Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

-—— Y BEDYDDWYR RHEOLAIDD…

News
Cite
Share

-—— Y BEDYDDWYR RHEOLAIDD A'R CYMMUNDEB. Gwrthwynebwyr Beclydd a'u Hanes.-Pennod IV. GAN Y PARCH. J. JOHNS, SARDIS. MAE gwrthwynebwyr bedydd y Gyfundraeth Newydd yn gydoesol a, Christionogaeth ei hun Eithr y Phariseaid a'r cyfreithwyr yn eu her- byn eu hunain (ynddynt eu hunain) a ddiystyr' asant gynghor Duw (fwriasant heibio) heb ei bedyddio ganddo" (Luc 7. 30). Beth pe bai rhai o weinidogion Lloegr yn pregethu ar y testun hwn Gwarchod pawb, dyna fyddai lie Maent yn y cynnulleidfaoedd wrth y cannoedd, a llawer o honynt wedi gosod heibio gynghor Duw, heb eu bedyddio, etto yn attegu yr enw Z5 Bedyddwyr. Mae y galon lygredig yn elyn- iaethus i ddeddf Seion. Mae bedydd yn gofyn ufydd-dod, arwyddlun cariad, prawf 0 ostyng- eiddrwydd y galon; ond mae y galon lygredig yn llawn dichell, Uawn cyfrwysdra, yn fwy ei thwyll na dim, am osod heibio "cynghor Duw." Gwae y rhai a ddywedant am y drwg, Da yw ac am y da, Drwg y w gan osod tywyllwch am oleuni, a goleuni am dy wyllwch y rhai a osod- ant chwerw am felus, a melus am chwerw." Dy^na bictiwr Esiah am yr eglwys yn ei amser ef, a dyma ddarlun cywir am lawer o arweinwyr y bobl drwy'r oesau. A'r holl bobl a'r oedd yn gwrando, a'r pub- licanod, a gyfiawnasant Dduw, wedi eu bedyddio a bedydd loan" (Luc 7. 29). Yna y dywed- odd rhai o'r Hierosolymitiaid (trigolion Jeru- salem), Onid hwn yw yr un y maent hwy yn ceisio ei ladd ? A gredodd neb o'r Pennaethiaid ynddo ef neu o'r Phariseaid (loan 7. 25. 48). Hen fyd rhyfedd yw hwn am fod yn y fashion. 'Does yma ddim llawer iawn o wreiddioldeb; ychydig yw'r arweinwyr, ond mae yna dyrfa o ddilynwyr. Mae y byd yn slafaidd yn dyn- wared dynion mawr-dynion mewn awdurdod, y rhai a elwir yn "bendefigioll." Yr oedd y ddefod o fedyddio yn beth newydd, a'r bobl dlawd oedd yn gwneyd y dyrfa. Ond er hyny, mae genym hanes am rai o'r bobl fawr yn myned ar ei ol ef. Er hyny, llawer o'r pennaethiaid hefyd a gredasant ynddo ond oblegid y Phari- seaid ni ehyffesasant ef rhag eu bwrw allan o'r Synagog" (loan 12. 42). Dyma y cynghor a'i condemniodd i'r groes. loan 11. 47; 12. 19. Mao hyn yn ddigon i ddangos dallineb, rhag. farn, eiddigedd llofruddion ein Ceidwad. Dyma Catarbaptists cyntaf erioed. Yr uehelwyr, gwyr y cynghor, a'r ofn slafaidd, ddynol yma yn peru i rai o dan argyhoeddiad i osod o'r neilldu neu heibio gynghor Duw." Os myned at yr Iesu, rhaid myned liw nos." Os o dan argyhoedd- iad dwfn, mae yn rhaid ei guddio yn y galon, heb ei amlygu mewn ufydd-dod i'r Messiah A ydym ni yn iawn i resu Nicodemus a Joseph yn mhlith dysgyblion Iesu ? A oeddynt yn perthyn i'r 120 ? Gwir iddynt wrthwynebu gosod Iesu i farwolaeth. Oni ddarfu Herod geisio rhydd- hau y Gwaredwr 1 Mae dysgyblion Iesu yn codi'r groes. Mae argyhoeddiad o wirionedd yn golygu cyfrifoldeb mawr. Yr oedd yn well gan Moses fod gydag Israel mewn caethiwed na mwynhau mwyniant pechod yn llys Pharaoh, ond yr oedd yn well gan y dynion hyn aros yn y llys na derbyn y gwr gofidus a chynnefin a dolur." Os derbyn "cynghor Duw," mae yna fwrw allan o'r Synagog i fod dewisodd y rhai hyn aros yn y Synagog er bwrw allan gynghor 0 Duw a Gwaredwr byd. Bydd yma lawer o fwrw allan o'r synagogau yn fuan Mae hi wedi dechreu yn barod, Aiff argyhoeddiad yn drech nag elw bydol a swydd- ogaeth. Credu i Dduw yn llosgi gan zel at wirionedd, ac er eu bwrw allan o'r Synagog 1 0 ni wnant dewi. Yr un ysbryd sydd yn bwrw allan o'r Synagog ag sydd yn bwrw i garchar ag i angeu/ac yn hanes y condemniad mawr yr un dynion sydd yn gwneyd hyn. Y dynion mawr BAOH yma, y dynion llydan CUL yma y dynion nad yw argyhoeddiad yn ddrws nag yn drwsgol yn eu hanes. Beth oedd amddiffyniad Nico- demus a Joseph ond echo o'u heuogrwydd yn aros yn mhlith dynion ag oedd am ladd gwir- ionedd Mae yma ganttoedd o honynt heddyw yn ein heglwysi. Credant, cyfaddefant, ysgrif- enant, yna gwnant bob peth i brofi fod bedydd trochiad yn osodiad dwyfol, yn ordinhad y nef, yn orcliymyn Crist, yn ddefod Gristionogol, &c.; ond gwnant bob peth hefyd i ddrygu ufydd-dod drwy gyssylltiadau teuluaidd, drwy dwyll rhes ymeg, drwy ddichell, drwy gyfrwysdra, drwy ddweyd un peth a meddwl peth arall, drwy siarad a gweithredu yn wahanol. Mae teimlad a chydwybod yn uwch na Gair Duw, yn fwy cyssegredig na'r Commisiwn Mawr, ac mae bod yn gyfeillgar yn fwy na bod yn deyrngarol i'n Ceidwad anwyl, ac mae ufyddhau i ddyn yn fwy o brawf o wir grefydd nag ufyddau i Dduw. Dyma ydyw Cata-baptistiaeth yr oesau. Rhaid cymmeryd y canlyniadau. Peth goreu y gellid gwneyd y dyddiau hyn fyddai gadael yr eglwysi a'u harglwyddi, a'u Pabau, a myned i'r holl fyd a phregethu'r efengyl. Bydd yn rhaid i ddyn- ion i ddyoddef etto er mwyn gwirionedd Dyma linnell sydd yn rhedeg drwy'r oesau. Os edrychwn draw i Rufain, cawn fod y Pen- naethiaid a gwyr y Cynghor yn gosod o'r neilldu gynghor Duw. Byth ydyw y Catacombs, ond yr eglwys Fedyddiedig wedi oi bwrw allan o'r Syn- agog Os edrychwn etto i Carthage yn Affrica, cawn yr un peth. Dynwared bedydd i ddyn mawr oedd y dirywiad cyntaf yn y dull. Cawn yr un peth tua'r Iwerddon yn amser Dewi a I Phatdc. Dyma sylfaenwyr yr eglwys uwch- beneithiol ag oedd yn ceisio ufydd-dod oddiwrth yr un wreiddiol, sef yr un Geltaidd. Yr un peth a welir etto yn amser Awstin Fynach a'r Saeson pan losgWyd Bangor, ac y darostyngwyd Cynbrowyr (Cyn-bro-wyr—Cymry), ac yr anfon- wyd hwy yn ol i'w llochesau mynyddyg. Gwelir 61 eu traed yn y Llanau, y plwyfau, ac yn henach fyth, yn y ciliau, hen enwau am gynnulleidfa- oedd y Cristionogion Britanaidd. Ceir hanes am rhyw fil o'r hen Eglwysi hyn cyn bod yr Eglwys Sefydledig wedi dod i fodolaeth, a chyn 1 Babyddiaeth ddilifo ein gwlad. Dim pwys yn ein bedydd Dyma sydd wrth wraidd y drwg. Dechreuodd tua'r ail ganrif, pan awd i gredu fod bedydd yn cadw. Dywed Dr Stoughton mai ffrwyth hadau llygredigaeth a hauwyd yn foreu iawn ydyw Ariaeth, Morganiaeth, y Corau, a'r Mynachlogau, &c. Rhyw ddwy eithafnod sydd yma, ac maa yr Eglwys wedi bod drwy yr oesau yn ymsymua o un i'r llall. Yn y naill mae bed- ydd yn achub; felly dyna wneyd gormod o'r diofr yn y llall 'does yr un pwys yn y bedydd, ac felly dyna wneyd rhy fach o hono, o herwydd dywedir ei fod yn cadw ac yn achub." Gwelwn Cata-baptistiaeth wrth wraidd y ddadl yn Nghymru. Mae bedydd wedi gwneyd plöidiau o'r Annghydffurfwyr cyntaf ag y gwyddom ni am danynt yn y Dywysogaeth. Darllenwn am Thomas Llewellyn o'r Rhugoes, yn agos i Hirwaen. Yr oedd yn darllen y Gair i'r bobl fel Ezra gynt, os nid efe oedd y Cymro cyntaf i roddi y Gair yn y Gymraeg wea." Ond yniol hanes mae y bobl hyn yn ymbleidio, rhai dros fedydd trochiad, rhai dros fedydd plant a rhai yn gosod o'r neilldu fedydd o gwbl, Mae yn iawn sylwi fan yma fod y rhai dros fedydd plant wedi llwyddo yn fwy na'r rhai sydd yn ei anwybyddu. Mae yr eglwys fawr Gristionogol wedi bod yn Fedyddwyr o ryw fath drwy'r oesau, yr Eglwys Roeg drwy drochiad, yr Eglwys Rufeinig a'r Eglwys Sefydledig, a llawer 0 C, C, o'r Ymneillduwyr drwy daenelliad, a phan rodd- asant gyhoeddusrwydd iddo yr oeddynt yn llwyddo. 'Does dim wedi lladd eglwys Fedydd. iedig na gosod y fedyddfa yn y capel, neu yn well etto yn y festri, pan yr oedd yr eglwys gyntefig yn gosod y fedyddfan tuallan i'r eglwys fel mynedfa iddi. Mae gweled bedydd yn ddarlun o ogoniant gwir grefydd y Groes mae cannoedd wedi en hargyhoeddi gan y bregeth ddwr na fyddai y llais dynol byth wedi eu cyr- haeddyd. Nid yw y Cwaceriaid wedi llwyddo fawr. Mae eglwysi yn ein gwlad ni heddyw yn ymlwybro felly, ond yr an fydd eu tynged hwythau. Dyna amser y Werinlywodraeth wedi hyny, cawn wrthwynebwyr bedydd yn dyfod etto i'r maes. Yr oedd y rhai hyn etto yn mhlith y mawrion, Cromwell a'r Annibynwyr, Captain Jenkin Jones, Vavasor Powell, Dr. Evans, ac eraill, yn llu nerthol yn erbyn John Myles, Proud, Thomas, Llantrisant, &ic. Mae rhywbeth yn y natur ddynol nad all hi d'dim codi heb ym- falchio. Mae rhyw ysbryd Luciferedd yn cym- meryd meddiant o honi. Pan yr oedd y werin ar lawr o dan draed y teyrn, yr oedd deddfau Brenin Seion yn cael eu parchu, ond pan mae y werin mewn awdurdod, a Chromwell wedi ei goroni, mae Iesu yn cael <^i groeshoelio, a'i ddeddfau yn cael eu gosod o'r neilldu. Pan oedd y dyn yn dlawd, ac yn byw mewn bwthyn llwyd, yr oedd yn rhoddi ufudd-dod ewyllysgar i'r Brenin Tragywyddol, ond pan mae wedi dringo i fryn llwyddiant, wedi ymgyfoethogi a myned yn fawr, mae yn gosod o'r neilldu "gynghor Duw." Pan oedd Ymneillduaeth yn yr ysgubor, yn yr anialwch, yn cyfarfod ar Cwmcerwyn a'r Mynydd Du, yr oedd yn cyfarfod ar y dydd cyntaf o'r wythnos," ond yn awr y mae yn cyfarfod ar ddydd Sul; yr oedd yna dyrfa yn yr eira a'r gwlaw yn foreu a hwyr, ond yn awr mae genym demlau hardd yn llawn gwagder—gwagder o wirionedd, o'r sel tanllyd, gwagder o gariad at wirionedd, a gwagder o bresenoldeb Duw a dynion. Mae perygl i lawer "fyned yn fawr." Ni all liawero honom yin- godi o'r llwch heb falchio myned i'n tai tragy- wyddol i anghofio mai sylfaen tywodlyd sydd iddynt; myned i'r orsedd i ddeddfu i'r Eglwys, a Herod wedi myned yn frenin yn gwrthod rhoi gogoniant i Dduw. Mae Ymneillduaeth yn y palas, mewn awdurdod, yn llanw swyddau pwysig heddyw; a ydyw yn myned i groeshoelio y Gwaredwr, i osod o'r neilldu gynghor Duw, neu daflu o'r synagog y neb a feiddio amddiffyn deddfau y Brenin Iesu ? Heddyw mae y gelyn wedi newid ei ochr* Nid yw bedydd yn ddim nid yw o un pwys; nid yw yn un o'r fundamentals; nid yw iach- awdwriaeth neb yn ymddibynu ynddo. Beth sydd eisieu yw "bod yn Glistion, a myned i'r nef- oedd yn y diwedd—y peth mawr yw myned i'r nefoedd. Nid ymresymu yw peth fel hyn, ond teimlad yn diorseddu deddf Duw. Mae y byd wedi myned i ofni dynion a'u hopiniynau jTn fwy o lawer na Gair y farn fanwl. Llawer gweinidog yn ofni pregethu ar fedydd rhag ofn colli rhai o'r aelodau cyfoethog. Pa ddydd yma yr oedd bedydd yn bob peth. Gwnawd llawer yn Gristion yn y font. Yno y trochwyd llawer i ddyn bychan yn amser Rhys Prichard. Dysg- wyd llawer i gredu mai yn y bedydd y gwneid hwy yn blant i Dduw. Yr oedd plant Bedydd- wyr yn ddifedydd, ac felly yn fastardiaid, yn cael eu magu fel paganiaid, ac ni chawsent eu claddu yn mynwent y Llan a bu raid i lawer gladdu eu meirw mewn gerddi, ac mewn lleoedd dirgel. Nid oedd heddweh i ni yn fyw nag yn farw am ein bod yn ddifedydd, ond heddyw y Swper ydyw y cyfan. 'Does dim ond Gwirion- edd yn aros yn ddisigl. Siving pendulum y