Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
[No title]
iii Nid ydym yn dal ein hunain yn gyfrifol am syniadau ein Gohebwyr.
" COF-GOLOFN MATHETES."
COF-GOLOFN MATHETES." Dymunaf alw sylw edmygwyr y diweddar 'Mathetes' at y mudiad sydd ar droed bellach er ys misoedd, ac i hysbysu y cyfeill- ion, ein bod yn bwriadu yn fuan gau y drysorfa hon i fyny. Yr ydym, er gofid, yn gorfod cyfaddef yr hen ddywediad, mai til annghof yw y bedd' a'r mudiad hwn. Yr oeddem wedi arfer meddwl, fod yr hyn a wnaeth Mathetes yn bawlio ein parch a'n cydymdeiiulad llwyraf fel enwad, beth bynag. Y mae y brodyr sydd wedi bod allan, yn unol a phenderfyniad y pwyllgor, wedi cael derbyniad croesawgar a. hyderwyf y gwna y brodyr ereill sydd heb fod allan, frys, er mwyn scwario y cyfrifon. Ydwyf, &c., DAVID DAVIES, Cadeirydd. 3, Glebeland, Merthyr.
LL YTHYRAU HEN FEDYDDIWIl.1
LL YTHYRAU HEN FEDYDDIWIl. Dyma seithfed llyfchyr y brawd yn awr ger ein bron, yn yr hwn y gwneir ymdrech eithafol gan yr awdwr, yn ei ddull anfonedd- igaidd, o ymosod arnoui. Nid ydym am ymryson ag ef yn y dull yna. Nid pethau i gellwair a hwy yw pethau y Beibl, ond geiriau gwirionedd a sobrwydd.' Y mae yn y llythyr hwn rai pethau nas gellir eu gadael yn ddisylw, pe amgen tawsem a son. Dywed yr H. F. ein bod yn taflu ensyniadau brwnt ac anfoneddigaidd am awdwr y Weithred o Felyddio ond yn awr, barned y darllenydd, pa un o'r ddau beth sydd yn frwnt, ai gwneuthur ymosodiad chwerw a diachos fir rai oedd yn trigo yn dawel a llonydd; ai ynte bod y rhai hyny yn amddiffyn eu hunain F Dyweded H. F. os gall, pa beth oedd amcan yr Attodiad, os nad creu drwgdeimlad yn erbyn y rhai a wrthwyneba efe ? Gyfeiria H. F. at ymdrech dros Gristionogaeth yn ei symledd cyntefig,' gyda'r wawdiaith fwyaf eithafol, a dywed, Felly yn wir. Beth nesaf, tybed ?' Beth hefyd ? A ydyw yn bechod ynom wneuthur hyny ? Oni thaer bechod ynom wneuthur hyny P Oni thaer gymhellir y Cristionogion i gydymdrech gyda ffydd yr efengyl P' Mewn man arall, i ymdrech yn mhlaid y ffydd, yr hon a rodded unwaith i'r saint.' A ydym ni i'n h beio am wneyd hyny, am fod ein nifer yn ychydig, a'n gallu yn fychan ? A ydyw bychander pleidwyr unrhyw beth yn gwneyd achos da yn ddrwg ? 0 gyfaill, ti a lefer- aist fel un o'r ynfydion. Synodd yr ysgrifenydd yn fawr pan ddeallodd fod enw yr hen dad o Lanllyfni yn cael ei ddefnyddio i attegu Campbeliaeth.' Tybiwa fod yr awdwr yn galw y brawd o Lanllyfni yn dad er mwyn bod yn afreol- aidd,' ac anysgrythyrol yn hyn fel pethau ereill. Math. 23. 9. I attegu Campbeliaeth,' meddai. Yr ydym yn tystio gerbron Duw, i'r hwn y byddwn yn rhoddi cyfrif ar fyrder, mai nid cynnal nag attegu unrhyw iaeth {ism) nac opiniwn, yw ein hymdrech, ond ymofyn pa beth a ddywed yr ysgrythyr, yn nghyd ag ymgais i gydymffurfiad manylach S,'r hyn a ddysgir i ni yn y Testament Newyd, fel y maent yn eu symledd cyntefig. Gan mai o herwydd hyn yr ydym yn cael ein beio, ein sarhau, a'n herlid, yr ydym yn ei o^def yn llawen. Y mae yn amlwg mai dymuniad calon yr n. F. yw i ni gael ein difodi oddiar wyneb y fldaear; ao os llwydda dymuniadau y rhai sydd yn rhodio yn ol traed Balaam, cymmer hyny le yn fuan; ond er yr holl deimlad gelynol svjid yn meddiannu rhai personau, yr ydym wedi cynnyddu mwy yn ol yr herwydd na dosparth yr H. F. ac y mae y teimlad o'r angenrheidrwydd am adferiad Cristionogaeth i'w symledd cyntefig, wedi cynnyddu i raddau helaethaoh olawer nag y mae wedi dangos hyd yn hyn; ond y mae yn sicr o dori allan yn weithredol cyn hir. Truth is mighty, and must prevail.' Gyda golwg ar y dyfyniad o waith R. Jones, nid oedd genym ond ei gymmeryd fel y mae i'w weled yn ei draethawd a gyhoedd- wyd yn 1846. Os yw yn d weyd yn wahaiiol mewn manau ereill, nid arnom ni y mae ei gyssoni ^neu, os y w yn dywedyd un peth a meddwl peth arall, arno ef y mae y cyfrifol- Heb. Modd bynag, y mae ei osodaeth yn yr hyn a ddyfynwyd yn cael ei phrofi yn y modd cadarnaf trwy dystiolaeth eglur gair Duw; a pbeth rhyfedd os gellir cadarnhau tybiaeth yj^iaaol trwy yr ysgrythyr hefyd. Na, nid ytf vvysgrythyr yn gwrtbddywedyd ei hun. j «rec^r *od pregeth R. Jones ar Gyfiawnbad j yn \vahanol• on(j beth a brawf hyny? Pa Uft ai y y^ytiiad ai y bregeth sydd ysgrythyrol yw y Dywedir hefyd mai eiddo jjugbes, Wrexham, y w y pregethau, 4 ac y gall bpy f°d yn cyfrif mewn rhyw fodd am liw 01 ^winyddiaeth.' Beth, debygech chwi, y lnae H. F. yn ei olygu wrth y frawddsg Uchod ? A ydyw am i'w ddarllen- Wyr ddeall f0(j yr henafgwr cyfrifol o Iianlly^11 yn coginio ei dduwinyddiaeth at chwaeth y farchnad ? Anhawdd credu. Y mae P6j ^el hyn yn sarhad anoddefol. Hefyd. dywed, Pa fodd y breuddwydiedd Wro. Jones fod awdwr a farnodd yr ordinhad 0 fedydd yn annheilwng o un gem dduwin- yddol, y?- dysgu Campbeliaeth mewn rhanau ereill ^n^diaeth P' A ydym ni i ddeall Wrth hyn R. Jones wedi gadael bedydd allan o'r Ilyfr a gyhoeddodd dan yr enw c Gemall puw1nyddol..ameifodynedt.).ch ar yr ordiahad fel peth mor ddibwys a di- ystyr yn 0^wg> fel ag i fod yn annheilwng o le yn mhlith y 'GamauP' Y mae yn sam- mheua iawn genym, Hyderwn y daw y brawd allan i wrthbrofi pethau fel hyn. Y maent yn ormod i'w goddef. Yr ydym wedi cael y pleser 0 gyfeillachu a'r brawd o Lan- llyfni yn lied fynych yn yspaid y deugain j mlynedd diweddaf, ac yr ydym yn credu am dano ei fod yn onest a didwyll yn mhob peth, a'i fod yn un o'r gweinidogion urddasolaf a fedcl y Bedyddwyr yn Nghymru, ac nis gallwn gredu rhyw awgrymiadau darostyngol fel yna am dano; ac os oes gwahaniaeth rhyngom mewn rhai pethau, nid yw hyny yn creu unrhyw deimlad anfrawdol yn ein mynwes. Y mae H. F. yn arfer ei quibble eyffredin gyda'r gair I rhyto berthynas rhwng bedydd a maddeuant.' Gwir, dyna ddywedir yna a yr awdwr yn mlaen, a dyfyna Math. 1. 4, Act. 2. 38, a 22. 16, i brofi y berthynas hono. Beth yn well allasai wneyd ? Am ei gyffes yu Mangor, mai arwyddluniol ac nid gweithredol y golyga efe y maddeuant. Cymmaint a ddywedwn ar hyn yn awr yw, nad yw y naill na'r Hall o'r geiriau yna yn cael eu cyssylltu a maddeuant yn yr ysgrythyr. Dysg yr Ysbryd Gian yw, fod dyn yn gyfiawnedig a maddeuedig pan y gvvna broffes o Grist yn ol deddf osodedig Brenin Seion. Dygwyd Saul i gredu pan gyfarfu yr Iesu ag ef ar y ffordd ond yn mhen tri diwrnod y dywedodd Anan- ias wrtho, Beth yr wyt ti yn ei aros ? Cyfod, bedyddier di, a golch ymaith dy bechodau, gan alw ar enw yr Arglwydd.' Nid oes yma ddim son am arwyddluniol na gweithredol. Pe rhoddai pleidwyr ffydd yn unig wrandawiad i'r hanes yna, fel geiriau digyfeiliorn yr Ysbryd Glan, tawent byth a son am beth mor anysgrythyrol a chyfiawn- had trwy ffydd yn unig.' Marw ydyw tra yn unig-tra nad oes ganddi weithredoedd; am hyny y gofyna Iago, A ddichon ffydd ei gadw ef ?' (Piu barhau.) Porthmadoc. W. JONES.
LLOSGI CYRFF.
LLOSGI CYRFF. BARCHUS OLYGYDD.—Nid yw llythyr S. J. yn werth nemawr o sylw. Dim ond un ddadl sydd ganddo yn erbyn corff-losgiad, ac yr oeddwn I wedi defnyddio hono yn fy ysgrif. 2. Mae yn annghysson &'i hunan. Myn- tumia na ddylid defnyddio rhesymau dynol' yn erbyn corff-losgiad; ac ar yr un pryd dywed, bydded i ni adael yr arferiad isel, barbaraidd, ac anysgrythol, o losgi cyrff y meirw i'r rhai hyny nad ofnant Dduw, ac na pharchant ddyn.' Atolwg i ti, beth yw galw oorff losgiad yn arferiad isel a barbaraidd,' ond myned y tu allan i'r ysgrythyr i geisio rheswm yn ei erbyn. Y meddyg, iacha dy hun.' 3. Nid yw yn ymddangos i mi ei fod wedi deall dyledswyddau gweinidog yr efengyl erioed. Beth, gweinidog ddim i ddwyn un rheswm yn mlaen dros nac yn erbyn unrhyw beth ond rheswm ysgrythyrol Wel, dyn a'n helpio ni. Araidj ni gael adnod dros bregethu am ddeg o'r gloch boreu y Sul ? A raid i tni gael adnod dros ■ fwyta bresych i giniaw ? Rhaid, meddai y brawd hwn ond yr wyf fi yn teimio pleser mawr mewn barnu yn wahanol iddo. Cyd- nabyddaf mai y rheswm goreu ellir ei ddwyn yn mlaen dros unrhyw bwnc yw adnod o'r Beibl; ond os na fydd aduodau i'w chael yn cyffwrdd ag ef yn ei holl agweddion, credwyf fy mod at fy rhyddid i ddefnyddio yr hyn a eilwefyn'rhesymau dynol.' Yn wir, dyma yr unig ffordd i gwrdd a rhai dynion. Yn ngolwg llawer un, nid yw rheswlp. ysgryth- yrol ond megys gwegi; rhlid i ni, o ganlyn- iad, gyfarfod y cyfryw ar dir 'rheswm dynol.' Ond ofer yw siarad a S. J. Mae ei range of vision mor hynod-o gyfyngedig. I ba beth yr ysgrifenodd, nis gwn, Os mai gosod taw ar Thalamus a minnau oedd ei amcan, cym- merodd ffordd anmhriodol iawn i wneyd hyny. Nid trwy ddiystyru dynion, y mae eu cael i wrandaw ar air o gynghor. Caniatewch i mi ddyfod yn awr at lythyr Thalamus. Mae yn amlwg fod gan y brawd hwn olygiadau parchus iawn am danaf n. Cyhudda fi o fod yn debyg i un 'wedi meddwi ar liw glas,' o ddefnyddio ysbwrial i gamarwain y bobl,' o adrodd clap trap,' 0 feddu gwyleidd-dra benywaidd Veniceaidd,' y ac o ysgrifenu darn eiddil a thruenus.' Ymddyga ataf hefyd weithiau yn bur barchus. Doniol oedd gweled gweinidog yr efengyl yn troi yn ddafad, a'i glywed yn gwaeddi Bah!' Arweiniodd y rhanau blaenaf o'i llythyr fi i feddwl mai dafad oedd yn siarad a mi; ond nid oeddwn yn sicr o hyny hyd nes i mi glywed ei lais. Yn awr, Syr, os na fydd i mi ddilyn Thalamus i'r cwteri a'r bAW, hyderwyf na chyfrifwch hyny i ddiffyg gallu. Gallwn roddi iddo gystal tipyn o Billingsgate ag a ddisgynodd ar dympanau clochaidd ei glust- iau erioed; ond gan fod y gallu hwnw yn ddarostyngedig i dipyn o synwyr cyffredin, neu ras, neu rywbeth, arbedir ef rhag teimlo ei lymder. Gweddus i weinidog yr efengyl yw tafod pur. Mae iaith gableddus i fod y tuallan i gylch ei swydd. Heblaw hyny, nid yw defnyddio geiriau cas ond arwydd o wendid mewn dadleuwr. Boneddigeidd- rwydd a'i pia hi. Ennilla hwnw gydym- deimlad rhai yn absenoldeb rheswm. Gall dadl deg ar gorff-losgiad fod yn fuddiol i aaariienwyr y DEREN. Una os deenreuir myned i dymher ddrwg, a galw enwau cas, a rhincian dannedd, bydd y diwedd yn waeth nâ'r dechreuad. Hyderwyf, gan hyny, y bydd i Thalamus edrych at ei elw ei hun, a thrin y pwnc, ac nid ei wrthwynebydd. Y mddengys i Thalamus ysgrifenu y rhan gyntaf o'i lythyr yn frysiog oddicartref.' O'r braidd yr oedd eisieu iddo ddweyd hyny. Yr oedd yn amlwg ei fod oddicartref—oddi cartref i gyd, gorff a meddwl. Nid oes dadl nad yw Thalamus yn un o lenorion goreu y genedl; ond yn wir saern'iaeth annghelfydd sydd ar lawer o'i frawddegau. Nid oeddwn yn dysgwyl cwrdd a. rhesymeg nerthol, ac A, chywirfarn addfed, yn ei lythyr; ond yr oeddwn yn dysgwyl cwrdd a brawddegau caboledig a gorphenedig ynddo. Yn hyn, beth bynag, cefais fy siomi. Ond pa ryfedd ? Onid oedd y brawd yn ysgrifenu yn frysiog oddicartref.' Mae bod oddicartref yn anfantais i ysgrifenu ond y mae gorfod dweyd hyny gyda brys, yn waeth fyth. Fe ddaw y darllenydd gyda mi yn awr ond 08 gwel yn dda, cadwed mewn cof y ffaith fod Thalamus yn ysgrifenu yn frysiog oddicar- tref.' Pe bai y brawd yn ysgrifenu yn bwyllog gartref, credwyf y byddai ei lythyr yn fwy rhydd oddiwrth wallau ond gan mai yn frysiog oddipartref yr ysgrifenodd, tafiodd dduwch ar eich SEREN olau. Y mae gwahanol ranau ei lythyr, i ddefnyddio geir- iau Tennyson am frychau yn yr haul, fel lales of darkness floating in the light.' Beth allai fod rheswm y brawd dros ysgrif- enu gyda chymmaint brys r Ai ofn oedd arno y buasai fy ysgrif I yn troi pob Tophet yn Machpelah ? A beth allai fod ei reswm dros hysbysu y ffaith i'r cyhoedd ? Ai brefu am gydymdeimlad yr oedd ? Os mai e, dywedaf wrtho yn eglur, nad yw idd ei gael. Pan oedd y milwyr Prydeinig, p dan Syr Wolsley, yn lladd milwyr Abbysinia wrth yr ugeiniau, gyrodd King Coffee at y Cadfridog, gan ddywedyd 'Don't fight so fast.' Ond nid oes trugaredd mewn rhyfel. Felly yma, nid oes trugaredd mewn dadl. Edryched Thalamus, gan hyny, at ei gyflegrau. Mae ton angladdol yn rhedeg trwy y rhan olaf o lytbyr Thalamus. Ymddengys i mi fel dyu wedi tori ei galon—fel dyn arddarfod am dano. A mor bell a gwneyd ei eivyllys, a dyma hiByddai yn fil gwell genyf gael fy llosgi na chael fy nghladdu ac os bydd cremation yn gyfagos, hyny a gymmer Ie, os gweithredir yn ol fy ewyllys.' Dyna ewyllys Thalamus ar ei gorff; ac nid oes genyf fi ond gobeithio y bydd iddi gael ei darllen yn ystyriol, a'i chario allan i'r llythyren. Wrth yr ewyllys, rhoddwyd y codocil canlynol:- Ac os na weithredir felly (yn ol yr ewyllys), ac os caiff fy ysbryd ganiatad i ddychwelyd, byddaf yn sir o boeni rhai.' Yn awr, chwi wyr o Bontardawe, edrychwch ati. Dyma i chwi rybydd prydlawn i losgi gweddillion marwol y brawd. Gofalwch wneyd hyny. Gresyn fyddei i chwi gael eich poeni gan ysbryd dignawd. Gyda llaw, yr oeddwn I wedi cael ar ddeall fGd Thalamus yn darlithio i lawr y dybiaeth fod ysbrydion annghorffedig yn talu ymwel- iad a'n byd ni, ac yn aflonyddu ei breswyl- wyr; ac nid wyf fi yn ei feio am hyny. Rhaid i ysbryd gael corff i ddyfod yma; ac nis gallaf fi weled paham na ddylai ef gael corff i ddyfod yn ol yma. Ond rhaid i Thalamus geisio bod yn gysson a'i hunan, ac nid ym- debygu i Herod, yr hwn a wadai yr adgyfod- iad, ac a gydnabyddai ar yr un pryd fod loan Fedyddiwr wedi codi o'r meirw. Dywedaf etto, Chwi, wyr o Bontardawe, gofalwch gario allan yr ewyllys i'r llythyren. Bydd yn well i chwi sicrhau gwasanaeth archoffeiriad corff-lopgiad o Lantrisant, os nad ellwch wneyd y peth eich hunain. Pan y byddaf fl farw, beth byuag, hyderwyf na fydd i chwi, na neb arall, anmharchu fy nghorff trwy ei losgi. Byddai yn well genyf gael fy nghladdu ar waelod m6r y Werydd, na chael fy llosgi, ac wedi hyny fy ngosod i fyny fel bottled pre- served meat, i foddio chwilfrydedd apostolion y fflamiau. Un gair etto, cyn dyfod at, atebion Thalamus. Nid Thalamus yw y dyn i am- ddiffyn corff-losgiad. Ysgrifena yn rhy ddibwynt a, chymmysglyd o lawer. Y mae ei lythyr, fel y ddaear cyn i Dduw wneyd trefn ami, yn afluniaidd a gwag;' a phe cym- merai chwe diwrnod i wneyd trefn arno, ofnwyf nas gallai ddweyd wedi hyny, Wele, da iawn oedd.' Nid oes dim yn argyhoedd- iadol yn ei lythyr. Cordda a chordda o hyd; ond yn y diwedd, ni cheir ond y nesaf peth i ddim o ymenyn. Ery pryd yr ysgrifenodd ei epistol tanllyd, yr wyf wedi bod yn gwylied colofn y claddedigaethau yn y newyddiaduron, gan ofni y buasai yn cael ei throi yn golofn y llosgiadau; ond nid oedd rhaid i mi. Nid yw hyd y nod awdurdodau gweithdy yr undeb, y rhai nad allant deimlo llawer o ddyddordeb yn nghyrff meirwon y tylodion, wedi dechreu ar y gwaith o losgi. Rhaid felly fod llythyr Thalamus yn an- effeithiol iawn. Ond dyna, beth arall ellid ddysgwyl; nis gall niwl oleuo. Y ddadi gyntaf ddefnyddiwyd genyf yn erbyn corff-losgiad ydoedd hon -1 Y mae ar ddynion ddigon o ofn marw yn awr, ond pe gwybyddent y rhoddid eu cyrff i'w llosgi ar ol iddynt farw, byddai arnynt fwy.Mewn atebiad i'r ddadl yna, y mae Thalamus yn dweyd cryn lawer o bethau cwbl anmherthyn- asol iddi. Dywed nad rhaid i'r Cristion ofni marw.' Gadawer i hyny fod; ond beth sydd a fyno hyny a'r pwnc P Nid wyf fi yn delio i'r hyn ddylai fod, ond a'r hyn sydd ac y mae yn ffaith ddiymwad fod Cristionogion yn gyffredin yn ofni marw. Fel y dywedodd y Parch. O. Waldo James yn ddiweddar yn Nbyddewi,Nid yw y Cristion yn ofni ei Dad; ond y mae yn ofni y ffordd sydd yn arwain at ei Dad.' Ar ol hyny, gofyna fy ngwrthwynebydd un o'r cwestiynau mwyaf dwl:—' Ond pa bryd y byddai arnynt fwy o ofn ai ar ol marw, ynte yn awr ?' Yr wyf yn synu at blentyneiddiwch babanaidd, y dyn allai ofyn y fath beth. Mae y geiriau, Ond pe gwybyddent y rhoddid eu cyrff i'w llosgi ar ol iddynt farw,' &c., yn dangos yn eglur mai yn eu bywyd y byddai iddynt ofni. Yr wyf wedi arfer tori bwyd yn fan i'r plant I bach gartref, ac mi wnaf yr un peth a Thalamus. Y mae ar ddynion ddigon o ofn marw yn awr (pan yr arferir claddu); ond pe gwybyddent y rhoddid eu cyrff i'w Uosgi ar ol iddynt farw, byddai arnynt fwy.' A yw y brawd yn deall yn awr ? Os nad yw, goreu i gyd iddo po gyntaf y bydd iddo < dyuu ei draed ato.' I attegu y gosodiad, fod llosgi yn gyru mwy 0 ofn marwolaeth ar ddyn na chladdu, dywedais, fod rhyw gymmaint o gydymdeimlad rhwng bywyd a dwfr. Y mae dwfr yn ei faethu, ao yn rhoddi harddweh iddo; ond nid oes dim cydymdeimlad rhyngddo & than ac mewn atebiad, dywed Thalamus, 'Peth newydd yn y byd yw y syniad uchod, ac y mae yn anathronyddol i'r eithaf. Os oes mwy o wrthwynebedd mewn dyn at y tan nag at y dwfr, y mae rhyw reswm dros hyny; a dylasem ei gael. Ond nid rheswm sydd gan Mr R. pan ddywed fod dwfr yn maethu, ac yn rhoddi harddwoh i fywyd. Y mae tan mor angenrheidiol i fywyd ag yw dwfr—y m'aeyn hanfodol i fywyd; a phan ddiffydd, diflana bywyd.' Mae yn amlwg oddiwrth y dyfyniad uchod, fod Thalamus yn confoundo tan a gwres. Mae gwres gyda phob tan; oud ceir gwres yn ami ^e nad oes tan. Er enghraifft, ceir gwres mewn dillad o lin a gwlan; ond nid oes neb yn ddigon ifol i ddweyd fod tan ynddynt. Beth yw gwres ? Gwres yw can- lyniad naturiol ac uniongyrchol symudiad neillduol yn mysg y gronynau a gyfansodd- ant unrhyw wrthddrych, yr hwn, weithiau, a elwir yn symndiad cydnerthymodol (inter- dynamical movement). Beth yw tan ? Nid wyf yn gwybod am un darnodiad gwyddorol o hono; ond feallai na chyfeiliorem pe dywedwn ei fod yn rhywbeth a gynnyrchir gan symudiad cydnerthymodol helaethach a grymusach na'r hwn sydd yn hanfodol i gyn- nyrebu gwres yn unig. Yn y corff dynol, y mae rhan o'r bwyd yn cael ei dreulio, fel ag i gynnyrchu gwres. Ond nid oes neb yn galw y gwres hwnw yn din, am nad yw ei dym- heredd yn ddigon uchel i gyfateb i'n syniad ni am dan. Mae haiarn wrth rydu yn myned trwy yr un process a glo wrth losgi; ond ni ellir dweyd fod tan yna, am y rheswm syml na chynnyrchir goleu a gwres. Y mae y process yn cael ei gario yn mlaen mewn tym- heredd ry isel i gyfiawnhau yr enw tan arno. Oddiwrth yr ystyriaethau hyn, gwelwn ei bod yn rhaid i gyrff losgi mewn tymheredd uchel cyn y gellir eu galw yn dan. Dyma lie mae Thalamus yn eyfeiliorni. Pe dywedai fod gwres yn hanfodol i fywyd, ni fyddai genym ddim i'w ddweyd yn ei erbyn; ond y mae dweyd fod tan yn hanfodol iddo, yn ynfyd- rwydd o'r mwyaf. Llosgi bywyd wna tan, tra y mae dwfr a gwres yn ei faethu, ac yn ei harddu. Fe wela y brawd yn awr, neu, o leiaf, fe ddylai weled, mai nid tan yw glo; ond y gellir gwneyd tan o lo. Os ydyw am gael gweled pa un yw y mwyaf dinystriol, ai tan ynte dwr, tafled rosyn byw i'r dwfr, ac wedi hyny i'r tan neu, os yw am brawf mwy effeithiol, doded ei fys yn gyntaf yn y dwfr, ao wedi hyny yn y tan. Y mae yn amlwg bellach, debygwyf, nad oes dim cydymdeim- lad rhwng bywyd a than. Am y rheswm hwn, y mae y meddylddrych o gael ei losgi yn rhwym o fod yn shocking i bob dyn ystyriol. Yr wyf yn ddigon call i wybod nad all hyd y nod y tan ddinystrio cyn- ddefnyddiau corff yr adgyfodiad; ond pe gwybyddwn fy mod i gael fy llosgi ar ol i mi farw, byddai i mi deimlo yn awr yn gyffelyb i'r modd y teimlwn pe Uosgid fi yn fyw. Cymmaint yw y-gwrthwynebedd a deimlaf at y drefn o wneyd ymaith a'r marw trwy dan, fel nas gallaf ei goddef. Feallai na ddylid edrych. dros ben sydynrwydd gweithrediad tan ar y corf fmarwol. Nid oes neb yn caru i'r cyssylltiad rhwng yr ysbryd a'r corff gael' ei dori yn ddisymmwth; ac nid wyf yn meddwl ychwaith y carai un meddwl ystyriol! i'r corff gael ei dynu i lawr i ddyrnaid o lwch gwyn mewn ychydig fynydau. Na hyny, gwell genym fyddai iddo gael dadfeilio yn raddol yn y pridd yn 01 trefn Duw. Hyderwyf, gan hyny, na losgir teml ein cyrff fel teml Diana mewn noswaith. (1' w barhau). Tyddewi. H. HARRIES. o—-—
CYMMANFA YSGOLION DOSPARTH…
CYMMANFA YSGOLION DOSPARTH ST. CLEARS. Cynnaliwyd pwyllgor y gymmanfa uchod yn vestry room Seion, St. Clears, Llun y Pasc, am 5 o'r gloch, pryd y penderfynwyd :— 1. Fod y gymmanfa nesaf i'w chynnal yn Seion, St. Clears, ar y Llun cyntaf yn Mehefin: cyfarfod y boreu i ddechreu am 9.30.; cyfarfod y prydnawn am 2. 2. Ein bod yn taer ddymuno ar ysgolion Bwlchnewydd a Llanstephan i ymuno i'r gymmanfa eleni. 3. Fod yr ysgolion i fyned drwy eu gwaith yn y drefn ganlynol:—Boreu, Plashed, Ebenezer, a Llanstephan. Prydnawn Seion, St. Claers, a Bwlchnewydd. 4. Fod y tonau canlynol o Lawlyfr Moliant i gael eu canu ar ddechreu y cyfar- fodydd, sef Huddersneld' a Llangoedmor.' Hyderwn yr ymgynnulla y gwahanol ysgolion yn gryno, fel y byddo i ni gael gymmanfa luosog a dymunol. R. H. JONES, Ysg. pro tem. MoniAH, BiscA. —Gwener y Groglith, cynnaliodd yr eglwys uohod ei gwyl de flynyddol. Gwasan- aethwyd wrth y byrddau gan y boneddigesau canlynol:—Mrs Baker, Misses M. a M. A. Giles, Ty Mawr, M. Davies, M. A. Morgans, A. Estter, Mary Williams, M. Prothsoe, aMra Knight. Yn yr hwyr, cynnaliwyd oyngherdd ardderchog, pryd y gwasanaethwyd gan amryw e gantorion y lie. Oymmerwyd y gadair gan Mr E. Thomas, y gweinidog. Cafwyd un o'r eyfarfod- ydd m^yaf hapns j buom ynddo erioed. Cafwyd a&erchiad barddonol kefyd gan y ffraethebydd Gwilym Bassaleg. Da genym weled eglwys Motiak yn gwiffgo agwedd mor lwyrohue.