Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
Now Published in one HANDSOME SHILLING VOLUME, Post Free, ln. GEORGE THOS. CONGREYE on CONSUMPTION AND ITS SUCCESSFUL TREATMENT. Showing that direful disease to be curable 0 in all its Stages; with observations on 0 ASTHMA. CHRONIC BRONCHITIS' AD TII-E NEW APPENDIX TO THE WORK ON CONSUMPTIONJ CONTAINING 226 MOST INTERESTIN8 and AUTHENTIC CASES That have appeared in the Weekly Journals and Monthly Magazines from 1881 to the pre- sent time, with NOTES APPENDED TO MANY SHOWING THE PEllMA5fESCJE OF CURE. N.B.—The work • ON CONSUMPTION,' by itself (in paper covers), may be had for SIX- PENCE (post free) from the Author, Coombe Lodge, Peckham, S.E., or from the Pub- lisher, Elliot Stock, 62, Paternoster-iow, E.C. The Thirty-second Series of Weekly Cases is now publishing. NOTICE TO THE READERS OF THE "SEREN CYMRU Who may be personally or relatively INTERESTED IN THIS MATTER. MR. CONGREVE will give ONE RECENT CASE, NOT PUBLISHED in this Journal BEFORE, EVERY WEEK. CASE' FOR THIS WEEK. REMARKABLE CASE AT OKEHAMPTON Of a lady whose name and address will be given to any enquirer, on writing to me. On the 2nd Oct., 1888, I first received a statement of her case. She had lost several children with Consumption, or Atrophy. Her disease commenced with a cold, followed by cough, loss of appetite and strength, pains in the chest and side, short breathing. Blood was occasionally mingled with the phlegm, which was purulent and green. Night perspirations were severe, with hectic iever and palpitations of the heart. There was loss of flesh in the face, hands and arms. The strength had been gradually declining. Swelling3 of the ancles had appeared. In this pitiable state she wrote me and com- menced.my treatment according to my in- structions. In a fortnight she writes: I am thankful to say that I feel a little better." The cough and spitting rVereimproved. In November the perspirations were very much lessened. Dec. 1, she writes: I am glad to say I think I am improving fast." She speaks also of encouragement from another case of a patient in her neighbourhood—Mr. J. M. —of whom she says: Your medicine seems quite to have restored his health. He sang in a concert last night." 0 After this, gradual improvement took place. In a letter, dated 9th April last, she says "I am very thankful to tell you that your medicine has made a cure of me. I can go about my business well." I wrote to ask how she was in Oct. last. She answers: "I shall always feel I owe my life to you. I am as well now as I ever was in all my Hfe. I can walk several miles without fatigue, and when 1 commenced with your medicine I cmdd not walk across the room. Will you let me have some of your books that I may lend them, as I shall try and persuade all with chest complaints to apply t j you." NOTE.—Days of Consultation.—TUES- DAY, THURSDAY, and SATURDAY Mornings ONLY, at Coombe Lodge, Peckham. Patients from any long distance should choose either of the two former days. Everyone is expected to have seen the book first. Cjmdcithas Dracthodol a Lljfiol y Bedyddwyr. ALMANAC Y BEDYDDWYR, 1890. feai^Ll argraffu yn dda mewn dan liw ar arW1adol n FBDYDDIAD CRIST, ao wadi E'i cap&l, ae 7 Gymraeg; h.fyd, Bedyddwyr Cymru i'r Yagriion Sabbothol^mj flwyddyn. Pris f«l uohod, 9s. y cant am lai Da 250 250 ao uehod, 7s. 6«. y cant. Heb ei leoli, h-y., heb eaw y gweinidog, &e., ond ir da,r y gwersi i'r ysgolion yn ol 7s. 6c. y cant, am hanner ,Cant ao ucaod. Gellir cael nnrhyw nifer o dan 50 yn ol fiainiog yr un. D.S.—Nid yw y pris uchod yn cynnwys y chiaiad. Cludiad un, l^d chwech neu ddeu- deg, 3d. gyda'r Fureels Post. CYFEIJBIAD MR. W. K. BLOOM, 22a, FURNIVAL STREET, CORNER OF CURSITOR STREET, LONDON, E.C. JUST PUBLISHED. TALKS WITH MEN, WOMEN, AND CHILDREN, {Being the first Annual Volume of THE HOLLAND ROAD PULPIT) By Rev. DAVID DAVIES. Post Octavo, 416 and xvi.pp, cloth, red burnished edges, published at 6s. London: Elliot Stock, 62 Paternoster Row. E.C. Alexander & Shapheard 21, Furnival St., E.C. Daring 1890 the Talks with Men, Women, and Children," will be published weakly as hitherto in coloured wrapper, at one penny. The Subjects of the Talks with Children will be "THB PILGRIMS PBOGBESS RETOLD POR CHILDREN." The remaining part of each number will consist of a Sermon for older folk. London Alexander & Shepheard, 21, Furnival Street, E.C. COUGHS, OLD OR RECEWT, BRONCHIAL OR DYSPEPTIC, ASTHMA, BRONCHITIS, WHOOPING COUGH, COLDS, HOARSENESS, ETC., THE VIHTJRST ItIEDICIlYE IN THE WORLD IS CONGREYE'S BALSAMIC ELIXIR, In Bottles, Is. 1 id., 2s. 9d., 4s. 6c., etc. 2 SOLD BY ALL MEDICINE HOUSES. NOTE.—For MMH&IEBS, LECTURERS, ANDTFAcu- ERS, and all who have to exert the voice a lump of Sugar saturcrted with this pleasant ELIXIE, and sucked as a Lo»<mgc before speaking, will prevent HOARSENESS, comfort the chest, and strengthen the VOICE. KT lJIr. G. T. Congreve's Book on Consumption and all Chest Diseases, with Appendix, contains many remarkable cases. Post free for ONE SIIILLIXO from CoO-mbe Lodge, Peckham. TX EISIEU, Morwyn mewn Fferm. Rhoddir cyflog da. Cyfeiriad—D. Thomas, Plasbach, Tanerdy, near Carmar- then. BRYNHYFRYD, TREHARRIS, PRIZE DRAWING. WINNING NUMBERS. 1859 2704 13540 4442 9804 16923 8702 7106 9992 3350 7761 13537 16479 2665 7134 17098 4219 16559 2277 9042 2241 7212 13423 4547 12125 9132 9568 5262 2356 1218 5093 12038 1732 G80 2273 9171 4192 17176 766 DOCTOR DWR. Y MAE y dyn sydd yn darllen Dwr Cleif- ion yn y New Market House, Caer- fyrddin, bob dydd Sadwrn fel arfer. TELEMATJ AM T "SEREN." Pris Sssair GYMRU yw 19. yr un; a danfonir hi yu rhaddrwy y post am Is. 6c. y chwavter, ond talu yn mlaen. Anfonir 2, 4, 6, neu unrhyw gynnifer, yn ddidraitl drwy y post, yn ol .1g. yr un. Terfyna y chwarteri ar ben pob deuddeg wythnos. Anfoner yr arian ya daladwy i Mr Isaac. Phillips, Bryntesr, Burry Port, U. 8 O.. Carmarthenshire. AMERICA.—IPantonir y Seren' yn ddidraul i'r Unol Daleithiau am Is 7s y chwarter-y taliadau i'w gwneyd yn mhob amgylchiad yn mlaenllaw. Awstralia ae India, 2s 2c ychwarter. itiT Dysgwylir taliad llawn ar ddiwedd pob ohwarter. Gofaled y dospartnwyr i gael gau y r" derbynwyr i dalu ar ddiwedd pob 12 wythnos. Heb gyds^niad a'r ammod hon, nid yw y Cy- hoeddwyr yn ymrwymo arifon y Seren' neb pwy bynag. e- I-an fyddo overcharges' ar sypynau SEBEN CTMEU, dymunir ar y dosbarthwyr i anfon Post Card yn uniongyrehol at y Cyhoeddwr, Gaerfyrddin, yn hysbysu hyny, fel y gallo ef gywiro y gwaU. TELERAU AM HYSBYSRADAU. Am bob hysbyslad heb fod dros bedaidlineU Is v tro; am bob llmell ychwanegol. 2sr. y tro. Rhoddir hysbysiidau am chwarter blwyddyn a throsodd am brisoedd llawer Is.' Tanvsgrifiadau at. Dvstebau ac tchosion dyngarol ereill, lg. y llinett. Yr arian i'w hanfon mown-.Poettil Orders i Mr Isaac Phillips Brynteg, Burry Port, E.S.O., Cannarthenshire. HYSBYSIADAU YR ENWAD. GLANWYDDEX. Penderfynwyd gan yr eglwys uchod nad ydynt am dderbyn neb i'w gwasanaethu (ond myfyrwyr ein colegau), heb gais oddi- with y frawdoliaeth. Arwyddwyd dros yr oglwys gan y 0 THOS. OWEN, Ysgrifenydd. CAPEL NEWYDD Y BEDYDDWYR, DREFACH. Cynnehr cyfarfodydd agoriadol y capel uchod dyddiau Mawrth a Mercher, Ionawr 28ain a'r 29ain, 1890. Y cyfarfodydd i ddechreu prydnawn dydd Mawrtli am 2.30 o'r gloch, ac yn yr hwyr am 6.30, a dydd Mercher am 10, 2. a 6 o'r gloch. Dymunir ar weinidogion ac ereill i roddi eu presenoldcb. W. E DAVIES, gweinidog. CYFARFOD CHWARTEROL ARFON. Cynnelir yr uchod yn Kghaernarfon nos 0 Lun a dydd Mawrth, Ionawr 20fed a'r 2lain. Y gynnadledd am ddeg o'r gloch boreu Mawrth, cyfeillach grefyddol am ddau, a phregetlm y ddwy noswaith. J. G. Jones, Ysg. AT EIN GOHEBWYR Danfoner pob erthyglau, gohebiaethau, 0 p 0 hanesion crefyddol a gwladol, &-c., i REV. BENJAMIN THOMAS, Nar. berth, Pembrokeshire. AELOD.—Ni ddylai aelod na chymmuna byth i fod yn aelod o gwbl; dengys yn amlwg cynlleied yw ei barch i'w Ar- glwydd. CARWR GWIRIONEDD. Dorbyniasom yr eiddoch gyda golvig ar weithrediadau oghvys yn Nghwm y Rhondda, ac nid amliemvn am foment nad ydych yn dweyd y gwir, a synwn na fyddai rhyw- beth wedi ei wneyd or rheoleiddio pethau yn gynt; ond gwell fydd peidio cyhoeddi y ffeithiau yn y SEREN rhag i ferched y Philistiaid lawcnychu, 'gan obeithio y bydd i ysbryd crefydd gymmeryd medd- iant buan o'r lie etto. TALIADAU. Derbyniwyd taliadau oddiwrth,—T P Llangynidr, T G London, W E Merthyr Vale, 0 D Llantwit Fardre, T. T. Lisvane, C E T Treherbert, M P Penslate, R W Chester, S E Llanfair, J M Erwood, H W Towyn, W R Llanfaethlu, J W Four Crosses, E G T Staylittle, W G Clydach, D T St Dogmells, T H P Goginan, A G Myn- achlogddu, S J Cardiff, R M Onllwyn, G S Tongwynlas, R J Peterston, W G W Llan- gyfelach, J- D J Troedyrhiw, E H Garw Valley, W J Abercarne, W D Ammanford, R D Penycae, S H W Penydarren, D J R Merthyr Tydfil, M B Bridgend, E P Blaen- avon, D W Newport Pem., J P Doverscourt, J E Dolywern, E W Rhosddu, D J Glyn- ceiriog, J M Cwmsymlog, L LI Cefnmawr, E R Llanwrtyd, J R Fronganol, Mrs J Hir- nant, S J Bryntroedgam, W P Ton Pentre, J D Llansteplian, T D Swyddffynnori, R P Cilfowyr, V D Llangloffan, S W Aberaeron, JET Waunllwyd, J J Bethesda, J L E Llanfihangel-Nant-Bran, D C W Liverpool D HE London, T G Porthyrhyd, T M Glyn Neath, D W Kidwelly, J W Letter- ston, T M Cwmtwrch, J R Alerthyr Tydfil, R J Cwmavon, J G Cilcarw, E G Fleur de lis, T T J Clydach, S E Trefil, J E Blaen- garw, W W Aberbeeg, D W Aberdar, 0 D Brynmawr, J G Plasybrodyr, E F Tretio, J J Aberlleine, H E Manordilo, W E J Holy- well, E T J Mold, D M H Blackwood, a E E London. ISAAC PHILLIPS. Brynteg, Burry Port, R.S.O., Carmarthenshire.
DYDD 0 LAWENYDD YN CAEL EI…
DYDD 0 LAWENYDD YN CAEL EI DROI I DRISTWCH. Yn N wyreinbarth Llundain y mae yna ysgol er addysgu plant tylodion, ac y mae wedi bod o fudd mawr i dylodion White- chapel a Poplar. Y mae yr adeilad* yn eang a chyfleus. Yehydig wedi deuddeg o'r gloch, y laf cyfisol, pan yr oedd clychau y ddinas yn llawen-gyhocddi dyfodiad y flwyddyn newydd, y cenid cloch gyffredin ac ammheroriaethus, yr hon pe y cenid hi ar ryw amser arall yn y nos, a dynai sylw ond pan ydoedd clychau perorol y gymydog- aeth yn cael eu canu yn gelfydd, yehydig a sylwent ar swn aflafar y gloch hon-cloch yr ysgol ydoedd yn ceisio awgrymu fod yr adeilad wedi cymmeryd tan, ac felly gweddiai am help o'r tu allan. Cynnwys yr adeilad le i tua chwech cant o blant, ac yr oadd y gwelyau yn llawnion, a rhai bychain, o saith i ddeuddeg, yn mwynhau melus gwsg ond nid hir y buont heb gael eu dihuno, neu i gael eu hunain yn nghwsg angau. Darganfyddwyd y tan gan un o'r meistresi, ilioddodd rybudd a dihunodd bawb oedd yn y ty. Gwelwyd ar unwaith fod yt elfen ddinystriol wedi cymmeryd gafael dyn yn yr adeilad, ac fod yr ystafell uwchlaw, yr un yn yr hon y torrodd allan, yn llawn o fwg a thawch fel nas gellid er 0 ymdrech myned iddo. Darfu i ddwy o'r meistresi, y rhai gysgent mewn ystafell uchel o'r adeilad, ddianc trwy y ffenestr, a neidio i nen adeilad Is. Achttbwyd un trwy gymhorth ysgol, tra y daeth y llall i lawr trwy ymaflyd yn y bibell ddwfr, a diancrasant yn lied ddianaf. Erbyn hyn yr oedd y tin beiriant a'r tanwyr a phawb yn brysur wrth y gwaith o achub y plant o grafangau y fflamiau a'r dinystr, a llwydd- wyd i achub yr oil gyda yr eithriad o chwech ar hugain o fechgyn bychain, y rhai ni losgwyd, ond a fogwyd a chyda yr eithriad o ddau, yr oeddynt oil yn ymddangos fel mewn melus ac esmwyth gwsg, ac wedi ym- y I lithro yn dawel o gwsg naturiol i gwsg hir- faith angau. Y mae yr amser y cymmerodd le, ac oedran tyner y rhai syrthiasant ^yn ebyrth i'r elfen ddinystriol, yn gwneyd yr amgylchiad yn hynod o dorcalonus. Yr oedd y rhai bychain yn hynod o lawen wrth fyned i orphwys, a siaradent gyda bias am ddanteithion a mwynhad y dydd dyfodol, a chauasant eu Uygaid mewn cwsg, gan feddwl a breuddwydio am drannoeth, yr hwn oedd i fod yn ddydd rhaniad y gwobr- au, ac yn ddycld o wyl a gwledd flynyddol, pan yr oedd eu perthynasau yn dyfod yno i gydlawenhau; ond trodd y dydd llawenydd yn ddydd o alar, ac yn y clafdy perthynol i'r ysgol yr oedd chwech ar hugain o gyrif y rhai bach yn gorwedd ochr yn ochr yn eu blancedi byrion, a'r perthynasau yn lie dod yno i gydlawenhau a'u lianwyliaid yn dod yno er cael gwybod pa un ai byw ai marw oedd eu rhai bach ac yr oedd y lie yn dispedain gan ochain ac wylofain yn lie gan lawenydd blwyddyn newydd, fel arfer. Taflodd yr amgylchiad brudd-der dwys dros y rhan hon o'r ddinas, a galwodd allan gyd- ymdeimlad cyffredinol. Y mae dechreuad y tan, fel tanau yn gyffredin, yn gorwedd hyd yma mewn dirgelwch, ond y mae yr adeilad wedi ei yswirio, yr hyn sydd yn foddhad, gan fod y sefydliad o gymmaint budd i blant tylodion yr ardal.
TIPYN 0 LA.WER 0 BETHAU.
TIPYN 0 LA.WER 0 BETHAU. Ysgrifenwn fel yma er arbed gofod. Dar- llener yn mlaen, a gwelir yn amlwg newid yn yr ymadrodd. 1he gelynion anghymmodlawn Mr Parnell yn ceisio ei bardduo etto. Ceisia Mr O'Shea gael llythyr ysgar oddiwrth ei wraig, a gwna Mr Parnell yn gyd-atebydd. Yr oedd Mr O'Shea a Mr Parnell yn gyf- eillion hyd 1886. Ar yr adcg hono gwrth- wynebodd y blaenaf fesur Home Rule' i'r Iwerddon, a darfyddodd y cyfeillgarwch oddiar y dyddiad uchod hyd yn awr. Cy- hudda Mr O'Shea Mr Parnell o amvedd- eidd-dra, ac erlyna ef am y cyfryw. Nid gweddus ihoddi dedfryd cyn barn, ond gofynwn i'n darllenwyi\ gymmeryd pwyll, a rhoddi chwareu teg i'r cyhuddedig. Ym- ddengys i ni fod cythraul politicaidd wedi ei ollwng yn rhydd, ac y mae wedi bod ac yn parhau i gyflawni ei ystranciau o flaen y cyhoedd. Gwyddis yn dda mai gochel- garweh hyd, yn nod gyda'i gyfeillion agosaf, ydyw un o nodweddau amlycaf Mr Parnell; ac onid yw yn hollol an-lxebyg ei fod wcdi gwerthu ei hun i'w elynion yn yr awr fwyaf pwysig o'i fywyd ? Cofier hefyd mai yr un parti a ddarfu geisio ei wneyd yn ffugiwr ac yn fwrddwr sydd yn awr yn ceisio ei wneyd yn buteiniwr, a'r tebygol- rwydd mawr yw y daw allan o'r ffwrnes yn yr achos hwn mor lan ag y daeth o'r blaen. Gadewch i ni gael gweled. 0 Y mae genym yn ein cynnulleidfa un o'r enw 'Joe yr Union,' am mai trigiannydd o'r Union ydyw. Yr oeddem yn siarad yn ddiweddar am Union: yn y nefoedd, a dywedai 'Joe' ar deli wedel y cwrdd, "Y mae yr Union fry, y dywedai Mr Thomas am dani, yn well na'n Union ni lan yna. Y mae genym fara da, ond dim ond cawn ddigon o fara a menyn yn yr Union fry." Y mae Dr John Davies, Maesteg, wedi C, priodi. Nid ydym yn ei ganmol yn neill- duol am ei wroldeb yn gwneuthur hyny, o herwydd cafodd ddigon o amser, ond can- molwn ef am ei ofal a'i ddewisiad. Cafodd y Dr. a'i gymhares hoff roddion gwerthfawr gan drigolion y lie ar yr amgylchiad. Caf- odd Dr Davies gerbyd ardderchog gan y rhai y bu yn gweini iechyd iddynt. Y mae Dr John Davies wedi bod yn Maesteg or ys dros ugain mlynedd yn boblogaidd anarferol. Brawd ydyw i Dr Enoch Davies y degwm. Yr ydym yn cofio yn dda pan yr oedd yn rhaid hysbysu Dr Enoch trwy ddweyd ei fod yn frawd i Dr John, ond yn wir yn awr rhaid hysbysu Dr John fel brawd Dr Enoch, ond y mae y ddau frawd yn ddigon da a phoblogaidd i fod yn adnabyddus, ac y mae en henwau yn bersawr yn Nghymru. Hir oes iddynt i wasanaethu eu cenedlaeth. Y mae yr anwyd haint Rwssiaidd (inHu- enza) yn teyrnasu yn gyffrcdinol iawn y clyddiau hyn yn Paris, Llundain, a manau eraill. Y mae dau cant mcwn un faelfa yn Llundain yn gorwedd yn y dolur, ac y mae 5,000 yn Birmingham. Rhaid fod y dolur hwn yn heintus, gan nad betli xm y gwa- hanglwyf; ac y mae yn angeuol mewn llawer o engreifftiau. Dywedir iddo ddod i'r wiad hon trwy y llythyrdai, felly rhaid ei fod yn heintus iawn. Y mae yna offeiriad yn y gymmydogaeth OY n hon yr hwn sydd briod, ac yn cadw gyried- ydd o'r enw Mr Day. Yr oedd Mrs a'r gyriedydd Mr Day gyda y nos yn un o ystrydoedd ein tref, a dyma gyfaill o dan dipyn o ysbrydoliaeth yn dyfod i fyny, gan ddweyd, "Ceisiaf eich maddeuant Mrs rhaid i chwi fyned gartref yn fuan, onite a yn nos arnoch ond os cadwch yn agos at Mr Day, nid a yn nos byth arnoch chwi." Da iawn.
"BOB" Y DEGWM.
"BOB" Y DEGWM. Ceffylyn ydyw Bob perthynel i'r Parch W. E. Jeffreys, gweinidog yr Annibynwyr yn Saron, Swydd Gaerfyrddin; ac erbyn hyn y mae'n cyflym ymgystadlu a'i feistr mewn poblogrwydd. Tair blynedd yn ol gwerthwyd Bob am ddegwm, a phrynwyd ef yn ol gan ei berchenog. Yn ddiweddar attafaelwyd arno drachefn am ddegwm dyledus, meddir, ar gapel Saron ac ychydig dir cyssylltiedig ag ef. Yr oedd degwm dwy flynedd yn cyrhaedd y swm enfawr o hedwar siollt a cheiniog a diiiiai! Yr wyth- nos ddiweddaf yr oedd Bob i fyned yr ail waith o dan y morthwyl. Yr attafaelydd a'r arwerthydd ydoedd bein o'r enw Weston, o Aberteifi. Cyrhaeddodd drigfan Mr Jeffreys, pan yr oedd yna rai cannoedd o'r trigolion yn ei roesawu. Y mae Weston tua 70 mlwydd oed, ac edrychai ar delerau da ag ef ei hun, ac fel pe am fod felly a. phawb. Ymddygwyd ato yn garedig cyf- ranogodd o ddanteithion bwrdd Mrs Jeffreys,. a chyii-iniaint oedd yr hwyl a gawsai yn y fan hon, fel nad oedd arno frys i symud yn mlaen at ei brif orchwyl; ac yr oedd ei ymddygiad yn hollol gydgordio a'i gyffes, nad oedd ganddo ef ddim cydwybod yn y mater, ond cwestiwn o fara chaws ydoedd hi gydag ef trwyddi draw. Da iawn dyma sydcl wrth wraidd y drafodaeth o'i dechreu i'w diwedd, ac y mae yn rhaid cael bara chaws, ond dylid ei gael yn onest a thrwy chwys gwyneb. Gyda chylla llawn a gwen ddiolchgar, aeth yr hen batriarch yn dduw- iolfrydig iawn i'r ystabl, a dygodd Bob o In allan, yr hwn oedd wedi ei addurno ag ysnodenau gleision; ac ymddangosai yn ddigon tawel, o herwydd yr oedd erbyn hyn yn gyfarwydd a'r weinidogaeth. Yr oedd ganddo ddigon o ffydd yn ei feistr y byddai iddo fod yn ffyddlon iddo ef yn gyetal ag i'w egwyddor. Rywffordd neu gilydd tar- awyd Weston a rhyw gryndod anesboniadwy. Pa un a darawyd ef gan fellten dirmyg a ddiangodd o lygad Bob, neu yr effeitliiai ysbrydoliaeth wrthwynebus y bobl ar ei gyfundrefn ewinol, nis gwyddom, ond goll- 0 11 ZD yngodd ei afael ar Bob, a chymmerodd yntau fantais naturiol o'i ryddid, ac wedi cael gafael yn y ffordd fawr torchodd ei ZD gynffon ysnodenog, a chwareuodd don Dadymchweliad y Degwm a'i bedolau wrth garlamu i gyfeiriad pentref Llangeler. Digalonodd y patriarch Weston, a gorchym ynodd y cerbyd, yn yr hwn y cychwynodd tua chartref, gan dyngu i afon Teifi na j'welid ef byth mwyach yn codi arian gwein- idogaeth Eglwys Loegr. 0 0 Ar ol cael gwared ar y patriarch cynnal- iwyd cyfarfod gwrthdystiol, yn cael ei lyw- yddu gan Dr. Enoch Davies, Bryn Teifi. Siaradwycl gan Mr Morgan Evans, U.H., Mr Jones, Pencadcr; Mr Jeffreys, ac eraill. Yn y cyfamser dychwelodd Bob, yn nghanol banllefau y gwyddfodolion, a gwnaeth araeth i'r perwyl hyn Mr Cadeirydd, a hen gyfeillion Llangeler, Penboyr, a Waun- meipios, nid wyf lawer o siaradwr, ac nid wyf wedi arfer siarad, ond siaradodd perth- ynas i mi yn y dyddiau gynt pan yn cael ei orfodi, ac felly y mae arnaf finnau yn awr. Gwn y maddeua pawb i mi am ddefnyddio fy rhyddid; chv/areu teg i geffyl, ac yn 0 tD sicr, chwareu teg i ddynion. Gyda gohvg 0 1-:1 ar y degwm, y mae fy nghydwybod mor lan ag eiddo meistr. Credwyf mewn talu am bob peth a orchymynwn ac a fwynhawn, ond lladrad ydyw ein gorfodi i dalu am ddim arall, a'r un faint o wasanaetli Eglwys Loegr a fwynha fy meistr a finnau, a hyny ydyw Nid yw fy sefyllfa I ond isel mewn cymdeithas, etto yr wyf yn was ffyddlon, ac ni ddysgwyliaf ond tal am fy ngwasahaeth a phan yn cario Mr Jeffreys nid wyf yn dysgwyl tal gan yr offeiriad. Gwerthwyd fi unwaith o'r blaen er talu arian gweinidogaeth Eglwys Loegr. Yr wyf yn gwrthdystio yn erbyn hyn digon i geffyl, fel y diwrnod, ei ddrwg ei hun. Anwyl bob], cymmerwch gynghor gan geffyl: Peidiwch talu yr hen ddegwm vna, o herwydd y mae yn hollol anghyfiawn yn fy ngolwg I, a rhaid ei fod yn llawer mwy felly yn eich golwg chwi. A ydych chwi yn ffolach na ebeffylau ? Dyma fy nghyngor i chwi, Boed i bob un dalu am ei grefydd ei hun. Chwareu teg i bobl Saron, ni ddarfu iddynt erioed gynnyg gwerthu ceffyl y 'ffeirad,' ac y mae yn rhy ddrwg bod y 'ffeirad am fy ngwerthu innau. Y mae ceffyl y 'ffeirad a finnau yn ffryndiau calon, a'r 'ffeirad ei hun, o ran byny; ond yn wir, y mae yn rhy ddrwg eu bod yn delio fel hyn tuag ataf. Gwyddoch, gyfeillion, ein bod fel tylwyth wedi ffurfio cynghrair yn erbyn y degwm, a fi yw y cadeirydd; a chan eich bod chwi fodau uwchraddol yn araf yn eich gwrthwynebiad i'r fath wrthuni, penderfynwn, myn ceffyl i, na cha yr anghyfiawnder hwn lonydd hyd nes cael ei ysgubo o'r tir. 0 na bai "cob Nanto" yn fyw; ciciai ymenydd y degwm allan yn mhen pum' mynyd, neu ynte ni cherddai gam yn mlaen nac yn ol Gwyr Penboyr, Llangeler, Waunmeirios, Glanau Bargoed, Bran, a Theifi, yr wyf yn eich tynghedu i y 0 daflu yr ysgymun-beth hwn allan o'r gwer- C, syll, onide bydd i geffylau eich gwlad eich condemnio yn awr ac am byth." Derbyniwyd 'araeth Bob gyda banllefau uchel o gymmeradwyaeth, a chan nad pa mor boblogaidd ydyw Pegi Lewis yn y wlad, y mae Bob Jeffreys" yn tynu yn galed am y dorch; a rhwng y ddau, ni phroffwydwn oes faith i'r degwm. Y mae y drysorfa yn ymchwyddo yn raddol ond sicr, a thra hyderwn y bydd i'r werin daflu i fewn eu ceiniogau a'u sylltau igynnorthwyo yr achos. Cofier etto mai mewn undeb y mac nertb. Nid yw y dyferyn ond gwan ynddo ei hun, ond mewn cyssylltiad a'i frodyr gwna lifeiriant a mor; ac felly yn yr achos hwn, dim ond i'r werin ymuno, y maent yn alluocach a chyfoethocach nag un gallu gwrthwynebol; a chan fod y llaw ar yr aradr, a'r aradr hwnw yn un cyfiawn a buddiol, na throer ac na edrycher yn ol nes cyrhaedd pen y tir, ac y maeyn ymyl.