Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

CONGL Y MARWGOFION.

News
Cite
Share

CONGL Y MARWGOFION. Y PARCH. REES ARTHUR, SOUTH BANK, YOBKS. Gweinidog cynnorthwyol gyda'r Bedyddwyr Cymreig yn Ngogledd Lloegr oedd y diweddar Parch Rees Arthur. Mab ydoedd i'r diweddar Barch Dafydd Arthur a ordeiniwyd yn weinidog ar eglwys Llanfairmuallt, ac a symidcdd oddiyno i Erwood, Sij Frycheiniog. lie y bu farw tua Manner can mlynedd yn ol. Ganwyd Rees yn Ion., 1821, yn Pencoelen, plwyf Abergwesin, Sir Frycheiciog, felly yr oedd dros 73 oed yn marw. Bedyddiwyd ef pan yn ieuanc yn Erwood, gan y diweddar Barch Dafydd Jarmine, o Bont- newydd. Yn fuan ar ol hyn dechreuodd bregethu yn Erwood. Symudodd oddiyno i Benycae ac ymaelododd yn Nebo. Tua phumtheg mlynedd ar hugainyn ol daeth i Ogledd Lloegr; daeth cannoedd o Gymry i fyny yma tua'r un adeg i'r gweithiau haiarn. Sefydlwyd achosion Cymreig yn Witton Park, Spenny Moor, Kellow, Middles- borough, Stockton, a lleoedd ereill. Ordeiniwyd Rees Arthur yn Witton Park, fel y gallai fod o gymhorth i'r eglwysi Cymreig yn y cylch. Ni fu gofal eglwys erioed ganddo, dilynai ei orehwylyn ddyddiol yn y gwaith haiarn, a cherddai filltiroedd ar y Suliau er pregrethu i'r Cymry yn ngwlad y Sais. Bu am tua 17 o flwyddi yn South Bank. Daliai at ei iaith a'i egwyddorion; llafuriodd yn galed gyda brodyr ereill er eadw'r gwasanaeth Cymreig yn fyw. Tua blwyddyn a banner yn ol, cafodd y brawd ergyd o'r parlye, ae o'r adeg hono hyd ei farwolaeth caethiwyd ef i'w dy. Yn mhen ychydig fisoedd ar ol hyn, methodd yr eglwys Gymreig yn South Bank gadw drws agored, gwasgarwyd y praidd, aeth rhai i gorlan yr Annibynwyr a'r Methodist- iaid unedig Cymreig, aeth ychydig at y Bedydd- wyr Seisnig, ac y mae rhai yn crwydro yn yr anialwch. Nos Wener, Tachwedd 16eg, tra yr oedd amryw o honom wrth ymyl gwely Rees Arthur, ehedodd ei enaid i "gymmanfa a chyn- nulleidfa y rhai cyntafanedig, y rhai a ysgrifec- wyd yn y nefoedd." Pydd Mawrth cmlynol i'w farwolaeth gosod- wyd y rhan farwol o hono i orwedd yn mynwent Eston Grange (lie yrhuna lluaws o Gymry), hyd foreu'r codi. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan Ysgrifenydd y llinxiellau hyn, Parch John Wilkins, Middlesborough, ac Asaph Qlyn Ebbw. Feallai y ceir rbagor o banes Rees Arthur yn y SEREN gaiiasapb. Gadawodd ein brawd weddw oedranus ac mewn amgylchiadau cyfyng ar ei ol. Yr Arglwydd fyddo yn dyner o honi y tu yma i'r glyn. South Back, Yorks. D. M. PKYBE.

MRS. CAROLINE EDMUNDS, WENALLT…

ELIZABETH MENSHULL.

.WILLIAM RICHARDS, FFOREST.

ELLIS WILLIAMS, GWLYDDYN,…

SARAH EVANS, ABERGWYNFI.

Family Notices

MR EDWARD JONES, GLANWYDDEN.