Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

PONCIAU, RHOS.

News
Cite
Share

PONCIAU, RHOS. Seiat i'w choflo. Syniad niwlog iawn sydd gan lawer am safle ddaearyddol y Ponciau, yn enwedig ei safbwynt yn ei berthynas a'r Rhos—cyrchfan llu mawr o ddieithr- iaid yn y dyddiau hyn i weled rhyfeddodau Duw yn ei ras. 1'r anghyfarwydd ar y mater uchod, digon yw dweyd mai dwy adran o'r un gym'dogaeth ydynt. Anhawdd fuasai i Dad y gwlaw roddi cawod i'r Rhos heb i'r Ponciau gael yr un fendith, ac ni ddaeth y gwlaw graslawn' i lawr i'r Rhos heb i ninau yn y Ponciau gael budd o'r gawod. Maent wedi eu cydgysylltu mor glos fel mai anhawdd fuasai i'r Ysbryd Glan ymweled a'r naill heb ddod i'r llall hefyd. Nid oes amheuaeth na fu Duw trwy ei Ys- bryd gyda ni yn y seiat nos Fawrth diweddaf, yr 2iain o'r mis hwn. Ar ol adeiladu y capel newydd, cedwir y moddion rheolaidd yn ystod yr wythnos yn yr 'Hen Gapel.' Gelwir ef 'Bethel,' ac felly yr ydoedd mewn gwirionedd y noson hon. Golygfa ardderchog, yw gweled yr hen gapel bron iawn yn llawn noson seiat. Felly yr ydoedd y tro hwn. Dyna un o'r brodyr yn dechreu'r gwasanaeth, dar- llenodd ran o'r Ysgrythyr, canwyd y penill 0, sancteiddia f'enaid, Arglwydd," gyda hwyl hyfryd. Codai'r weddi yn naturiol o'r penill, dyheai'r enaid am sancteiddrwydd. Yr oedd y weddi yn ernes ein bod i gael seiat ac eneiniad arni, ac felly y bu. Y peth cyntaf wed'yn oedd rhoddi croesaw i frawd oedd yn troi i mewn am y tro cyntaf. Disgwyliem am dano, gwyddem ei fod yn yr ymdrech er's tro hir. Wedi rhoddi croesaw iddo i gylch y teulu, gan ei anog i lynu wrth yr Arglwydd o lwyrfryd calonb cafwyd gair ganddo ef ei hunar., yn wir effeithiol. Y diwrnod cynt caed cyfarfod hynod yn y Capel Mawr, ac yr oedd Duw yn tywallt bendith ar ei bobl. Ymddengys i'r Ysbryd tragywyddol anfon y penill hwnw oddiar ei fwa fel saeth i'w galon- Dyma gyfarfod hyfryd iawn, Myfi yn llwm a'r Iesu'n llawn Myfi yn dlawd heb feddu dim, Ac yntau'n rhoddi pob peth i'm." Teimlem ei bod yn anmhosibl byw yn bechadur llwm, tlawd, pan yr oedd anchwiliadwy olud Crist ar ei gyfer. Wele gyd-swyddog ac athraw y brawd uchod yn codi ar ei draed a'i galon yn llwythog o lawenydd i'w groesawu; ond dyma ferch ieuanc led- nais yn bwrw ei hun i'r llyn o'i flaen, ac yn dweyd profiad yn fendigedig—yr olwg newydd gafodd ar lygredd ei chalon, a mawr ddrwg pechod ac addas- der lesu Grist ar ei chyfer, a'i dyhead dwfn am burdeb a sancteiddrwydd. Wedi hyn yr oedd prof- iadau yn disgyn yn ddidor fel gwlaw taranau ar haf- ddydd tesog am yn agos i ddwy awr. 0 wledd fendi- gedig oedd gwrandaw y merched ieuainc a'r gwragedd yn dweyd profiadau addfed, nes cyffwrdd a thanau tyneraf yr enaid. Un ferch ieuanc ddwys-grefyddol yn dweyd am y goleuni newydd oedd wedi t'wnu i'w henaid, ac yn cadarnhau ei phrofiad trwy syl- wadau o eidclo Mrs. Penn Lewis. Dacw un arall yn wylo'n hidl, ac yn tori i lawr wrth adrodd y penill,- Pwyso'r boreu ar rieni, Colli rheiny y prydnawn," &c., Hoff benill ei thad wedi dod yn brofiad un arall— "Ai lesu mawr, ffrynd dynolryw, Wy'n weled fry a'i gnawd yn friw," &c.; a dymuniad ei henaid oedd cael ei weled yn gliriach; ac fe gafodd, ni gredwn, cyn myn'd o'r gwasanaeth. Dyna fel yr oedd yn ddiball, eneidiau y saint yn cael eu twymno, eu hireiddio, a'u hadeiladu. Teimla,i pawb eu bod yn mynydd Duw yn gwledda ar basgedigion breision, ac yn drachtio gloew win puredig o ffynhonau yr iachawdwriaeth. Wedi i ysgrifenydd y llinellau hyn derfynu trwy weddi, cyn fod yr Amen dros ei wefusau, dyma eneth fechan, tua 12 oed, yn tori allan i weddiü yn doddedig iawn, brawddeg o ddeisyfiad priodol bob yn ail, ac wylofain addolgar,, nes yr oedd pawb wedi eu try- danu. Wedi icldi orphen, teyrnasai distawrwydd llethol, ac nid oedd neb yn cynyg symud. Tebyg ydoedd i ddistawrwydd anian cyn ymarllwysiad yr ystorm. Cynygiodd swyddog ddweyd gair i ddiolch i'r Arglwydd am berffeithio ei foliant o enau plant; ond fel fflachiad mellten dyma wraig yn bloeddio Diolch Idclo," gan ymarllwys ,ei chalon mewn moliant. Cyn pen ychydig yr oedd tri neu bedwar, yn wyr a gwragedd, yn gweddio ar yr un pryd, gyda nerth anghyffredin. Ar y funyd nesaf dyna rhyw drydan dwyfol yn cyniwair trwy lie, ac yn cyffwrdd pob enaid. Wylai ac ocheneidiai pawb yn ddiwa- haniaeth, gweddiai llu mawr ar unwaith, merefxed ieuainc a gwragedd yn gweddio'n gyhoeddus am y fro cyntaf erioed yn eu hanesf, a phawb yn gorfol- pddu yn addolgar. Erbyn hyn yr oedd cymaint cyn- ulleidfa y tuallan ag ydoedd y tufewn. Dringai llanciau i sills y ffenestri i geisio cael golwg ar y ryfedd olygfa. 0, gyfarfod bythgofiadwy! Tua chwarter wedi deg dechreuodd y don ymlonyddu, a dechreuodd y bobl addfeddianu eu hunain. Ond gwnaed gwaith yr awr hono nas dileir i dragywydd- oldeb. Dyma oedd testyn ymddiddan y tefuluoedd hyd oriau'r bore, a methodd llawer a chael hun i'w hamrantau o gwbl. Pwy ond Ysbryd Duw allasai wneyd y fath waith ? Un peth sydd amlwg, 'doedd dim ymgais i godi hwyl na chreu teimladau, ond fe gafwyd ton gref o orfoledd yr iachawdwriaeth. Datodwyd rhwymau tafodau rhai mudion, ,fyddant byth mwyach ni gredwn yn clodfori Duw am ei ras a'i fawr gariad rhad." Mae hyn wedi codi'n dis- gwyliad am gael ychwaneg eto o'r un dylanwadau. Hyfrydwch yw cofio fod trysorau gras yn llawn, a Duw yn anfeidrol barod i gyfranu. Peidiwn a thybied fod Duw wedi rhoddi'r cwbl i ni yn y seiat hon, nac ymfoddloni nes ii ni dderbyn Hawer o gawodydd cyffelyb. Yr oedd dwy linell yr emyn- ydd yn cynwys profiad pawb o honom y noson hono 0, na bai'r munyd o fwynhad Yn oesoedd mewn tragwyddol wlad." E. ISFRYN WILLIAMS.

Advertising

Y DIWYGIAD YN TRECYNON.