Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

."_.w--. ..ADOLYGIADAU,

News
Cite
Share

w ADOLYGIADAU, X: SYLFAEN DKAGWYDDAI.Pregethau • ean y Parch. Fred. Thomas, Aberdar. Fisoedd lawer yn ol ces fwynhad lawer wrth ddar- lien cyfrol gyntaf pregethau y Parch. F. Thomas, Aberdar,. ac wrth ei hadolygu yn y GOLEUAD m.entrais ddweyd y byddai'r CYillry ar en hen'ill or Gawell I'erlau." Afrebai'r gyfrol i'w theitl canys yr oedd ynddi. gawellaid go dda-.o berlau detholedig ,a:thrws-. ledig, sef mer duwinyddiaeth iachus. ac efengyl goeth a phur: Erbyn heddyw wele arlwy nevyddo waith NIr. Thomas ger .ein brOil. Geilw'r gyfrol'- hon yn "Sylfaen Dragwyddol"—a'gwi-ryw y tefy ei bregeth gyntaf gyweirnod y lleill.* Canys yn hyn y gwelir rhagoriaeth y gyfrol hon ar y llail. Ceir yn" oddl fwy o drin gwirioneddau sylfaenpl crefydd a hyny gyda medr un wedi' dysgù, drwy broliad ac arfer, drin a chyfleu i'r cyhoedd ellenau y syifaen aragwyddol. Hwyrach fod -mwyo.'berlau.byw ac amrywiol yn y gyfrol gyntaf, ond y mae mwy'o gadernid yn hdn. Awgryma pregetbau'r.. gyfrol hon fod Mr. Thomas yn treiddio'n.ddyfaach i gyiiwys golud gras fel yr addfeda ei hrofiad ac y meistrola yntau y gelfyddydosaerniopregctb. Y riiae ffrwyth yri, yri. 7. iyqu ei fytyrdod ci'byn hyn..yn.mynu',cyrhaedd tub.w.nt i hyd pregeth; rhesymol, ac a'r talpau gwirioaedd yr ymdrin a hwy mor anferth' ,fel y. mae. tan orfod rhanu ei bymtlu-g pwne i bedwar ar.hugain o bre- gethau., Braidd na phrol'fwyiiw a os pyhoe'dda Mr. Thomas drydedd gyfrol y geilw hono yn Efrydiau yn hytrach na.Phregethau. Canys ag eithrio.rhyw wyth «eu naw, y mae'r pregethau, hyn yn ormod eu hyd. a'u cynwys i'w pregeihu i gynulleidfaoed-d -byr eu hainynedd ein: hoes nt. Sylwaf hefyd. yn y gyfrol fod Mr.Thomas wrthymddigrifÓ. yrf ,ei. fyfyrgell". .9 uwchben ei hoffus byncia:u-megis, sylfaenbywyd, gorsedd gras, gallu ffydd, a hawliau r Cr e awdwr arnoin, yn tueddu i'w dihysbyddu. Ac yn hyn ad- gofia ni .o'r Pivmtaniaid a fedrent ysgrifenu cyfrpl ar unrhyw bwnc ysbrydol. Perthyn i ysgoLy Piwri- taniaid;y mae. pregethau 'Mr. Thomas i raddau, et nad-ydynt fel rheiny yn feichus a diyni. Y mae yma ragoriaethau r tadau, athrawiaeth iachus, ys- bryd' defosiynol, ffyddlondeb i-eiriau'r Beibl ei hun, ••• ac awydd distaw ;<3iid- eto dwys i ddwyn y darllenydd a'r genadwri wyheb-yn wyneb. Os am ddefnydd cadw Seiat ac am bregethau i'n maethu a bywyd, cryf digymysg yr Ysgrythyrau cawn ein digoni gan gyirolau Mr. Thomas. Hwyrach 'nad yw'r cymar- iaetha,u a'r. desgrifiadau mor ami a -LtAlws yn y 'Sylfaen' ag yn y I Caw-ell,' canys amhvg fod y bardd yn dadblygu'n athrohydd. Serch hyny y mae'r Gyniraeg yn. gywirach a'r ymresymu yn fwy clos. Brithir yr ail a dywediadau i'w hir gbfio ac a pharagraffau- gwir alluog. Rhagorol yw ei ddesgrif- iad d baganiaeth cartrefi heddyw, naturioldebieu- enctyd i grefydd, a'r balchder nodweddiadol o bechod na -fyn dderbyn iachawdwriasth rad yn Nghrist. Dywed yn un lie fod cofio Cjreawdwr yn nyddiau. ieuenctyd yn troi natur yn grefydd ac yn gwneyd crefydd yn nattir." "Ceir," meddai, "prof- edigaethau ar wahan i Gristionogion ,ond ni cheir Cristionogion ar wahan i brofedigaethau." HoSaf gadernid did.roinol ei resymau tros ragoriaeth peth- au crfefydd ar bethau y byd yn eu llawenydd a'u cymdeithas fp, 146).; Fel engraifft .0 gynllun addas mewn pregeth cyroerer ei.ddosramad ar y pwnc, o ym- adael a phobpeth a chanlyn Cr-ist (Math. xix. 2.7—29). I. Crefydd.yn ei gwedd nacaol—gadael (a) Pob math 0 bechodau (b)'Y. pethau a ddrygaht. fyw^d. XT. Crefydd yn ei gwedd gadarnhaol—canlyn. Rhald gwneyd da pendant yn ogystal a gadael, drwg gwy- byddus. Llithrodd amryw wallau i'r gyfrol; er' destlusrwydd yr argraffwaith. a gofal yi awdwr. Ac., wn i ddim nad; andwyo arddull Gymraeg-y« hytrach na'i 'phrydferthu yw arfer gormod o eiriau yn ter- fynu ag-—i'ad,. megis cymhariad, .nodweddiad. Opid gwell hefyd yw pronon na phrawfiadau, a' llidipg- rwydd na llidiawgrwydd. Ond. dyna.. i ba beth.. y jnanylir ar fanion,—gall y darllenydd gyWiro pethau fel hvn wrth ddarllen. Pryner ,.y gyrr.ol, md 1 ,w chwiVota a chwydd-wydr, ond.i fwynhau ei chynwys toreithiogj ei. hathrawiaethau' iachus H'l hyscrjrdou rwydd dyrchafol. Y PARCIIEDIG HUMPHREY G\VALCHMAl,vbugailcyntaf &c. Gan T.'Mordaf. Pierce, Llanidloes: J, Ellis, Dyma .lyfr i'w gynes groesawu,—y Parcheaig Humphrey Gwa-lchmai, -y •b.ugail; cyntaf yh Xghyfun- deb y ;:M:éthqdistiaid Calfinaidd, gyda' threm af hahe's'- dechreuad yr Achos yn Nosbarth T.lanidloe's.. Gan T. Mordaf Pierce, Llanidloes'J- Ellis.' Pris 2s. 6c. •—Da y gwnaed wIth. ymgýmeiyd a i)harotoi y llyfr dymunol hwn, ac y mae yn amiwg fod ymawr lafiir yr aed. iddo ynglyn a-, hyny wedi bod yn- IIafur catiad. Yr oedd -Mr.Gwalchnlai, yn ddiau, -yn un o'r dedyrn, ac y raae;:y gwasanaeth a wnaeth yn ,ei ddydd y fath ag a haeddai'gadw mewn.bythol goffaclwriaeth. Moj tverthfawr 'banes ei droedigaeth adeg Diwygiad l'lnnt' vn ,1804 ei gyfamod a Duw y'n ngliocd Dolgarj. a heliwyd a dagrau ei enaid yn fachgen leunaw oed f'el 'y codwyd'ef yn.lfaeiior, ac-y dech- euodcl bregethu cyrt bod yn llaw.n 19 ;'ei: lafur an- nhrisiadwy gyda'r YsgoT Sabbothol a.'Seiat y Plant 'i ddyfodiid i. Lani-dlaes, a'i.benodiad, wedi marwol-, .eth Edward Wat-kin, yn weinidog ar eglwys Bethel, cytltaf i gael ei osdd. yn. y.Tath. sefyllfa yn, hanes. y. Tyfundeb, lie, heblaw. bugeilio pobl ei ofal, vr doeddi bregethu un Sabboth y mis, a phob nos 'erchery'os na fyddai pregethwr dieithr ar daith yn igwydd bdd,sac am y fath fawr lafur, y derbyniai '20 yri y flwyddyn- ei ..waith yn marchogaeth ar | irch graenus i'w gyhoeddiadau, match, y c6s.tiai er. S adwraetli i'ddo fwy na'r oil a'gai ami eii lafur, ac yr |jlsdd yr olwg arno ar ei gefn yn peri i un hen ffanrtwr li' o Drefeglwys ddweyd 'bod yn-rhaid bod Testt Grist r ai yn un mawr enbyd ,neu,ni fuasai byth yn cael gweis- -ion fel Mr. G alchi ai: -i fori.eddigeiddrwydd cariadus, a barai 1* foheddiges yn y dref ddweyd wrth ei weled yn myned heibio, Look, look, Mr. Hunter, at that Christian gentleman passing. I wish we had him as our minister. y cymdeitliasau—llenyddol, cerddorol, duwinyddol, a dirwestol a sefydlodd, ac y llaturiodcl -mor- dcliwyd gyda hwynt; ei odfeuon mewn tai anedd, mewn un :o ba rai y dywedai drosodd a Ihrosodd, V Beibi i'r bwrdd, a chwareuteg i'r enaid,' a hyny nes i'r gair fyn'd yn ddihareb drwy yr ardal, a phrofi yn fawr fendith ei bregeth ryfedd yn yr Adfa, a fu yri,fodd'i6ia. dychweliad y Parch. Rich- ard Jones, Llanfair, at yr hon, ond heb grybwyll ei enw ei hun, y cyfeiriai Richard Jones, a'r 'dagrau mawrion, heilltion, yn treigio dros ei ruddiau, ac ■> ( lwg oedd fod y pregethwr yn adrodd penod o'i hanes ei hun;' ynghyda 11awer o bethau dyddorol a gvverthfawr eraill a ddywedir am dano. Bydd yn #dayniunol gan lawer weled ei hanes ynglyn a'r Cyf- :arfod Misol,, fel Ysgrifenydd y Gym.lcxthasfa, a'r rhan: a gymerodd yn ffurfiad y Gyftes Fi'ydd, a'r ei'.hred Gyfansodaiadol,. &c.' Slae y 'drem ar hanes: yr Achos yn Nosbarth ITanidloes' hefyd o werth mawr. Yn -y Tyddyn, ddwy fdldir or dref, y cynhaliwyd y, Sasiwn gyntaf erioed yn y Gogledd, yn 1745. Gynifer sydd o'n cyfeillion nad yclynt yn gwybocl. am yr erlid, saith rnlynedd yn adiwedd- arach, fu ar Howel Harris yn' Llanidloes, a jenkin Lloyd,U.H., yn cywilyddio yr eriidwyr trwy gymaru y diwygiwr a'r offeiriaid digymeriad oedd o u ham- gylch; am ynlweliad Peter Williams a Llanidloes, ac i.;ai e/it: i t.i yn brif offeryn i gael capel yn y dref; am ymweliad Evan Evans o'r Waenfawr a'r lie, a-'i.lafur bendithiol, am yr hwn, ugain mlynedd, wedi ei iarwolaeth, y dywedai David Lewis, tafarnwr, 'Evan Evans bach o Sir Gaernarfon oedd y pregethwr Nrd oedd dyii na d- allai-ddal oflaen hwnw Nid oedd dafno ddiod yn rhedeg pan y byddai ef yn 'pregethu yn rhywle yn agosac' yn neillduol am odfa'fawr Michael Roberts yn y. Gymdeithasfa yn Llanidloes yn 1819, o ba un y ceir yma hanes llawn 'gan- iy 'hen gyfaill hoff, Mr. Richard Mills, ac y dywedai y Parch. Roger Edwards ei fod yn amheus a fu odfa ryfeddach er dyddiau yr Apostolion;' ac y mae hefyd yn ddyddorol gweled fod Cymdeithas "JJdirw.estol yn Llanidloes yn 1831, pan nad oedd y gwaith mewn manau eraill yn dechreu hyd 1836; bod Ysgol Sabbothol gerllaw, yn y Crawlwm, yn 1770, y gyntaf yn .Nghymru oil. A phwy ni vvyr am y bywyd a roed i ganiadaeth y cysegr trwy ym- drechiony Millsiaid yn Llanidloes. Am hwnw y canwyd yr englyn- Anadliad o Lanidloes-a ddyry v I gerddoriaeth eiloes; Llona ri' a lleinw'r oes A, cbanu puruvvch unoes. Mae Mordaf yn rhoddi ar ddeall i ni ei fod, yn ystod ei ymchwiliacTau wedi d'od o hyd i lawer o bethau am bobl dda Llanidloes a'r cylchoedd, nad ydynt ysgrifenedig yn y-llyfr hwn.' Hyderaf y rhodd- i-T y fath dderbyniad i'r gyfrol hon ag a'i cymhella i roddi.i ni ychwaneg—' Melus, moes mwy.' Clywais dro yn ol gan .un o aelodau llafurus fy nosbarth darllen yn Llanidloes ystori gwerth ei choho am yr Isyiiafgv. r doeth a nawsaidd, Richard Bennet, yr oedd genyf tuag ato gariadus barch fel y blaenor hyfiaf yn Bethel. Yr oedd eglwys y brodyr yBedyddwyryn y dref wedi bod mewn mawr fli-nder oherwydd ang- hydfod'pedd wedi codi rhwng rhai d'i harweinwyr- y ond yn Bodus, daeth y cyfeillion hyny i gyd-ddeall- twriaeth, ac adferwvd teimladau hapus i'r holl eg- lwys a'r. gynuILeidfa.: A threfnasant iga,el gwyl de 'gyda'.u gilydd. Yniysg cyfeillion da eraill oddiallan, mynasant gael Richard Bennet i ymuno a hwynt, Ar ol te, wrth reswm, yr oedd siarad, a phwyswyd ar Bennet i anerch y. cyfarfod. Bu am beth amser yn gomedd, ond o'r diwedd caed ganddo godi ar ei draed..Wedi datgan ei lawenydd au gweled oil mor hap us) dywedodd,ei fod y dydd o'r blasn yn dyfod i ,fyny stryd Bethel, a bod yno ddyn yn gyru trol, oedd dan Iwyth trwrn, ad yti caeLei thynu gan dr' o. geffylau. Yn hgwaelod, yr ant.'fe stopiodd y .drol,. a, dyna Ile bu y dyn am. beth amser yn tynu ei law yn dyner dros y ceffyiai-i-, tit yn siarad yn garedig iawn wrthynt; ond wed'yrt safai a'r neilidu a dywedai yn uch&i, 4 One, two, three ALTOGETHER Ac. os ydach ch'i yn y fan yna,l -ydhwanegaiy yr oedd.y drol a'i -llwyth trwm' mewn lffunyd "'wedi myn'd i fyny'r,allt! Mi ddymunwn inau, frodyr ainvyl, ddweyd wrthych chwithau, 'ALTOGETHJJR XOW, ALTO- GETHKR Yr oedddlrtawthwyl ar ei ALTOGETHER yow a phrofodd o fawr les. DANIEL ROWLANDS. .T-RWY INDIA'S. GDULL^WI^V. Gan y parch. D. Cunllo Davies, Machynlleth. Caernarfon 'Cwmni'r Gy- hoeddwyr Cymreig' (Cyf.j Svvyddfa ""Cymru." Earllenasom y ..llyfr. bychan uchod yr wythiios hon, ye n a: h_rn_y.' gyda chryn lawer o fwynhad. I ni y mae yn d'dyMorol iawn gan i ni -fod Tlyga-d-dyst o'r hyn -oil a ddfvVfidif ynddo, ac v mae darllen y desgrifiadau byw sydd ynddo yn dwyn ar gof i ni lawer o birofiad-' &u mllus. Credwn y ca bwy bynag a'i darlleno gryn o hvynhadynghyda liawer o ychwanegiad gwybodaeth. Y mae.hanes ygwahanolynysoedd yn ddyddorol iawn, -a- bydd. hyny yn ychwanegiad gwybodaeth wsrthfawr i "bwy bynag ddarlleno y llyfr, ac y mae'r jaiih gyfoethog a'r desgrifiadau Dyw o rai o'r pethau welodd'ein cyfaill ar yr ynys- oedd hyn yn peri fo 1 ddarBen yn fJasus-fwyd 'o'r fath oreu. Ynysoedd India'r Gornew-in yw India Williams, Pantycehi 1 rhai ] cnyilwyr, aduabyddns eraill. Dyma wlat ( a tl ion dupn India "y proff- wydoddl Morgan Jones, 1 reieeh-, am, dany.nt y gwelid hwynt ¡ Yn plygu'n llu i'r Iesu Gan geisio gwlad sydd well; A'r dagrau ar eu gruddiau Wrth gofio angeu loes, Gan ddechreu canu'n beraidd Am rinwedd gwaed y groes." Gwelsom y broffwydoliaeth hon yn dod i ben; buom yn llygad-dys-t o hyny droion. Dywed Williams yn blacn mai yr ynysoecd hyn oedd ei India ef. Gad i mi gasl heddwch, y perl sydd fwy drud Na meddiant holl India'r Gorllewin i gyd. Taith nodedig o swynol ydoedd hon ar lawer ystyr, yn enwedig rhai darnau o honi, ar ol myned trwy bronad clefyd y mor. Bu ein cyfaill yn fwy ffortunus na rhai o honom ar y daith hon. Aeth ef trwy yr oruchwyliaeth hon mewn llai o amser na llawer. Ychydig wyr rhai o honom am ddigwyddiadau dydd- iau cyntaf y daith. Wedi iddynt hwy basio ym- ddangosai pawb wrth eu bodd. Ymddifyrai pob un yn ei ffordd ei hun, gwau, darllen, ymgomio- ys- mocio, cerdded, cysgu, chwareu, &c. Cymerasai rhai y fordaith er mwyn pleser, rhai ar negeseuau masriachol, eraill er mwyn iechyd. Nid oes dim at adfer iechyd fel mordaith ,ac nid oes dim melusach na'r teimlad o nerth a iechyd yn dyfod yn eu 11.01- pethau mor hanfodol i gyflawni dyledswyddau bywyd a mwynhau ei bleserau cyfreithlawn. Eto ni chynghorem neb sydd mewn gwendid mawr i gymer- yd y teithiau trwy'r ynysoedd ond myned ar ei union i Jamaica, ac heb oedi esgyn i'r bryniau—i Mandeville neu Malvern, neu un o'r manau cyffelyb. Ar lanau y mor ac yn arbenig ar wastadedd y mor y mae yr hin yn boeth iawn hyd yn oed yn e.u gauaf hwy, ond ar y bryniau y mae yr hinsawdd mor dyner, a'r awyr mor falmaidd, a'r wlad mor baradwysaidd, fel y mae y cyfan yn uno i wneuthur bywyd yn bleser. Yn unig gorphwyser awr neu ddwy ganol dydd a gwylier disgyniad trwm y gwlith yn yr hwyr. Ond os bydd yr iechyd yn weddol dda gwneler yr ynys. oedd ar bob cyfrif. Y mae yno berffaith ddiogelwch yn mhob man rhag dynion drwg a bwystfilod peryglus. Rhai holl- 01 ddiniwed yw y trigolion ac hynod o barchus o'r ymwelwyr. Cyfarchant hwy wrth fyn'ed heibio a geiriau caredig megis Good morning Squire," "good day master, good evening captain," a gwen hyfryd ar eu hwyneb a.throant o'r naill du er mwyn i chwi fyned heibio. Nid ydym yn dywedyd eu bod yn bobl onest. Lladradant cynyrch gerddi eu gilydd, os bydd ffrwythau eu gerddi eu hunain yn brin. Cyfyd hyny oddiar eu segurdod a'u cariad at es- mwythyd. Eto gall dyn dieithr ddydd a JiOS trwy yr ynysoedd hyn mewn perffaith ddiogelv/ch. Ni chawsom ein blino gan fwystfilod peryglus. Gofyn- asom i fachgenyn yn Jamaica a oedd nadrodd yno. Oes," ebai. "A welsoch chwi rai o honynt?" gofynais. Do," meddai. Pa Ie?" meddwn wrtho. Ei ateb oedd heb wen ar ei wyneb, In the Museum, Sir." Gwelsom filoedd lawer o Lizards o wahan- ol faint ac o amryw liwiau yn rhedeg o'n cwmpas yn ein tai, yn dringo ein cadeiriau a muriau ein hystafeiloedd gwelyau, ond y maent yn hollol ddini- wed. Yr oeddem yn rhwym o gadw gwyiiadwriaeth rhag ysgorpionau. Y maent hwy yn beryglus, a'u braUnact yn farv/ol os bydd y gwaed yn digwydd bod ar y pryd yn anmhur a gwan. Yr oedd yn ofynol i ni wylied rhag gael ein twyllo gan werthvvyr y Curios.' Peth cyffredin yw i ymwelwyr gael eu cymeryd i. fewn. Rhybuddiai un cyfaill ni yn garedig pan yn Kingston, Jamaica. Ebai wrthym, I was a stranger and they took me in." Darfu i ni wylied, er hyny cawsom ein cymeryd i fewn unwaith, a gwelsom eraill yn cael eu cymeryd i fewn droion.. Gwelais rai o'r curios' yn cael eu cynyg am geiniog yr un pan yn dychwelyd ar un o'r teithiau, yr un fath rai ag y talwyd chwe' cheiniog yr un am danynt pan yn myned i fyny. Cyfarfyddasom a nifer fawr o Americaniaid ymhob un o'r gwestai y buom yn aros ynddynt. Yn eu plith yr oedd un Ysgotyn Bresbyteraidd^ gwr hynaws, llawn o ysbryd crefydd- ol, ac un cyfoethog mewn ystoriau, rhai glan i gyd, a phob un yn dwyn cysylltiad a chrefydd. Dyma un glywsom ganddo. Derbyniodd gweinidog o Ysgot. land lythyr dienw, ac fel gwr call taSodd ef i'r tan heb ddyvvedyd gair am dano hyd yn oed wrth ei briod. Ymhen tua dwy flynedd wedi hyny daeth hen wr ato, aelod o'r eglwys, gan ddywedyd wrtho ei fod wedi clywed iddo dderbyn llythyr dienw. "Whisht-, ebai, "nobody knows it but you and I." Yr annuwiol a ffy heb neb yn ei erlid." Cawsom lawer o garedigrwydd; o law rhai o'r cenhadon perthyn ol i amryw enwadau eraill. Y mae eu gwaith hwy yn galed a'u teithiau yn faith, am fod pobl eu gofal mor wasgaredig. Gwelsom ol eu llafur mewn llawer cylch. Clywsom ein cyfaill y Parch. D. Cunllo Davies yn pregethu droion i gynulleidfaoedd o fobl du eu crwyn, ac -nid anghofiwn yrffuaii y bon- llefa-u" 0 Amenau a ddilynai diwedd ei bregeth. Ychydig o wrywiaidoeddyn y cynulleidfaoedd, a dim plant. Paham y cedwid y plant i ffwrdd nis gwn. Merched a gwragedd gan mwyaf o lawer gyfansodd- ai y.cynulleidfaoedd yno, a phrin iawn oedd y wyneb. au gwynion yn eu plith, tua dwsin o honynt welem mewn cynulleidfa o bedwar cant. Hiliogaeth hen gaetbion yr ynysoedd hyn ydynt gan mwyaf. Hawdd y gellid eu" hadnabod wrth eu gwefusau tewion, talcen isel, trwvil llydan a'u gwallt gwlanog. Ond dyna, ein hamcan ydoedd adoiygu. llyfr y Parch. Cunllo Davies, ac yn lie hyny clyrna ni yn _rhoddi hanes y daith a'n profiad ein hunain. Hawdd iawn i ni fyddai myned yn y blaen yn y cyfeiriad hwn, a dywedyd am y pefhau a welsorn- ac a glywsom ac a brofasom; ar y daith fythgofiadwy hon, and gwell o •lavver i'r. darllenydd, os ydyw am wybod hanes yr Ynysoedd dyddorol hyn, a chael syniad iawn am