Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Agoriad Capel Newydd Penybont,…

News
Cite
Share

Agoriad Capel Newydd Penybont, Llandyssul. I Cymmerodd cyrddau agoriadol y capel uchod le dydd SuI, Tach. laf. Cynnaliwyd cyfarfod y bore yn yr hen gapel, a gwein- yddwyd cymundeb yno am y tro olaf. Am 2 prydnawn cwrdd gweddi yn y capel newydd, a phregeth yn yr hwyr gan y gweinidog, y Parch D. Stephan Williams, a'i destun oedd Genesis 28 bennod, 16 a'r 17 adn. Yr oedd y capel yn 11awn. Dydd Mawrth am 2 cwrdd diolchgarwch am y cynhauaf; am 6.30 a drwy y dydd dranoeth pregethu, pryd y cafwyd gwasan- aeth y Parchn Francis, Aberduar; Dr Davies (A.), Capel Iwan; Harries, Glan Oonwy; Jones, Star; Davies (Brighton gynt), a Dr Gomer Lewis, Abertawe. Cawd cyrddau a gwenau amlwg yr Arglwydd ynddynt. BRAWD. O.Y.—Bu hanes llawn am y capel a'r contractor, &c., o'r blaen yn y SEREN adeg gosod y ceryg coffadwriaethol, felly gair am yr agoriad a roddir yn unig yn bresenol. —BRAWD. I Parch D. Stephan Williams

CENADAETH KYFFIN SQUARE, BANGOR.

UNDEB BEDYDDWYR DYFFRYN MAELOR.