Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

ATEBIAD I 'J. R. C.'

News
Cite
Share

ATEBIAD I 'J. R. C.' Anwyl Syr,—Cyn y medrwn ateb, hyd yn nod yn rhanol, eich cais yn y SEREN, meddyliais mai fy nyledswydd oedd ysgrifenu at y Parch James A. Spurgeon i ofyn iddo, pe buaswn yn cael fy nhueddu i ysgrifenu Cofiant o'i frawd, y Parch C. H. Spurgeon, yn yr iaith Gymraeg, a fyddai hyny yn unol & theimladau y teulu ? Cefais atebiad fel ycanlyn:—"Dear Friend, I am sure we should all like to know that you bad written in the language of Eden what you suggest," &c. Cefais hefyd yn annysgwyliadwy lythyr oddiwrth Mr Harrald, ysgrifenydd i'r diweddar Mr Spurgeon, yn mha un y dywed yn mhlith pethau eraill- Your letter of the 19th inst. to Mr James Spur- geon has just reached me. I have shewn it to, Mrs Spurgeon, and she wishes me to say that she is sure that no one would write a worthier Welsh Memorial after her dear husband than his faithful friend and champion David Davies," &c. Fel yna yr ydwyf yn cael pob cefnogaeth oddi- wrth y perthynasau agosaf i wneyd yr hyn a awgrymwch. Y maefy nheimladau innau hefyd yn ffafriol. Carwn yn fawr i wneyd unrhyw wasanaeth yn fy ngallu i'm cenedl ac i goffadwr- iaeth fy nghyfaill seraphaidd ac anwyl sydd wedi dianc arnom i'r ochr draw, ond y mae pethau eraill yn pwyso ar fy meddwl mewn cyssylltiad a'r fath anturiaetb. Thhoddaf i'r pwnc fy ystyr- iaeth ddifrifol, ac atebaf yn bendant mor fuan ag _y medraf. Hyd yn nod pe buaswn yn gweled y ffordd yn agored i ymgymmeryd a'r gwaith, byddai yn aagenrheidiol i mi gael rhyw gyfaill fel Golygydd SEREN CYMRU i gyweirio Cymraeg Cymro sydd wedi bod gyda y Saeson oddiar yr amser yr oedd yn fachgenyn wrth ffedog ei fam ond credwyf y byddai y cyfaill hwnw, fel y Cyfaill goreu, yn hawdd ei gael mewn cyfyngder." Yr eiddoch yn wirioneddol, Brighton. DAVID DAVIES.

CYMDEITHAS GYFIEITHIADOL Y…

YSTADEGAU CYMMANFA D. FF.…

FY NHAITH GASGLU.

Advertising

SEFYDLIAD HYFFORDDIADOL COLWYN…