Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Y GOLOFN GENHADOL.

News
Cite
Share

Y GOLOFN GENHADOL. TUA thair blynedd yn ol cytunodd y diweddar Mr. R. D. Roberts, U.H., Bronygraig, Corwen, a Mr. Owen Jones, U.H. Glanbeuno, Uchel Sirydd dewisedig Sir Gaernarfon, i gynal athraw bob un yn y maes cenhadol. Llafuria'r athraw a gynhelid gan Mr. Roberts yn mhentref Sutynga, yn Nosbarth Shangpoong. Ddech- reu'r flwyddyn hon anfonodd y Parch. E. H. Williams yehydig o hanes y gwaith yn Sutynga, ac yn garedig iawn addawodd Mrs. Roberts barhau y rhodd flynyddol a addawsai ei phriod tuag at gynal yr athraw. Yn ngwyneb galwad- au cynhydldol' y gwaith parodd yr addewid hon i ni sirioldeb mawr, a theimlwn yn dra diolch- gar am dani. Wele'n canlyn lythyr y Parch, E. H. Williams:— Yr wyf newydd ddychwelyd adref wedi bod yn ymweled a phymtheg neu un-ar-bymtheg o egiwysi dosbarth Shangpoong, a phrysuraf i ysgrifenu ychydig eiriau yn nghylch ysgol Sutynga, yr hon a gynhelid gan y diweddar Mr, R. D. Roberts, U.H., Corwen. Y mae Sutynga yn bentref mawr, y mwyaf a'r pwysicaf yn y rhan hono o'r wlad. Yno y trig y Dolloi, sef y penaeth, yr hwn a benocU wyd gan y Llywodraeth i arolygu y rhanbarth hwnw. Preswylia'r Cristionogion eu hunain, ar wahan i'r paganiaid, ac eto yn ddigon agos 1 ddwyn ymlaen waith cenhadol yn eu plith, Y mae yno gapel dymunol gyda tho haiarn, a daw iddo gynulleidfa dda i addoli. Cynheliaia gyfarfod yno yn yr hwyr, a daeth nifer liosog ynghyd. Hyd o fewn blwyddyn yn ol trigai'r Parch. Mania yno. Gosodwyd ef yn ddiwedd. ar gan y Pwyllgor Bugeiliol i fyw mewn pentref arall 'tuag 2oain milldir oddiyno. Pan y cymerais i ofal dosbarth Shangpoong yr oedd gwr ieuanc o'r enw U Narain yn athraw yn Sutynga. Ond gan fod yr ysgol yn ganolfan bwysig, i'r hon y daw bechgyn o bentrefi pell. enig i'w haddysgu, ac yn yr hon yr addysgid athrawon dosbarth yr Hadem pan oedd y Parch. Mania yn byw yn y He, penderfynwyd gosod Babu Sherally i ofalu am y gwaith. Y mae'r gwr ieuanc hwn wedi cael addysg dda, a theimla'r Cristionogion yn falch iawn o'i gael, Bum yn arholi'r ysgol yn y bore; y mae ynddi nifer da o blant, y rhan fwyaf o honynt yn y dosbeirth mwyaf elfenol, ac yn dysgu darllen y Kot Nyngkong, sef y Llyfr Cyntaf. Tri blaenor sydd yn Sutynga, a gweithia'r tri dros Grist mewn pentrefi cyfagos U Narain yn mhentref Nongkhlih; Kypa U Wellington yn mhentref Sakhain, a Kypa U Ri fel athraw teithiol. Gwelir gan hyny fod peth ffrwyth eisoes wedi ei gael oddiwrth y gwaith yn mhen. tref Sutynga. Fel y deuaf yn fwy cydnabydd. us a'r lie ac a'r bobl, hyderaf fedru anfon i chwi hanes y gwaith yn achlysurol." Pa mor araf bynag yw llwyddiant y gwaith mewn rhanau helaeth o Bengal, nid yw yn an- obeithiol. Rhaid iddo lwyddo yno. Rhoddir y Bengaliaid cyn hir yn goron gogoniant erbyn dydd Crist i ryw weithwyr llawn o ffydd ac o'r Ysbryd Glan. Cryfheir ein ffydd yn nyfodol yr efengyl yn y wlad wrth glywed am ei llwydd- iant mewn parthau o honi. Dywed y Parch. J. Pengwern Jones fod mewn rhan o Bengal, lie y llafuria cenhadon perthynol1 i Eglwys Esgob-

OR EFRYDFA. --

MR. ASQUITH*