Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

GWENOL MIS MAWRTH.

News
Cite
Share

GWENOL MIS MAWRTH. Er eira a rhew A rhuad y llew, Y wenol ddychwelodd, twi, twi; Ni gredwn ei sain, Er raor fyr a main, Fod gwanwyn yn canlyn ei chri. I'r byd oer, di-dan, Galarnad ei gan, A chroesbreii. yn fawredd ei fri, Daw gobaith ar daith, Dros foroedd sydd faith, A nefoedd i'w ganlyn, twi, twi. Mawrth 24, 1909. LODWIG LEWIS. Mae deg o efrydwyr y Coleg Duwinytfdol, Aberystwyth, yn ymadael yn mis Mehefin, ac er fod nifer dda o alwadau mewn Haw nid oes ond un wedi penderfynu. Aiff Mr. John Davies, B.A., i Briton Ferry. Bu'r Parch. Thos. Williams, Gwalchmai, am daith forawl o amgylch conglau gwlad Ewythr Sam er les ei iechyd. Teimlodd yn ddwys yn achos marw ei fam, a disgwyliai i'r daith ysgafnhau ei ysbryd yn ogystal a llesoli ei iechyd. Bydd bwlch mawr yn Eglwys Llwynbrwydr- au, Llansamlet, ar ol y diweddar Mr. William Jenkins. Bu yn ffyddlawn yn ei holl dy, a ehyflawnodd ddiwrnod da o waith sdwptldol. Teimlir hiraeth dwys ar ei ol, a chydymdeimlir yn fawr a'r teulu. Hysbysir yn swyddogol fod Cymry iJaenll.iw y Brifddinas yn trefnu i roddi ciniaw i'r Parch. Jonathan Jenkins, Rheidol Bach, yr hwn yn ddiweddar sydd wedi dwyn anrhydedd ar ei gy d- genedl drwy enill gwobr o haner coron a medal am gywydd i'r Fudda. Y mae darllenwyr Papyr Pawb wedi bod yn pleidleisio ar eu hoff feirdd, ac fel hyn y safant yn eii barn yn ol eu poblogrwydd Dyfed, Elfed, Pedrog, Cadfan. Y mae yr Atljro Morris Jones yn isel iawn yn y rhestr, ond. diau genym na thyr ei galon o herwydd hyn. -+- Yn ei ysgrif ar Syr J. Herbert Roberts, yn y Greal,' dywed y Parch. T. Charles Williams, M.A., na ddarfu i ddim ei daro yn fwy na'r Uythyr byr geir yn nghofiant Mr. W. S. Caine oddi wrth John Morley, yn yr hwn y mae Mor- ley yn gofyn i Caine weddio drosto. Eglur yw y bydd Siarter y Plant" yn chwil- droadol iawn mewn llawer cyfeiriad. Y mae yna un adran yn y Ddeddf ag y perthyn idd'o aneglurder mawr, sef yr adran sydd yn gwa- hardd plant i ofyn cardod ac elusen, &c. A olyga hyn nad yw y plant i gasglu at ddim ? Pwy wna ateb? -+--+- Bu y Parch. Silyn Roberts, M.A., yn bur brysur yr wythnos ddiweddaf. Bu yn anerch cyfarfod yn Aberystwyth, ynghyda chyfarfod o dan nawdd plaid annibynol Llafur yn Clydach Vale. Siaradai yn dawel, ac ychydig iawn 0 wrthwynebiad oedd yn meddwl neb gan mor gymedrol oedd ei syniadau. -+--+--+- V mae Eisteddfod Flynyddol Mon yn nesu'n nes-nes at y Genedlaethol. Yn Amlwch ei cyn- helir v tro nesaf. Arweinyddion yr wyl fydd Mr. T. J. Williams, Bangor; Canon Davies (Dyfrig), Mri. Lewis Hughes ac R, Mon Wil- liams,—pedwar o wyr dawnus, a beth ond llwyddiant fydd yr Eisteddfod. Mewn pregeth yn Manceinion yn ddiwedd- ar cyhoeddodd Twm Gwynedd, Rheithor Aber, fod yr eglwys wedi'cario dylanwad dvrch- afol mawr ar yr Ymneillduwyr. Geilw ei frodvr yn crude and imperfect in their ideas." Ni ddywedodd mewn beth y maent felly. Hoffwn ddeall gan ba un o'r ddwy ochr y mae'r syniad gloywaf am foes a rhin. A phwy fu apostol- ion y pethau hyn yn Nghymru yn ystod y can' mlynedd' diweddaf. Ysgrifena Annibynwyr fod adran o'r Pwyll- gor oedd yn dewis prifathraw newydd Ccleg Bala-B.^gor yn awyddus i ddewis pregethwr o'r radd flaenaf, a bod eraill yn dadleu y dylai y Coleg ymryddhau oddiwrth hen draddodiadau ac i arfogi ei hunan ar gyfer y drefn newydd ar bethau yn Nghymru. Arwydd! dda yw y dymuniad sydd yn y cyn- ulleidfaoedd am glywed hanes Hen Bregethwyr Cymru. Yr wythnos ddiweddaf bu y Parch. M. H. Jones, B.A., Trefecca, yn rhoddi hanes Howell Harris i gynulleidfa dda yn Ton Ystrad, a'r Parch. Arfon Jones, Dinas, yn adeiladu ac yn dyddori cyfeillion Treorchy yn hanes a dywediadau Griffith Jones, Tregarth. Anfonodd C.M. Dyffryn Clwyd benderfyn- iad i Awdurdod Addysg Fflint yn datgan eu cymeradwyaeth a'u llawenydd o'r lie roddant i'r Gymraeg yn yr Ysgolion Elfenol a Chanol- raddol. Eto, onid yw hyn yn llosgi? Diolch a llawenhau am fod iaith yn cael ei lie a'i safle yn ei gwlad ei hun. Onid yw pethau fel hyn yn agor ein llygaid i weled maint ein gorthrwm ? Mae y Parch. J. C. Rowlands, Wrexham, wedi ymgymeryd a gofal yr eglwys yn y Central Hall yn Abertawe. Teimla pawb fod y briodas yn un Q'r rhai mwyaf ffortunus. Y mae Mr. Rowlands yn weithiwr d'ifefl fel y profa ei hanes yn Pontypridd a Wrexham, ac yn Abertawe caiff faes ardderchog i weithio. Bydded i fendith gyfoethog y nefoedd orphwys ar ei lafur yno. Tra mai trai yw hi ar hyn o bryd yn hanes Eglwysi Cymru, llawenydd yw clywed y newyddion da ddaw i ni dros y dwr." Dywed- ir fod yna Ddiwygiad grymus mewn rhai parthau o'r America, a'r chwanegiadau at nifer yr eg- lwysi yn fwy nag y mae neb yn gofio. Sicr ydym mai gweddi llu yn Nghymru wrth glywed hyn fydd^—"Pan ar ereill 'rwyt yn gwenu, o na wrthod ni." Amser yn ol sonid llawer am ad-drefnu sir- oedd Methodistaidd y Cyfairfodydd Misol. Ad- drefnant eu hunain yn ddeheuig neillduol. Y mae'r Padock ac Ysbytty If an wedi ymuno a C.M. Dyffryn Conwy, a theimlant yn gartrefol yn eu cartref newydd. Ar hyn o bryd mae'r Bettws-y-coed yn perthyn i Arfon er yn nghanol C.M. Dyffryn Conwy. Daw hithau yn ei ham- ser yn ddiau. Gwelaf fod Owen Jones, Ysw., Glan Beuno, Uchel Sirydd, Arfon, yn cymeryd ei le yn rhag- orol. Methodist o'r iawn ryw ydyw, ac y mae ei enw yn rhestr pregethwyr y Corff yn Arfon. Yr ydym yn colli tir yn ysbrydol ebr yr esgob- ion. Wel, yr ydym yn enill mewn gwedd arall. Y mae o'n gweinidogion yn J. Piaid, yn Gapten- iaid y fyddin, ac, wele Bregethwr Methodist yn Uchel Sirydd. -+:+- Y mae capel" Trinity" (S.), Acrefair, er nad ydyw ond wyth mlwydd oed, wedi myned yn rhy fychan, a chynlluniau adeilad newydd i ddal cynulleidfa o 500 wedi eu cymeradwyo gan Gyfarfod Misol1 Dwyrain Dinbych. Am lwydld- iant yr achos yn y lie, afraid traethu, ond gellir dweyd cymaint a hyn fod rhif yr aelodau eg- lwysig ar ddiwedd 1908 yn 151, ac aelodau yr Ysgol Sul yn 360. Ar fyrder bellach fe ymedy'r Parch. T. Charles Williams, M.A., Menai Bridge am wlad y Gorllewin. Iechyd a hoen a gaffo i gyhoedd- i'r Hen hen hanes i'w frodyr yr ochr draw i'r Werydd. Llawen gan lawer fydd gweled a chlywed un o genhadon hedd yr hen wlad. Y mae'r arfer o gymerydi cydymaith llai dawnus wedi diflanu. Bu hono mewn bri, a gweithiodd yn ddymunol. ..4., Deallir fod cyfrol ddyddorol y Parch. W. Samlet Williams, ar Hanes ei Blwyf bron ei gwerthu allan, a'i fod yn ymbarotoi i ddwyn allan ddwy gyfrol o Hanes Eglwysi Gorllewin Morganwg. Amlygodd y C.M. ei lawenydd am yr ymgymeriad hwn o ciddo Mr. Williams, ac addewir iddo bob cynorthwy i gwblhau casglu ynghyd y defnyddiau i gyflawni y gwasanaeth gwerthfawr hwn, Y Parch. D. M. Davies, Penclawdd, llywydd G^'mdeithasfa'r De, S'ydd yn oriel y Drysorfa am Ebrill, ac adroddir ei hanes gan y Parch. W. Richards, Briton Ferry. Mae Mr. Davies wedi ei fendithio a dynoliaeth hardd, ac y mae y darlun yn un rhagorol. Mae yr hanes hefyd yn werth ei ddarllen yn ofalus, yn enwedig yn y dyddiau hyn, pryd y dywedir fod rhai bugeil- iaid heb fod yn llwyddianus. Mawrth 25, 26, a'r 27, cedwid Nodachfa (Bazaar) gan eglwys Fethodistaidd Hoylake, lie y gweinidogaetha y Parch. S. O. Morgan, B.A., B.D. Agorwyd y dydd cyntaf gan Edward Evans, Ysw., U.H., Lerpwl. Erbyn terfyn y gweithrediadau nos Sadwrn yr oedd y swm a £ &o6 wedi dyfod i law. Bwriada yr eglwys wario £I,OOO mewn helaethu yr addoldy i gyf- arfod a chynydd y gynulleidfa. Nid arbedir yr un drafferth i wneyd yr yffi- gyrch Genedlaethol o blaid Dadgysylltiad yI1 llwyddiant mawr. Bwriedir cynal cyfres o gynhadleddau tebyg i'r un gynhaliwyd yri Nghaerdydd—yn Aberystwyth, Llandrindod, Haverfordwest a Chasnewydd. Mr. J. Hugh Edwards, Llundain, yw Cadeirydd Pwyllgor yr Ymgyrch, a gwyr pawb a'i adwaen nad gwf clauar o blaid y symudiad hwn ydyw ef. Dywed y Tyst fod y Parchn. D. Miall Edwards, M.A., Aberhonddu, a Richard Morris, M.A., Dolgellau, i gydolygu llawlyfrail yn egluro athrawiaeth yn syml, er gwneyd i'f gwladwr gwerinol deimlo dyddordeb yn y f: th beth a duwinyddiaeth." Ychwanega' fod Mr, Miall Edwards yn ysgolhaig gloyw ciioed, ac am Mr. Richard! Morris, nad oes gan y Method- istiaid lawer 0 wyr ieuainc amgen nag efe. Wele Esgob Llanelwy yn ei swydd er's ugairl mlynedd lawn. Ni wn wrth ba safon i farnU esgob a'i waith. Ni welais un Ilyfr ar Grefydd Ysbrydol, Esboniad na dim duwinyddol o'i waith. Ofna na edy ddim ar ei ol yn y wedd o gyfrol o bregethau. Ai ymladd ac amddiffyn buddianau bydol yr Eglwys yw holl waith esgob? Y maVr esgob yn ymladdwr gwych yn ei ffordd ei hun. We! pawb at y peth y bo. -+- -+- Y mae coleddwyr y Dduwinyddiaeth Newvdd yn gwneyd ymosodiad brwd ar y Rhondda. Cynhaliwyd cynhadledd ganddynt dde-hreu vr wythnos, yn Mhontypridd, a ph-gethodd y Parch. R. J. Campbell: yn Ferndale" 0 drtt- garedd nid oes rhaid pryderu c::m yngtyn a'r heresi hon mwy. Ychydig iawn sydd yn cael eu hud-ddenu i fabwysiidu yr at'srawiaeth, ac ni j llawer fydd hyd yn nod rhengau diaelii ar tu mantais o honi. Maes efrydiaeth gweinidogion Cefnmawr a'r cylch yw Jesus and the Gospel (Denney). Yn y cyfarfod diweddaf rhoes y Parch. W. Benjamin, Garth, fras-olwg ar haner cyntaf y llyfr, ac yn y nesaf dyry'r Parch. D. R. Jones, B.A., Rhiwabon, agoriad i'w haner olaf. Gyda llaw, onid oes ryw Harttcy o Gymro yn clywed ar ei galon roddi copi o lyfr fel hwn i'n gweini- dogion a'n pregethwyr am haner ypris, neu, a chanmil gwell a fyddai hyny, am ddim ? Cynhaliwyd cyfarfod ymadawol y Parch. J. 0. Evans, Trewilliam, nos Fawrth diweddaf. Daeth torf liosog ynghyd, a chyflwynwyd iddo ef a'r teulu anrhegion gwerthfawr gan yr Eglwys a'r gynulleidfa fel profion o'u gwerthfawrog- iad o'i lafur, ac o'u serch tuag ato. Dygwyd y dystiolaeth uchaf iddo hefyd gan holl weini- dogion y Dosbarth a'r cylch; a dymunwyd ei adferiad llwyr a buan. Mor ddymunol gweled gweinidog ac eglwys yn ymadael a'u gilydd ar delerau mor dagnefeddus! N.U.T. sydd llythyrenau pwysig yr ysgol feistri. Hwy yw'r Goliath a anfonant allan i ddychryn Cynghorau Sir. Sibrydir allan o'r chwe aelod Cymreig a gais le ar y Pwyllgor I in Gweithiol, mai un ddaw o'r Gogledd, sef Mr. T. J. Williams, St. Paul's Bangor. Disgwyl- ia'r Gogleddwyr ei hetholirfflam y credant y dylai sel Daleithol yn ogystal a theilyngdod per- sonol weithio yn ei ffafr. Hyn sydd amlwg, y mae'r Cynghorau Seisnig yn araf ymostwng i gydnabod llais Cymru.