Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

NODION 0 DAITH YN LLYDAW.

News
Cite
Share

NODION 0 DAITH YN LLYDAW. GAN Y PAKCH. JAMES D. EVANS, B.A., LIVERPOOL. Pan at ganbl dweyd am yr hyii a welsom o waith ein cenhadon ymroddgar yn Llydaw, torodd y Di- wygiad bendigedig allan yn Nghymru, a" llaweri oedd gan bawb weled eolofnaii y GOLEXJAB yri, cael eu llwyr gysegru i gofnodi hanes mawrioh weithredtiedd Duw yn ein plith fel cenedl. Boddiawn iawh oedd- wn i sefyll o'r neilldu, eto nis gallwh lai nOl, diolch i chwi, Mr. Crolygydd, am eich gwahbddiad i fyhed rhagom i ddweyd gair yn mhellach am y Genhadaeth rhag ineb gamesbonio ein distawrwydd. Yn sicr ni wnai na'r Cenhadon na'r Cyfeisteddfod Gweithiol mo hyny. Pwynt mwyaf gorllewinol Ffraiiic. Gallasem ddweyd llawer na ddywedasom eisoes am yr hyn a welsom yn gyffredinol: ac nis gwn i sicrwydd nad y peth goreu allaswn ei wneuthur o blaid y Genhadaeth fuasai creu yn ein hieuenctyd fedrant fforddio yr amser a'r g6st,—ac nid ydyw c6st gwyliau yn Llydaw nemawr mwy nag yn unrhyw le arall,—i fyned a gweled drostynt eu hunain. 0 wneuthur hyn credwn y dychwelent yn feddianol ar yr unrhyw brofiad a Brenhines Seba. Wedi gadael Douarnenez, aethom mewn tren bychan (nid anhebyg i'r tren red o Gorris i Fachynlleth) i Audierne. Taith fer ond swynol ydoedd hon; ac un peth a ychwanegai at ei swyn ydoedd ein bod yn cael sefyll ar 'blatform' bychan tuallan i'r 'carriage,' ac felly yn medru gweled pob peth o'n cwmpas. 0 Audierne aethom ar ein holwynion yn nanedd gwynt cryf i Pointe du Raz, y pwynt mwyaf gorllewinol yn Ffrainc. a mangre ami i longddrylliad. Llawer ydyw yr hen draddodiadau sydd wedi ymwau o am- gylch y lie hwn. Clywsom lawer am enbydrwydd y creigiau, a diau y maent yn erchyll, ond nid mor arswydlawn i'n tyb ni a chreigiau y South Stack. Ychydig wythnosau cynt bu Esgob Quimper yno yn cysegru cerflun hardd o fynor. Gwrthddrych y cerflun ydyw La Vierge des Naufrages,'—Morwyn y llong-ddrylliadau. Wrth draed y Forwyn Fair gwelir llongwr wedi ei daflu i fyny a'i waredu o'r eigion. Gerllaw y mae y Baie des Trepasses, ac yma bob blwyddyn golchir i fyny liaws o gyrff y rhai gollasant eu bywyd yn y dyfroedd dyfnion. Ychydig yn mhellach i'r m6r saif adfeilion hen dref Is, yn awr yn oruchiedig gan y mor; eto dywed y trigolion y clywir weithiau ar drai mawr swn clychau yr hen ddinas. Carem adrodd ychwaneg o draddod- iadau a lien gwerin y lie rhamantus hwn, ond gofod a balla. Pont I/Abbe. Troisom ein hwynebau tua'r dwyrain, ac yna tua'r deheu, ac wedi teithio tua 48 kilos, cyrhaeddasom yn min hwyr hafaidd hen borthladd Pont 1'Abbe. Yma yr oedd Mr. Evan Jones yn ein disgwyl. Ac onibai am dano ef buasai yn ddrwg arnom. Yr oedd pob gwesty yn orlawa. 0 ofyn y rheswm am hyn, yr unig ateb gaem ydoedd fod" Noce" yno. Ymhell bo'r Noce oedd ein teimlad ni. Yn awr, fel y gwyr y cyfarwydd, ystyr y gair Noce" ydyw priodas; ac mor belled ag y medrem ni yr anghyfar- wydd weled, 'cymerai dridiau a theirnos i briodi deuddyn yn Llydaw. Bid a fyno am hyny, ceir gwledd bob nos am deirnos, ac o ganlyniad yr oedd pob gwesty yn llawn yn Pont l'Abbe y prydnawn hwnw. Gan fod y Parch. W. Jenkyn Jones wedi danfon gair fod dau gyfaill yn dod y noson hono, yr oedd ei frawd, yn hen ddull Sir Aberteifi, heb wybod ai pregethwyr ai beth ydoedd y gwyr dieithr, wedi cyhoeddi odfa. Yr oedd y gynulleidfa yn ein disgwyl, ond gan ein bod wedi teithio mor bell, teimlid mai rhaid ydoedd diwallu ychydig ar ein newyn, ac ymlanhay ychydig o'r Hwch a'n gorchudd- iai. Trwy eiriolaeth Mr. Evan Jones, cawsom bryd yn un o'r gwestai goreu. Cadwodd Mr. Jones y gynulleidfa yn dawel, nes i ni gyraedd yno, er ei bod erbyn hyny yn agos i naw o'r gloch. Yr oedd wedi ceisio gwneuthur esgusawd drosom, ond yr oedd y Llydawiaid mor garedig a moesgar fel na theimlent angen am esgusawd o gwbl. Na hidiwch mohonom ni. Mi fedrwn ni aros, y mae'r cyfeillion wedi dod o bell ffordd, a rhaid iddynt gael tamaid." fiwyrach yr ystyria rhai nad ydyw hyn yn brin gwerth ei adrodd. Hwyrach nad ydyw, ond ni fedrem ni a brcfasom eu hynawsedd a u caredigrwydd byth mo'u hanghofio. Odfa. yn Llydaw. Aethom i mewn i ystafell gydmarol fechan, ond cyn laned a phenwisg llian merched Llydaw, na'r hwn nid yw'r gira yn lanach. O'n blaen gwelem gynujlexdfa siriol a chroesawus. Bum mewn llawer math o odfa, ac y mae y dyddiau diweddaf hyn wedi ychwanegu at fy mhrofiad o odfaon bythgof- iadwy; ond gallaf fi a'm cyfaill hynaws, y Parch. R .Jenkyn Owen, Garston, sicrhau ein darllenwyr mai nid y cyntaf i fyned i dir anghof fydd odfa fechan y nos Lun hono yn Pont l' Abbe. Cyfrifais a gwelais fod yno tua deuddeg ar hugain yn bres- enol. Dylid cofio mai odfa wedi ei galw ar frys ydoedd; a chyn dyddiau yr ymweliad, os gwir yr hyn ddywedir, byddai llawer i eglwys fawr yn Nghymru yn llawen o weled cynifer mewn cyfarfod gweddi. Yr hyn a'n tarawodd gyntaf wrth sylwi ar y gynulleidfa ydoedd y cyfartaledd da cydrhwng un o'r pethau mwyaf torcalonus yn Ffrainc ydvw sylwi fel y mae dynion wedi cilio oddiwrth grefydd nifer y gwyr a niter y merched. Fel y dywedwyd, ymhob ffurf gan ei gadael yn llwyr a chyfangwbl i'r merched. Wedi dweyd ychydig eiriau canodd y gynulleidfa yn Llydaweg yr hen emyn Pen Calfaria' ar yr hen don, Gymreig. Yna dywedodd Mr. Owen ychydig eiriau, a phlesiodd hwynt yn ddirfawr trwy ddechreu gyda'r cyfarchiad Foneddigesau a bon- eddigion." Cyfieithiodd Mr. Evan Jones y geiriau, a galwodd sylw atynt gan beri i wen siriol o fwyn- had i ymdaenu dros y gwynebau oil. Yna canwyd gyfieithiad i'r Llydaweg o'r penill Ni fuasai genyf obaith,' ar y don Bryn Cassia. Wedi ychydig o rydd-ymddiddan, mor rydd ag oedd bosibl trwy gyfrwng ein Ffrancaeg bratiog, gorphenwyd yr odfa trwy ganu emyn dirwestol ar y don Hen Wlad fy Nhadati,' a chyhoeadi y fendith apostolaidd. Gwyr fy nghyfèillion mor ychydig wn i am gerddoriaeth, ond nis galiwn i lai na'm cyfaill, yr hwn sydd gerddor, beidio cael fy ysgwyd i ddyfnderoedd fy nghalon wrth glywed hen donau Cymry yn cael eu caiiti gyda'r fath wres ac arddtiliad yil LlydSw4 Yf oedd yna rywb'eihj ria wyddem beth oedd, yn y cail111 a chredwn mai nid dychymyg i gyd ydyw f syniad ein Bod wedi clywed. yr un peth, ond yh fwy afig- hefddoi y iiiae yh wir; yh iin b odfeuon Mi". Evaii Roberts yii y Deheudif. Na, nid ofedd fribdd arfie'ii y canu y nds Lun hono: at os.oes yna, fywutlj, ri.6 hwyrach fod yna tai, yn ameu. ilwyddiant y genhad- aeth, credaf y buasai yn dda iddo ef ddilyii esiatripl yr amheuwr cyntaf yn hanes yr eglwys, ac ufuddhau i'r anogaeth Tyred a gwel.' Treuliasom awr neu ddwy ddifyr yn ymgomio a Mr. Evan Jones. Gwr diwyd, dysyml, ydyw Mr. Jones, ac nid oes amheuaeth nad ydyw yn yr olyn- iaeth apostolaidd, ac yn llinach Nathanael. Y mae yntau fel ei frawd wedi casglu llyfrfa deilwng, ac yn amlwg yn ddarllenwr eang. Er fod y corff yn lluddedig, anhawdd iawn ydoedd cau pen inwdwl y scwrs, ac ymwahanu, a throi i mewn i'r ystafell wely a barotov/yd i ni trwy garedigrwydd y cen- hadwr. Onibai am hyn buasem dan orfod i deithio ymlaen i dref arall er cael lie i roddi ein pen i lawr, gan mor llawn ydoedd gwestai Pont l'Abbe.

CYFARFOD MISOL SIR FRYCHEINIOG.

CYDNABYDDIAETH 0 GYDYMDEIMLAD.

CO FRESTRYDD COLEG ABERYSTWYTH.

PENYGRAIG.

EVAN ROBERTS.