Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
Y DIWVGiAD YN LLUNDAIN.
News
Cite
Share
Y DIWVGiAD YN LLUNDAIN. ^yd ^BrilWrvT^ Y rARCS. I). OLIVER. { truRaredri^0n yn bwrlymu ° ddiolchgarwch i Dad 7sbysu ddau i pvd y mae genym y gorchwyl o ru arH-enwyr y GoiiEUAD mai parhau i odd- yfol v a^u helaeth o'r Brifddinas y mae tan y ^rwygiad. Y mae y cyflymdra gyda pha 6llVvedis 6 Wedi gafaelyd yn yr eglwj'si Cymreig, yn u^rddolrt1^J'nion ieuainc ynddynt, jm'fynegai i bec%Hem a dwysder y disgwyliad am dano. ^rts v' ^0^e^hiem, a gweddiem am i Mr. Evan fath frj gvi'r ieuanc y mae yr Arglwydd wedi gosod y Carfarno ynglyn a'r Diwygiad presenol—byder- ^eallasorn e* anva^n atom c)'n J Pasg. Pan j ^daw i kyny allan o'r cwestiwn, ceisiem ras r gred yn dduwi°l a pheidio grwgnach, gan ^edt|j 11 3' buasai'r nefoedd yn sicr o ateb ein j^m'yr ta^r';on hwyr neu hwyrach, oherwydd ^°ga.etli v peddid yn parhau mewn gweddi a gweini- livH f r" 1 fod yn onest> rhaid cyfaddef mai I gael y tv y.r oedd pobl oreu Llundain wedi trefnu r?1 helD -^ygiad er's wythnosau bellach, a gofynem lv? cyn 1 *eddianu ein heneidiau mewn amynedd. piWy„iaf w 0 honom am DdiAvygiad Hydref, wele f^tldafn y Gwanwyn yn donau o gariad dros holl v aC ° ^an e* ddylanwad egyr blodau peraidd kelwyd e^Tysi g^'da g°g°niant ac arddunedd na ap "aial yn nghof neb sydd yn fyw yma. y y dywed Elfed am wanwyn anian yn y raftWyn Syffelyb y gallwn ninau ddywedyd am d(5yw,ys ydo1 y Diwygiad yn y Brifddinas Dan fys y Gwanwyn tirion e egyr dorau'r dail; "ci<t ° ffenestri gwyrddion ^°lch f^e'r blodau'n holi am Haul." Si*61 eisop1 duw y mae canoedd o honynt wedi ei t5°l y s* Ac o dan ei belydrau tanbaid a byw- aa,r^wy„e/erddi yr Arglwydd yn prysur ddyfod yn h etn eu hymddangosiad a'u perarogl. "Ac 9 yn yn Ilefaru, mi a wrandawaf." Pan y mae >yiydgwrandaw gweddiau ei bobl, a phan y mae V nr1^61? Sion yn e* chymeryd yn ei fynwes, d-^Wxrf0 n caniadau> gweddiau, a phreeethau v 11 heriri,, oetTh yw agwedd ysbrydol Cymry Llun- hJ*W y Sauaf tywyll du a aeth heibio, hi na i a basiodd, ac a aeth ymaith, ac O a allem ddweyd ymaith am byth, gwelir y fl? ^ghan^ eldaear, y mae'r adar yn canu ganol nos ■■'lk!tl,r R estron ddinas, a chlywir llais y clurtur— '(yMion r?> ^.0S°niant—yn diaspedain hen furiau W^aiv bllon Fawr y dyddiau diweddaf hyn. -i1 yr Hydref y trefnai dynion i gael y Di- ddaeth yn y Gwanwyn, a bendigedig :oedd am h3'.ny- c!ydd Sadwrn diweddaf, y 6ed cyfisol, 0 1 yr oddiwrth gyfaill sydd yn byw yn ^1" '?of/n ™ ein gweddiau ar ran dyn ieuanc o Odedi ertelfi. t Dywedai ei fod yn hanu o deulu ^eK ^edi t -r •us a chrefyddol, o dymer garedig, f°<l x 61 gefn ar grefydd ei dad a'i fam, ac 0^egais j, fewn. ty addoliad er's blynyddoedd. Sari1' :dymuniad y cyfaill i'r Efengylesau heb rtl a gynulleidfa ar ddechreu y cyfarfod nos Vh^Vd •> a thacr oeddynt y gweddiau a y ?• Ac,lf ne^°edd am achubiaeth yr afradlawn LSd i> agos i ddiwedd y CAvrdd awd ati i dynu W ar &rc,r-lan' a gwnaed hyny mae'n amlwg erbyn O. yInh!ad y Meistr, oblegid yn sypyn taclus o'i 4 T?11 KWpH-v eraiH, 3'r cedd y dyn ieuanc fu yn e' berthynasau anwyl yn Ngbymru a'r lv' '^ed^ deall hyn mawr oedd y gorfol- 06dyrenol awenhau, ac yr oedd rhai yn neidio yn Skfti1* 'VVpj^oed^eddi oddiwith y ddaear gan fel yr 4Wsynioi ymgolli wrth weled yr arwydd ddi- fenychu f100 ,° nerth gweddi. Rhaid oedd rw, ac g0rfoleddu oblegid y brawd hwn oedd pyS' ac a a aeth yn fyw drachefn ac a fu goll- ^nvm iTyd- Nid 'second-hand evidences' bvri^^hvn -ellac^ ° wirionedd Cristionogaeth, V1 a ddaw em bod wyneb yn wyneb a realities' Sm boreunnbKth/anlynol"y cyntaf yn Mai—oedd Vf„rar V rirU a^af a'r niwyaf bendigedig gawsom Hef beb °edd natur ar ei goreu gyda'r ^or (°ed<3 yn Un cwmwl—yr haul mawr yn nghanol ,Se, fresh' a ^oleuo ac yn gwresogi ac yn edrych /tth ^Maf i a phe mai'r boreu hwn oedd y reu lyned i'r gael ei gyneu ?an Creawdydd. ^ycU C;aPel 3''n he°l brysur—ie, prysur hen\a Phvirdli 5 teimlem fod ™wy o bosibl- o dina^ f a daioni' nag a arferem dybio yn l0tl6dHanf3'ddemaW^yma- Ymhob Peth natur y boreu ysbryd'>i adlewyrclnad gwanaidd o ryw wir- y rhalneu giiydd: "Lle 3'r amlhaodd y I?1? yn dg°r amlhaodd gras." Dechreuwyd y )%er ritchard 'C ond yn afaelgar fel arfer, gan Ha'r bo' 1,11 o'n blaenoriaid. Ni chefais y th frlif Pai'oclr-M,rdw ar neb arall, oherwydd yr aJ^d an o'r If! ^jnwyaf yn m'r,awb gellid meddwl yitllaen edd 5 ac fel yr oedd y cyfarfod yn er Yrtlli Vn *eimlem f°d y llanw yn codi, ac rbVn n,&0,scd yr hwyliau a'r rhaffau yn eu Jechn Yaedd fn K°n Pur Calfaria, Yn y man d am 4, r,a,wd °edd wedi bod mewn ym- Y bi0 wydden yddlau a nosweithiau yn dringo'r kC y^tau ii^iyn.°^n^ ^od 3r ^esu wedi myned cJp'^Wyi ererin bw-n ei weled. Beth yw'r gwaeddi? ar lesu S'dd wedi cael golwg ar ol hir j-^aeddi -^azareth. Gyda bod hwn yn °'i*eu yr 0'i.,Wele ddyn ieuanc hawddgar a dy- a swn in ariao ond yn welw ei wedd y l>h^ avy, o « ,g ac edifeirwch ymhob brawddeg da»ym-J!0glau Sir Fon" ydyw-diolch i c^el byd a wedi bod mewn .ymdrech a II W,e<lyd v61 lorio ean^ am yn agos 1 wythnos, ond c A y p CVVbl—fi V, nyi? • Ac ar lawr y mae yn ^yllodH ° 3—W1'th ei Dad nefol, k ni drostr> am weddiau ei hen fam anwyl toj yr oedd y He yn foddfa o ddagrau—dagrau gorfoledd, ac ni allem lai na bloeddio goreu y medrem, Diolch Iddo! Bendi- gedig!' Mi gofir am odfa ryfedd y boreu Sabbath gedig!' Mi gofir am odfa ryfedd y boreu Sabbath hwn gan bob un oedd ynddi am byth. Un o'r pethau rhyfedd osododd arbenigrwydd ar odfa'r prydnawn oedd gweddi yr hen frawd anwyl o'r Strat- ford, Mr. Stephen Jones. Un o'r Fifty-niners' yw ef, ac un o'r rhai sydd yn llawenychu ac yn mwyn- hau y bedydd tan gaiff pobl ieuainc 1905. Nos Sabbath oedd cyfarfod diweddaf yr Efengylesau yn Mile End, ac yr oedd pob ilecyn a chongl o'r capel hyd ag y daliai, y lobby a'r cwbl, maes i'r heol- canoedd yn sefyll ar draed. Dywedai un brawd fod yno o gylch mil o bobl-yn sicr nid oedd lawer yn llai. Cyfarfod gogoneddus oedd hwn, a choron fendigedig y cyfan. Yr oedd y gweddiau yn gawod- ydd o'r dechrsu i'r diwedd, ac amryw yn gwaeddi Gogoniant! Haleliwia! Bendigedig! megis mewn cydgord ag angylion nef, heb ofalu beth allai opin- ,,y iwn dynion na chythreuliaid am danynt. Parhawyd yn y cyflwr hwn am dros bum' awr. Bydd 61 y cyfarfod hwn a'i argraffiadau yn annileadwy ar bob un oedd yno am byth-er gwell neu er gwaeth. Nos Lun canlynol cychwynwyd ymgyrch arall er dryllio castelli'r cythraul yn Llundain yn nghapel Charing Cross, y capel ymha un y mae y gweinidog ieuanc ac athrylithgar, y Parch. Peter Hughes Griffiths yn gweinidogaethu, ond yr hwn sydd er's misoedd rai wedi ei ddal gan gystudd blin a gwendid mawr, ac wedi drachtio yn helaeth o ddyfroedd chwerwon Marah. Offrymwyd llawer o weddiau taer drosto yn ystod yr wythnos hon, a chan neb yn fwy na chan ddynion ieuainc eglwys Charing Cross ei hun. Ein hyder diffuant yw y cawn ef yn fuan i'n plith wedi ei lwyr adferu. Nid heb gryn dipyn o bryder ac ofn yr edrychid ymlaen ar Gyfarfodydd Diwygiadol Charing Cross, oherwydd yr oedd y si wedi myned ar led nad oedd yr eglwys hon mor gynes ac mor ddwfn ei chydymdeimlad a'r ffurf yma ar waith yr Arglwydd yn gweithio a rhai o'r eglwysi eraill. Arweinid y cyfarfodydd yn Charing. Cross fel yn Mile End a Stratford gan yr Efengylesau. o'r Deheudir sef Miss S. A. Jones, Nantymoel, Miss Maggie Davies, Maesteg, Miss Mary Davies, Gor- seinion, a Miss Maggie Jones, Mardy, yn cael eu cynorthwyo gan yr Efengylwr Phillip Jones, Aber- aman. Caled iawn a diafael oedd cyfarfod nos Lun am ran go hir, ond ychydig wedi deg o'r gloch torodd y wawr, a mawr fu y molianu am ei myned hi yn ddydd. Nos Fawrth cafwyd cyfarfod bendigedig, ac un o'r rhai rhyfeddaf oil hyd yma. Ar un adeg gallech feddwl mai mewn Eisteddfod Genedlaethol yr oeddych, a'ch ffafr g6r chwi wedi cael y fuddug- oliaeth. Ar un llaw i mi y mae un o hen wroniaid '59, Mr. Edmund Evans, o eglwys City Road, yn bloeddio cydgan gorfoledd y flwyddyn hono, ac ar y Haw arall y mae'r Parch. J. Wilson Roberts yn canu yn soniarus anthem buddugoliaeth y Cristion yn y flwyddyn hon. Fan draw o dan y gallery y mae un o fechgyn Hammersmith—mab y Parch. R. Thomas, Llanerchymedd, yn gwaeddi 'Diolch!' o waelod ei galon, nes rhoddi i mi ddracht o'r nefoedd bob tro y seiniai'r gair. O'm blaen yn ymyl y set fawr, y mae un o fechgyn Wilton Square, bachgen gwylaidd, diymhongar, ond wedi bod dipyn yn araf yn plygu fel y lleill yn yr eglwys hono. Dacw fe, yn ei hyd ar lawr, ac ychydig y tu ol iddo un arall o fechgyn Wilton yn crochlefain Bendigedig' wrth weled fod ei weddiau wedi eu hateb ar ran y brawd hwn. Draw uwchben y cloc y mae un arall o gewri ieuainc Hammersmith yn gw.aeddi fod -hen ice- bergs' y gallery yn dechreu toddi yn fendigedig. Rywle rhyngwyf a drws y festri yr oedd Evans bach, Stratford (gynt o New Tredegar), yn herio y diafol i ddyfod yn ol i'r cwrdd hwnw wed'yn. Ac ar ei draed ar ben y set y mae gwr ieuanc, diwylliedig ei feddwl, ac yn B.A., yn curo dwylaw mewn gorfol- edd. Heb os nac oni bai, hon yw yr olygfa debycaf i'r nefoedd ydwyf eto wedi gael. Prin yr wyf yn disgwyl gwell pictiwr o honi cyn myned iddi, ac edrych yn ngwyneb y Ceidwad heb un lien rhyngom ag Ef. J b Cyfarfod campus gaed nos Fercher drachefn. Yn hwn plygodd gwr ieuanc o Scotchman, gwr dysgedig, ac un sydd wedi teithio llawer ar hyd a lied y byd eisoes, yn ol tystiolaeth y Parch. D. Wynne Evans, Chester, yr hwn oedd yn bresenol yn y cyfarfod. Swn buddugoliaeth oedd yn adseinio drwy yr awyr pan yr aem adref ychydig cyn deuddeg o'r gloch y nos hon--y caffaeliad wedi ei ddwyn oddiar y ^adarn. Nos Iau cafwyd cyfarfod rhyfedd iawn-cyfarfod o nodwedd wahanol i'r lleill—cyfarfod a'i lond o rwystrau ar ffordd yr Ysbryd Glan i wneyd ei waith, ac er nad oedd yn dywyll hollol.arnom, oherwydd yr oedd y merched mewn cywair bendigedig, er hyny yn hytrach yn ddigalon a llwfr y dygwyd y cyfarfod hwn i ben. Eithr yr awr dywallaf yw yr awr nesaf i'r dydd, ac wrth ein bod yn myned allan clywem gynghanedd a dawnsio yn yr Hall odditanodd yn yr overflow meeting.' I mewn a ni liaws o honom, yn falch o gael y diafol ar wastad ei gefn yn rhywle. Tebyg oedd y cyfarfod hwn yn yr Hall i gyfarfod bythgofiadwy nos lau y 4ydd o Fai, yn Mile End Yr oedd Duw yn llon'd y lle, a phechaduriaid a s-aint wrth y degau yn gweddio, yn wylo, yn edifarhau, yn gwaeddi am faddeuant, yn diolch am dano yn canu,, yn gorfolcddu. Bendigedig! Diolch am y Diwygiad Dyma'r nefoedd wyf am gael y tu yma i'r bedd. J
[No title]
News
Cite
Share
Cynhaliodd Eglwysi Bethlehem Green, Melincryth- an, Gorphwysfa, a Hermon, eu Cymanfa Ganu ar ddydd Gwener y Groglith, yn Bethlehem Green — boreu, prydnawn, a'r hwyr. Llywyddwyd gan Mr. R. W. Jones. Arweinydd y dydd, Mr. Phillip Thomas. Cyfeilwyr, Mri. W. J. Davies, Castell- nedd, a R. T. Williams Sciwen. Cymerwyd rhan gan y Parchn. W. Samlet Williams, E. H. Jones, J. R. Evans, J. N. Jones, ac eraill. Canwyd y tonau a'r anthemau yn rhagorol. Cafwyd Cymanfa ardderchog, a'r dylanwad dwyfol yn amlwg.
PORTH, RHONDDA.
News
Cite
Share
PORTH, RHONDDA. Cymanfa Ganu.—Dydd Llun, Mai iaf, cynhaliodd Methodistiaid Dosbarth Isaf, Canol Rhondda, eu hunfed-ar-ddeg Gylchwyl Gerddorol, dan arweinydd- iaeth alluog y brawd anwyl, Mr. David Morgan, M.E. (Dinas). Dyma y tro cyntaf i Mr. Morgan gael yr anrhydedd o fod yn arweinydd am y dydd, a da genym allu tystiolaethu iddo brofi ei hun yn fwy na theilwng o'r safle ymhob ystyr. Cafwyd Cymanfa dan ei arweiniad nad aiff byth yn anghof genym. Yr oedd eneiniad neillduol yn nodweddu pob cyfarfod, a theimlid yn gyffrodinol fod safon y canu yn uwch nag a fu er's blynyddau ac fod y cantorion hefyd dan y dclisgyblaeth fwyaf ufudd a pherffaith yn Haw eu harweinydd. Ni fuom mewn gwell Cymanfa erioed, ac y mae canmoliaeth uchel yn deilwng iawn i Mr. Morgan am ei lafur diflino gyda 'rehearsals' i sicrhau y fath lwyddiant yn wledd i ni, a hyny o dan lawer o anfanteision a rhwystrau. Profodd ei hun, nid yn unig yn deilwng fel arweinydd medrus ynglyn a'r canu, ond hefyd dangosodd ysbryd a gallu tuhwnt mewn darllen, ac egluro ystyr, synwyr, a meddwl y penillion a genid, nes yr oedd y cantor- ion yn teimlo yn hawdd i'w canu a'r ysbryd yn. ogystal^ a'r deall. Ac yr oedd 'Ysbryd y peth byw' hefyd i'w deimlo yn eneinio yr holl wasanaeth. Cyf- eiliwyd trwy y dydd eleni fel arfer, gan Miss Mary Phillips, R.A.M. (Dinas); Mri. D. J. Powell (Tre- William), a David Evans (Porth). Cadeiriwyd yn nghyfarfod y plant yn y boreu gan Mr. Morgan (Ton. yrefail), yn absenoldeb Mr. James Edwards. Yr oedd y cyfarfod cyntaf hwn fel arfer dan arddeliad neillduol. Gwnaeth y plant eu rhan yn anrhydedd- us, ac yr oedd eu lleisiau pur a swynol yn toddi pob calon wrth eu gwrando, ac yn gwneyd i ni deimlo a dychymygu (fel y dywedodd un yn y cyfarfod) ein bod yn gweled yr Arweinydd mawr-Iesu Grist-yn arwain c6r y nefoedd. Cafwyd hwyl naturiol, ac eneiniad yn natganiad yr oil o'r tonau, ac yn neill- duol felly gyda Croeso i bawb a ddel,' a'r Rhangan, Peraidd ganodd Ser y Boreu' (T. Price). Dech- reuwyd y cyfarfod thagorol hwn gan y Parch. W. Thomas (Porth), a diweddwyd mewn hwyl fendigedig gan y Parch. R. Garn Adams (Dinas). Cadeiriwyd yn nghyfarfod y prydnawn gan y Parch. J. O. Evans. Yr oedd hwn yn gyfarfod gwir lwyddianus. Cafwyd hwyl i ddyblu a threblu amryw o'r tonau, ac yn arbenig y Salm-don a'r anthem ardderchog-I Efe a ddaw (Tom Price). Trwy fod hon yn anthem hollol newydd, yr oedd ei chlywed yn cael ei chanu mor feistrolgar yn wledd a moddion gras i ni; ac y mae yn glod i ben a chalon yr awdwr am gyfansoddi y fath anthem, ac i'r arweinydd a'i gantorion am eu dysgu mor berffaith. Teimlem y byddai yn anrhyd- edd i Mr. Price i fod yn bresenol i glywed y fath ddatganiad ardderchog. Cafwyd sylwadau pwrpas- ol yn y cyfarfod gan y cerddor ieuanc Mr. W. Howells, G.T.S.C. Dechreuwyd y cyfarfod dymun- ol hwn gan y Parch. R. Garn Adams (Dinas), a therfynwyd gan y Parch. J.- Emlyn Jones (Calfaria), 1 orth. Cadeiriwyd yn nghyfarfod yr hwyr gan y Parch. W .Thomas (Porth). Teimlid ar gychwyn hwn fod y llanw yn codi, ac y deuai yn uchel cyn y diwedd, ac felly y bu. Cafwyd hwyl ac arddeliad amlwg y nefoedd wrth ganu amryw o'r tonau yn neillduol 'Regent Square,' a 'Llanddowror;' ac ar yr anthemau, yn enwedig 'Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel' (John Thomas). Teimlem awydd am i'r hen wron anwyl-ei hawdwr i fod yn bresenol er mwyn iddo ei chlywed. Yr oedd y canu ami yn fendigedig' yn ngwir ystyr y gair, ac nid aiff yr argraff gawsom yn anghof. Ni chlywsom ddadganiad rhagorach ami erioed. Hefyd, yr oedd ysbryd y Diwygiad presenol i'w deimlo fel trydan yn treiddio trwy yr holl ganu; ac yn nghyfarfod yr hwyr daeth y llanw i mewn yn gryf, nes codi pawb mewn hwyl i orfoleddu; ac yn goron ar y cwbl, caf- wyd testyn i'r angylion i lawenhau yn nychweliad pechadur ar derfyn yr wyl. Diau fod y nefoedd yn llawenhau yn swn y canu hyfryd trwy y dydd. Ond y mae dychweliad yr afradlon adref yn rhoddi tant newydd yn nghan y nefoedd. Dechreuwyd y cyfar- fod bendigedig hwn gan y Parch. J. O. Evans (Tre- william), a therfynwyd gan y Cadeiiydd, yn swn Amenau a 'Diolch.' Teimlem ar y terfyn ein bod wedi ein llanw hyd yr ymylon, a chredwn y bydd iddi aros mewn adgof ar ei phen ei hun yn ein meddyliau,, a gobeithio y caiff y brawd Mr. Morgan hir oes i wasanaethu ynglyn a Chymanfaoedd Canu yn y dyfodol. Ydwyf} yn ddiolchgar i'r nefoedd, TANTUM ERGO.
CAERNARFON.
News
Cite
Share
CAERNARFON. Beulah.—Yn. y capel uchod bore Sul y Pasg, caf- wyd odfa a gofir, gan y Parch. O. Hughes, Llan- gaffo. Canwyd tonau Diwygiadol, megis 'Even me,' 'Mi glywa'th dyner lais,' 'Ebenezer,' &c., yr oil a rhyw naws tyner, effeithiol. Yna cafwyd anerchiad byr ar y Diwygiad yn llongyfarch ar y presenoldeb da oedd yno y bore hwn. Yna cafwyd pregeth effeithiol ar Ddameg y goruchwyliwr ang- hyfiawn. Cyhoeddv/yd seiat ar ol—seiat y boreu! pryd yr arhosodd dau frawd o'r newydd. Credwn fod Duw yn wir yn y lie hwn y bore Sul uchod.
ST. HELENS.
News
Cite
Share
ST. HELENS. Yn nghyfarfod pregethu blynyddol y lie hwn, nos Saclwin ar Sabbath, wythnos i'r diweddaf gwasan- aethwyd gan y Parchn. David Jones, Lerpwl, a J. Peron Jones, St. Helens. Hefyd, bu Miss Harriett Egan, Cefnmawr, o wasanaeth anmhrisiadwy trwy ei gwaith yn gwasanaethu fel cantores yn y cyfar- fodydd. Gyda'i llais ardderchog, a'i hysbryd add- fwyn, cyffyrddai a holl linynau y galon a'r teimlad bob tro, Caed cynulliadau mawrion, eneiniad y peth byw, ag amryw ddychweledigion o'r newydd at y nifer dda sydd wedi dod i mewn yn barod er dechreu y tlwyddyn hon.—J. PERQN JONES.