Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Y PARCH. WM. LEWIS, CAPEL…

News
Cite
Share

Y PARCH. WM. LEWIS, CAPEL NEUADD. Cangen o Pensarn, Sir Aberteifi, yw Capel Neu- add, a'r ddau le o fewn rhyw bedair milldir, ar gyfartaledd, i'r deheu o'r Ceinewydd. Bu Pensarn gyda'r eglwys fwyaf enwog yn yr holl sir. Mae y capel yn gymharol fawr, ac yr ydym yn ei gofio yn llawn o gynulleidfa, a llawer ynddi yn gewri mewn deall a gwybodaeth. Yr oedd son ymhell ac yn agos am eglwys Pensarn fel un alluog mewn barn a gwybodaeth ac un oedd yn deall egwyddorion Hen- aduriaeth yn dda. Mae Methodistiaid Cymru heddyw dan ddyled mawr i hon am eu dadblygiad yn gorff rheolaidd ac annibynol. Ynddi hi yr oedd yr Evan Davies, y siaradwr clir a beiddgar, ac "megis milgi cryf yn ei feingefn na throai yn ol er neb," yr hwn a ymladdodd frwydrau yr 'Ordeiniad"' nes gorchfygu. Ond er bod yn eglwys alluog, nid oedd yn ddigon llygadgraff i weled y ffordd i gadw y cryf- der Methodistiaidd i ddal ei dir yn y gymydogaeth ac felly mae wedi gwanychu yn raddol er's mwy na haner can' mlynedd. Wedi dyfod yn ymwybodol o'r gwanychdod, edrychodd dros hen derfynau cysegr- edig cynulleidfa Pensarn, a gwnaeth beth ymdrech i'w sicrhau, ond yr oedd yn rhy ddiweddar. Eel ffrwyth y deffroad anamserol, codwyd Capel Ffynon yn 1847, Capel y Neuadd yn 1867, a Penuel, Cross: Inn, yn 1872. Bu y gangen gyntaf yn gref am lawer o flynyddoedd, a Pensarn yn aros heb golli ei hen enwogrwydd. Ond erbyn yr amser y codwyd y ddwy arall yr oedd ei gwendid yn beryglus. Ni fyddem yn son am Pensarn a'i changhenau ar hyn o bryd onibai mai yn ardal y rhai hyn y syrth- iodd coelbren y Parch. \V. Lewis, i fyw ac aros a gweithio, tra y bu yma ar y ddaear. Un o gymyd- ogaeth Capel Ffynon ydoedd, ac fel William Lewis, Capel Efynon, yr adnabyddid ef yn ei flynyddoedd cyntaf fel pregethwr. WTedi codi ty capel mewn cysylltiad a'r Neuadd, daeth ef a'i briod i fyw iddo, a buont o wasanaeth gwerthfawr mewn lletya y pre- gethwyr a gofalu am yr achos. Ond am lawer o'u blynyddoedd olaf, buont byw mewn lie o'r enw Blaenwinllan, lie y bu farw mewn tangnefedd hedd- ychol, Gorph. 30, 1906, yn 16 oed. Claddwyd ef ar y 3ydd o Awst, yn mynwent Capel y Neuadd. Ei briod oedd ferch i David Williams, Rhydpentref, hen flaenor da yn Twrgwyn; ni fendithiwyd hwynt a phlant. Yr oedd ef a Mrs. Lewis wedi cael eu haddasu y naill i'r llall, gyda'r rhai mwyaf amlwg felly yn y wlad, a buont byw yn hynod o gysurus. Ei brawd hi yw Mr. David Williams, ysgolfeistr Cae'rwadros am lawer o amser, ac yr oedd ei chwaer yno yn cadw ty- iddo am lawer o flynyddcedd. Tra yr oedd felly, yr oedd gwedd hyfryd o ddymunol i'w weled arnynt, efe a Mrs. Lewis, a'i brawd a'i chwaer, yn yr un gymydogaeth ac yn yr un capel; ac y mae Mr. Williams wedi bod yn flaenor gweith- gar yn yr eglwys am flynyddoedd lawer. Yr oedd y ddau deulu yn gryfder i'r achos, ac yn gwneyd y lie yn gartrefol a dedwydd. Ond byd y cyfnewidiadau yw hwn, ac nid oes yn aros Tn yr eglwys bellach ond Mrs. Lewis a'i brawd, ac yntau wedi colli ei lais i raddau pell, ac yn methu ymadferu. Ystyriem Mr. Lewis yn un o wybodaeth eang, o farn addfed a chywir, yn weithiwr ymroddgar, yn bregethwr sylweddol, ac yn un o dduwioldeb diam- heuof. Os byddai rhai yn ei ystyried yn ddiffygiol o ryw bethau ddymunent fod ynddo, ni amheuodd neb ei onestrwydd mewn amcan na'i dduwioldeb personol. Cofier ei fod wedi byw yn yr un ardal am ei oes, ac heb fod mor boblogaidd a llawer fel pregethwr, na bron byth yn aros fawr o'i gartref; a chadw hyn mewn cof, rhaid i ni feddwl fod yna ryw elfenau neillduol o ddymunol yn ei gymeriad, cyn y gallai gadw ei gymeriad mor uchel a pharchus am oes mor faith. Bu yn fugail gosodedig ar holl eglwysi Pensarn, ar ryw adegau yn ei weinidogaeth, ac hyd y diwedd ar Pensarn a'r Neuadd. Pregeth- ai 12 Sabbath yn y flwyddyn yn ei daith gartrefol, heblaw gweini yn yr holl gyfarfodydd eraill. Rhaid felly fod iddo air da gan bawb a chan y gwirionedd ei hun. Un bychan o gorffolaeth ydoedd, ac o ymddangos- iad cryf a chadarn, ac yr oedd felly o ran cyfan- soddiad. Ond cafodd ami a blin gystuddiau, a bu y cyfryw mor nerthol yn y diwedd nfes dryllio y cyfansoddiad er cryfed ydoedd. Am lawer o'i flyn- yddoedd olaf yr oedd yn teithio trwy ystormydd geirwon, ac erbyn bod un drosodd yr oedd y llall yn dyfod, fel yr oedd y cymylau yn dychwelyd o hyd ar ol y gwlaw. Cafodd Mrs. Lewis ami i gystudd, ac y mae wedi ei pharlysu i ryw raddau er's hir amser bellach. Felly "plant y tonau" yw y ddau wedi bod, ond dau a ganant yn iach wedi dod allan o'r cystudd mawr. Teimlir colled fawr ar ol Mr. Lewis yn yr eglwysi cartrefol, ac eglwysi y Cyfarfod Misol, ond y mae ei farw wedi bod yn enill tragwyddol iddo ef. Cafodd y fraint o farw wedi gweled y diwygiad a chyn i'r diwygiad ddarfod. ac felly gwelodd ddau ddiwygiad mawr yn ei ddydd. Dywedir iddo gael claddedigaeth un o dywysogion Israel. Gweinyddwyd yn y ty gan y Parch. Daniel Lewis, Penmorfa. Rhoed yr emynau allan gan y Parch. Joseph Jenkins, Ceinewydd. Yn y capel llywyddwyd gan y Parch. David Oliver, Twrgwyn, yr hwn a roddodd hanes yr ymadawedig ar ei ol anerchw.yd y dyrfa fawr gan y Parchn. Daniel Lewis, D. A. Jones, Llangeitho. Thos. James. M.A., Llan- dysul, M. P. Morgan, Blaenanerch, W. A. Jones (B.), Llwyndafydd, J. M. Prydderch (A.), Llanarth, Lewis Evans, B.A. (A.), Capel y Wig, William Gri- ffiths (A.), Manygroes, a J. Edwards (A), Bryn. Dvgent oil dystiolaeth i'w gymeriad pur, i'w ysbryd addfwyn a diymhongar, ynghyda'i ymdrechion di- flino i gyflawni ei weinidogaeth, a hyny yn wyneb cystuddiau lawer. Ar lan y bedd siaradwyd yn nerthol gan y Parch. Rhys Morgan, Dewibrefi; ac wedi canu, gweddiodd y Parch. Joseph Jenkins, Cei- newydd. Nos Sabbath ar ol y gladdedigaeth tra- ddodwyd pregeth angladdol gan y Parch. O. Oliver, oddiar loan Td. 3. Yr oedd yn bresenol hefyd yn y gladdedigaeth y Parchn. D. J. Davies, Periglor Llan- dissiliogogo, J. E. Thomas, Capel Ffynon, ac Evan I R. Evans, Pensarn. Yr oedd Cranogwen hefyd yn bresenol, a Mr. Thomas, ysgolfeistr Penmorfa, yr hwn yntau sydd yn pregethu. Yr oedd Mr. Lewis yn ysgolor da, cadw ysgol y bu cyn dechreu pregethu, ac ar ol hyny am beth amser cyn iddo roddi ei holl amser at y pregethu. Ordeiniwyd ef yn Nghymdeithasfa Rhydfendigaid, yn 1874, pryd y traddodwyd yr Araeth ar Natur Eglwys gan y Parch. J. Wyndham Lewis, Caerfyr- ddin, a'r Cyngor gan y Parch. William Williams, Abertawe. Rhyfedd yn ein golwg fel y mae yr amser yn myned, nid oes yn fyw heddyw o'r Cyfar- fod Misol hwn o'r rhai ordeiniwyd yr un pryd a Mr. Lewis, ond y Parch. John Owens, Penial. Mae John Morgans, Rhiwbwys, James Jones, M.A., Tan- ygroes, ac yntau wedi inyned. Bydded i Dduw pob gras ateb y gweddiau a anfonwyd ato, ar ran Mrs. Lewis yn ei llesegdd a'i hiraeth mawr.

SYMUDIAD CRISTIONOGOL YR EFRYDWYR.

COLWYN.

CrFARFODYDD MISOL- 1