Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

LLANRAIADR- YN-MOCHN ANT,

News
Cite
Share

LLANRAIADR- YN-MOCHN ANT, Y mae y Diwygiad yn ei herth a'i ddylanwad yn yr ardal hon, ac y mae wedi cryfhau yn ddirfawr mewn llawer o'r ardaloedd cylchynol yn ystod yr-wythnosau diweddaf. Nid oes yr un cwm na llan yn y parth hwn o'r wlad, nad oes sain can a moliant i'w glywed ynddo Sul, gwyI a- gwaith." Yn y,lle hwn y mae yn ddiweddar wedi pymeryd ffurf mwy ymosodol. Yr oeddis ami i drq, wedi gorymdeithio drwy yr heolydd, ac yn cael fod hyny yn gwneyd argraff ddofn, ac yn peri aflonyddwch ac anesmwythid i'r rhai sydd yn osgoi y cyfarfodydd. Orid yn ddiwedd- ar, yn ychwanegol at orymdeithio, cynheliraII11 i gyfarfod gweddi ar yr heol. Gwnaed ar un nos ffair. ac ami i nos Sadwrn, a nosweithiau eraill. Er cym- aint sydd yn dod i'r cyfarfodydd, y mae llawer yn cadwdraw,. ondyrydys yn awr wedi trefnu ymwel- iad o dy i dy a'r esgeuluswyr. Ychydig yn ddiwedd^ ar ydyw yr yehwanegiadau yn rhif y dvchweledigion, a'r gweddiwyr newydd. Rhyw bythefnos yn ol, bu Plenydd. yma ar ei ymweliad blynydclol. dros yr 'Alliance.' Y noson hono cynhelid y cyfarfod gweddi undebol, yn: ysgoldy capel y Wesleyaid, a thraddod.odd Plenydd anerchiad dyddorol a tharaw- iadol ar y Diwygiad a Dirwest, a chymerwyd rhan mewn gweddi yn ddilynol gan nifer o frodyr oeddynt bron i gyd wedi bod yn gaethweision i'r ddiod fedd- wo^- Cyfarfod hynod iawn ydoedd hwn, a diau nad buan yr anghofir ef gan Plenydd a ninau. Nid oes yma ddim ymgais at wneyd y Diwygiad hwn yn Ddiwygiad Dirwestol, yn vir ychydig, os dim, gy- feirir at Ddirwest yn y cyfarfodydd, ond yn ngweddi- au a chyffesiadau rhai cyfeillion, er hyny dyma y diwygiad dirwestol mwyaf grymus fu yn ein gwlad! Dydd o ofwy yw hi ar y tafarnwyr a'r fasnach, y mae rhai o honynt yn chwyrnu cryn dipyn wrth weled gobaith eu helw yn cael ei ddinystrio, ac eraill yn fwy call yn ymostwng i'r anocheladwy, a sibrydion sydd fod rhai o honynt yn dechreu edrych o gwmpas am "rywbetharall at fyw Ddydd Gwener di- weddaf, caed diwrnod bythgofiadwy yma. Yn ddiau, ni welodd neb erioed yr un fel hwn. Dydd o ddiolch- garwch am y Diwygiad, neu fel y mynai rhai o'r dychweledigion ei alw yn eu gweddiau, Dydd diolchgarwch am gynhauaf yr enaid." Teimlid mai priodol fyddai cael diwrnod cyfan i ddiolch, a threfn- id ef cyn dyddiau prysur yr amaethwyr. Cynhal- iwyd cyfarfod y bore yn nghapel Tabernacl (A), a'r prydnawn yn nghapel Bethesda (M.C.). Caed cyf- arfod rhagorol y bore, ond-am y prydnawn, yr oedd y dylanwad ar brydiau yn ofnadwy. Goryindeith- iwyd drwy yr heolydd rhwng cyfarfod y prydnawn a'r nos, a chaed yr orymdaith fwyaf yn ddiau fu yn y lie erioed-—ni buasai amcangyfrif o 800 yn bell oddi- wrth y marc. Gan nad oedd adeilad ddigon yn y lie i gynwys yr oil,, bu raid rhanu y gynulleidfa y nos, a llamvyd capel Tabernacl (A.), ac ystafell capel y Wesleyaid. Caed cyfarfodydd rhagorol yn y naill Ie a'r Hall, ond fel y gallesid tybio, collwyd cryn lawer o frwdfrydedd ac effeithiolrwydd drwy orfod rhanu. Ewriedir cario ymlaen y cyfarfodydd gweddiau eto yr wythnosau dyfodol. Ceir yma rai o'r troedigaethau hynotaf, a rhai o'r gweddiwyr rhy- feddaf yn Nghymru, meiddiwn ddweyd; ond palla amser a gofod i ni groniclo heddyw. Yn nghyfarfod- ydd dydd Gwencr gwelid pobl o'r holl ardaloedd o gylch pum' milldir ac ychwaneg wedi dod i gyd. i ddiolch, a deallvvn y bydd y cyfarfodydd diolch hyn yn cael eu cynal eto mewn ainryw leoedd. Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, am hyny yr ydym yn llawen.'

CYFARFODYDD MISOL.

Advertising

DIWYGWYR A DIWYGIADAU CYMRU.…

CYFARFODYDD MISOL.