Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

- SEFYDLIAD Y PARCH. EDWARD…

News
Cite
Share

SEFYDLIAD Y PARCH. EDWARD PARRY YN ABERDULAIS. Mr Gol.Cofus genym psm gofnodwyd ymad- awiad y brawd uchod a Ffestiniog fod yr ysgrif- enydd yn prophwydo ua fuasai brawd mor dda a galluog yn hir heb oft! eglwys, a theimlem ar y pryd na fuasai i'r ysgrifenydd gael ei gyfrif fel gau-brophwyd. Syniad cyffredin yn mhlith eglwysi'r Gogledd ydyw, fod eu safon i'r weini- dogaeth yn uwch nag eildo eglwysi'r Deheudir, ond mae'n profiad o'r gwahanol eglwysi yn ein gwneyd hefyd i d livt>tyra'r eyniad. Medr eglwysi'r Dehau wertafiwrogi talent a gallu yn ogystal a'r swn a'r ca. u i ac mae yn eglwys Aber- dulais ddigon o dalent in I y gallant werthfawrogi pregethau galluog a c o"t.) y brawd Parry, yr hyn fydd coron ei or^pleda d i iawenydd. Nos Fawrth, y 29aui cyufisol, ydoedd yr adeg i gydnabod y brawd uchod fel gweinidog yr eglwys. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch W. Davids a rhoddwyd yr emynau allan gan y Parch T. J. Davies, Salem, Briton Ferry. Yna neillduwyd ? brawd da a'r diacon ffyddlott Mr Wm. Rees i fod yn gadeirydd y cyfarfod, a cbawsom ganddo fras gipdreoa ar hanes yr eglwys. Ba yna dri gweinidog yn blaenori Mr Parry, ond m fu yr un alwad yn fwy vunfrydol a brwdfrydiJ nar alwad bresenol, a chredai y buasai yna yr un undeb a'r cydweithred- iad yn bodoli yn ei gadw uwchlaw pryder tra yn eu plitb, ac na fuasai yn rhaid iddo ymadael ond o'i ddewisiad ei hun. Yna cawsom ganddo hanes gweinidogion cyntaf yr eglwys. Y cyntaf ar y rhestr ydoedd y poblogaidd J. R. Jones, o Pont- ypridd, a ordeiniwyd Awst, 1866; bu yno am ddwy flynedd a hanner, yn hynod lwyddiannus a dedwydd, a bedyddiodd yn ystod ei weinidogaeth 63. Y nesaf ydoedd y Parch J. D. Williams, Llundain. Sefydlwyd yno Tachwedd, 1871, a bu farw Awst, 1874 bedyddiodd 14. Hynodid ef fel brawd hynaws a charedig, ac aeth oddiwrth ei waith at ei wobr. Ar ol ei farwolaeth bu yr eglwys am ddeg mlynedd heb yr un gweinidog sefydlog, pan y rhoddwyd galwad i'r Parch B. James, Blaenycwm yn awr; bu yntau yno am chwe' blynedd a hanner yn ddiwyd a gweitbgar, a bedyddiodd yn nhymor ei weinidogaeth 66. Eglura'r ffigyrau uchod fod y brawd doniol o Pontypridd nid yn unig wed 1 el anfon fel Paul i efenoylu, ond hefyd i fedyddio. A dymunai'r cadeTrydd y buasai undeb yr eglwys a Mr Parry yn un dedwydd, llwyddismnus, a pharbaus. Yna galwodd ar weinidogion y cylch i anerch y cyfar- fod sef Davies, Resolven; Jones, Castellnedd; Hughes, a'r Davisiaid o Briton Ferry. 'Roedd yna gyssylltiad neillduol rhwng Mr Parry a'r brodyr hyn; y cyntaf ac yntau yn enedigol braidd o'r un fan, y Parch W. Davies yn ei gofio yn dechreu pregethu, ac yn llaw-nodi ei apeliad am dderbyniad i'r coleg bu Mr Parry yn mesur ac yn pwyso Davies, Salem, yn Nghymmanfa Peny- cae, cyn cael caniatad o hono i fyned mor helaeth a'i bregethu a'r commisiwn apostolaidd—"Ewch i'r holl fyd," a bu yn gwylio cynnydd a chyfar- wyddo y brodyr Jones a Hughes pan yn fyfyrwyr yn Athrofa Llangollen. Ac wrth edrych ar y cyssylltiadau nid rhyfedd eu bod yn ei longyfarch i'r cylch mor galonog a gwresog; ac yr oedd yr egwyddor Gristionogol a ddadblygwyd gan yr eglwys o'i gydnabod mordeilwng pan yn ei gwas- anaethu, yr hyn sydd yn ddiffygiol mewn llawer eglwys, yn ei dwyn i'r teimlad i ddymuno Duw yn rhwydd iddi etto yn y dyfodol.| Yn nesaf galwyd ar y Parch J. R. Jones, Pontypridd, i siarad, ar yr hyn orchwyl nid oes ail iddo yn Nghymru. Dywedodd fod yna ddau beth wedi ei gymhell i ddyfod yno trwy lawer o rwystrau, sef ei anwyldeb o'r eglwys. a'i barch diffuant o Mr Parry fel dyn, Cristion, a phregethwr. Yno bum mlynedd ar hugain yn ol y dechreuodd ar ei yrfa weinidogaethol, a chredai fod a fyno Rhagluniaeth Bdwyfol a'i arwain i eglwys ag oedd yn cyfateb .siMuenctyd ar y pryd. Eglwys yn meddu ar swyddogion da y gair. ac wedi eu dvsgu gan y diweddar Dr. Evans, Castellnedd, i goleddu syn- iadau uchel am y weinidogaeth, ac i wneyd cyfrif mawr o'r gweision er mwyn eu gwaith. Coleddai hefyd svniadau uchel am Mr Parry fel beirniad Beiblaidd dyo £ el, yn meddu amgyffredion clir am wirioneddau a phynciau sylfaenol cref ydd, ac fel un ac oedd ei dduwioldeb, ei onestrwydd, a'i set angherddol dros ogoniaot ei Dduw uwchlaw amheuaeth. Dymunai iddo o galon lwyddiant mawr yn ei faes newydd. a phan byddai pwlpud Aberdulais yn cael ei waghau y buasai gorsodd yn V nef yn cael ei llanw. Yn nesaf cafwyd areithiau jjroesawbl gan Mri W. Edwards, Griffith Morgan, Llewellyn Lewis, a'r Parch D. J. Jones, Method- id-iaid. Siaradodd yr olaf yn hynod bwrpasol ar y eyssylltiad a fodolai rhwng gwaith yr Ysbryd Glan a gwaith y gweinidog, a chynghorai yr*] eglwys i gydbregethu a'i gweinidog trwy fod yn bresenol yn yr oedfa boreu Sul, ac ar iddynt fvfvrio y Gair Dwyfol yn eu cartrefleoedd. Yna galwyd ar Mrs Mary Davies, chwaer henaf yr ■ eglwys, i anrhegu Mr Parry ar ran yr eglwys a ffon hardd, yr hyn a wnaeth yn deilwng o honi ei hun. Diolchodd yntau yn gynes a gwresog am y rhodd, a gobeithiai na fuasai angenrhaid arno ei defnyddio, ond yn unig i'w gynnorthwyo. Teimlai yn bryderus pan yn gadael y Gogledd rhag y byddai fel aderyn y to yn unig ar ben y ty, ond wrth weled cymmaint o wynebau adnabyddus iddo yn ei amgylcbynu yr oedd ei galon yn cael ei lloni, a'i ysbryd ei sirioli. Yr oedd wedi dyfod yno i gydweithio ag enwadau eraill yn mhob achos da, ond ar iddynt gofio mai Bedyddiwr ydoedd, a charai pe byddent hwythau yn coleddu yr un syniadau, a synai pan yn edrych ary tebyg- olrwydd oedd rhwng y lie ac Ainon, gerllaw Salim, fod yno neb yn gallu bod yn ddim ond Bedyddiwr, a gobeithiai y buasai ei ddyfodiad i'r lie brofi yn fendith i'r eglwys a'r gymmydogaeth yn gyffredinol. Bu yn rhaid i'r brawd hoff o Bontypridd ymadael cyn terfynu y cyfarfod gan fod afiechyd yn y teulu yn galw arno ddychwelyd yn fuan. Gobeithiwn fod y cymmylau erbyn hyn wedi eu gwasgaru, a'r haul yn tewynu. Ond pan oedd ef yn cefnu, wele y brawd twymgalon y Parch J. Gomer Lewis yn gwneyd ei ymddangos- iad, ac mae ei bresenoldeb ef bob amser yn creu llawenydd. Dywedodd ami i siaradwr nad oedd wedi dyfod yco i siarad, ond pan cododd Mr Lewis ar ei draed dywedodd ei fod wedi gorch- fygu llu o rwystrau er mwyn dyfod yno i siarad, a chawsom ganddo araeth hyawdl ar ddylanwad Mr Parry i ennill serch ei eglwys yn Abertawe, tra na fu yno ond megys yr apostol yn gauafu dros dymhor. Yr oedd iddo barch gan bawb, a chredai gan y gwirionedd ei hun ac hyderai y gwnai'r eglwys yn fawr o hono, a bod yn serchog ac hwyliog pan yn gwrando arno, a'i gynnorth- wyo a'u gweddiau a'u hamenau. Ac ar ol dymuno eu llwyddiant fel bugail a phraidd, gofynodd ar i Dduw ei fendithio ef a'i deulu, yr eglwys a'r gwrandawyr, yn nghyda'r gymmydogaeth a'r cylch yn gyffredinol. Felly terfynodd un o'r cyfarfodydd goreu y buom ynddo erioed cyfarfod heb ddim o'r sebon meddal ynddo, gan nad oedd yn angenrheidiol wrtho. Mae Mr Parry yn adnabyddus bellach fel pregethwr coeth, lienor gwych, ac awdwr amryw lyfrau; ac yr ydym fel enwad yn ddyledus iddo am ddyfod allan a'n hanes mor glir a chryno. Mae yn Aberdulais faes dymunol ac eang i weithio, a chredwn am Mr Parry fod y dyn priod- ol yn ei le priodol. Ynddo mae'r eglwys wedi cyfarfod a'r pregethwr galluog a'r bugail gofalus, y gymmydogaeth un fedr ymladd yn erbyn trais ac anghyfiawnder, y gymmanfa wedi cael cyfar- wyddwr doeth a phwyllog, un fedr eistedd ar y gwahanox bwyllgorau, a gwybod pa beth y mae yn ei siarad, sut i siarad, a pha bryd i siarad ac yr ydym ninnau fel gweinidogion y cylch wedi cael un i'n plith ac y gallwn gymmeryd ein har- wain ganddo heb ofni na phryderu y bydd yn ein tywys ar gyfeiliorn, a gobeitbiwn a gweddiwn ar iddo ef a'i deulu fod yn ddedwydd yn y lie, i'w wasanaeth fod yn foddion i adeiladu'r eglwys, i ddychwelyd afradloniaid, ac i droi eneidiau lawer at Dduw. Llwyddiant fyddo, anwyl frawd, Yn eich dilyn; Gallu'r lor fo yn parhau I'ch amddiffyn; A phan delo'r dydd a'r awr I noswylio, Pyrth y nef o led y pen A'ch derbynio. Briton Ferry.. TALARVOR. --0-- NOTICE TO LADIES.—A Lady will be glad to send full parti ulars of a new and absolutely genuine remedy for all obstructions and irregularities, upon receipt of an addressed envelope. Can be thoroughly relied upon at all times. Address Mrs. K 8, Shepherd's Place, Kennington Park, London, S.E. BBTH YW CIAININK BITTERS Q-WILYM EVANS?— Meddyglyn llysieuol a ddefnyddir yn helaeth mewn amryw wledydd gan gleifion yn dioddef oddiwrth lawer math o wendidau a cblefydau, ac os oes unrhyw werth i'w rhoddi ar dystiolaeth ddynol, mae effeithiolrwydd y feddyginiaeth hon wedi ei brofi tu hwnt i amheuaeth. Heblaw y swm priodol o quinine yn mhob dogn, cynwysa rhinweddau iachaol amryw eraill o brif lysiau meddy- giniaethol y byd megis sarsaparilla, saffrwn, crwynllys, hfant, cynghmv, a dantylleiv, wedi eu eyfuno yn y cyd- bwyeedd mwyaf hapus a ffodus. ac yn y modd mwyaf cnlffddydgar a medrus sydd yn bosibl, i sicrhau gweith- rediad cyflawn yr holl elfenau rbinweddol a iachaol a gynwysa y cyffyr, Mae y meddyglyn hwn, Quinine Bitters GwilymEvans yn ffrwyth arbrawfiadau gofalus, ac ymchwiliad manwl am nifer o flynyddau gan y dar- ganfyddwr, yr hwn sydd yn un o fieryllwyr mwyaf medrus y deyrnas gyfunol. Gochelwch efelychiadau o hono mae amryw o honynt yn cael eu cynnyg i'r cyheedd mewn gwahanol fanau. Gofalwch fod enw Gwilym E?ans ar y label, y stamp, a'r botel, pan fydd- wch yn ei brynu. 3-werthir yn unig mewn poteli 2s. 9c., a 4s. 6c., yr un. PSIDIWCH MARW O'B BBONCIIITIS tra mae Myrddin Davies's Fruit Cough Balsam yn feddygin. aeth anffa eledig ato Pris is ltc, 2s. 9c, a 4s 6c

[No title]

SEFYDLIAD HYFFORDDIADOL COLWYN…