Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

NODION.

News
Cite
Share

NODION. GAN PLINIUS. Daeth y Rhan gyntaf, pris swllt, o "Bre- gethau y Diweddar Spurgeon," cyfieithiedig gan yr hybarch Thomas Lewis, Casnewydd, awdwr Esboniad y Telllu," yn ngbyd â llyfrau o-werthfawr a buddiol ereill, a chyboeddedig gan Mrs W. M. Evans, Swyddfa SEREN CYMRTJ, i Jaw, Ceir yn y Rhifyn hwn gryb- wyllion belaeth am fywyd yr awdwr hyglodus gan Mr Lewis. Dilynir ef o'i gryd i'w fedd, gan nodi allan bob dygwyddiad o bwys yn hanes bvwyd ein diweddar enwog frawd, yn marwolaeth y cyfryw un y catodd eglwys Dduw y fath golled enfawr. Heblaw y crybwyllion a nodwyd, ceir yn y Rhifyn hwn hefyd saith o bregethau ar y pynciau pwysig a ganlyn "Câr dy Gymmydog," Pabam yr Achubir Dynion," Addoliad y Nefoedd," Pregethwr oddiwrth y Meirw," Beiau Cuddiedig," Yr Eglwys mewn angen Adfywisd," Galwad i Ystyriaeth o Lywodraeth Duw yn y byd." Mae Mr Lewis, fel cyfieithydd, wedi llwyddo i osod meddwl yr awdwr allan mewn Cymraeg da a darllenadwy. Colla ambell i beth ei swyn a'i nerth yn yr oruchwyliaeth o'i drosi o'r naill ioaith i'r 11 all, ond credaf nacl oes dim o'r cyfryw bethau wedi eu colli yn y Rhifyn presenol. Argreffir y gwaith mewn llythyren eglur ar bapyr da, ac y mae y Rban hon yn ddymunol ei golwg. Daw yr Ail Ran allan yn fuan o'r un Swyddfa. Cymhellwn sylw yr enwad Bed- yddiedig drwy Gymru at y gwaitb, ae annogwn bawb a'alio eibrynu a'i ddarlleo. Gall darllen- iad ystyriol o'r pregethau fod o fantais i'n pregethwyr ieuamc a myfyrwyr ein Hathro- feydd, ac y mae ynddynt gyflawuder o ymborth ysbrydol i'r credadyn, a defnydd argyhoeddiad i'r diailanedig o dan Ysbryd Daw. Hyderwn y try yr anturiaeth allan yn llwyddiannus. Anfoner ar unwaith ik Swyddfa am y Rhan hon, a phwy bynag wnaiff sicrhawn hwyct na chant achos i edifarbau. # Gwelais mewn rhyw bapyr fod Principal Roberts, Llywydd Coleg y Brif-ysgol yn Aber- ystwyth, wedi vmweled a'r Bala, gan draddodi darlith ar yr "Iaith Roeg" yno. Testun y gwyr y Llywydd parchus yn dda am dano. Dywedir iddo gael derbyniad brwdfrydig gan feibion v prophwydi yn y dref henafol a nod- wyd, a diau y byddai yu dda gan amryw a'i clywodd yno gael hyny Q bleser yn fuan etto. # Mae cymylau dmon wedi bod yn crogi uwch. ben y fasnach 16 yn ddiweddar, ond dechreua <rlirio etto. Ofnid streic, am fod annealltwr- faeth yn ffynu rhwng y peirianwyr a'u meistri. Yn ol yr arwyddion presenol settlwyd hyny yn foddhaol i'r ddwy blaid. Mawr y fenditb. Dystryw masnach ac ardaloedd ydyw'r streica hyn. Mae glowyr Gogledd Lloegr allan ar hyn' o bryd, ac neb fawr argoel iddynt ail ymaflyd yn eu goruchwylion. # Dywedir fod llawer iawn o lougau yn gor- wedd yn segur, o herwydd fod y freights mor isel. Newydd annymunol ydyw hwn 1'r.rhai hyny sydd yn rhan-ddalwyr mewn llastri, ac y mae llawer iawn o'r cyfryw ar byd a lied y wlad. Mae yr hyn a wnawd yn hysbys yn Nghaerdyddyn ddiweddar yn debyg o siglo ffydd pobl mewn llongau fel rhai addas suddo eu hennillion ynddynt. Cafodd rhai eu cnoi yn dost, ac y mae yr archoll a gawsaut bob wella etto. Wrth suddo ennillion dylid bodyn ofalus He y gosodir hwynt. Gwyr cannoedd drwy brofiad ysywaeth fod yn rhwyddach colli arian na'u hennill. Mae ysgrif y Parch E. Ungoed Thomas, Risca, yn SEREN CYMRU am 'Ebrill laf yn amserol a galluog, ac yn debyg o wneyd daioni. Mae y rhai sydd yn ei adwaen yn gwybod mai dyna ydyw unig ddymuniad y brawd wrth y'sorifenu yn y modd y gwnaeth. Gobeithio y cawn ami i ysgrif gjanddo yn ein siriol SEREN. Ca yntau dal am hyny, canys y mae elw o bob I llafur os ymdrechir yn gyfreitblon. Gwelaf fod yr Henadur Benjamin Lewi#, Abergavenny, wedi raarw yn dra sydyn ac annysgwyliadwy. Yr oedd yn ddiacon yn Llanwenarth, ac yn wr o ddylanwad a pharch. Yr oedd yn enedigol o'r sir v bu farw ynddi, ac yn hanu o deulu sydd wedi bodyn gyssylltiedig ag enwad y Bedyddwyr am lawer iawn o flyn- C, vddoedd. Merch iddo ydyw priod y Parch T. flenry Williams, Llaawenartb, ac yr oedd yn frawd i Ebenezer Lewis, Maindy Hall, Cas- newydd. Yn nghanol ein bywyd yr ydym yn angeu. # # Cydymdeimlaf yn ddwys a'm hen gyfaill Mr Lewis Bowen, Oaerdydd, yn ei drallod presenol yn herwydd colli drwy angeu briod hoff a'i baban. Un o ferched St. Clears ydoedd Mrs Bowen. Anwylid hi yno, ac yr oedd mewn parch mawr yn Ngbaerdydd. Gwelaf hefyd fod teulu Mr D. Prosser, Tredegar, mewn dwfn drallod yn herwydd colli merch addfwyn ac addawo!. Cafodd y teuluoedd parchus hyn archollion dyfnion yn marwolaethau^ eu han- y wyliaid. Yr Arglwvdd fyddo yn gysurjiddyDt.

CONGL Y MARWGOFION.