifysgol Manchester, ac os gall rhai Cymry a adwaenom sydd ar hyd y blynyddoedd yn clochdar ar ben pob tomen, ddarllen y llyfr hwn heb gywilyddio, haeddant dosturi. Diau fod yn hawdd nodi allan liaws o golliadau yn y gwaith, y rhai o bosibl y buasai yr awdwr wedi eu cywiro pe cawsai w 11 fyw i weled y gwaith allan o'r wasg. Yr ydym yn ei groesawu, nid fel gwaith perffaith, and fel ymgais ardderchog i ddarparu arweiniad i Hen Gymraeg ar linellau hanesyddol. Yr oedd yr awdwr yn ysgol- haig gwych, ac yr oedd ei gydnabyddiaeth drWyadl a'r Wyddelaeg o werth anmhrisiadwy iddo gyda'r Gymraeg. Yn ei engreifftiau, dengys gydnabydd- iaeth helaeth a hen lawysgrifau, ac yn y Reader sydd yn dilyn, caiff y darllenydd ei arwain i'r un maes cyfoethog. Mae Geirfa helaeth a mynegai ar y diwedd. Yn y rhagymadrodd, cydnabyddir gwas- anaeth Mr. O. Eilian Owen a Mr. J. Glyn Davies gyda chywiro y prawfleni, a rhoddodd y ddau aw. grymiadau gwerthfawr.

PONTRHYDFENDIGAID.

Advertising

CILYCWM, LLANYMDDYFRI.

CAERGRAWNT.

BANGOR.

TRELOGA1V

Y DYCHRYN O HONO.