Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Family Notices

Family Notices
Cite
Share

na'r tonau yn arw, ac aeth trwyddi a'r gwaelod dan ei droed. Gadawodd bedwar o blant, dau fab, a dwy ferch, a chylch lliosog o berthynasau mewn hiraeth dwys ar ei ol. Yr oedd ei briod a'i ferch hynaf wedi croesi yn flaenorol. Ac er bod y plant oil wedi priodi, ac ymsefydlu yn y byd, eto yr oedd ganddynt afael rhyfedd ynddo, a galwent i'w werd yn ami, ac mor lion y byddai yntau yn eu croesawu. Da genym ddweyd fod y plant oil yn cerdded llwybrau eu rhicni mewn rhinwedd a moes. Y mae yma hiraeth dwys a gwagder mawr ar ei ol. yn y gymydogaeth ac yn yr eglwys. Yr ydym wedi cael colledion. mawrion y blynyddoedd a aeth heibio, ond dyma'r fwyaf. Dyna ydym yn wneyd y dyddiau hyn sylweddoli r golled. Yr ydym yn diolch am dano, ac yn dymuno am i'r nefoedd fendithio yr eglwys yma eto a chymeriadau tebyg iddo. Daeth tyrfa liosog ynghyd y dydd Sad- wrn canlynol i ddatgan eu parch i'w goffauwriaeth, a gosodwyd ef i orphwys yn mynwent y Gorwydd, lie y gorphwysa llu o'i berthynasau. Heddwch i'w lweh. MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH MR. EDWARD NEWELL, BOMERE, GER AMWYTHIG. Dydd Sabboth, y 25 cynfisol, bu farw mewn tang- nefedd heddychol, y brawd anwyl a'r blaenor ffydd- lawn Mr. Edward Newell, a'r dydd lau canlynol rhoddwyd i orphwys hyd ddydd brawd yn mynwent yr Amwythig yr hyn oedd farwol o hono. Mab ydoedd Mr. Newell i'r Parch. Richard Newell, o'r Plasbach, ger Meifod. Ganwyd ef yn yr Hen Neuodd, Mynafon, Sir Drefaldwyn, yn y fiwyddyn 1825. Yn y fiwyddyn 1831, symudodd gyda'i rieni i'r Plasbach, a bu fyw ar ol hyny, fel amaethwr, mewn amryw fanau yn Sir Drefaldwyn, ac yn olaf oil mewn ffermdy o'r enw Bomere, rhyw bedair mill- dir i'r De o dref Amwythig. Dewiswyd ef yn flaenor dros ddeugain mlynedd yn ol, pan yn byw yn Cil- mawr, ger Meifod, a chydnabyddwyd ef fel blaenor ffydlawn yn yr amryw lleoedd y bu fyw ynddynt ar ol hyny. Heblaw nifer o berthynasau a chymydog- ion oedd yn bresenol yn ei angladd y gweTnidogion canlynol: Parchn. D. M. Rowlands, Amwythig, R. Morris, M.A., Broughton, G. O. Evans, Coedway, R. R. Parry, Llandynan, ac E. Griffiths, Meilod. Cyn cychwyn tua'r gladdfa darllenwyd rhanau priodol o r ^sgrythyr gan y Parch. G. 0. Evaus, ac arweiniwyd mewn gweddi gan y Parch. D. M. Rowlands. Yn ngahpel Hills Lane cymerwyd rhan gan Mr. Joseph Owen, blaenor hynaf yr eglwys, a'r Parchn. G. O. Evans, R. Morris, M.A., ac E. Griffiths. Rhoddwyd y dystiolaeth uwchaf gan bob un o'r brodyr uchod i gymeriad yr ymadawedig. Perthynai iddo lawer o ragoriaethau teilwng i'w hefelychu. Dywedid ei fod yn ddarllengar, yn haelionus, yn ffyddlawn a heddychlawn. Yr oedd yn hynod gyfar- Wydd yn ei Feibl. Darllenodd ef lawer gwaith o glawr i glawr. Yr oedd gyda darllen llyfrau Ezra a Nehemiah pan y bu farw. Ei hoff lyfrau yn agos- af at y Beibl oedd Geiriadur Charles, Gurnal, a Thaith y Pererin. Teimlai ddyddordeb dwfn mewn Pynciau duwinyddol, ac er byw blynyddoedd olaf ei oes tu hwnt i Glawdd Offa ni phallodd ei sel dros Gymru a'r Gymraeg. Yr oedd yn wr anwyl hefyd yn ei gartref ni bu Pfiod na thad tynerach erioed. Lletyodd hefyj yn ei ddydd lawer o weinidogion, a phob amser yn hotf lawn o'u cwmni. Byr mewn cydmariaeth fu ei gystudd, ond llawn o ddyddanwch yr efengyl. Ei brif gysuron ydoedd ad- nodau a phenillion Cymreig a Seisnig. Adroddodd nifer ohonynt drosodd a throsodd drachfen yn ysto 1 gystudd. Yr oedd y nefoedd megis wedi dyfod 1 w gyfarfod tu yma i'r tir terfyn. Cyfiawnwyd ynd lo yn llythyrenol yr addewid-" Ti a gedwi mewn tang. Ilefedd heddychol yr hwn sydd a'i feddylfryd arnat I am ei fod yn ymd liried ynot.' Teimlir colled am dano yn hir yn ei gymydogaeth, ei eglwys, a'i deulu. Gadawodd bedwar o blant a gWeddw ar ei ol. Yr Arglwydd fyddo dirion wrthynt ac a'u dyidano!

^RS. THOMAS PARRY, KNIG Sr,…

MARWOLAETH A CHLADDJiDI(L\ETH…

MR. JOHN RICHARDS, PENYGRAIG.

Family Notices

PWLLHELI.

[No title]

Advertising