Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
NEWYDDION.
News
Cite
Share
NEWYDDION. Torodd -Coleg Aberystwyth i fyny am wyliau y Pasc ddydd Iau, ac ail-agorir ar y 2ofed. Bydd Arglwydd Rosebery yn ymweled a Chaer- dydd, Ebrill 14, i ddadorchuddio cofadail i Syr E. J. Reed. -♦* Mae cwmni Mri. J. Brnnner, Mond, wedi cymeryd gweithfeydd mwn Cwmystwyth, a bwriedir eu hail agor yn fuan. Dewjswydi Dr. Wiljiam^, Tawelfan, Bala, yn aelod ar Gyngor Sir Memon dros y Bala yn ddi- wrthwynebiad. Mae y Parch. H. C. Lewis. Beaumaris, wedi derbyn yr alwad a gafodd oddiwrth eglwys Reho- both, Llandudno. Mae Mr. J. Christmas Lloyd, Fflint, yn awr o Goleg y Bala, wedi derbyn galwad oddiwrth eglwys Saesneg yr Abermaw. Mewn araeth yn y Wyddgrug, dywedodd yr Athro Anwyl fod brwydr dyfodol Cymru i'w hymladd yn ysgolion canol y wlad. Dywedir fod tua 300 o chwarelwyr yn Chwarel Oakeley, Ffestiniog, i gael rhybudd na bydd eu heisiau ar ol y mis hwn. Mae Pwyllgor Addysg Sir Feirionydd wedi pen- derfynu agor ysgol i fabanod yn nghapel Saesneg y Methodistiaid, Fairbourne, Dolgellau. Bu y lienor adnabyddus Spencer Leigh Hughes (Sub Rosa) yn rhoddi darlith i efrydwyr Coleg Aberystwyth yr wythnos ddiweddaf. Mae yr Anrhydeddus Tom Price yn wael iawn, ac yn gwanhau bob dydd. Talodd Mr. Price ym- Weliad a Chymru y flwyddyn ddiweddaf. Mae apel wedi cael ei gyhoeddi am ^35,000 tuag 3* glirio y ddyled sydd ar yr adeilad newydd Coleg 1 rifysgol y De, cyn ei agor yn Hydref. Cyfarfyddodd y Ddirprwyaeth Eglwysig bob dydd 0 r wythnos, ond dywedir mai yn araf iawn yr elir ymlaen gyda'r adroddiad. Lled derfysglyd y parha pethau. Rhanwyd gwobrwyon yn Ysgol Sir Pwllheli ddydd Iau gan Mrs. Edwards, Rheithordy. Rhodd- wYd anerchiadau gan y Parchn. J. Edwards, M.A., a J; Puleston Jones, M.A. Cymerodd Canon Camber Williams anerchiad y Parch Evan Jones yn Abertawe fel testyn ei araeth ^rth lywyddu mewn darlith ar Daniel Rowlands, •Llangeitho," yn Llanbedr. Mae Dr. Walter Davies, Llanidloes, wedi cael ei •enodi gan y Cyngor Sir i wneyd crynhodeb o ad- roddiadau y swyddogion iechyd yn Sir Aberteifi, ac adroddiad ar iechyd plant Ysgolion y Sir. Cynh'aliwyd etholiad i ddewis olynydd i'r diwedd- ar Mr. W". R. M. Wynne, Peniarth, ar Gyngor Sir feirionydd. Dewisrvvyd Mr. David Lloyd, Pant, gyda mwyafrif o 18 ar Mr. Meyrick Roberts, Towyn. SaYn ystod y flwyddyn ddiweddaf darfu eglwys esneg Llandrindod leihau ^'400 ar ddyled yr eilad. Rhoddwyd £ 150 gan 'Mr. D. Davies, r a £ 100 Mrs. Edward Davies, a ch^sglwyd ;^15o gan yr aelodau. Bu farw yn yr Abermaw ddydd Sul Capten Robert yn 62 mlwydd oed. Efe oedd Capten yr gerlong '< Dora," sydd yn rhedeg rhwng Aberdyfi, ovirfnaw' a Lerpwl. Yr oedd yn aelod ffyddlawn o/uar Methodistiaid yn Aberdyfi, 1- Sysbysir yn y Gymraes am Ebrill am gynlluc Undeb Dirwestol y Merched i sefydlu llyfrfa svrirt j? i'r aelodau. Rhoddir rhestr o'r llyfrau yqd gan y Pwyiigor yn awr, y rhai roddwyd gan ady Roberts, Lady Carlisle, ac eraill. C Pel y canlyn y safai'r ymgeiswyr yn etholiad Cyngar Dinesig Dolgellau, y Sadwrn diweddaf:— D p Wake Williams, 323; David Meredith, 287; jj- R. Mills, 275; E. E. Jones, 274; J. E. Fox, 202; ugh Pugh Lewis, 119: Hugh Williams, 115. Y Pu*P cyntaf a ddewiswyd. Mewn cyfarfod o Bwyllgor Sir Aberteifi ystyriwyd ycis y Clerc Heddwch (Mr. F. R. Roberts) am a kWane§*a(i at e* -Sy^°S' Wedi dadl boeth am awr p 'a!jlerj pasiwyd pump yn erbyn pedwar, i anog y ga ^°.r unedig i roddi codiad o ^86, sef y swm a Vn^ateir &an y Llywodraeth am waith ychwanegol J 'glyn a'r trwyddedau. yrVË Llys Maine y Brenin, ar gais rheolwyr Ysgol Ral Abertawe, rhoddwyd gorchymyn yn nvwW Sr ? B^rdd Addysg i ddwyn o flaen y llys, er yr v"1 ddirymu, yr archeb a wnaed yn nghylch Vn ?! yn Rbagfyr diweddaf. Hefyd orchymyn w ar y Bwrdd Addysg i .benderfynu y lWn yn unol a'r gyfraith.
.ABERMAW.
News
Cite
Share
ABERMAW. Eisteddfod Caersalem.—Trodd yr Eisteddfod hon allan eto eleni yn llwyddiant mawr. Daeth llawer o waith drwyddi i'r golwg. Y Cadeirydd oedd y Parch. J. Gwynoro Davies, a'r arweinydd oedd Llew Meirion. Yr ysgrifenyddion oedd Mr. Wm. Hughes a Miss Nesta Parry Owen. Cenhadaeth er Dyfnhau Bywyd Ys-brydol.—O clan nawdd Pwyllgor yr Eglwysi Rhyddion, trefnwyd wythnos o genhadaeth i'r amcan uchod, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. W. W. Lewis, E. M. Owen, W. S. Jones, R. B. Jones, a Ceri Evans. Er y teimjid fod meithder rhai o'r cyfarfodydd braidd yn milwrio yn erbyn eu llwyddiant, cto cafwyd cyfarfodydd tra buddiol, a hyderwn y ceir ffrwyth lawer i'r genhadaeth. Christ Church.—Derbyniodd y Parch. Edward V. Humphreys a Mr. E. R. Jones lais eglwys Christ Church dros y Cyfarfod Misol, nos Sul, Mawrth 28, gyda golwg ar ddewis bugail. Dewiswyd ganddynt, a hyny yn hollol unfrydol, Mr. J. Christmas Lloyd, Fflint, i'w bugeilio. Hyderwn y gwel ei ffordd i'w derbyn, ac y bydd bendith lawer ar yr uniad. Marwolaeth Capt. Lewis, 8.8. 'Dora.Cymerodd le ar ol cystudd trwm am -deuddydd, bore Sul, yr wythnos ddiweddaf, yn 62 mlwydd oed. Yr oedd yn berchen ar ddynoliaeth ragorol, ac iddo air da gan bawb. Dywedodd wrth ei wraig a'i bsrthyn- asau yn Aelydon ychydig cyn marw "Mae'n moder- atio, mae'n glir ahead," a diau iddo gael mynediad helaeth i fewn i'r 'hafan ddymunol.' Claddwyd ef dydd Mercher, 0 dan y drefn newydd, yn myn- went Llanaber, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. John Lewis., Aberdyfi (ei weinidog), J. Gwynoro Davies, ac E. V. Humphreys. Caffed y weddw a'r plant dderbyn yn helaeth o nerth yr Arglwydd yn eu profedigaeth fawr.
CAERLLEON.
News
Cite
Share
CAERLLEON. Drwg genym groniclo marwolaeth y foneddiges drwyadl, dalentog, a'r gyfeiliies ffyddlawn a hoffus, Mrs. Cordelia Anne Roberts, gweddw y diweddar Ddr. John Roberts, o'r ddinas hon, a merch hynaf y diweddar Mr. Edward Peters. Yma y ganwyd Mrs. Roberts, 72 mlynedd yn ol, a hi ydoedd aelod hynaf eglwys St. John Street, yn yr hon, nes pan- odd ei hiechyd, y bu yn golofn amlwg. Cynysg- aeddwyd hi a galluoedd meddyliol cryfion, a meith- rinwyd y rhai'n i'r fath raddau nes y daeth yn aliu amlwg ymhob cylch y troai ynddo, ac o'r defnydd mwyaf i lawer achos da. Bu tf ei thad, a'i thv hithau ar ei ol, yn dy agored am flynyddau meithion i liaws mawr o weinidogion y Gair ddelent yma ar eu tro, ac ni bu ball ar eu caredigrwydd i'w cyd- genedl o'r ddinas, yn bersonol ac yn gymdeithasol. Braint fawr fu cael bod o dan .ei chronglwyd ac yn ei chymdeithas, gymaint fyddai ei chrcesaw a dyddan ac adeiladol ei hymddiddan, a phert ei syi- wadau ar y materion ddeuent gerbron. Chwith meddwl fod y teulu fu'n gryno wedi ei chwalu, ac nad oes yn aros ond un ferch, Mrs. Richard Mills, gyda'r hon a'i phriod y dangosir cydymdeimlad dwfn. Yn y gwasanaeth claddu gynhaliwyd yn John St., Ebrill 3, cafwyd Oh rest in the Lord (Elijah), ac "I know that my Redeemer liveth" (Handel), gan Mr. Henry D. Williams ar yr organ. Darllenwyd rhanau o lyfr y Diarhebion a'r Dat- guddiad gan y Parch. Ed. Peters Hughes (nai yr ymadawedig), ac arweiniwyd mewn gweddi gan y Parch. John Roberts, canwyd Peace, Perfect Peace," ar y don Pax Tecum, a Mor ddedwydd yw y rhai trwy ffydd," ar Moab,' dan arweiniad Mr. Edward Davies. Traddodcdd y Parch. J. Pryce Davies, M.A., anerchiad byr, gan ddweyd mai yn yr eglwys hono y bedyddiesid Mrs. Roberts yn 1837 gan y Parch. John Parry, ac fod cysylltiad ei theulu a'r eglwys yn rhedeg yrnhell yn ol, gan mai yn nhy un o'i hynafiaid, Hugh Lloyd, y cyn- haliwyd cyfarfod cyntaf yr .eglwys. Cyfeiriodd hefyd at ffyddlondeb Mrs Roberts yn nghyiarfodydd yr eglwys, ac yn eu plith gyfarfodydd yr wythnos— y seiat a'r cyfarfod gweddi, ac at ei gwasanaeth mawr i'r achos yn allanol a mewnol. Gw.asanaeth- wyd wrth.y bedd gan y Parch. J. Pryce Davies yn ngwyddfod cynulliad o berthynasau a chyfeillion, a deimlent oil eu bod yn gosod un o ragorolion yr hen ddaear yn ei phriddellau. Nos Sabbath can- wyd i goffadwria,eth Mira. Roberts" Ar lark lor- ddonen ddofn," ar y don 'Moab,' gyda dwysder mawr.
PRION, GER DINBYCH.
News
Cite
Share
PRION, GER DINBYCH. Ar y 23ain cyf., rhoddwyd gweadillion Mrs. Jemima Roberts, Groesffordd, o'r ardal uchod, i or- phwys yn mynwent Llanrhaiadr, Dyffryn Clwyd, yn yr un bedd ag y rhoddwyd ei hanwyl briod, namyn ychydig o fisoedd 4oa.in mlynedd yn ol, ac ni agcr- wyd y bed.drod.yna er hyny o gwbl. Yr oedd Mrs. Roberts wedi byw yn yr un tyddyn oddeutu 55 mlyn- edd yma y daeth y cwpl ieuanc i ddechreu cyd- fyw adeg eu priodas. Yr oedd yn gymeriad adna- byddus iawn yn y cylchoedd hyn, oherwydd eii hir drigiad yn yr un lie, ac oherwydd bywiogrwydd ei hysbryd a phertrwydd ei dywediadau. Yr oedd wedi etifeddu cryn lawer o ddonioldeb ei thad John Rowlands, Segrwyd, a'r Bryn, yn ei ddiwedd, taid y diweddar H. M. Stanley. Yr oedd hi yn cofio y gwron yn talu ymweliad a hwy o Liverpool pan yn fachgen tua i7eg oed, a dyna yr olwg olaf welodd hi byth arno Llawenhai yn ei lwyddiant a'i fri fel eraill o'i gyd-genedl, ond bu yn lied hir yn credu mai y llencyn welodd hi pryd hyny oedd yr arwr byd- enwog Stanley. Cafodd Mrs. Roberts y fraint o fagu dau o faibion sydd yn llanw lie lled amlwg ynglyn a'r deyrnas nad yw o'r byd hwn. Mae ei mab hynaf yn weinidog gweithgar ar eglwys Gymraeg Bolton, sef y Parch. J. Stanley Roberts, ac y mae. y mab arall, Thomas Roberts, yn byw yn yr hen gartref, ac yn swyddog defnyddiol yn eglwys Prion. Ymun- odd a chrefydd yn Niwygiad .c;g, o dan weinidog- aeth William Jones, 'Rhen Efail, a pharhaodd yn ffyddlon hyd eithaf ei gallu nes yr ymunodd a'r eg* lwys sydd fry yn y nef. Gwraig. ddiwair, ddiabsen dda oadd hi, hollol ddirodres, a'r gair garw&f yn mlaenaf, y melus a'r pur yn dilyn. Yr oedd yn Ull dda iawn ei chymwynas a charedig i'r tlodion. Bu wrthi. yn ddiwyd bron hyd derfyn ei hoes, er nad oe.dd ei hiechyd cystal ag arfer yn ddaweddar, eto. yr oedd pob cynheddf a gallu-ganddi bron ar lawn waith, a gadawodd yr hen ddaear yma yn dra di. symwth y boreu yr oedd; i dderbyn ei thai cyntaf o'r Old Agei Pension,' yn 78 mlwydd oed, ac aeth i'r wlad lie nad oes pension i neb o'i mhswn, ond pawb yn ddiangol o'u cyrhaedd, Yn nofio mswn' cariad a hedd." Arwyddair ei bywyd ydoedd y gai.ri.au a ddywedodd yn y seiat gyntaf ar ol claddu ei phriod-" Gwneler dy ewyllys, megis yn y net, felly ar y ddaear hefyd." Cynhaliwyd gwasanaeth wrth y ty cyn cychwyn i'r gladdfa yn absenoldeb y Parch. D. Watkin, yr hwn oedd oddicartref, gan y Parch. J. O. Jones, Stryt Ilenllan, a'r Parch. E. Evans, Periglor, Llan- rhaiadr, yn cymeryd y rhan ddilynol o'r gwasanaeth." Daeth tyrfa dda o garedigion ynghyd o bell ac agos, i weinyddu y gymwynas olaf iddi, ac yr oedd yn, ddiwrnod tra hyfryd o ran tywydd. Gofalai Jones Bros., Bee Hive," Denbigh, am drefniadau yr. angladd. Gan bwy mae teimladau mor dyner a mam." Heddwch i'w lhvch. ■
Anfarwoldeb yr Enaid. GAN…
News
Cite
Share
Anfarwoldeb yr Enaid. GAN MoELWYM Pris tri a chwech. Triswllt y copi wrth gymeryd 12. Telerau arbenig i lyfrwerthwyr. Anfoner at y cyhoeddwr Wni. Joseph Thomas, Cardigan. Parch. H. MALDWYN HUGHES, B.A., D.D. (I.ojid.), Liscard—Darllenais y gyfrol gyda dyddordeb a bodJ. had mawr Y mae yn ymdriniaeth) alluog iawn-yn gyflawn a chymesur, ac i fyny a gofynion diweddaraf y pwnc Y mael. yn rhywbeth hollol newydd mewn 1'enyddiaeth Gymraeg, a dylai fod yn gyfrwng eff- e;;thiol i ledu gorwelion y darllenwyr. Gobeithiai' o g-alon y ca gylchrediad eang iawn. Parch: JOHN WILLIAMS, Bryiisieii If- eiI;n-,i y llyfr ganmoliaeth fawr. 'Anfarwoldeb yn ei fiodau y galwn i y gyfrol. Y mae y drafodaeth yn gynwys." fawr a chlir iawn: yr arddull yri odidog. Am. heuthyn o beth yw cael llyfr Cymraeg a chymaint o hocn aharddwch ynddo. 6 Proffeswr STEVENSON, M.A., D.D., PrifysgoF 11 e Glasgow.—Yr ydych yn gwneuthur gv/asanaeth gwerthfawr i Gymru trwy ddwyn y fath lyfr ger eu bron, a dymunaf iddo lwydd mawr. Y mae y eyn. llun yn un gwych, a'r safbwynt cyffredinol yn un cywr; a dylai arddull y llyfr ei gymeradwyo i sylvv y darllenydd. 'Rwyf yn meddwl mai'r benpd oreu geayf fi yw yr un ar Farn y Gwyddonydd. Mr. 0. M. EDWARDS, M..A.—Ni fentrodd neb ysg. rifenu llyfr ar Anfarwoldeb yr Enaid yn Gymraeg tan gododd Moelv/yn at y gwaith. Caiff y llyfr boblogrwydd, a haedda ef. Y mae ei dduwinydd. iaeth yn ddidramgwydd, yr athroniaeth yn ddeall. adwy, a'r brydyddiaeth yn swynol.. Proffeswr ANWYL, M.A., Aberystwyth.—Cyf rol werthfawr a dysgedig. Yr wyf wedi ei darllen gyda llawer iawn o fwynhad a budd. Gwelaf eich bod wedi darllen llawer o lyfrau hen a diweddar mewn amryw ieithoedd, ac wedi myfyrio llaweir arno nes ffurfio eich barn annibynol eich hun, a thraethu hono mewn dull hyno.d o swynol. Parch. D. AMIIROSE JONES, M.A., Rheithordy, Manordeiif.—Llyfr dyddorol a gwerthfawr. Nid oaa dim tebyg iddo wedi ymddangos hyd yn hyn yn y Gymraeg. Y mae'r awdwr yn feddyliwr cryf a. diwylledig. Anaml y cyhoeddwyd llyfr mor ddar- llenadwy a meddylgir mewn unrhyw iaith, a theil. ynga'r awdwr ddiolchgarwch- gwresocaf. Medr yr awdwr frawddegu yn gywrain a thlws. Parch. R. SII.YN ROBERTS, M.A., Tanygrisiall.I'r Cymro uniaith y mae'r llyfr yn ihwym o fodWyn ddyddorol am na welodd enoed o'r blaen lyfr ar y pwnc dyrys iC anodd hwn. Fe gaiff unrhyw ddar- llenydd boed wybodus neu anwybodus, fod y gyfrol yn llawn dyddordeb o'i dechreu i'r dhvedd. Ad- waenem Moelwyn gynt fel bardd telynegol, ac erys ei ganeuon a'i de.lynegion yn fyw tra parhao'r iaith. Teimlwn nad yw athromaeth yr Almaen wedi lladd awen Moelwyn ond yn hytrach wedi ei grymuso; ac yn sicr nid yw barddoniaeth ei natlir yn un anfanta.;3 iddo fel athronydd. Y mae Cymraeg y llyfr ymhell uwchlaw iaith gyffredin cyfrolau Cymraeg gyhoedd- ir heddyw. Nid heb lafur a medclylgarwch y geilir ymdrin a phwnc fel Anfarwoldeb yr enaid mewn iaith ac arddull syml a chlir. Ymguddia'r gelfyddyd yn nisgleirdeb ei chreadigaeth ei hun fel yr ymgudd- a'r haul yn ei oleuni. Parch. H. M. HUGHES, M.A., Caerdydd.—Dillyn nodedig mewn iaith, cref a gwerthfawr mewn cyn- wys. Adwaenem Moelwyn trwy Gymru fel bardd uchelryw ond nid yw hyd yn hyn wedi bod mor adnabyddus fel athronydd. Eithr o hyn allan cym^r ei le yn sicr fel un o'n hysgrifenwyr athronyddol clir- iaf a chadarnaf. Nid oes gyfrol ar y pwnc wedi ym- ddangos yn y Gymraeg cyn ei eiddo ef. Lleinw cyfrol Moelwyn yr angen am gryn gyfnod.: Ceir ynddi gipdrem ar holl lenyddiaeth y cwest.iwn o ddyfaliadau yr hen fyd i lawr hyd at' dystiola-eth yr athronwyr diweddaf. GosodAr Goleiuni y Crist yn faen clo yn nghanol y bwa, yr hwn a'i cynal oil wrth ei gilydd, gan wneyd cyfanwaith hardd a chryf o'r cwbl. Mae Moelwyn nid yn unig wedi darllen yn helaeth ar y pwnc, ond wedi meddwl mwy, a chawn y ffrwyth toreithiog wedi ei gynhauafu'n dda. Nid oes dim rhagorach yn y gyfrol na'r penillion grymus a gloew, yn y rhai y rhydd Moelwyn y bardd edyn i Moelwyn yr athronydd, gan ymddyrchafu o hono o chwilota yn y mwnglawdd i hofran a chanu yn yr awyr las. Cymeradwyaf. y gyfrol fyw, feddyl- gar, graff a gwerthfawr hon yn galonog i sylw. pob efrydydd fedr ddygymod a bwyd cryf. >