Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
19 articles on this Page
Hide Articles List
19 articles on this Page
Cyfarfod Sefydlu
News
Cite
Share
Cyfarfod Sefydlu Sefydlwyd y Parch. Maurice Griffith, MA., yn fugail ar eglwys Salem, Aberystwyth, nos Fercher, a chafodd dderbyniad croesawgar i'w gylch newydd. -+-+-
Gyda'r Gwair.
News
Cite
Share
Gyda'r Gwair. Gwelwyd un M.A., un B.A., a dau B.Sc., yn cyweirio gwair gyda'u gilydd mewn cae yn Ngheredigion y dydd o'r blaen. Crybwyllir hyn fel peth newydd yn hanes Ceredigion, ond yr! wyf yn credu mai dychwelyd yn ol at yr hen drefn yr ydys.
Mr. Asquith.I'
News
Cite
Share
Mr. Asquith. Dywedir fod Mr. Asquith wedi addaw dyfod i Aberystwyth ar y 253211 o Hydref i agor yr Edward Davies Memorial Laboratories.
"STnadon ISTewyddion.
News
Cite
Share
"STnadon ISTewyddion. Ychwanegvvyd dau-a'r-bymtheg at restr ynadon Z3 y sir Drefaldwyn yr wythnos ddiweddaf,—deg o Ryddfrydwyr a saith o Doriaid. Mae'n amlwg y cymerir gofal mawr rhag aflonyddu llawer ar y cyfartaledd rhwng Ceidvvadwyr a Rhyddfrydwyr gyda'r rhagorfraint yma. -+- -+-
Mr. John Romilly Allen.
News
Cite
Share
Mr. John Romilly Allen. Gwelais hanes marwolaeth y gwr hwn yn inhapurau yr wythnos diweddaf. Yr oedd ei enw yn fwyaf adnabyddus fel golygydd 'Archxo- logia Cambrensis a The Reliquary.' Yr oedd yn bur hoff o henafiaethau, er na chyrhaeddodd dir uchel iawn fel awdurdod ar unrhyw faes.
Yr Eisteddfod Genedlaethol.
News
Cite
Share
Yr Eisteddfod Genedlaethol. Gwneir cais o Lundain am yr Eisteddfod Genediaethol eto. Ni ddywedir pa flwyddyn, ond rhoddir y cais o flaen y frawdoliaeth yn Abertawe, a phan y dywedaf fod y Parchn. J. E. Davies, M.A., Elfed Lewis a Machreth Rees yn ei bleidio,—edryched ymgeiswyr eraill ati.
Q-weddi Foreuol.
News
Cite
Share
Q-weddi Foreuol. Wrth anerch myfyrwyr Coleg Duwinyddol yn Aberystwyth yn ddiweddar dywedodd y Parch. Evan Phillips, megis rhwng cromfachau, iddo ef weithiau fod yn ddigon ffol neu rywbeth i gerdd- ed ystrydoedd Emlyn am bedwar o'r gloch y boreu i offrwm gweddi fer o flaen pob ty lie y trigai aelod o Bethel. .+--+-
3?a!iai& yr Esgobion ?,
News
Cite
Share
3?a!iai& yr Esgobion ? Gofyna rhywun paham y ffafrwyd Esgobion Llanelwy a Bangor drwy eu galw i'r orsaf i Fangor i groesawu y Brenin a'r Frenhines ? Hwyrach mai yr atebiad cywir yw hyn,—mae y Brenin, yn ol darpariaeth rhyw hen gyfraith, yn Prebendari yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, ac yn meddu ar gadair yn y cor yno Diau fod y ddau esgob yn gresynu wrth feddwlmai punty flwydd- yn yw cyflog y Prebendari Edward VII! -+--+--+-
Surni Bywyd Oyhoeddus.
News
Cite
Share
Surni Bywyd Oyhoeddus. Pwy sydd yn darllen y newyddiaduion Seisnig ha theimla oherwydd y surni sydd yn dyfod i mewn i fywyd cyhoeddus ? Anodd dweyd yr achos o hono. Nid gwleidyddol na chrefyddol tno hono, er fod croesni ielly i'w weled weithiau. Ond cewch weled dynion yn brathu eu gilydd fel teigrod ac yn ymladd fel cwn. Credaf weithiau ei fod yn ddadleniad difrifol ar garlrefi ein gwlad. Pa le y mae dynion yn dysgu ymladd?
Mangre Ieuan G-wyllt.
News
Cite
Share
Mangre Ieuan G-wyllt. Bu Ieuan Gwyllt yn byw yn Merthvr am rai blynyddoedd wedi ei ymadawiad o Aberdar, a chyn ei fynediad i Sir Gaernarfon. Ymaelodai yn eghvys- Pantywyll, gan brofi ei hun yn wir ofalus am yr eglwys. Dyfnhaodd ei ddylanwad yn fawr, ac yn neillduol ar ganiadaeth gynulleid- faol yr eglwys. Y mae yn amlwg fod ei ddylan- wad wedi aros yn fantel'l amlwg ar Mr. W. Powell, yr arweinydd, un o ddisgyblion y gwr enwog. Cvfrifir canu cynulleidfaol yr eglwys hon yn y dosbarth bJacnaf. Nid ydynt yn lliosog, eithr y maent yn gantorion chwaethus ac yn syml, ac y mae Miss Jones, chwaer y Parch. R. Jones, B.A., Caer, yn cyfeilio yn ganmolad wy.
.. IDirprwyaeth Eto.
News
Cite
Share
I Dirprwyaeth Eto. Mae'r Llywodrat th wedi pei.odi dirprwyaeth eto,—neu bwyllgor chwilio i cdrych sut y mae Prifysgol Cymru a'i choirgau yn cario ymlaen eu gwaith. Yr aelodau ydynt Syr T. Raleigh, Syr John Rhys, Principal Donald Macalister, Mr. F. G. Ogilvie, Proff. McCormick, a Dr. Alexander Hill, gyda Mr. G, L. Barstow, o'r Trysorlys, yn ysgrifenydd. Amcan y ddirprwyaeth yw profi pethau y gwyr pawb eu bod yn neithiau,—fod y Brifysgol a'r Colegau yn gweithio yn rhagorol, a bod arnynt eisieu rhagor o arian. Gwyr Syr John Rhys hyn mor dda, fel y gallasai hebgor pob trafferth i'w gyd-aelodau, ysgrifeflu adrodd- iad, a pheidio rhedeg y perygl o gael ail-adrodd- iad o'r Ddirprwyaeth Eglwysig.
Magu'r Babanod.
News
Cite
Share
Magu'r Babanod. Ceisia Dr. D. LI. Williams, Wrecsam, ddysgu ar bwnc ag y mae dygn anwybodaeth yn ei gylch,—sut i fagu'r babanod. Er cymaint ddysgir ar hyn, dal yn gyndyn wna mamau at hen syn- iadau a hen arferion, a'r canlyniad yw fod mar- wolaethau babanod mor uchel ymron ag erioed. Da gweled swyddog iechydol mewn tref bwysig fel Gvvrecsam yn cymeryd pwnc fei yma mewn llaw. Barna llawer na ddaw'r byd i'w le nes y telir meddygon am gadw dynion allan o afaelion afiechyd, ac nid am eu dwyn o'u gafaelion. Mae Dr. Williams wedi argraffu a lledaenu papyrau ar amryw faterion ynglyn a'i waith fel swyddog meddygol, ac yn credu mewn dysgu yn llawn mwy nag mewn meddyginiaeth.
CynrycMolydd y Goron.
News
Cite
Share
CynrycMolydd y Goron. Mae'r Toriaid yn ofalus iawn i holi hanes pob penodiad wneir yr Nghymru. Y diweddaf y galwyd sylw ato ydoedd penodiad Mr. R. 0. Roberts, Caernarfon yn Gynrychiolydd y Goron mewn pump o siroedd y Gogledd, ar farwolaeth Mr. Job Bowen. Y pechod oedd fod Mr. Rob- erts yn oruchwyliwr etholiadol i Mr. Lloyd George, ac fe ddywedai'r Toriaid mai dyna'r unig wybodaeth ynghylch peirianwaith a feddai. Os telly yr oedd, ebai Mr. Whiteley mewn ateb- iad, y mae'n ddigon amlwg ei fod yn deall peir- ianwaith yn dda. Yr unig beth fuasai'n boddhau y Toriaid fuasai penodi rhai o'u dynion hwy i swydd yn Nghymru, fel y gwna'r Llywodraeth gyda phenodiadau eglwysig yn Lloegr.
Polisi Sir Gaernarfon.
News
Cite
Share
Polisi Sir Gaernarfon. Eglurodd Mr. D. P. Williams wrth ohebydd y South Wales Daily News, sut y mae pethau yn sir Gaernarfon gyda pholisi dim trethi. Gwyr eich darllenwyr fod Mr. Williams a'r Barnwr Bryn Roberts yn gwahaniaethu gyda hyn, a bu'r Barnwr yn bur llaw-drwm ar bolisi Lloyd George yn y pwyllgor diweddaf. Ond dywed Mr. Wil- liams fod y polisi wedi llwyddo am flynyddoedd, ac y profa cyfrifon y Trysorydd, na thalwyd dimai o'r trethi am flynyddoedd at gynal yr ysgolion enwadol. Yn y rhagolwg ar fesur Mr McKenna, lliniarwyd llawer ar y driniaeth tuag at yr ysgolion hyn, a'r canlyniad o roi gwell athrawon ynddynt ydoedd fod dwy fil wedi myned o goffrau'r sir y llynedd at eu cynal. Dengys Mr. Williams yn mhellach nad yw y pwyllgor yn gormesu, oblegid er mai sir Ym- neillduol yw sir Gaernarfon, allan o 56 o athrawon yr ysgolion elfenol mae z6 yn Eglwys- wyr.
Darlun Dr. Rees a'i Ddosbarth.
News
Cite
Share
Darlun Dr. Rees a'i Ddosbarth. Ysgrifena cyfaill :-Gwelais y darlun uchod yn nhy Mr. a Mrs. Henry Jones, llety'r angylion sydd yn llefaru yn y Pant, ac yn dyfrhau y myrtwydd. Y mae y Dr. yn edrych gyda pharch- usrwydd yn nghanol ei ddisgyblion a'i ddisgybl- esau, tuag ugain mewn nifer. Y mae y Dr. yn athraw pa beth bynag a gymer efe mewn llaw, ac y mae yn wir fraint i gael bod yn ddisgybl iddo. Tystiolaetha lliaws hyn wrthyf, o'r rhai sydd ar hyd y blynyddoedd yn ei Ddosbarth Beiblaidd. Rhoddir gair uchel yn hyn gan y gwr enwog y Parch. J. Ossian Davies, i'r Dr. am ei osod ef ac eraill trwy addysgiaeth y Dosbarth Beiblaidd, ar yr iawn ffordd, fel cyn- orthwy amlwg i waith y weinidogaeth. Yn y blynyddoedd diweddaf hyn, y mae tri brawd yn ei ddosbarth wedi profi eu hunain yn dri chedyrn -yn fiaenaf yn yr arhoiiadau, sef Mri Edward Matthews, David Jones, Pontmorlais, a James Davies, Cefn. Caffed y Dr. parchedig eto flyn- yddoedd 0 ddefnyddioldeb.
Ysgol Fourcrosses..
News
Cite
Share
Ysgol Fourcrosses.. Yn Nghymanfa Ysgolion Dosbarth Pwllheli* enillodd Yse:ol Fcurcrosses tua 80 o Dystysgn|ajj a thair o wobrwyen. Y mae y cylch yn gwybo yn dda am weithgarweh y Parch. W. Jones, M.A., ynglyn a'r ysgol hon. Nos Sabbath, cyl- Iwynwyd y Tystysgrifau, a chyflwynwyd hefy ddiolchgarwch gan y gynulleidfa i Mrs. (Ceridwen Peris), am ei llafur llwyddianus er blynyddoedd gyda'r plant, ac i Mr. T. J. Griffltn am ei help yntati; .+-
Cenhadaeth. Miss Howells.
News
Cite
Share
Cenhadaeth. Miss Howells. Y mae yn thanbarth Merthyr genhadaet anenwadol wedi ei sefydlu yn ddiweddar, cenhadaeth ymhlith y merched a'r gwragedd )n benaf. Dywedir wrthyf fod mawr angen am by]1 wedi ei deimlo er's amser gan arweinwyr crefydd. Y mae y gwaith yn cael ei ddwyn ymlaen dan nawdd Merched y De." Cenhadaeth dcitr- westol yn benaf fe welir ydyvv, gan arwain^ a yr Iesu o'r safbwynt hwn, sef ymddiddanion crefyddol dirwestol a gweddi. Yr ydym we., taro ar un o ragorolion y ddaear fel cenhades 1 gwaith, sef Miss Howells, Sciwen. Y mae ei rhieni Mr. John Howells a Mrs. Howells yn aelodau ffyddlawn yn Gorphwysfa, ac y mae el thad yn un o'r swyddogion er's biynyddoedd. Y mae lie Miss Howells yn wag yn y Sciwen, yn neillduol yn Gorphwysfa a'r Eglwys Seisnig- Vmwelai a'r cleifion a'r tlodion gyda g°^a mawr, a gwna ei gwaith yn y geuhadaeth hon gyda'i lledneisrwydd arferol, a chyda cymeradwy- aeth mawr, yn cael ei chynorthwyo yn ffyddla^J1 gan Mrs. Henry Jones, y .Llywyddes, ac erau'* t) Da genyf weled eu bod yn ysgogi i gael Cartref. .+--+-
Miss Mathews, Merthyr.'
News
Cite
Share
Miss Mathews, Merthyr. Chwaer dalentog oedd y ddiweddar Misf Edith Maud Mathews, Merthyr. Cyfansoddai farddoniaeth Seisnig ragorol, a llafuriodd y1} galed i gyfeiriad cerddorol, gan gyfansodui darnau canmoladwy. Yr wyf yn cofio gweled ton ragorol o'i heiddo ar raglen Cymanfa GanO Merthyr, o'r enw "Cedron." Gweithiodd el ffordd i fyny i fod yn Organyddes. Cafodd e dwyn i fyny yn grefyddol fel y plant eraill gan e rhieni Mr. Edward W. Mathews a Mrs. Mathews y rhai ydynt aclodau ffyddlawn yn eglwys Pant- tywyll. Cyflogwyd hi i gyfeilio ar yr organ yn addoldy Ynysgu, sef yr Annibynwyr. Cyflawnai ei gwaith gyda chymeradwyaeth, hyd nes if angeu du daflu ei gysgodion, ac y daeth gor")^ gwendid i'w chyfansoddiad i gyflawni ei 13u rai misoedd mewn cystudd, ond goddiwedd- odd lawenydd a hyfrydwch gyda'i Phrynwr, nos Sadwrn, Mawrth 23ain, tua 24 oed. Claddwyd ei gweddillion gyda pharch mawr yn gyhoeddus Y Cefn, y dydd Iau canlynol. Cyd" ymdeimlir yn ddwfn a'i rhieni a'r teulu. -+--+-
Mr. David Evans.
News
Cite
Share
Mr. David Evans. Y mae mwy nag un cantor Cymreig yn dwyn yr enw hwn, ond nid oes ond un David Evans, Baritone Cymreig uwchraddol, yn Llund31^ Yma cawn engraifft o gantor sydd wedi codi 0 pwll glo, a thrwy lafur caled ac astudiaeth, we gorfodi rhan lied helaeth o Gymru a Lloegr 1 gyfaddef ei ragoroldeb. Ganwyd Mr. Evans y Ponterwyd, ger Aberystwyth. Mwnwr y^°ffv ei dad. Pan aeth y gwaith yn brin, symudoddy teulu i Blaengarw (Morganwg), lie prydfertn rhamantus y pryd hyny. Gweithiodd David y y pwll glo hyd y flwyddyn 1896, pryd yr aet 1 Lundain. Yr oedd ei dad yn gantor, ac yn arwain y gan yn nghapel y Methodistiaid, garw. Bu Mr. David Evans yn perthyn i Go Glyndwr Richards, hyd nes y symudodd y arweinydd i Mountain Ash. Mynych y bydda yn cystadlu y pryd hyn, a mynych ei lwyddJan Anaml y collai, gan nad ymgeisiai os na fyd" y gan yn gyfaddas iddo. (Dyma wers bwysig gystadleuwyr I). Yr oedd yn fuddugol yn IS" teddfod Genedlaethol Merthyr yn 1901, a thrwY hyn daeth i gryn sylw ynglyn a cliyngherddail, ar hyd a lied y wlad. Canodd yn y Queen.0 Hall, a lleoedd pwysig eraill gyda Davies, Ffrangcon Davies, &c. Wedi hyn1 oedd rhoddi ei holl amser i alwadau cerddoriae » ac aeth i'r Coleg Brenhinol. Astudiai ddatga^^ iaeth, &c., o dan Ffrangcon Davies, ac yu 190 enillodd y Gilbert Betjemann Gold Medal a ganu mewn 4 opera." Siaradai y Times, Y 1 0 egrafth, &c., yn uchel am ei ymddangosiad yn < cymeriad Falstaff, o ran y cantor a'r^' az 'Q Y mae Mr. Evans, fel hyn, wedi profi ei anu ac uchelder ei amcanion yn y byd Datganyddolt