Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Hide Articles List
8 articles on this Page
Galwad.
News
Cite
Share
Galwad. Da genym glywed fod Mr. John Williams, B.A., Rhiwlas, Bangor, wedi derbyn yr alwad unfrydol gafodd oddiwrth eglwys M.C. Carno, a deallwn ei fod yn bwriadu dechreu ar ei waith yno ddechreu y mis nesaf. 999
Y Drysorfa Gynorthwyol.
News
Cite
Share
Y Drysorfa Gynorthwyol. Nid oes ganiatad i roddi hyd yn nod grynhodeb o weithrediadau l'wyllgor Cyffredinol Trysorfa Gyn- orthwyol y Gogledd, a gyfarfu yn Nghaer ddydd Gwener diweddaf, cyn i'r Ysgrifenydd Cyffredinol gyllwyno yr adroddiad i'r (rymdeithasfayn Porth- madog; ond gellir dweycl cymaint a hyn, fod y pwyllgor yn unfrydol wedi pasio i roddi yn ychwan- egol at y Grant arferol o'r Siroedd, y swm o £ 10 o Drysorfa yr Ugeinfed Ganrif i bob gweinidog sydd a gofalaeth ganddo a'r aelodau yn rhifo dan 150, a"r swm o C5 i'r rhai sydd a'u haelodau yn rhifo uwch- law hyny. Bydd hyn yn newydd da i'r lliaws gwein- idogion: ydynt yn disgwyl yn bryderus am glywed swm y Grant eleni, yr hyn a wneir yn hysbys gan y Trysorydd a'r Ysgrifenydd yn y Gymdeithasfa i-lesaf. 999
Y Parch. Benjamin Hughes.
News
Cite
Share
Y Parch. Benjamin Hughes. Yn Nghyfarfod Misol Dyffryn Clwyd ddydd Iau a dydd (iwener, llywyddai Mr. J. Herbert Roberts, A.S., Abergele. Yn y cyfarfod y boreu, gweinydd- wyd yr ordinhad o Swper yr Arglwydd, dan arwein- iady Parch. B. Hughes, Llanehvy, Dydd Gwener, 1 y 17, pregethai Mr. Hughes am 2 o'r gloch i gynull- eidfa liosog gyda grymusder mawr. Ar clerfyn yr "• ddfa hysbysai y Parch. Francis Jones fod Mr. Hughes yn cyraedd ei 83 mlwydd oed y diwrnod hwnw, a dymunai ei longyfarch ar ran y gynulleidfa gan ddy- muno iddo flynyddau eto yn ngwasanaeth ein Har- glwydd Iesu Grist. Ac ar gais Mr. Hughes dymunai am ran yn ein gweddiau yn ngwyneb y ffaith fod ei anwyl ferch, Miss Hughes, yn hwylio o Shillong am Gymry dydd ,Sadwrn, y isfed, i ofalu am ei hanwyl da,d yn ei unigedd a'i drallod am ei anwyl briod. Cydsyniodd y gynulleidfa yn galonog a deisyfiad Mr. Hughes, gan wir ddymuno ar iddi gael mordaith lWyddianus a nawdd Duw drosti. 1 999 v
Y Cartref, Bontnewydd.
News
Cite
Share
Y Cartref, Bontnewydd. Ar yr 8fed or mis hwn aeth y plant mewn cerbyd- au i Fanor ar wahoddiad caredig Mrs. Davies, Tre- börth. Trefnasai Mrs. Davies i"r plant fyned mewn cwch dros y Fenai, ac erbyn cyraedd Treborth am bump yr oedd te rhagorol yn barod, a phrin y mae eisieu ychwanegu i'r darp-âriadau gael eu mwynhau. Wedi hyny trefnwyd chwareuon i'r plant, y rhai a gawsant lawer o ddifyrwch gyda'r see-saw. Cymer- odd Miss Davies hwy o gwmpas yr ardd, a rhoddodd flodeu iddynt, a chyn ymadael danghosodd amryw o'r pethau gwerthfawr a gafodd yn India, &c. Treuliwyd prydnawn hapus iawn, a thalwyd yr holl gostau gan Mrs. Davies. Ar y Isfed, gwahoddwyd T.eulu'r Cartref i Lanberis gan Mr. a Mrs. Roberts, CHandwr, y rhai a ddarparasant wledd o'r fath oreu af eu cyfer. Yna aethpwyd i weled y rhaiadr. Ar ot hyny cafwyd cyfarfod yn ysgoldy Preswylfa, dan lywyddiaeth y Parch. Thomas Lloyd, pryd y cymer- wyd rhan gan y plant. Mwynheir y gwahoddiadau caredig hyn yn ddirfawr gan Deulu'r Cartref.
CAERNARFON.
News
Cite
Share
CAERNARFON. Nos Sul, yn nghyfeillach 'Capel Siloh, rhoddwyd caniatad unfrydol i'r gweinidog (Parch. J. F. Hughes, M.A.), i ymryddhau o ofal bugeiliol am y gauaf nesaf, er iddo gael myned i hinsawdd gyn- hesach er adenill nerth. Gobeithia pawb mai felly yf-y bydd. r m. Gýfarfod Pregethu.—Ddydd Sul a nos Lim, cyn- haliwyd cyfarfod pregethu blynyddol Capel Beulah. Gwasanaethwyd y waith hon gan y Parchn, D. Wil- > liams, M.A., Coleg Trefecca, a Thomas Jones, Rhos- iyllen: 'Cafwyd oedfaon grymus iawn. Yr Kisteddfod.—Dyna ydyw pwnc y dydd yma. 'Dyweclit fod ei llwyddiant arianol yn sicr eisoes. Daeth y rhaglen allan yn brydlon, a cheir pob manyl- ioh; ynddol Mae yma gor plant o"r dtef hon yn yn"'ymgeisio ddydd Gwener; yn ei erbyn y mae cor plant y Pentre, Lerpwl, a chor Llanberis. Dis- gwylir Eisteddfod wech. Cynhelir cyfarfodydd gweddiau yn ngwahanol addoldai M.C. y dref, i ofyn am fendith Duw ar y SaSi-wn, gynhelir yn fuan yn Mhorthmadog. ¥ Temlwyr Da.Nos Lun, yn Nhcml Eryri, o'r tJrdd uchod, darllenwyd papyr amserol, gan Mr. William Pritchs'-d, Cefntref Seiont, ar," ,Weddi Ddirgel. Siartidwyd ymhellach gan amryw o'r aelodau. Idywyddwyd gan Mr. John Ethall" thebarne Street.
MR. T. L. DAVIES, (CLORIAN-FARDD),…
News
Cite
Share
MR. T. L. DAVIES, (CLORIAN-FARDD), TREDEGAR. Colled enbyd i grefydd a moes ydoedd marw yr anwyl frawd hwn mor gynar, dim ond 47 oed. Ysg- rifenodd ar brydiau i'r Golettai), a chadwodd bapyr- au y dref hon yn y manylion diweddaraf am dymhor hir. Ond bellach mae tafod ffraeth T.L. wedi tewi, a'i ysgribii1 wedi sychu, tra mae gwaith anhawdd ydywsychu dagrau ar ei ol, ac anhawdd peidio dweyd gair da am dano; canys yr oedd iddo air da gan bawb a'i hadwaenai." Ni welwycl v fath dorf mewn claddedigaeth yn Nhredegar er pan gladd- wyd y Seraph-bregethwr, Morgan Howell. Daeth cvnrychiolaeth o'r lioll sir i ddangos y gymwynas olaf iddo. Bu yn swyddog ffyddlon i gwmni Tre- degar, a bu yn, boblogaidd hyd ei fedd gan y gweith- wyr i gyd. Ataliwyd y gwaith haiarn ddydd ei angladd, a daeth rhai o'r perchenogion a'r goruchwyl- wyr i'w gynhebrwng. Enwogodd ei hun ar lwyfan yr Eisteddfod fel arweinydd medrus, yn y Cyrddau Misol fel dadleuwr cryf, gyda Dirwest fel amddiffyn- wr diail, ac yn yr eglwys fel blaenor ni fu yn.ol i neb. Fel ei Waredwr treuliodd ac ymdreuliodd yn ei amser ei fywyd a'i arian i wella eraill-roddodd bris isel ar ei laflir-ond erys yn gofgolofn ardderch- og iddo hyd ganiad yr udgorn. Efe oedd yr Arol- ygwr yn Penuel er's tair. blynedd, a meddyliai yn uchel o'r ffaith iddo gael ei ddewis yn Gadeirydd Cymanfa Cranu Gwent a Morganwg am y tro nesaf- tra bydd efe yn Cann'r ochr draw, IIeb arno fraw na phoen, Ganiaclau'r hyfryd Galfari, Diocldefaint Addfwyn Oen. Dyna ei brofiad cyn marw. Iieddwch i'w hveh, a nodded nef ar ei weddw a"i dri mabyn eu galar.
MARWOEAETH MRS. E. M. JONES,…
News
Cite
Share
MARWOEAETH MRS. E. M. JONES, SALIS- BURY TERRACE, ELANRWST. Dydd Iau, y gfed cyfisol, bu farw Mrs. E. M. Jones, 2, Salisbury Terrace, er ymdrech a phob gofal dau o feddygon goreu y dref. Cymerwyd hi ymaith yn nghanol ei dyddiau, yn 44 mlwydd oed. Priod oedd yr ymadawedig i Mr. E. M. Jones (Afallon), yr hwn sydd swyddog eglwysig ac arweinydd y gan, yn nghapel Heol Scotland. Dygwyd hi i fyny yn Nant- bwlchyrheiyrn, ac yr oedd yn ferch i Mrs. Goddard, yr hon sydd weddw er's blynyddau, ac mewn oedran teg. Y mae yn aros un chwaer, a thri brawd, un o ba rai, sef Mr. Joseph (ioddard, sydd yn swyddog blaenllaw yn eglwys M.C. y Naat. Cafodd Mrs. Jones ei dwyn i fyny yn grefyddol o'i mebyd, ac wedi tyfu i fyny, nid ymadawodd a'r llwybrau y gosodwyd ei thraed i rodio ynddynt pan yn blentyn. Yr oedd ei theulu ymysg y rhai mwyaf ffyddlawn a chrefyddol yn y Nant, a bu hithau felly wedi dod o honi, gyda'i chwaer, i drigianu yn Llanrwst. Ym- sefydlodd y ddwy fel Dressmaker yn y dref, yn gydmarol ieuainc, ac oddeutu pedair blynedd yn ol priodwyd hi a Mr. E. M. Jones, end daeth angau i dori ar yr undeb, ac i ddatod y cwlwm, er mor gysurus a hapus, er nad heb ei dreialon trwy wendid a llesgedd am fisoedd ar brydiau. Ond ni chlywid Bi un amser yn grwgnach. Nodweddid hi gan siriol- deb trwy y cwbl, ac yr oedd yn dawel ac amynedd- gar. Yr oedd yn ddiamheuol dduwiol, ac yn un o rai llednais y tir; ac er na cheid hi pan fewn iechyd, yn gwneyd honiadau uchel, pan ddaeth v diwedd— yn yr hunan-feddiant llawnaf, dywedai wrth ei phriod fod y deyrnas yn eiddo iddi, a chanmolai ei Brenin., a gorchyinynai ei merch fechan, Buddug, i'w ofal, gan roddi siars ar ei phriod i son llawer wrthi am lesu Cirist a'i Groes. Claddwyd ei gweddillion, gan dyrfa liosog a pharchus, ddydd Sadwrn, yr neg, yn mynwent Capel Seion, Llanrwst, yn nghanol arwydd- ion amlwg o alar a chydymdeimlad a'i phriod a'r perthynasau. Gweinyddwyd wrth y ty ac yn y fyn- went gan y Parch. Richard Rowlands, gweinidog yr eglwys yn Heal Scotland, o'r hon yr oedd ein chwaer ymadawedig wedi bod yn aelod dichlynaidd a gweith- gar, am dros 25 mlynedd. Bydded nodded ei Duw dros jei phriod, ei Buddug fechan, a'r perthynasau 011.. Duw ei thad, a'i Brenin hithau, Eyddo 'n eiddo'r teulu ell, I'r un deyrnas dyger hwythau Heb fod un yn myn'd ar goll; Troedied Buddug lwybrau rhinwedd, Rhodded Duw na lithro'i chain, Etifeddiaeth iddi fyddo Crefydd bur ei hanwyl fam.
Advertising
Advertising
Cite
Share
|D1SINFECT —^ANITAS"! "84NITA3" i»T DiSIKFECTANT. I "fiilllTAt" » FRAQRAMT AN* I 1 NON-POISONOUS H "8AWTAS" "TSffw*™ I Of all chemists anti stems. P I JE Mm POA K.&.USTRATEO PAMPHLET. |§ 'vmm ISaelmtsB, I | in in Y B- LAW-D GORED AT WNEYD Teiseni a "Scooe8-^ «e Fod Walker's, o St. Bees, Cun-iberlaild, bys I d hy5 llwyddo 1 ddadrys pwnc anhawdd, sya ac bawb a drigant yn ngogledd-barth ol1 eu derbyniad yn nhai y bobl wedi pr0*1 „ bendithion mwyaf. 11 aC, b Os ydych yn brin o amser ac adno1a ^jo f dymuno cael Teisen a "Scones" cartrei_ ^Jei byrddau, mae pacedi o flawd teiseI11 aiS WALKER yn barod mewn amrywiaeth y pwys (yr hwn a wna deisen It pwys), Gellir dethol Blawd i wneyd TEISENI E CHERRY, MADEIRA, SULTANA, ijM COKERNUT, hW CARRAWAY SEEDLESS, y FRUIT- ALMOND, 4 CHOCOLATE, LEMON, 'H CURRANT, wrn CARRAWAY SEE^. f SNOW, a PLAIN. Ni raid i chwi ond rhoddi i mewn y ymenyn (neu lard) a nodir yn y cyfarwy jjet f ar bob pecyn pwys o flawd, ac ychwan e jn ( a wyau i'w gymysgu, a gosod eich te ilestr oddifewn i bobty fydd yn cynhesu j dicrhau canlyniad fydd yn llwyddiant P yfl y telerau, bob amser, fod y cyfarwyddia eu dilyn. rneyd Mae Blawd Scones" drachefn yn Scancs9 Toiseni, fl Gingerbread Raspberry sand" Boiled plI. o'r math ysgafnaf a mwyaf blasus. 4 The Early Baking Powder ydyw enw nodweddiadol y ffirm BEES, ac oddiar wybodaeth bersonol gwladgar Cumberland a'u cywirdeb gellir yn galonog argymhell y Cyntfy 1 J yfP diymdroi ar y nwyddau uchod. f Mae y ffaith fod y bwydydd da, uchod wedi eu pacio yn awyrgylch ddy | y mor St. Bees, yn brawf ychwanegot vl) iaethau, yr hyn a werthfawrogir yn 1 dosbarth hwnw o'r cyhoedd sydd y, 0'u,. f deddfau iechyd. Ceir rheswm arall clyf Oe, ¡¡6 oriaethau yn y ffaith fod cerbydresi ar oo cludo y nwyddau uchod i bob rhan o r y gwelir fod y pacedi cyfle.us hyn yj] ffordd ac yn sefydlu masnach ar ra. >'ur Prin y gellir credu, hyd nes y deuir 1 ^vys j fod yr holl elfenau anwlybyrog" yn {1^1 mhob pecyn o flawd ar gyfer y n ond y mae hyny yn foddhad ac yn f&n 0'u Py Jl, gan ei fod yn arbed yr amser arfer^er mewn clorianau, heblaw sicrhau lla j f Lendid.. Mae pacedi yr "Early Rising Bakm0 yc yrf' ddiamheuol yn fudd ac yn fendith, on ji ela^K' egol at hyn, gan fod blawd y teiseni 2Qfed ysgu yn barod, cyrhaeddir nod uchaf y y & sef arbediad amser." Mae i>ob elf eft ..J au o'r ansawdd uchaf yn bosibl. ge.J Gall merched Cymru fod yn sicr n f blawd hafal i eiddo Walker's i 'scones" fvddant yn hyfryd i'r arcn fantais i'r cyfansoddiad. iQlJ yf Rhodder prawf arno, a cheir gwelea ddywedir yn wir. WHOLESALE AGENT: Mr. JOHN EDWARDS, 24, Llt/el r A