Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

larasion (Erefirijboi.

News
Cite
Share

larasion (Erefirijboi. EBENEZER, LLANGUNNOG.-Nos Sul, Mawrth 27ain, cynnaliodd yr Ysgol Sul perthynol i'r eglwys uchod ei chyfarfod chwarterol, yn mha un y oafwyd adroddiadau, dadleuon, canu, ac areithiau, gan ddeiliaid yr ysgol. Yr oedd yr holl waith- mewn un ysbryd a hwnw yn un crefyddol, yr hyn oedd yn glod i'r rhai a gymmerasant ran yn addurn i'r ysgol, ac yn fendith ni a hvderwn i'r gynnulleidfa, lu030g. Gobeithio y medi'r ffrwyth yn y dyfodol dr^y fod rhif yr ysgol yn myned a'r gynnydd fel y dymunwyd yn y cyfarfod. Carem nodi enwau y gweithwyr, a gwneyd sylwadau ar y darnau, ond ymattaliwn yn herwydd prinder gofod Mr Gol. Bendith yr Arglwydd a aroso yn ein plith i wneyd gwaith tebyg yn fuan etto, yw ein dyoiuniad. BANOYFFOSFELEN.—NosFawrth, Mawrth 22ain, cynnaliodd v ganghen berthynol i eglwys Llan- gyndeyrn, ag sydd yn addoli yn y lie uchod, gyfarfod er cyflwyno anrbeg i'r Parch M. T. Rees, at ei ymadawiad i'r Meinciau. Oawd cyfarfod dyddorol iawn. Siaradwyd gan amryw frodyr. Yr oedd pawb yn datgan eu hedmygedd o Mr Rees, yn dwyn tystiolaeth i'w gymmeriad dysglaer, y lies mawr a wnaeth yn ystod yr holl adeg y bu yn fugail ar y ddiadell fechan, ac yn dymuno Duw yn rhwydd iddo yn y dyfodol. Yr oedd pawb yn teimlo nad oedd anhawsder i lefaru, am nad oedd yn angenrheidiol defnyddio gor- modiaeth, ac er ei fod yn anhawdd gan y ganghen ddygymmod a'r syniad o ymadael a Mr Rees, etto y mae yn ddigon mawr i beidio digio wrtho am ei fod yn ynjadael a hwy. Cyf- lwynwyd yr anrheg ar ran yr eglwys gan y brawd Daniel Jones. Cymmerwyd y gadair gan y Parch J. Herbert, Porthyrhyd. RHOS, MOUNTAIN AsH,-Mawrth 27ain, cyn- naliwyd ein cyfarjbdydd neillduol o berthynas i'r Ysgol Sabbothol,'pan y pregethwyd trwy y dydd gan Miss E. A. Lovett (Bronwen Deg), Merthyr. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol o dda yn mhob ystyr. SOAlt, YSTALYFERA.- Nos Iau, Mawrth 17eg, bu y Parch J. Gomer Lewis, Abertawe, yma yn traddodi ei ddarlith boblogaidd ar "Abraham Lincoln." Ni raid dweyd i ni gael gwleddo'r fath oreu. Byddai yn werth i bawb i'w chlywed o Gaergybi i Gaerdydd. Cadeiriwyd gan James Williams, Ysw. Gwnaeth ei waith fel arfer yn deilwng o hono ei hun. NODDFA, YNYSYBWL.—Sul, Mawrth y 27ain, cynnaliodd yr eglwys uchod gyfarfod er dathlu Oanmlwyddiaeth y Genadaeth Dramor. Pregeth- wyd yn alluog ag effeithiol y boreu a'r hwyr gan y Parch Samson Jones, Treforsst. Yn y pryd- nawn cafwyd cyfarfod cyhoeddus, pryd y cafwyd anerchiadau rhagorol gan y brodyr D. James, D. Evans, Thomas Rees, Thornas Edwards, S. Jones, Wm. Howells. Casglwyd yn mhob cyfarfod at y Drysorfa Ganmlwyddol. Da genym hysbysu fod y plant gyda'i cardiau wedi casglu dros £ 5. Oasglodd yr eglwys hon yn ddiweddar yn agos i £ 10 at Ysgol Colwyn Bay. Y BAL^—Cynnaliwyd cyfarfod blynyddol yr eglwys hon Mawrth 29ain a'r 30ain. Traethwyd yr efengyl mewn modd cywrain, grymus ac effeithiol gan y Parchn Idwal Jones, Glynceiriog; H. C. Williams, Corwen, ac A. J. Parry, Cefn- mawr. Ni chlywsom yr un o honynt yn rhag- orach, ac erys syniadau yr ardalwyr yn uchel am danynt. Bydd y syniadau ar adegau yn uwch o llaen eyfarfod nag ar ol gyda golwg ar rai brodyr, ond nid felly mewn perthynas i'r rhai hyn. Gwledd gan bobl y gymmydogaeth ydyw cael cyfleusdra i wrandaw gweinidogion y Bedyddwyr. Manteisiwyd ar y cyfarfod i ddwyn Cenadaeth y Bedyddwyr i sylw, a chafwyd anerchiad cryno a nerfhol gan Mr Williams, Corwen, a phregeth nodedig q bwrpasol ar y mater gan Mr Parry. Gwnawd casgliad neillduol at ddathliad y Ganmlwyddiaeth. Yn ngwyneb byehander ishif ceisiai yr eglwys wneyd yr hyn a allai. Dymunol ydoedd gweled a gwrandaw Mr Williams a Mr Parry yn traddodi anerchiadau ar bregethu i fyfyrwyr Coleg y Methodistiaid. Nid yn unig yr oedd y myfyrwyr ac eraill yn mwynhau eu hunain, ond hefyd yr*oedd Dr. Edwards a Proff. Williams, &c., wrth eu bodd. Bendith anrhaetbol i fyfyrwyr y colegau fyddai cael y brodyr hyn i draddodi anerchiadau achlysurol ar wahanol gwestiynau perthynol i bregethu. Dylem fod yn falcfi fod genym ddynion wedi ennill y fath safle iddynt eu hunain, nid yn unig yn ngolwg Bedyddwyr Cymru, ond hefyd yn ngolwg holl Anghydffurfwyr Cymru a hufen yr Eglwys Wladol. Pregethwyd hefyd noson y 29ain yn Llanuwchllyn gan Mr Idwal Jones, a chafwyd oedfahapus. GALWAD.—Y mae y brawd ieuanc galluog Mr David Rees, Capel Gomer, Abertawe, wedi derbyn galwad oddiwrth eglwys ieuanc addawol Smyrna, Aberfan, ac y mae yntau wedi ei hateb, a bwriada ddechreu ar ei weinidogaeth y Sul cyntaf yn Mai. SALEM, TALYSARN, ARFON.—Cynnaliodd Ysgol Sabbothol y lie uchod ej chyfarfod chwarterol dydd Sul, Mawrth 27ain, 1892. Cyfarfody boreu, llywydd, John Jones (loan Eifion), yr hwn a wnaeth ei waith yn ddeheuig fel arfer. Dechreu- wyd trwy ganu too gynnulleidfaol, ac adroddwyd pennod gan Mary E. Morton, a gweddiodd Robert Williams, School Terrace. Yn dailynol cafwyd anerchiad gan y llywydd ar gynnydd yr Ysgol Sabbothol yn ein plith fel enwad. Yna cafwyd ton gan y plant o Salmau yr Ysgol Sul W. T. Samuel, G. & L." dan arv-einiad Robert Jones. Railway Terrace. Yna darllenwyd papyr gan William Lewis, Edwin Terrace ar Ufydd-dod yn yr Ysgol Sul yn anhebgorol er ei llwyddiant," ac yr oedd ei gynnwysiad yn wir dda, a theilwng o sylw pob eglwys ac Ysgol Sul trwy Gymru. Cafwyd sylwadau buddiol ar y papyr gan y brodyr Ezeciel Hughes, Brynderwen: Hugh Jones, AledTerrace; William Jones, Penyryrfa; Robert Williams, School Terrace, a Wil'iam Roberts, Braichmelyn, yn nghyd ag annogaeth gref ar i'r brawd ei argraffn. Ar ol cael ton gan y plant, diweddwyd trwy weddi ga.n E. Hughes. Cyfarfod y prydnawn. Llywydd, loan Eifion Dechreuwyd trwy ganu ton gynulleidfaol. Adroddwyd pennod gan Mary Evans, Eifion Terrace, a gweddiwyd gan William Jones, Pen- yryrfa. Yn ddilynol cafwyd ton gan y plant, ac yn nesaf deuwyd at brif waith y cyfarfod, sef holi yr ysgol ar y maes llafar am y chwarter diweddaf gan ein parchus weinidog John Frimston. Yr oedd yr holi a'r atteb yn dda ar y cyfan, ond nid mor fywiog ag arfer. Cafwyd sylwadau pwrpasol ar y maes llafur gan yr holwr, ac ar ol cael ton gan y plant, t^fynwyd trwy weddi gan William Roberts. Cyfarfod yr hwyr. Cyn y bregeth, adroddwyd pennod gan Emily Jane Edwards, Brynmeurig Cottage, a phregethodd ein gweinidog yn hynod o effeithiol ar Esaiah ii. 2 & 5 adnodau. Dygodd hyn waith y dydd i derfyniad. NANTGWYN A BEULAH.—Nos Wener, Mawrth 25ain, cyflwynwyd i'r Parch J. Albert Thomas, mewn eyfarfod cyhoeddus, pwrs o aur, a timepiece, bardd, ar ei ymadawiad i St. Mellons, Caerdydd. Traddodwyd areithiau toddedig gan amryw oedd yn bresenol yn datgan eu gofid o herwydd colli Mr Thomas, a'u hedmygedd o hono fel gweinidog, pregethwr, a chyinmeriad dysglaer. Diolchodd y gweinidog ieuanc mewn ychydig o eiriau pwrpasol am yr arwyAdion hyn o barch yr eglwysi tuag atto. ABERGWYNFI.—Wedi elywed cryn lawer am ddarlith boblogaidd y Parch J. R. Jones, Ponty- pridd ar y Cedyrn," ponderfynwyd gan yr eglwys yn Blaengwynfi i gael ei gwrandaw, a nos Lun, Mawrth yr 21ain, daeth y "llefarwr" enwog, a chadwodd dorf o bobl mewn llawn fwynbad am ddwy awr ond 5 munyd. Cafodd un boneddwr y fath foddlonrwydd felyranfonodd lythyr i lety Mr Jones yn datgan ei syniadau uchel am y ddarlith a rhodd o Goreu- rwyd y ddarlith ac aur Y eadeirydd oedd ein parchus weirtidog y Parch Wm. Jones. NODDFA, BLAENCLYDACH.~NOS lau, Mawrth 31ain, bu y Parch J. R. Jones, Pontypridd, yn traddodi ei ddarlith enwog ar Awr a haner gyda'r Cedyrn." Prawf o boblogrwydd y dar- lithiwr yn y cylch hwn ydyw y ffaith i ni orfod argraffu tocynau yr ail waith, gan i'r saith cant cyntaf i gael ei gwerthu allan yn fnan iawn. Yr oedd Mr Jones mewn hwyl ragorol, a pbawb yn mwynhau y wledd. Councillor Rd. Lewis a lanwodd y gadair gyda deheurwydd. Yr elw at y ddyled. Bydd rhaidcael capel newydd yn fuan yn Blaenclydach.

———-<<,.——— - &c.

--0--CLYWEDION GAN DYRNWR.

Advertising

CONGL Y MARWGOFION.