Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

NODIADAU YR WYTHNOS.

News
Cite
Share

NODIADAU YR WYTHNOS. Dydd Llun diweddaf, bu farw yr an- rhydeddus W. H. Yelverton, o Whitland Abbey, sir Gaerfyrddin, yn ei annedd dy yn Llundiin, yn 93 tul ned. Cleddirefynuaeargelt Lteulu, yn eglwys St. Mary, Hendy-gwyn-ar- af. Cynnrycbiolodd Mr Yelverton sir Gaer- fyrddin fel Rhyddfrydwr am ddwy flynedd. Ymddengys fod y Galluoedd Ewropaidd wedi cydsynio a chais Lloegr i gymmeryd rhan mewn cynnadledd ar achos yr Aifft. Cynnwysa y 'Red Dragon' (cyhoeddiad misol a gyhoeddir yn Nghaerdydd), yn y Rhifyn am y mis hwn, Ddarlun a Bywgraffiad o'r diweddar Hiraethog. Dylai y Rhifyn hwn werthu wrth y miloedd. Ymddengys fod brys-neges wedi ei hanfon oddiwrth y'llywodra-th i Berber, yn cyfar- wyddo y saith cant o filwyr sydd yno i encilio, os yn bosibl, i Korosko. Y mae pob gohebiaeth rhwng Berber a Khartoum wedi ei hattal. Y mae yr holl wlad o amgylch mewn gwrth- ryfel. Yn ol y newyddion diweddaraf o Berber, ymddengys fod y milwyr yno wedi gwneyd fyny a'r gwrthryfelwyr Arabaidd. Fföa y trigolion, ao yn mhen ychydig ddyddiau, bydd y lie wedi ei lwyr adael. Newyddion o New York a hysbysant i hurddwynt dinystriol dalu ymweliad a James- town, Ohio, ae i ddwy ran o dair o'r dref gael ei dinystrio, a lladdwyd chwech o bersonau. Dinystriwyd amryw bentrefi bychain hefyd yn Michigan gan danau. Prydnawn dydd LInn, fel yr oedd mab ieuanc y Parch. S. C. Lewis, fleer Sidcup, yn chwareu a dryll yn y grounds tuallan i'r ficerdy, aeth yr ergyd allan; a thrist yw adrodd, tarawodd yr ergyd Mrs Lewis yn ei phen, a bu farw yn mhen dwy neu dair mynyd. Agorwyd sesiwn flynyddol Undeb y Bed- ydiwyr dydd Llun, yn nghapel Bloomsbury, Llundain. Traddodwyd yr anerchiad agor- iadol gan y llywydd, y Parch. R. Glover, Bristau. Dangosai y mynegiad fod y cyn- nydd yn rhif yr aelodau yn ystod y flwyddyn yn 14,000. Rhoddwn grynodeb o hanes y cyfarfodydd yn y Rhifyn nesaf. Boreu dydd Sadwrn diweddaf, torodd tan allan yn ystorfeydd Mr Whiteley, Bayswater, Llundain. Dechreuodd y tan gyntaf yn ystorfa y carpedi, a gwasgarodd yn fuan i'r ystor- feydd ereill. Daeth ugain o daobeiriannau i'r lie yn fuan, a. dechreuasant arllwys ffrydiau o ddwfr ar y goelcerth danllyd. Er pob ymdrech o eiddo y tanwyr a'r heddgeidwaid, aeth amryw oriau heioio cyn i'r elfen ddinystriol gael ei hattal. Yr oedd hwn yn un o'r tanau mwyaf a fu yn Llundain er ys blynyddau, a chyfrifir y golled yn £ 250,000. Y mae y Cyn-Arlywydd Grant a'i briod a'i deulu wedi dychwelyd o Washington i New York mewn trefn i gwrdd a'i ferch anwyl a phoblogaidd, Mrs Sartoris. Da genym ddeall fod yr hen gadfridog gwronaidd a pharchus yn llawer gwell nag y bu, etto bernir y cymtner gryn amser cyn y daw yn hollol ddisgloff. Yn ol yr ystadegau diweddaraf ceir fod holl arwynebedd yr Unol Dalaethau a'r Tiriog- aethau, heb gyfrif Alaska, yn 2,970,000 o filldiroedd ysgwar. O'r Talaethau, Texas ydyw y fwyaf, a Rhode Island y lleiai; y mae y flaenaf yn 241 o weithiau yn fwy na'r olaf. Dakota ydyw y fwyaf o'r Tiriogaethau, a Washington y Ileiaf, er ei bod yn driugain ao un o weithiau yn fwy na Rhode Island. Mewn cyfartaledd i'w maintioli, cynnwysa Rhode Island y boblogaeth fwyaf—254 o bersonau i'r filltir ysgwar.

Y GODEN.

MESUR PLA YR ANIFEILIAID.

DADGYSSYLLTIAD YR EGLWYS YN…

DAEARGRYN ARSWYDUS YN LLOEGR.

TREDEGAR.

CYMDEITHAS GENADOL GARTREFOL…

CYMMANFA YSGOLION CYLCH LLANDYSSUL.

BETHANIA, RE80LVEN.

Family Notices

MARWOLAETH Y PROFFESWR MORGAN.…