Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

DYDD GWYL DEWI YN Y PENRHYN.

News
Cite
Share

DYDD GWYL DEWI YN Y PENRHYN. Nid ydym ni fel Cymry yn cael ein medd- iannu a'r dwymyn ymfudol. Mae trigolion Gwalia, fel ei geifr a'i defaid, yn hoffi ei mynyddoedd a'i hawyr iach. Eu hiaith ydyw, gwiad rydd a mynydd i mi.' Buasai yn dda gan lawer teulu sydd wedi ymfudo pe buasent wedi ymfudo yn gynt. Dylasem, fel cenedl, fod wedi dihuno yn gynt, a chodi ein hwyl- iau, a glanio inewn hafa.n ddymunol un o'r British Colonies. Mae miloedd trigolion Prydain wedi mabwysiadu y Colonies yn gartref iddynt; ac erbyn heddyw, maent yn alluoedd pwysig, ac yn dechreu dadleu eu hawliau fel deiliaid Prydain, gan geisio cael eu cynnrychioli yn ein Senedd Amherodrol ar loriau St. Stephen. Mae plant y Colonies yn hynod o loyal; rhaid cadw pen blwydd y Frenines, Tywysog Cymru, ac ereill o'r Teulu Breninol. Cauir y stores a'r swyddfeydd ar y dyddiau ytaa; ac mor wladgarol y mae gwahanollwythau a'u gwyliau Y Gwyddel a'i St. Patrick, yr Ysgotyn a'i St Andrew, ac nid y llesgif yn mhlith y llwythau yr oeddem ni, tel Cymry, yn Port Elizabeth, Penrhyn Gobaith Da. Yr oedd y cyntaf o Fawrth yn dod a Dydd Gwyl Dewi i ni; ac er na wnawd parotoadau digonol i gynnal y dydd, ym- gasglodd nifer luosog i'r Imperial Hotel, wedi eu harwisgo a'r genirien, a iaith Gomer rhwng eu gwefusau, gan ymgomio am Gymru Fa, a'r hen amser gynt. Am wyth o'r gloch, canwyd y gloch, ac aethom i'r wledd, sef swper ardderchog, wedi ei pharotoi gan S. D. Bairstow, y naturiaethwr enwog, Y mae ei wraig yn Gymraes, o gymmydog- aeth Abertawe. Yn ystod y giniaw, difyrwyd ni ar y delyn gan Sterling Jones. Ar ol clirio ,y byrddau, etholwyd Mr C. Clarke, is-lywydd *y rheilffordd, i'r gadair. Wedi cael alaw Gymreig ar y delyn, cynnygiodd y cadeirydd lwncdestun 'Y Frenines,' ac unwyd yn nghyd- gan Gwyr Harlech,' can Y Gwenith Gwyn,' I gan O. Rowbotham. Llwncdestun Tywysog Cymru.' Cydgan, 'Ar Dywysog Gwlad y Bryniau.' Alawon Uymreig gan n. u. Llewelyn a J. Morgan. Mr B. Rowbotham, mewn araeth fer a gwresog, a gynnygiodd llwncdestun 'Cymru,' ac atebwyd ef gan gydgan Gymreig, Ar hyd y nos,' ar y delyn, gan ein telynor. Ton Saesnig. Union Jack,' gan y cadeirydd. Llwncdestun, Cyfeillion absenol.' Galwyd ar Harri Eben Evans i ateb mewn araeth Gymraeg, nes oedd y cyfar- fod mewn hwyl, a phawb yn chwifio ei geninen.' Ar gais y cadeirydd, dywedodd air neu ddau am hawliau a rhagoriaeth merched Cymru, yr hyn a dderbyniwyd gyda chymmeradwyaeth. H. P. Thomas, gynt o Towyn, a adroddodd amryw ddarnau Cym- reig. Yr oedd swn englyn gyda y delyn, a chan, yn dderbyniol dros ben. Ar ddiwedd yr araeth, dadganodd Hob y deri dando,' yn ol dull y Gogledd. Wedi tipyn o siarad, a dymuno gwell i'r eisteddfod, cafwyd alawon Cymreig gan amryw o'r cyfeillion, ac adrodd- wyd Dydd Gwyl Dewi, gyda dylanwad a nerth, gan Mr D. Rees, gynt o Lanelli. Cyn terfynu, canwyd Hen wlad fy nhadau,' ac aeth pob un i'w letty yn gymmaint o Gymry -ir,y erioed. Dyna i ti, ddarllenydd, y modd y treuliasom ein Dydd Gwyl Dewi. Yr oeddem yn Nghymru yn yr ysbryd. Bwriadwn gael i gwledd Gymreig pan y daw llywydd ein cymdeithas Gymreig yn ol oddiar Gyfandir Ewrop. Mae ef, erbyn hyn, yn aelod o Senedd y Penrhyn. Mae yn parhau yn amser tlawd yma-dim argoel gwell. Mae lluoedd yn ymadael am Awstralia, ac ereill yn dychwelyd i'r hen wlad., "\f,l' i •. .J:. HARRI EBEN. -0-

BETHANIA, RESOLYEN, CWMNEDD.

.EMPORIA, KANSAS.

.LLITH 0 LUNDAIN.

CYMMANFA BRYCHEINIOG.

ATHROFA PONTYPOOL.

[No title]

EFAIL Y GOF.