Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

RHIF COXO.

News
Cite
Share

RHIF COXO. [ALL RIGHTS RESERVED.] Arthur.—Yr wyf wedi bod yn synu yn ddi- weddar at annghyssonderau yr Ymneillduwyr. Mae yr Eglwyswyr fel rheol yn hollol gysson a'u proffes. Eu proffes hwy ydyw gofalu am num- ber one, a gadael i ereill i ymdaro goreu byth y medrant. Eu harwyddair hwy ydyw byw ar lafur dynion ereill. Godrant wartheg eu cym- mydogion, a chneifiant ddefaid sydd yn pori yn nghaeau ffermwyr Ymneillduol. Ffordd hynod o grefydda, onite ? Rhyw hen fabanod mawrion ydyw'r Eglwyswyr wedi bod ar hyd yr oesau, yn cael eu cario gan ereill, gan sugno bronau nad oes ganddynt unrhyw hawl ynddynt; ae y maent yr un mor analluog i gerdded heddyw a'r funyd y cawsant eu bodolaeth. Bol, a cheg, a dyrnau ydyw aelodau mwyaf pwysig yr Hen Fam. Mae yn wir fod ganddi goesau, ond y maent yn hollol ddirym, am na ddarfu iddi eu rhoi mewn gweithrediad erioed; ac y mae hi yn hollol gysson a'i phroffes, a'r broffes hono ydyw byw ar rai ereill. Byw ar ereill mae y cidyll, y cadnaw, a'r blaidd mae yn drueni o'r mwyaf fod y rhai a broffesant eu hunain yn olynwyr yr apostolion yn gosod eu hunain yn agored i gael eu rhestri gyda chreaduriaid ysglyfaethus! Hona esgobion Eglwys Loegr nad oes gan neb hawl i bregethu ond hwy, ac nad oes crefydd i'w thaelyn unman ond yn yr Eglwys Lan Gath- olig. Mae hyn yn debyg i stori glywais yn ddi- weddar. Mewn pa fath sefyllfa mae crefydd yn eich ardal chwi ?" gofynai un dyn i'r llall. "Tlawd iawn," ebe yntau, nid oes acw ond dau Gristion mewn gwirionedd-dim ond John Jones a minnau ac am Jones, druan, mae genyf amheuaeth gref gyda golwg ar ei gyflwr," Dyma beth ydyw Eglwysyddiaeth yn ei sandalau arian. Cefais yn ddiweddar gipolwg ar Gyfieithiad Diwygiedig yr Eglwyswyr o'r Beibl," ac er mwyn eich adeiladaeth, difynaf rai adnodau -"Eiddo y landlordiaid y ddaear a'i chyflawnder y byd, ac a breswylia ynddo." Y ddaear a roddes efe i feibion pendefigion." "A chan nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe a'u llindagodd hwy ill dau." "Gwisgwch holl arfogaeth y Wladwr- iaeth, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion gwyr y sectau." Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn Sectyddiaeth, yn erbyn Cydraddoldeb Crefyddol, yn erbyn bydol lywiawdwyr yr Ymneillduwyr, yn erbyn drygau Degymol i'r Eglwys Lan Gatholig." "Am hyny cymmerwch atoch holl arfogaeth y swyddogion gwladol, fel y galloch sefyll dydd y Dadgyssylltiad, ac wedi gorchfygu pob peth, dderbyn y degwm." "A pheidio rhoddi eich bryd ar fod yn llonydd, na gwneuth- ur eich goruchwylion eich hunain, na gweithio a'ch dwylaw eich hunain, ond gwneyd i ereill gyflawni drosoch." "Canys ni a fwytasom fara'r plwyf yn rhad, heb weithio mewn llafur a Hudded, nos na dydd, fel y pwysem ar bawb o'n hamgylch." "Canys pan oeddwn hefyd gyda ZIY y chwi, hyn a orchymynasom, os byddai neb o'r offeiriaid na fynent weithio, er hyny fod iddynt gael cyflawnder o fara." Ond od oes neb heb ufyddhau i'n gair ni trwy yr awdurdod yma, attafaelwch ei feddiannau ac na fydded i chwi' gymdeithas ag ef, fel ag y cywilyddio efe." "Gwir yw'r gair. Od yw neb yn chwennych swydd esgob, gwaith ennillfawr y mae yn ei chwennych: rhaid i esgob gan hyny fod yn darawydd, yn budr elwa, yn ymladdgar, yn ariangar, yn cadw ei dy ci liun a moethau." Canys gwreiddyn pob drwg ydyw nacau talu'r degwm, y rhai yn chwanog i'r fath anufydd-dod a gyfeiliornasant oddiwrth y ffydd Eglwysig." Ufyddhewch i'r Dirprwywyr Eglwysig. ac ymddarostyngwch iddynt, canys y mae ganddynt hawl i wylio dros eu llesiant eu hunain, fel y gallont loddi cyfrif i'w gilydd yn llawen ac nid yn drist Mae yn rhaid mai rhyw adnodau fel yna sydd yn cyfansoddi Beibl Eglwys Loegr, onite ni fuasent byth yn gweithredu fel y maent. Nid yw yn bosibl mai yr un Ysgrythyrau sydd ganddynt hwy a'r Annghydffurfwyr, oblegid mae eu proffes a'u hymddygiad mor groes i'w eu gilydd ag ydyw goleuni a thywyllwch. Mae yn rhaid mai rhyw lipryn o Feibl sydd ganddynt wedi ei gyfieithu, neu yn hytrach ei drawsffurfio wrth orchymyn eu pen a'u blacnor Harri yr Wythfed o goffadwriaeth fendigedig (?). Nis gall dynion yn eu cyflawn synwyr, a chanddynt Feibl Duw yn eu dwylaw, ymddwyn fel ag y maent hwy. Pwy a wyr nad rhyfel y degwm oedd mewn golwg gan y prophwyd pan y dywed, Ac fel y mae mintai o ladron yn dysgwyl gwr, felly y mae cynnull- eidfa yr offeiriaid yn lladd ar y ffordd yn gytun, canys cythiaul ysgelerder." Dywed Paul, "Ar- fau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol." Ond dywed swyddogion yr Estrones drwy gleddyfau'r milwyr, truncheons polismen, a ffyn beiliaid." Arfau ein milwriaeth ni ydynt gnawdol." Ond yr hyn oeddwn am ddweyd ydyw fod aelodau yr Eglwys Wladol yn hynod ffyddlon i'w gilydd. Edrychwch ar eu hymddygiad yn etholiadau y gwahanol Gynghorau Sirol gymmerasant le er's ychydig wythnosau yn ol. Ymladdasant fel llewod dros eu dewisolion. Yr oedd eu byddin- oedd yn unol a gwrol, ac nis meiddiai yr un milwr anufyddhau i orchymynion y swyddogion. Carwn yn fy nghalon gael gweled y Toriaid hyny roddasant eu pleidleisiau i ymgeiswyr Ym- neillduol. Buasai yn iechyd i lygaid Rhydd- frydiaeth gael cipolwg arnynt. Teithiaswn hanner can milltir i gael gweled hanner dwsin o honynt. Na, maent mor anaml a brain gwynion ar y coed neu eira du ar y bryniau. Dangoswch mi "Dori" yn pleidleisio dros Ymneillduaeth, a dangosaf i chwithau bysgodyn byw ar ben mynydd. Yn hytrach na gweled Ymneillduwyr yn cael eu hethol i wahanol swyddau, buasai yn well gan Doriaid Cymru weled mwngci yn Gynghorwr Sirol, milgi yn eistedd ar y faine ynadol, a cheffyl yn Aelod Seneddol. Gwell, aie ? buasai yn anrhaethol well ganddynt! Ychydig wythnosau cyn yr etholiadau diweddar eu cri oedd, Dim gwleidyddiaeth Ond pan ddaeth dydd yr etholiad, gwleidyddiaeth oedd y cwbl. Mae ganddynt hwy bob amser blyfyn at liw.'r dwfr, ac y maent drwy hyny wedi dal llawer i bysgodyn braf. "Ni waeth pwy ond cael dyn cymhwys;" dyna'r hen gri. Ond attolwg, pa beth ydyw'r cymhwysder ?• Ai dysgleirdeb cymmeriad, ai hyawdledd tafod, ai grym penderfyniad, neu ynte uniondeb egwydd- or ? Pa beth ynte ydyw'r cymhwysder ? bod yn glamp o Dori, ac yna gall fod mor ddidalent a chropyn eithin, mor ddiras a tharw,ac mor ddi- ddefnydd ag ysgubor heb dô-gwnaiff aelod an- rhydeddus. Walter.-Cefais gryn bleser pa ddydd yma wrth ddarllen hanes etholiadaeth sir Drefal- dwyn os nad wyf yn camgofio. Yr oedd yno, mae yn debyg, ddyn go isel ei amgylchiadau wedi bod yn Gynghorwr am y tair blynedd diweddaf, ac yr oedd yn ymgeisydd y tro hwn etto. Ond cafodd ei wrthsefyll gan ryw ddyn cyfoethog yn yr ardal. Cyfarfuasant a'u gilydd un diwrnod, ac ebe'r dyn mawr wrth y dyn bach, John, pe cawsech eich dychwelyd i'r Cynghor Sirol, pa le y cawsech ddillad ?" Ebe'r dyn bach, Syr, os mai chwi gaiff ei ddewis, ,mae genych ddillad yn barod, ond attolwg, pa le y cewch ddyn i'w osod ynddynt ?" Da machgen I! hawddach cael esgidiau na chael traed, hawddach cael breeches na thalent, hawddach cael het nag ymenydd, a hawddach cael fade o gwn hela na chael athrylith. Mae gan Doriaeth

-—— Y BEDYDDWYR RHEOLAIDD…