Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

. HANESYDDIAETH A DAEARYDD.…

News
Cite
Share

HANESYDDIAETH A DAEARYDD- TAETH HYNAFOL. cor> 1 & AX J. M. OWEN, ATHROFA HWLFFORDD. LLYTHYR II.—YR AIFFT. MAE lianes dechreuad breniniaeth yr Aifft "Wedi ei golli, neu, yn hytrach, wedi ei alllguddio gyda ffugchwedlau ond mae hanesyddwyr wedi profi mai Menes, yr hwn a elwir yn v Beibl Misraim, oedd brenin, cyntaf yr Aifft, a sefydlydd y deyrnas. Ar ol marw Menes, dywed traddodiadau yr Aifltiaid mai duwiau oeddynt eu breninoedd; ar ol iddynt hwy orphan eu llinach mai tanner-duwiau (demi-gods) a'u dilynasant yn y. freniniaeth; ond yn awr, mae darganfydd- iadau yn cymmeryd lie, y rhai ydynt yn SWasgaru'r niwl ffugchwedlog oedd yn am. Uylchynu boreuddydd yr Aifft. OT brenin nesaf y cawn hanes credadwy am dano oedd BUSIRIS. Teyrnasodd Busiris oesoedd ar ol marwolaeth Menes. Efe adeiladodd dtlinas Thebes, ac a symudodd yno eisteddle y llywodraeth. Ar ol marwol* #fcth Busiris, teyrnasodd OSYMANDRYAs.-Adeiladodd y brenin hwn lawer o drefydd, dinasoedd caerog, a phalaa- teyrnasodd yn Thebes am tua 25 mlynedd. Croesodd Osymandryas drosodd i Asia gyda 400,000 o wyr traed, ac 20,000 o wyr meirch, a -gorchfygod& yr Arabiaid, a Hawer o gen- «dloedd ereill. Yr oedd yr Aifftiaid mor fotfe a hyn wedi rhanu'r flwyddyn i ddeuddeg mis o ddeng niwrnod ar hugain yr un, ac yr Oeddynt yn ychwanegu pum niwrnod ar ddiwedd y flwyddyn. UCHOREUS oedd y brenin nesaf. Efe a adeiladodd ddinas Memphis, yn agos i'r man lIe mae Grand Cairo yn sefyll yn bresenol, ae deyrnasodd yno am dros 40 mlynedd. Bu Memphis yn brif ddinas yr Aifft hyd ddydd- 1au Alexander Fawr, yr hwn a adeiladodd .Alexandria yn agos i'r mor, ac a'i gwnaeth yr un pryd yn borthladd ac yn brif ddinas. Memphis mewn bri mawr yn amser Sesostris, yr hwn ddygodd yno yspail teyrn- asodd a charcharorion; felly daeth Memphis 5^ dngle pobl o bob gwlad. Ar ol marw Vehoreus, cawn mai MOERIS oedd yr hwn a'i dilynodd yn y Gwnaeth y brenin hwn lyn yr hwn a elwid Llyn Moeris. Yr aracan oedd gan Moeris mewn llaw pan v 'hnaeth v llyn oedd, i ddyfrhau y tiroedd ?r ol i'r afon gilio: gan hyny, gwnaeth y llyn er cadw y dyfroedd a ddeuent gyda'r i ddyfrhau y tiroedd yn y sychder mawr. 5* oedd 11 vn Moeiis yn 8,600 o ystadau yQa 150 o filltiroedd) o amgylchedd, a 300 o ^Oedfeddi o ddyfnder felly yr oedd v llyn *aferth hwn yn pynnwys 1,611 o filltiroedd ^8KWar, neu 1,031,320 o erwau. *n araser Moeris, daeth yr Arabiaid, ac « Jl&ojsodasant ar yr Aifft, ac a orchfygasant y Iisaf, yr hwn a elwir Aegyptus Infer. ?* Yrojddynt yn cael eu galw gan yr Aifftiaid yr Hycsos, neu y Bugeiliaid Bren- Etto jr oedd yr Aifft uchaf yn aros yn **yhw Moeris a'i olynwyr. Felly, parhaodd 260 6 flynyddoedd, un ran o'r wlad dan j^odraeth yr Hycsos, a'r rhan arall dan jJ^odraeth breninoedd y wlad. Ond daeth i orae id yr Aifft uchaf, yr hwn a yrodd Rycsns o'r tir, ac a deyrnasodd ar yr boll ad. Enw hwn oedd V IBKTHMOSIS. Yn nbeyrnasiad Thethmosis ti eu, fel y dywed rhai, ychydig o amser cyn 'ti "eyrnn8i»d) daeth Abraham gyda Sarah taig i'r Aiflt, o herwydd y newyn a Yc?n we!odd v brenin Sarah, efe a'i chvven- °dd, ac a'i cvmmerodd hi ar dystiolaeth Jahani mHi chwaer ydoedd a'r brenin ^laeth yn d la i Abraham er ei mwyn hi; wydd a ymwelodd a'r brenin JPalTn P^iU> a r brenin a ofynodd i Abraham arn y dywedodd mai ei chwaer ef ydoedd yrkjj11 ^r oe(3d hi yn wraig iddo, ac efe a Abraham i ffwrdd. (Gwel Genesis 12. ~*20). ^^hen llawer o flynyddoedd ar ol hyn, ^08eP^ i Potiphar gan yr Ismael- 0n(i wedi hyny, daeth Joseph yn brii i'0 yr Aifft. Mae yr hanes mor adna- by(Jdu.8 hyd y nod i bob plentyn, fel y 8,1 al]an o le i ychwanegu rh»gor arno Byddai yn fuddiol i sylwi ar yr hyn y mae Justin (haneayddwr Rhufeinig) yn ei ddweyd am Joseph:—"Wedi i'r Ismaeliaid ei ddwyn i'r Aifft, gwnaeth efe, drwy dde- winiaeth a chvwreindeb tnevrn dehohgli breuddwydion, raefynegu pro ynewyn fyddai yn y wlad lawer o flynyddoedd ar ol hyny mewn gair, yr oedd ei atebion nid megvs dyn, ond megys duw." (Justin, 11} fr 36., pen. 2.) Yna yr aeth Jacob i lawr i'r Aifft, yn nghyd a'i deulu, a thrigodd yn ngwlad Goshen, ac yno y bu farw, gan addoli a'i bwys ar ben ei ffon." Yna cyfododd brenin newydd yn yr Aifft, yr hwn ni adnabuasai mo Joseph, medd yr Yssjrythyr. Enw y brenin newydd hwn. yn ol barn Archesgob Usher, oedd RAMEBES-MIAMUN. Gelwir ef Pharaoh yn y Beibl, sef enw eyffredin breninoedd yr Aifft, fel yr oedd Caesar yn enw cyffredin i freninoedd ac amherawdwyr Rhufain. Gor- thrymodd Rameses-miamum yr Israeliaid am (36 o flynyddoedd, a hwy a adeilasant iddo drysor-ddinasoedd Pithon a Ranmses. (Exod. 1. 11). Yroedd gan y brenin ddaufab, Amenophis a Busiris. AMINOPHIS, y mab hynaf, a deyrnasodd yn lie ei dad. Efe yw y Pharaoh dan yr hwn vr aeth yr Israeliaid allan o wlad yr kiTt, yr hwn a foddwyd yn y Mor Coch, os dilynwn ni farn Dr. Usher. Dywed rhai mai Sesostris, am yr hwn y cawn sylwi etto, oedd y Pharaoh, yr hwn a ortbrymodd feibion Israel; ac y mae y farn hon yn cytuno a'r hanes a rydd Diodorus Siculus am y tywvsog hwn, yr hwn ni ddefn- yddiodd yn ei holl waith neb ond dyeithriaid a chaethion yna tebygol yw mai' ei fab ef, Pheron, oedd yr hwn a foddwyd yn y -Môr Coch; a dywed Herodotus (hanesydd Groeg. aidd) mai dyn annuwiol iawn oedd Pheron, a'i fod yn gormesu y rhai oedd yn gaethion iddo. Diodotus Siculus, wrth sylw ar y M6r Coch, a ddywed, fod traddodiad wedi ei dros. glwyddo iddynt hwy am oesoedd a chenedl- aethau, fod y M6r Coch unwaith wedi cael ei sychu fyny gan drai, fel y gellid gweled y gwaelod, ae y gellid cerdded drosodd yn droedsvch. Diau mai yr amser pan aeth plant Israel drwy y Mor Coch a feddylir yma. Gadawodd Amenophis ddau fab y cyntaf, Sethothis, neu Sesostris; a'r ail, Armais. Gelwir hwynt gan y Groegiaid, Aegyptus a Danaus. l SESOSTRIS, mab hynaf Amenophis (am yr hwn y sylwasom o'r blaen) oedd un o frenin- oedd galluocaf yr Aiflt, ac ar yr un pryd yn un o'r gorchfygwyr mwyaf a fedrhynanaeth ymffrostio ynddo. Pan yn leuanc, anfonodd ei dad, Ainenophis, ef i Arabia. Gorchfygodd yr Arabiaid, ac ennillodd iddo ei hun lawer o glod; ac ar ol hvny, daeth adref. Anfonodd/ ef eilwaith i Lybia; yno goresgynodd y Lvbiaid, yn nghyd a chenedloedd ereill yn Affrica. Tra bu yn y rhyfelgyreh hwn, bu farw ei dad; a phrysurodd yntau adref, i gymmeryd gofal o'i lywodraeth. Wedi hyny ffurfiodd gynllun i orchfygu yr holl fyd (adnabyddus y pryd hwnw); ac i ddwyn yn mlaen ei amcan, dechreuodd wneyd pob peth yn dawel gartref, ac yna dechreuodd ffurfio byddin. Wedi hyny, aeth i Ethiopia (Abyssinia), gyda 600,000 o wyr traed, 27,000 o wyr meirch, a 27,000 o gerbydau. haiarn. Wedi gorchfygu yr Ethiopiaid, a threthu eu gwlad, croesodd y Mor Coch gyda 400 o longau dalparedig, a glaniodd yn Asia, a choncrodd wlad ar ol gwlad, a chenedl ar ol cenedl hyd oni ddneth at yr afon Indus. Arosodd yma am naw mis, hyd oni chai adgyfnerthia,d oddicartref. Yna croesodd yr Indus, a pharhaodd yn fuddugoliaethus tu hwnt i'r afon. Yna trodd ei wyneb tua'r gogledd; darostyngodd holl Asia ogleddol, a daeth i Ewrop; ond ni pharhaodd ei daith fuddugoliaethus yn Ewrop ddim pellach na Thrace. Dychwelodd oddiyno i'r AiSt, o herwydd prinder bwyd, neu, mae yn debyg iawn y buasai i Brydain Fawr deimlo nerth ei arfau. Estynai teyrnas Sesostris o afon y Danube yn Ewrop, i afon y Ganges yn India. Yr unig beth a wnaeth Sesostris ar ol tramWy ar hyd y ddaear am 4 mlynedd oedd, codi cofgolofnau, ac argraffu arnynt yr arysgrifen (inscription) hyn, Sesostris, brenin breninoedd, ac arglwydd arglwyddi, a cldarostyngodd y wlad hon trwy nerth ei arfau Dychwelodd i'r Aifft, gan ddwyn yspail teyrnasoedd a cltarcharorioa heb rifedi. Ar ol dychwelyd, adeiladodd lawer o demlau, a llanwodd hwynt a'r yspail. Wedi iddo deyrnasu am dros 33 o flynyddoedd, tarawyd ef a dallineb, acyna rhoddodd dertyn ar ei tywyd drwy wenvryn.

"" 'UNDEB BEDYDDWYR CY MRU.