Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

--+-EGLWYS GENEDL AETHOIi.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

--+- EGLWYS GENEDL AETHOIi. GAN Y PARCH. D JAMES, TABOR, DYFED. Ac at angel eglwys y Laodiceaid."—Dat. iii. 14. ARWEINIA y frawddeg hon ein sylw at eglwys. Rhan yw y frawddeg o'r llythyr at un o'r saith eglwys oedd yn Asia Leiaf yn moreuddydd Cristionogaeth, sef eglwys y Laodiceaid. Awdwr y llythyr oedd Crist. Cludydd y llythyr oedd yr Ysbryd. Derbynydd y llythyr oedd angel yr eglwys; a pherchenog y llythyr oedd yr eglwys ei hun. Yr oedd yr eglwysi dan sylw yn amtywio Uawcr. Rhai o honynt yn well na'u gilydd. Y goreu o honynt oedd yr eglwys yn Philadelphia, a'r gwaethaf oedd eglwys y Laodiceaid. Mae amrywiol fathau o eglwysi yn bod etto, neu, yn hytrach, yn cael eu galw felly; megys, yr Eglwys Gristionogol, yr Eglwys Babaidd, yr Eglwys Roegaidd, yr Eglwys Luther- aidd, yr Eglwys Biotestanaidd, Eglwys Loegr, Eglwys Genedlaethol, &c. Arweinia y frawddeg uchod ein sylw at Eglwys Genedlaethol.—Mae'r modd y mae Crist yn cyfarch yr eglwys olaf hon yn wahanol iawn i'r hyn y mae yn cyfarch yr eglwysi blaenaf. (ieilw hi yn eglwys y Laodiceaid. Pan yn cyfarch y chwech eglwys flaenaf, dywed,' Yr eglwys sydd yn Ephesus,' 'yr eglwys sydd yn Smyrna,' yr eglwys sydd yn Pergamus,' yr eglwys sydd yn Thyatira,' 'yr eglwys sydd yn Sa dis,' a yr eglwys sydd yn Philadelphia;' ond pan y mae Efe yn cyfarch yr olaf, dywed, 'eglwys y Laodiceaid.' Bu unwaith yn eglwys yn Laodicea ond yn awr y mae yn eglwys y Laodiceaid.' Mae yn eglwys cyfan^orff y bobl. Mae yr oil o'r Laodice aid yn aelodau ynddi; babauod a phlaut, gwyr ieuainc a henafgwyr, drwg a da, duwiol ac annuwiol. Hwynthwy oeld ei pherchenogion hi. Y bobl oil a'i piau hi. Fel y cvfryw, yr oedd ganddyut hawl i w llywodraethu, a gwneyd fel y mynent a hi. JNid yw Crist yn ei harddel. Geilw hi yn eglwys y Laodiceaid.' Pan oedd hi yn eglwys yn Laodicea, yr oedd Crist yn ben arni; a chymmerai ei llywodraethu fel y mynai Efe y pryd hwnw. Ond yn awr, eglwys y Laodiceaid' yw hi Sut yr aeth hi fel hyn ? Ymwrthod a Christ fel ei phen wnaeth hi. Ysgymmunodd ef. Di- atlododd ef. Diarddelodd ef. Gyrodd ef aUan o honi, dros y trothwy, trwy y drws, a chauodd y drws ar ei ol, a chlywch ef oddiallan yn dweyd, Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws, ac yn curo.' Estron yw efe iddi yn awr. Nid yw hi yn ei arddel ef, nac yntau yn ei barddel hi. Mae wedi cymmeryd y llywodraeth yn ei Uaw ei hunan. Ond er mor anugharedig y mae wedi ymddwyn tuag ato, y mae Efe yn ewyllysio dychwelyd: mae yn sefyll wrth y drws ac yn euro. Ac yn ychwanegol at hyn, anfona lythyr at;, a'r address sydd arno yw, 'At eglwys y Laodiceaid,' Beth fu ycanlyuiadau o'i hym wrth odiad a Christ-ei yru allau trwy y drws, a myned yn ben ami ei hunan ? 1. Myned yn eglwys hunanol —Dywedai, 'Mi a gyfoethogais Ymttrostiai yn ei chyfoeth mewn caulyniad i droi allan yr Hollgyfoethog! Gallasai fod yn ym~ llrostio yn ei chyfoeth arianol. jN id rhyfedd, os oedd wedi trethu pawb, a gorfodi pawb i dalu at ei chynnal, bodd neu anfodd, fod thrysorfa mewn canlyniad yn llawn, fel y dywedai, 'Mi a g foethogais' | Eglwys cyfangorff y bobl oedd hi; ac ai i anmhriodo oedd i bawb gael eu rhwymo i1 gyfranu at ei chynnal ? Gallasai fod yn ymtfrostio yn ei gwybodaeth. Dywedai, Gyda ni y mae agoriad gwybodaeth gyda ni y mae trysorau doethineb; nid yw pawb ereill ond anwybodusion a rtyliaid yn gym. barol i ni. Yr ydym ni weai cael pob maut.tis i yfed yn helaeth o ffynnonau gwybodaeth, fel yr ydym yn sefyll yn uwch o'n h s wyddau mewn dysg na phawb ereiH. Gallasai fod yn ymffrostio yn ei santeiddrwydd, gan ddywedyd wrth arall, Saf ar dy ben oy hun: na uesa ataf fi; canys santeiddiach ydwyf na thydi. Y rhai hyn sydd fwg yn fy ffroenau, tan yn Ilosgi ar hyd y dydd.' Gyda mi y mae purdeb, santeiddrwydd, a chyssegredigrwydd. Diolcha am nad yw fel y mae dynion ereill. Gallasai fod yn ymffrostio yn ei haddurn- iailau,-ei gwisgoedd heirdd, ei defodau amrywiol, a'i hallanolion swynol. Mae genyf feitrau drudfawr, phylacterau llydain, a gwisgoedd symudliw. k Mi a gyfoethogais.' Ond dywedyd anwiredd oedd hi; canys y mae Crist yn dywedyd wrthi tuallan i'r drws, I Yr wyt yn dlawd, beb gyfoeth yn ddall, heb wybodaeth yn druan, heb santeiddrwydd; ac yn resynol, heb addurniadau.' 2. Mynod yn eglwys ImnanymdMHtdol. Ac nid oes arnaf eisieu dim.'—Md oes amaf eisieu Crist fel pen. Bu arnaf eisieu cael ei ddiarddelu, a'i droi allan dros y trothwy. Cefais hyny, a chauais y drws ar ei ol. Cefais ben ynof fy hun i'm llyw- odraethu. Hwn fydd yn I amddiffynydd y ffydd' i mi o hyn allan. Mae efe yn anffaeledig.' Galwaf ef yn I Rasusaf Ben.' beth,byriag fyddo ei ryvv a'i oedran. Gwnaf hi yn rhagorol mwy. Ymostyngaf iddo, a gweddiaf drosto, a gwae yr hwn a ymddyi^o fel arall. Nid oes arnaf eisieu canlynwyr Crist i'm gwasanaethu. Gallaf fforddio bod heb eu gwasanaeth, a gweU genyf hyny. Nid ydynt yn pertbyn i'r I olyiiiaeth apostolaidd' fel fi, ac. felly yn annghymmhwys i wasanaethu yn fy addol- iadau gorwych I. Heblaw hynyna, y maeut yn rhy scMsmaticaidd, yn rhy hereticaidd, yn rhy radicalaidd, ac yn rhy Bradlaughaidd, i ddyfod tufewn fy magwyr- ydd santaidd, a fy mangre gvssegredig I. Nid oes arnaf eisieu dim o'u ffafraw na'u gweniadau. Mie genyf ddigon o'r dreth, digon o'r degwm, digon o'r cymmun- roddion, digon o'r glebelandg a'r livings cyfoethog, fel nad wyf yn hidio dim am eu gwen yn fwy na'u gwg, eu parch yn fwy na'u hanmharch. 4 Mi a g foethogais, ac nid oes arnaf eisieu dim.' Ond dywedyd anwiredd oedd hi; canys y mae Crist yn dywedyd wrthi tuallan i'r drws, fod eisieu liatter arni: fod eisieu arni brynu ganddo aur wedi ei buro trwy dan, dillad gwynion i guddio gwarth ei noethder, ac eli llygaid fel y gwelai. f 3. Myned yn eglwys ormesol.-Pan mae y dwyfol fel pen yr eglwys yn cael ei droi allau o honi, a'r dgnol yn cael ei osod yn ben arni yn ei le, a h wnw yn hnnanol a hunanymddiriedol, cyssylltir crefydd a'r dynoi; gwneir cyfreithiau dynol i'r eglwys; a'r canlyn ad fyd i ormes ddyfod i fewn iddi fel afon. Gormesir ar hawliau dynion i farnu yn grefyddol drostynt eu bunain. Yna nid rhydd i bob dyn ei farn, ac i bob barn ei llafar.' Gorfodir dynion i dderbyn barn arall; cyffesu eu bod yn cretlu cyffes ffydd dyn arall, ac yn yr ystyr hyn, am- ddifedir hwy o hawl i farnu drostynt eu hunain yn eu perthynas â Duw. Gwneir articiau crefyddol, wrth ba rai y cyssylltir awdurdod wladol; a phwy bynag ni chyfaddefo ei fod yneu credu, dywedir mai heretic ac eglwys-rwygwr ydyw cyhoeddir anathema uwch ei ben. Gormesir ar hawliau dynion i ddewis yn grefyddol drostynt eu hunain. Mae dyn yn rhydd- ewyUysiwr, ac yn neillduol felly mewn ystyr grefyddol. Eglwys & Christ yn ben arni sydd wedi ei galw ganddo i ryddid. Caiff edrych ynddi ei hun am seithwyr da eu gair; am esgobion, gweinidogion, a diaconiaid. Caiff hawl i gario allan ffurf- lywodraeth eglwysig, a gweinyddu, I dySijblaeth eglwysig ynddi ei hun. Ond lie y mae dyn yn ben ar yr eglwys, a llywodraeth wladol wedi ei cbyssylltu a hi, rboddir hawl yn y goron, y Prif-weinidog, a noddwyr ereill, beth bynag fyddo eu credo grefyddol, a'u cymmeriadau moesol, i ddewis archesgobioti, esgobion, deoniaid, a gweinidogion. Gorfodir y bobl eu derbyn, a thalu am eu cynnal, pan mae y rhan luosocaf o lawer o honynt heb gael dim o u haddysg grefyddol, nac yn dewis ei chael, ac yn cyfranu yn wirfoddol at gynnal eu crefydd eu hunain, a'u gweinidogion d wis- edig. Caitf yr eglwys y mae Crist yn ben arni befyd lywodraethu ei hun, beb augen r myned i lys gwladol, nac appelio at aelodau Seneddol mewn unrhyw amgylchiad dyrys. Gormesir ar hawliau dynion i weithredu yn grefyddol drostynt eu hunain. Bu cyfnod yn ein gwlad ni, pan yr attelid Annghydffurf- wyr i addoli Duw yn ol argyhoeddiad eu cydwybodau, yn y lie, yn y modd, ac ar y pryd y dymunent. Ac os beiddient wneyd, amddifedid hwy o fanteision gwladwriaethol, dirwyid hwy, cymmerid ymaith eu medd- iannau, carcherid hwy, a merthyrid hwy yn y modd mwyaf truenus a thorcalonus. Miloedd a ddyoddefasant yn y wlad hon yn yr ystyr hyn. Ond trwy drugaredd, aeth y pethau hyny heibio; ond ytnae gormes yn aros i raddau gormodol. Cael eu goddef i grefydda y mae Annghydffurfwyr. Mae hyn yn dda ond gwell yw rhyddid; eithr ni cheir ef yn ei lawn ystyr, hyd nes y ceir Crist yn unig ben yr eglwys, a chyssylltiad rhwng eglwya a gwladwriaeth wedi ei ddattod. Mae gormes, i raddau mwy neu lai, o angenrheidrwydd, i aros hyd hyny. 4. Myned yn eglwys nad yw yn gwrando ar l&is Grist.—Ni fuasai efeyn aros mynyd tuallan i'r drws, nac yn curo ond unwaith, pe buasai hi yn gwrando; ond gan ei fod yn sefyll ar ol sefyll, a churo ar ol curo, rhaid yw, nad yw yn gwrando arno. Naturiol yw gofyn, paham nad yw yn gwrando? Efallai mai cysgu y mae. Gall dyn guro wrth ddrws y ty heb fod y teulu oddifewn yn ei glywed. am eu bod yn cysgu. Yr oedd eglwys y Laodi- ceaid wedi myned i gysgu, ac yn ddifater o barthed i'w gwaith. Gorweddai yn glaiar yn y gwely, mewn oyflwr truenus a gresynol, tra yr oedd yr eglwysi ereill, yn neillduol yr hon oedd yn Philadelphia, yn effro, ar ei thraed, ao yn wresog a gweithgar. Yr oedd Crist tu- fewn i ddrws yr eglwys yn Philadelphia, acyn cael gwrandawiad arno ond yr oedd tuallan i ddrws eglwys y Laodiceaid, yr hon nid yw yn gwrando arno, am ei bod yn cysgu. Efallai mai gormod o derfysg sydd ynddi. Us bydd terfysg ao ystwr yn y ty, nid hawdd yw clywed yr hwn sydd yn ouro tuallan i'r drws. Eglwys sydd a Christ ynddi, ac yn ben arni, sydd eglwys dangnefeddus a heddychlon; gan hyny, yn eglwys ag y mae ynddi dawelwch mawr,' fel y gall glywed ei lids dystaw main' ef; ac y mae yn ei glywed, ao yn ufyddhau iddo. Ond lie nad yw efe yn ben, ceir yr hyn a elwir yn Low Church, High Church, a Middle Church; rhai yn ddefodol, ac ereill yn ysbrydol; rhai dros ffarflau, ac ereill yn eu herbyn. Cwerylant gilydd, a dygant eu gilydd i lysoedd cyf- reithiol i geigio penderfynu eu hymrafaelion, lie y oedwir llawer o ystwr, ïe, gormod i wrando ar lais Crist. Efallai mai anfoddlon iddo ddyfod i mewn y mae. Gall dyn guro wrth ddrws y ty heb gael agoriad, am fod y rhai sydd oddifewn yn anewyllysgar i agor iddo. Gwell ganddynt ei gadw allan. Gan mai gwell gan eglwys y Laodioeaid oedd troi Crist allan, a chau y drws ar ei ol; gwell hefyd oedd ganddi ei gadw allan, a pheidio agor y drws iddo. Gwyddai, pe y deuai i fewn, na ohawsai wneyd fel y mynai, y byddai yn rhaid iddi roddi y llywodraeth yn hollol yn ei law ef, yr hyn nid oedd yn earn wneyd; gan hyny, gwrthodai wrando ar ei lais, ac agor iddo. Mae Crist yn curo wrth y drws y dyddiau hyn. Mae rhai oddifewn am agor idclo, ao y mae rhai oddiallan hefyd am agor iddo; ond y mae dosparth arall yn gyn- ddeiriog o anfoddlon, ac yn dweyd, 'Nid agorir y drws.' Gwneir,' medd ereill, ac y maent yn nesu ato bob dydd oddifewn ac oddiallan, gan ddweyd, Agorwch y pyrth.' Gallasai Crist ei agor ei hunan heb help neb; ond gofyna am gymhorth ereill. 'Curo' y mae efe, gan ddysgwyl i ddynion agor. Pe agorent, gwnaethent yn gall iawn, a diolch- ent lawer yn ol Haw. Y fendith f wyaf fyddai ei weled ef oddifewn. Gwleddoedd breision a fwynheid mewn canlyniad i'w ddyfodiad; canys dywed, 'Os elyw neb fy llais I, ac agoryd y drws, mi a ddeuaf i mewn ato ef, ac a swperaf gydag ef, ac yntau gyda minnau.'

YR EGLWYS SEFYDLEDIG A'I HAM-DDIFFYNWYR.