Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Bydd yn dda gan liaws eyfeillion y Parch. John Roberts, Rhyl, ddeall ei fod yn graddol wella o'r afiechyd a'i goddiweddodd yn ddi- weddar. Y mae cydymdeimlad y dref yn ddwys ag ef yn ei gystudd, a gwir ddymuniad am ei lwyr adferiad. Y mae yn awyddus i ail ymaflyd yn ei hoff waith, ond hyderir y bydd iddo gymeryd y seibiant angenrhcidiol er sicr- hau cryfder a nerth. Eiddunwn iddo flynydd- oedd lawer o wasanaeth eto yn ngwinllan ei Arglwydd. Yn y Nationalist mae Mr. J. Glyn Dawes, 0 Brifysgol Lerpwl, yn adolygu y c asglind o C) Farddoniaeth William Llyn sydd wedi ei gy- hoeddi yn nghyfres Urdd y Graddcdigion dan olygiaeth y Parch. J. C. Morrice, M.A. Barn Mr. Davies yw fod Mr Morrice yn dra ang- hymwys at y gwaith, a daw Mr. Gwenogfryn Evans, hefyd, i mewn am gondemniad. Un o nodweddion bywyd llenyddol Cymru y dyddiau hyn ydyw fod genym ar gyfartaledd ddwsin allant feirniadu llyfr am bob un fedr ei ysg- rifenu. Mae Mrs. Lloyd George, fel ei phriod, yn brysur yn gwneuthur rhinweddau ei chenedl yn hysbys i Ymneillduwyr Saesnig Llundain. Yr wythnos ddiweddaf bu yn agor Bazaar yn Markam Square, Chelsea (Annibynwyr) a Broomwood Road, Clapham Common (Wesley- aid). Caiff y Saeson drwy hyn gyfle i wybod Paham mae y teulu hwn mor anwyl gan genedl y Cymry, gan mai nodau amiycaf areithiau Mrs. Lloyd George, fel ei phriod athrylithgar, ydyw pi chrefyddolder a'i hymlyniad wrth argyhoedd- ladau boreu oes. Wele'r newydd prudd am farwolaeth Mrs. Pritchard (Buddug), Caergybi. Merch ydoedd 1 r diweddar Weirydd ap Rhys, a chwaer i Golyddan. Fel ei brawd yr oedd yn farddon- es goeth a medrus. Hi gyfansoddodd eiriau y caneuon, Neges y Blodeuyn,' ac o Na byddai'n haf o hyd." Gweithiodd lawer dros ei Gwaredwr yn arbenigol ynglyn a Dirwest. Meddai gorff urddasol ac ymddygiad urdd!asol a boneddigaidd. Tawel. fo'i hun, cafodd ddiwrnod diwyd. Credaf y gedy o'i hol gyfrol ehelaeth o farddoniaeth mewn MSS. t Cyhoeddodd y Gymraes am Ebrill y pen- "hon diweddaf a ysgrifenodd Buddug. Eu Penawd ydyw "Buddug yn ei chystudd," a'r diwrnod y cyhoeddwydi hwy yr oedd yr awdures yn noswylio. Dyma un o'r penillion:- Noswylio 'rwyf yn awr I godi gyda'r wawr, Mewn gloewach, hoewach fyd. Mae'n dda yr ochr hyn Daw ami lygedyn gwyn, Beth wedi croesi'r glyn Lie bydd yn haf o hyd. Daeth y Greal cyhoeddiad Coleg Duwin- Yddol Aberystwyth, i law ar sodlau Cylchgrawn y Bala. Dyddorol iawn yw gosod y ddau ochr yn ochr, a gallai athronydd ddweyd cryn lawer am y dyfodol wrth eu darllen. Mae dau ol- Ygydd y Greal yn ymadael o'r Coleg, a choll- fawr i'r cylchgrawn fydd hyn. Ond diau eraill yn barod a chymwys i'r gwaith. prifyn dyddorol iawn ydyw hwn, ac fe ddylai ad felly pan y mae o leiaf wyth o'r awduron wyr adnabyddus, nid amgen T. Charles- Williams, Anthropos, Proff. Burrows, E. Morgan Humphreys, Evan Phillips, George Evans, David Samuel, a J. T. Rees. ajjaf yn hawdd ddeall awvdd y golygwyr i gael ajnbell ysgrif gan rai oddiallan, ond paham gyn- er? A pha le y mae yr athrawon? Y ddwy ysgnf ddoniolaf ydynt un Anthropos ar Athron- laeth y Bydysawd, ac adolygiad W.F.P., ar y "aau lyfr ar Anfarwoldeb. Amlwg yw fod don- otdeb Anthropos wedi ei gynhyrfu i'r gwaelod- r?n" Ergydia yn ddiarbed. Hwyrach y bydd yw rai yn tybio fod gormod o wermod ar y aethau; eraill a ddywedant fod pobpeth yn gy reithlon pan y mae lienor ar ei afiaeth. mhvgj sut bynag, i Anthropos ddweyd let oh adolygiad Mr. W. F. Phillips, ^areua a'r gyllell fel pe bai degan. Adgofia am hanes a glywais am hen frenin yn ceisio P^nderfynu ymrafael ynghylch dau faban, gyda J^n,°, wahaniaeth fod yr adolygydd yn rhoddi 61 gleddyf drwy y ddau. Da genyf ddeall y gellir disgwyl llyfr newydd allan yn fuan o wasg y Cwmni Cenedlaethol Cymreig, Caernarfon, gan y Parch. R. Dewi Williams, M.A., Penmaenmawr. Bydd y llyfr yn cynwys y ffugchwedl boblogaidd o waith yr .awdwr, a ddaeth allan y flwyddyn ddiweddaf yn yr "Ymwelydd Misol," ynghydag amryw gyf- .ansoddiadau dyddorol eraill o waith yr awdwr. Barn y Proffeswr Ellis Edwards, o'r Bala, a gwyr cymwys eraill i farnu ydyw fod deuparth o ysbryd Daniel Owen wedi disgyn ar Dewi. Llwyddiant mawr iddo. ♦ • ♦ Wele o'm blaen Fabinogi Maxen Wledig," y Testyn o'r Llyfr Coch, a'r eirfa a'r nodiad- au gan yr Athro Ifor Williams, M.A., Coleg y Gogledd. Wyr Hugh Derfel, awdwr y Cvf- amod Disigl," yw'r gwr ieuanc talentog hwn, a phregethwr hefo'r Methodistiaid. Gwnaeth waith rhagorol ar Freuddwyd Maxen." Wele engraifft o geinion y Gymraeg yn cael ymgeledd gymwys fel y gwneir a chlasuron Saesneg gan Wasg Rhydvchen. Wele hefyd ffrwyth dysgu'r Gymraeg yn y colegau—un 0 ddisgyblion yr Athro J. Morris Jones yw'r imp teg hwn. Derbyniais liaws o adroddiadau eglwysig am y flwyddyn ddiweddaf, ac anodd dewis o honynt ddim i alw am sylw neillduol. Hwyrach y caf ryw dro gvflwvno y bwndel i rai o awdwyr eich herthyglau. Gwn nad oes digon o sylw yn cael ei roi i'r adroddiadau hyn. Cymerwch er eng- raifft y gwahaniaeth dirfawr sydd rhwng cyfran- iadau ein heglwysi at y weinidogaeth, dyna gwestiwn i'w astudio yn ngoleuni yr adroddiad- au hyn. Fe welir ynddynt leied y mae v cyf- oethogion, fel dosbarth, yn roi at gynal erefydd yn y wlad. Cewch weled yn un o honvnt fod gwr cyfoethog iawn, sy' wedi cael un or lle- oedd blaenaf y gall y Cymru ei roi iddo, yn cyfranu deg punt y flwyddyn at y weinidogaeth! Ie, sylweh, deg punt y flwyddyn! Cewch weled b enw masnachwr nad yw ei enw erioed wedi bod yn y Drysorfa na'-r Goleuad' yn cyfranu pymtheg punt, ac enwau llu o weithwyr sydd yn enill dan ddeg swllt ar hugain yr wythnos yn roi tair a phedair punt!. Dyddorol fuasai cymharu yr adroddiadau hyn ag adroddiadau rhai Clybiau Golf y gwn am danynt. Pob parch i gyfoethogion Cymru. Mae yn eu plith rai teuluoedd ardderchog, ac yn nghysgod y rhai hyn y mae llu o rai eraill sydd yn treulio eu cyf- oeth ar bleserau ac yn cael clod a safle yn y fargen.

GOHEBIAETHAU.

HEN DDYDDIADUR.

CHWAREUON DRAMAYDDOL.

CRISTIONOGION YN EU PERTHYNAS…