Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

* CYFARCHIAD AT FEDYDDWYR…

News
Cite
Share

CYFARCHIAD AT FEDYDDWYR CYMRU. ANWYL GYFEILLION,- Yr wyf yn anturio eich cyfarch ag ychydig lmellau unwaith etto, am beth s ,dd yn ymddangos i mi yn fater o bwys mawr, Rhaid cyd- nabod fod pethau gogoneddus yn cael eu dwyn yn mlaen yn yr oes hon; ond y mae dynion difrifol a goleuedig yn rhwym o gyfaddef gyda galar ei bod, ar lawer ystyriaeth, yn oes f: mpwyol a pheryglus. Rhedfa niweidiol yr oes bon yw cymmeryd mynegiadau llyfr yr Arglwydd yn rhy ysgafn a dibwys. Y mae rhy fychan o wabaniaeth yn cael ei wneyd rhwng gwir- ienedd a chyfeiliornad. Mor wahanol yw llawer o Fedyddwyr Cymru yn yr oes dawel hon, rhagor na'r hen Fedyddwyr yn y ddau ganrif flaenorol. Gwyr y rhai sydd ychydig yn gyfarwydd a'u hanes mor selog oeddynt i gredu a gweithredu yn ol eithaf eu gallu yn unol k gair Duw. Nid oes un blaid ar wyneb y ddaear wedi oael mwy o greulonderau nag a gafodd miloedd o honynt hwy. Fe fyddai ymgyfarwyddo mwy A'u hanes yn lies mawr yn yr oes lygredig hon. Cymmerais yn fy meddwl ychydig o amser yn 01 i roddi darlleniadlled fanwl ar bump llyfr Mouses, a chefais gryn' lawer o addysg wrth wneyd byny. Un peth neill- duol a ganfyddais ynddynt yw, fod yr Arglwydd ddegau o weithiau yn rhoddi y pwys mwyaf ar wneyd pob peth gyda manylwch yn ol y gorchymynion a'r deddfau a roesai ef iddynt- Y mae yr egwyddor hon yn cael ei dilyn o ddechreu y Beibl hyd ei ddiwedd. Wrth derfynu yr Hen Destament, pan nad oedd cenadwr ysbrydoledig i gael ei anfon atynt am 400 miynedd, y cyfarwyddyd a rydd yr Ar- glwydd iddynt am yr yspaid hwnw yw, Cotiwch gyfraith Moses, fy ngwas, yr hon a orchymynais iddo el' yn Horeb, i holl Israel, y deddfau a'r barnedigaetbau.' Un or pethau diweddaf a roddes Mab Duw i'w apostolion oedd, rhoddi siar's bwysig arnynt i ddysgu y dysgyblion bedyddiedig i gadw pob peth ar a orchymynasai efe iddynt (Math 28. 20). A fedrwn ni, yn y dyddiau tawel hyn, feddwl am wroldeb a dyoddef- iadau ein hen dadau amser yn ol, a dilyn mympwyon anysgrythyrol ? A gawn ni yn yr oes hon laesu dwylaw, a bod yn ddiofal, na ato Duw. Y peth neillduol sydd genyf ynhyn o ysgrif yw cymhell Bedydd wyr Cymru i wneyd ymchwiliad gonest, A ydyw yn beth unol a gair yr Arglwydd i ferched fyned allan i b egethu yn gyhoeddus, fel y mae amryw o honynt yn gwneyd yn y dyddiau hyn ? Os ydyw yn beth unol a'r Beibl, fe ddylid e i cefuogi; ond os nad ydyw, oui ddylem wneyd cydwybod i roddi attalfa arnynt P Ond attolwg, yn mha le yn y Beibl y mae neb yn cael cefnogaeth ysgrythyrol i wneyd hyn? A oes rhyw beth yn rhyw le yn un o'r pedwar efengyl- wr yn sail i wneyl hyn? Os na cheir dim gau Matthew, Marc, Luc, neu loan, a fedr rbyw un gael rhyw sail yn hanes yr apostolion yn llyfr yr Actau y gellir seilio hyn arno ? A ail rbai 0 honoch gael rhyw beth yn banes Cristionogion y ddau ganrif gyntaf, fod y fath beth mewn ymarferiad a chymmeradwyaeth yn eu mysg hwy? Byddai yn neiliduol o dda genyf pe byddai ein cymmanfaoedd eleni yn cymmeryd y peth yn ddifrifol i'w hystyriaeth. Anwyl gyfeillion, na feddyl- iwch fod genyf un amcan i godi cynhen na therfysg; yr wyf wtdi cyrhaedd yn rhy agos i ben fy nhaith i dreulio fy amser i beth mor annheilwng a hyny. Oni bai fod hyn yn beth pwysig ar fy meddw], ni buaswn yn ysgrifenu llinell yn ei gylch. Bydded i'n holl eglwysi chwi io mater yu onestynngwyneb y Beibl. 0 m rhan fy huu, nl phetrusaf gydnabod, ar 01 cryn ymchwiliad, mai peth afresymol ac an- ysgrythyrol yw i fercbed fyned allan i bregethu yn gyboeddus uwchben torf gymmysg o feibion a mere bed. Yr wyf we i darlien lluaws o esbonwyr dysgedig ar y Testament Newydd; megys Dr Gill, Dr Dodderidge, Dr Macknight, Dr Hodge, Albert Barnes, Fawcett a Brown, yn nghyd a lluaws ereill, y rhai sydd yn golygu bod gwaharddiadau pendant mewn amryw fanau yn y Testament Newydd i ferched i bregethu. Y mae yn syndod aruthrol i mi fod neb sydd yn darlien y Beibl yn ofalus yn syniad dim yn wahauol; ond nid oes eisieu pinio ein crefydd wrth lawes un gwr dysgedig—y Beibl yw y rheol. Os oes rhai o n rnerched doniol, neu ryw weinidog dysgedig, yn bar u fod yr holl esbonwyr a r holl haneswyr Eglwysig wedi cyfeiliorni, a fydd un o honyut mor garedig a dyfod allan yn ysbryd yr efengyl, o dan ei enw priodol, i fynegu pa resymau sydd ganddo er gwrtbwynebu eu barn benderfynol hwy ? Os wyf fi yn cyfeiliorni, bydd yn bleser genyf gydnabod fy mai, os gellir fy argyhoeddi. Ond byddai yn burion i'r cytryw gofio yr hen ddiareb, I Nid ag us y delir hen adar.' Bydded i ni, yn y deheu a'r gogledd, chwilio y mater mewn ysbryd cariad a gonestrwydd. Gweddiwn hefyd am gyfar wyddyd Ysbryd Duw, fel y delom i gydweled ar fater a aliai greu cynhenau. Os cawn ni weled yn n oleu yr Ysbryd, ui a gawn weled lygad yu ilygad, a yweled yu lIygad ein lie Caniataed yr Arglwydd, yn ei drugaredd, i ni gael hyn, yr hyn yw dymuniad calon, Yr eiddoch yn frawdol, Llanllyfni. R. JONES.

EFAIL Y GOF.