Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

CYFARFOD GROESAWIADOL HENGOED.

News
Cite
Share

CYFARFOD GROESAWIADOL HENGOED. Ar ddydd Llun, Awst 3ydd, cynnaliwyd eyfarfod tra anarferol yn yr addoldy uchod, -Sef i longyfarch a chroesawi mewn modd cy- -hoeddus y Parch. R. Edwards, Pottsville, America, a'r Parch. J. Jenkins, Llydaw, i -ardal a gwlad eu genedigaeth. Dygwyddiad oedd eu dyfolliad yr un pryd. Agorodd y dydd yn holl ogoniant yr haf dysgleirwych hwn, He am 10 o'r gloch, dyma y cerbydresi yn arllwys eu cynnwysiad anrhydeddus, nes oedd yr ardalyddion mewn syndod, a bu yn Orchwyl anarferol i allu ysgwyd Haw a'r oil c Yn ddioedi, estynwyd y camrau i fyny tua t2heln Hengoed, 11e yr oedd tamaid wedi ei ddarparu; ac ychydig fynydau wedi lleg o'r gloch, cynnygiwyd gan Mr. LI. Jenkins, ac «iliwyd gan y Parch. J. P. Williams, Soar, fod i'r Parch. R. Williams i gymmeryd y gadair. Wedi hyn, galwodd ar y Parch. J. Lewis, Blaenau Gwent, i anerch gorsedd gras, yr hyn a wnaeth yn wir deimladwy. Dywedodd y cadeirydd, fod y cyfarfod "wedi ei gynllunio a'i alw mewn byr amser, yr oedd ychydig o gyfeillion wedi teimlo fod y boneddigion hyn yn teilyngu fnodedd arbenig, nid fel rhai hoff ac anwyl gan eu fwahanol deuluoedd a'u hardalyddion, nac efyd o herwydd eu habsenoldeb hirfaith yn eithr o herwydd eu bod yn eu gwabanol gymmeriadau cyhoeddus yn anrhydedd i'r enwad, ac i'w cenedl. Nid dynion oeddent Wedi bod mewn gwledydd tramor yn di laddio eu cenedl; eithr brodyr wedi dal eu henwau yn anrhydeddus, ac wedi gwneuthur pethau clodfawr a gwerthfawr yn eu gwahan- 01 safleoedd; fel y tybiodd yr eglwys hon Y buasai yn gymmeradwy gan Gvmru fo I parch arbenig vn cael ei dalu iddynt, o'r hyn Yr oedd y cynnulliad anrhydeddus presenol yn ddigon o brawf, yn gystal a'r llvthyrau yn mvnegu gofid o herwydd methiant i ddyfod i'r cyfarfod. Yna darllenwyd llyth- LjTau pa<chus oddiwrth y Parchn. D. Davies, P-D., Aberafon T. E. Rowlands, Caerffili D. Morgan, Blaenafon; T. E. James, Glyn Jfedd a T. Evans, Berthlwyd. Erbyn hyn yr oedd yr hen addoldy hardd yn otlawn o gynnulleidfa brydferth a sylwgar gynnulleidfa brydferth a syIwgar. Galwodd y cadeirydd ar y Parch. R A. Jones. Abertawe, i ddarllen anerchiad byr taewn ffordd o roesawiad i'r ddau ymwelydd parchedig oddiwrth y cyfarfod, yr hwn sydd felycanlvn: Fpd v cyfarfod hwn, gyda theimladau O'r mwyaf serchoglawn, yn llongyfarch eu brodyr anwyl a hoff, y Parch. John Jenkins, Llydaw, a'r Parch. Richard Edwards, Potts- ville, America, gan eu groesawi mewn modd Serchoglawn i ardal a gwlad eu genedigaeth; thrq yn diolch i Dad y trugareddau am ei ymgeledd rhagluniaethol a grasol lddynt yn eu gwahanol wledydd mabwysiedig am y Wynyddoedd lluosog terfynol, dymunallt Iddynt yn ystod eu harosiad yma bob brawd- Oldeb, cysur, a hwylusdod, fel pan ddychwel- onti wahanol feusydd eu llafur, ac at eu cydnabod, y profont yr adgyfnerthion a'r ad- ■fywiad hyny ag a darddant o ffynnonellau oydoahyddiaeth a chyfeillgarwch cristionogol, oymmydogaethol, eslwysig, cyfenwadol, a gwladol; a Duw a'i dangnef a barhao yn l'han dymhorol a thragwyddol i chwi." Wedi y darlleniad, gwnaeth Mr. Jones sylwadau priodol, yn ei ddull cariad- arferol. Canlynwyd, vn ol galwad y Cadei rydd, gan Y Parch. T. Thomas, Canton, yr hwn a ddifyrodd y c fvirfod ag adgofion, yn neill- duoi am Mr. Edwards ar ei brentisiaeth, pan cedd ond bachgenyn ieuanc, and mwyn- Ac am Mr. Jenkins, pan yn llanc yn nhy ei dad tua Llanrwst, jjyd y dygwyddodd fod yno yr un pryd (41 ?dynedd yn ol) yn llanc hetyd, y dyn nodedig «Wnw, John Williams, Rhos; ac"ynaosod- Oad fy nhad," elie fe, arnomein tri, am ein ^Hufydd-dod i Frenin Seion oblegid yr Oelidern oil yn ddigrcfydd y pryd hwnw nid bit- y buom felly wedi hyny. Y mae 11' Ilhams wedi myned adref; eithr yr ydym Wedi cael aros yn y winllan hyd heddyw. "u,olch ana ein eynnal," &c. Yna galwyd y Parch. J. Evans, Abercanaid, yr hwn a fjofiai 45 mlynedd yn ol, ac yr oedd yn a^enhau i wclod ei i'rodyr mor iach a chad- ac hefyd am fod y fath anrhydedd n cae^ iddynt, a'r goreuon "ob enwadau wedi dyfod yn nghyd i gyf- lwyno yr anrhydedd deilwng hon iddynt, yr hyn oedd yn ei foddloni ef yn fawr. Yn awr, galwodd y cadeirydd ar Mr. Edwards, yr hwn a eisteddai ar eilaw ddehau ar yr esgynlawr, ac yntau a. gyfododd, gan ymagweddu yn ei ddull gwylaidd naturiol ei hunan, a'r dorf a'i groesawai gyda churo dwylaw a thraed yn wresog. Yn ei araeth ddestlus, adroddodd adgofion ei ieuenctyd, yn enwedig mewn cyssvlltiad a'i argraffiadau crefyddol cyn 12 oed, tra ynyr ardal; oblegid pan symudwyd yr argraffdy o Faesycwmwr i Gaerdydd, aeth yntau gydag ef yno ac yno, yn y Tabernacl, y cafodd y frainto wneuthur 11awn broffes o'i Geidwad anwyl. Wedi hyn aeth i Lundain am dra; dychwelodd oddi yno i Ferthyr Tydfil; ac oddi yno, yn agos i 28 mlynedd yn ol, yr hwyliodd i wlad y Garllewin. Yr oedd yn awr yn agos 24 mlynedd er pan ddechreuodd gymmeryd rhan gyhoeddus vn mhlith ei gydgenedl yn America, ac vr oedd wedi bod yn golygu a chyhoeddi y Seren Orllewinol am 20 mlynedd; nid oblegid ei fod yn dwyn unrhyw elw i ido fel argraffydd, ond fel na buasai yr enwad heb un cyfrwng gwybodaeth ac hysbysiaeth iddynt eu hunain, tra yr oedd ereili yn meddu hyny. Yr oedd trwy hyn wedi cael y fraint o fod o wasanaeth, fel y credai, i r achos sydd yn anwyl genym oil. Yr oedd hefyd wedi cael bod o wasanaeth i'w genedl a'i frodyr mewn llawe.. o ffvrdd, gan deimlo plcser calon wrth wneuthur felly. Gallai dystio ei fod yn ddiolchgar am fod rhaglunineth wedi bod vn dirion iawn iddo ef; ac er fod ei llwybrau lawer pryd wedi eu cylchynu a chymylau, etto fod yr oil wedi cydweithio er ei ddaioni tymhorol ac ysbrydol. Am gyflwr crefydd a'r eglwysi, canfyddai luosogiad ac helaethiad mawr yn y wlad hon, ac fellv y gallai ddweyd am yr enwad yn America; ond yr hyn oedd angen arnynt fwyaf yno oedd, undeb a chyd- weithrediad. Ami v siaradent am yr hen wlad, a'r hen frodyr yn cvfeirio ati, gan ddweyd eich bod lawer yn gatlach na hwynt yma, &c, gan ymannog i efelychiad, ond hvnv yn ami yn rhy anefteitbiol. Ond yr oedd yn dra llawen ganddo ddeall fod y Dr. Price wedi penderfynu dyfod trosodd; y orawrt, credai. mwyaf ei ddylanwad A allasai ddyfod; a bydd yn orfeledd, ganddynt oil ei weled, derbyn ei gynghorion, gwrando ei hvawdledrl, ac i roddi pob groesawiad iddo. Terfynodd drwy ymwadu ei deilyngdod u'r anrhvdedd fawr a roddid iddo y dydd hwn, yr hyn oedd yn hollol annysgwvliadwy iddo ef, a diolchai yn fawr am dano. Drwg genvm fethu rhoddi ei araeth yn llawn o ddiff g gofod, eithr cafodd g\ mmerad A yaeth wresog a chariadol y cvfarfod drwyddioll. Yn gan- lynol, galwodd y cadeirydd ar y brawd a eisteddai ar ei law aswy, sef Y Parch. J Jenkins, yr hwn a dderbyniwyd gvda yr un nodau o dderbyniad gwresog. Edrychai yn brydweddol, a braidd yn dy- wysogaidd, er fod argraff gostyngeiddrwydd ar bob symudiad. Dywedai fod yr anrhyd- edd bresenol yn hollol annysgwyliadwy iddo, a'i fod yn gorfod synu at y cynnulliad an- rhydeddus ag oedd ger ei fron teimlai yn wir ddiolchgar drosto ei hun, ond yn fwyaf neillduol am ei fod yn ihoddi cyfleusdra iddo ef i osod gerbron y cyfarfod brif amcan ei ymweliad a Chymru y tro hwn. Dymunol neillduol oedd iddo ef gyfarfod ei frawd anwyl o'r America, yr hwn nid oedd wedi ei gyfarfod er ys mwy na 30 mlynedd o leiaf; ac hotfus arbenig oedd iddo gyfarfod cynmfer o'i frodyr parchus yn y weinidogaeth; diolchai i Dduw am eu cadw oil i gyfarfod Alu g lydd fel yma heddyw. Yna, aeth i mewn gv da chryn fanyldra i hanes y genadiaeth o'i dechreuad, gan osod allan ei chynnydd a'i llwyddiant tra chysson hyd ei sefyllfa galonog bresenol. Wrth wneyd hyn, sylwai, nad oedd yn hollol wrtho ei hunan yn Llydaw; ond dymunai sylwi yn bennodol fod yno genadiaeth anrhydeddus gan y Methodistiaid Cymreig, a bod Mr. Williams wedi llafur o yno am lawer o flynyddoedd; ond gan nad oedd amser vn caniatau i ymhelaethu, fod yn rhaid iddo ef y pryd hwn gyfyngu ei hun at genadiaeth yr enwad. 0nd wrth ddechreu, efe a agorai rhyw bapyrau oedd yn ei law, ac a dynai allan garden carte de-visite, ar yr hon yr oedd darlua o'r dyn bychan (Omnes), yr hwn a gafodd y gwroldeb Cristionogol o agor y drws cyntaf yn Llydaw i bregethiad yr efengyl. Aeth y garden wedi hyny o law i law trwy y gynnulleidfa, nes y cododd am- heuaeth,, a ddychwelai o'i thaith. Ar yr un garden hefyd yr oedd darlun o Mari Shan, a Mrs. Le Breton, dwy o'r chwaeriorydd cyntaf a fedyddiwyd, ac ydynt wedi daleu proffes hyd heddyw. Rhoddodd hanes fanwl am y --0" gwaith oaddysgu darllen gair Duw o dy i d^, gan y chwaeriorydd—gwaith pwysig, gwerth- fawr, a llwyddiannus, ag y mae galwad ar- benig am ei helaethu fel un o offerynau mwyaf llwyddiannus y genadiaeth. Galvrai am sylw neillduoi Cymru at hyn. Sylwodd hefvd fod rhai dynion ieuainc wedi cyf odi ag ydynt yn wir ddefnyddiol mewn ffordd o ddarllen ac egluro gair Duw; a barnai un o honynt, o Ieiat, yn un cyfaddas i gael dvsg eidiaeth gyda goiwg ar y weinidogaefch heblaw hyn, yr oedd ei fab ei hun yn tueddu at roddi ei hun at yr un gwas maeth. Yr oedd angen darpariaeth addysgiadol ar y ddau hyn, at yr hyn yr oedd angen cynnorth- wy y brodyr yn y wlad hon, ac yr oedd y cynnydd hwn yn wir annogaethol. Eithr yr oedd y genadiaeth wedi eyrhaedd y safle a'r helaethrwydd hwnw vn awr, fel yr oedd yno gydlafurwr Ffrengig gydag ef; etto golygai ei bod yn anhebgorolangenrheidio! fod Cymro arall yn cael ei ar.fon allan i waith y cynauaf yn Llydaw. Yr oeddCymro yn fwy cyfatebol na neb arall yn ei farn ef, a chredai y safai Cymro yn uwch yu ngolwg y Llydawiaid a medrai nid yn unig ddyfod i'r laith yn well, eithr medrai fyned i mewn i anian y genedl Jn ddyfnach nag un cenedlddyn arall. Felly yderai y buasai yr Arglwydd yn tueddu rhyw frawd, nid hollol ddibrofiai yn y wein- idogaeth, er yn ddigon ieuane, i argymmeryd a'r weinidogaeth hon, ac i ddyfod allan yn gydlafurwr. Am y gwaith o gyfieithu a chyhoeddi yr Ysgrythyrau, yr oedd yn bleser mawr-ganddo weled yr hybarch Ddr. Phillips yn wyddfodol, yr hwn a fedrai gyf- eirio at hyny Cvfeiriodd hefyd yn fywiog at y gwaith pwysig o gy hoeddi a dosparthu llyfrynau, o ba rai yr oedd dros 140,000 wedi eu oyhoeddi, ac yr oedd y Tract Soctiety yn awr wedi rhoddi £30 at gyhoeddi rhai yn ychwanegol, Hyderai efe y buasai Cymru vn awr yn cydymdeimlo a sefyllfa ddyddorol llwyddiannus y genadiaeth, ac y gwnant eu rhan, yr hyn a fydd yn wir werthfawr ac os na wnant, collir cyfie yn y gweithrediadau g a dry allan yn siomedigaeth o'r mwyaf pwysig. Cyn terfynu, cyfeiriodd at yr an- hawsdra gofidus i gael caniatad gan y Llvw- o iraeth i agor addoldy Hengoed, yn mhlwyf Tremel, yr hwn sydd yn barod er ys saith mlynedd. Gwrandawodd y cyfarfod ar yr araeth bwysig ho i gyda dvddordeb a sylw arbenig, a churwyd yn uchel ar ei adeistedd iad. Y Dr. Thomas, Pontypwl, a ddywedai, ei fod ef yn tybied fod y gwahoddiad iddo ef fod yn bresenol ar yr amgylchiad napus presenol wedi tarddu oddiar ei gyssylltiad boreuol a Chenadiaeth Llydaw. Dymunol neillduol oedd ganddo ef gyfarfod a'i frawd hoif o'r America, enw yr hwn oedd yn dra adna- byddus iddo er ys llawer blwyddyn, fel gweithiwr diflino yn mhlith ein brodyr Gor- llewinol, a;hyderai y bvddai iddo flynyddo, dd lawer o ddefnyddioldeb helaeth yn y dyiodol. Ond cofiai son am y Llydawiaid er ys 50 mlynedd, pan glywodd y diweddar W. Jones, Caerdydd, yn adrodd pa fodd yr oedd wedi myned i long yn N ghaerdydd, lie yr oedd Lly. dawiaid, a'i fod yn medru deall gryn dipyn o'u siarad, llawn cymmaint ag a'i boddlonai mai yr un iaith yn wreiddiol oedd yr eiddynt hwy a ninnau. Aethy a dro wedi hyny (ebe y Dr.) i fyw i Lundain, a dymunwyd arnaf gan ysgrifenydd y Baptist Continental Society i ddyfod i lawr i Gymru iymhidi am genadwr i fyned i Lyaaw. Daethym i Gaerdydd felly yn y flwyddyn 1834, ac yno y cyfarfyddais a'r brawd anwyl hwn, ac a thad anwyl y brawd anwyl hwn (gan daflu ei law mewn mo d caruaidd tuag at y cenadwr); ac y mae rhyw fodd wedidygwyild fod i mi gyfathrach agos wedi bod a theulu y Jenkinsiaid yn agos drwy fy oes. Yna aeth y Dr. y i fanwl drwy hanes foreuol y gweithrediadau o barth y genadiaeth, gan fynegu ei lawenydd yn ei chynnydd, ac yn enwedig yn ei chvflwr llwyddiannus presenol. Yr oedd ei frawd Jenkins wedi bod yn ymddyddan ag ef am anfon Llydawiad ieuanc drosodd i'r Athrofa. Buasai yn talch ac yn ilawenydd ganddo gael y Llydawiad cyntaf i'w addysgu yn Mhonty- pool eithr gan na wyddai na Saesnaeg na I Chymraeg. nid oedd yn gweled pa fodd yr oedd cyfleu dysgeidiaeth yr athrofa iddo, a'i farn ef oedd, mai goreu oedd i eglwysi Cymru i gy franu i gynnal y dyn ieuanc hwn dan ofal Mr. Jenkins, er ei barotoi at y weinidogaeth. Ond am fab Mr. J. ei hun, y buasai yn wir lawenydd ganddo eigael dan ei ofal, er mwyn gwneuthur ei oreu drosto. Tarddai hyn nid yn un unig o'barch i'r gwaith gwerthfawr yr ymroddai iddo, ond hefyd o'r anwyldeb oedd ganddo i w dad a'i dadcu, gan hyderu y buasai y gwr ieuanc hwn yn deilwng o j honynt hwy. Llongyfarchai ein dau ym- welydd parchus, a dymmunai bob bendith nefol arnynt. Cafodd araeth y Dr. parchus gymmeradwyaeth wresog. Ar ei ol ef galwyd y Dr* Phillips, Hen ffordd, goruchwyliwr y beibl Gymdeithas, ac aelod o'r pwyllgor. Yr oedd yn dra dymuuol ganddo fod mewn cyfarfod mor anrhydeddus, ond yn neillduol dda ganddo gyfarfod ar ddau foneddwr oedd yn cael eu hanrhydeddu y diwrnod hwnw. Yr oedd wedi bod yn Llydaw ragor nag unwaith. Yr oedd wedi cydbregefchu a Mr. Jenkins yn Quimper a Lorient; yr oedd felly wedi cael mantais nad oedd ffallai neb yno- wedi ei chael i ddweyd am Mr. Jenkins. Yr oedd wedi siarad yn y wlad hono am dano a'r dynion mwyaf anrhydeddus, ac wedi cael y tystiolaethau mwyaf boddhaol ac anrhyd- eddus am eigymmerind a'i waith. Clywodd ef yn pregethu, a'i farn oedd ei fod yn fwy hyawdl yn y Llydawaeg nag y clywodd ef y boreu hwnw yn yr hen Gymraea, oblegid sia. adai mor gyflym a bywiog a Frenchman. Yr oedd wedi gweithio yn rhyf'edd galed a'i ben gwyn, ond nid ei ben gwan. Son am deilyngdod,—y dynion mwyaf teilwng oed dent yn wastad y dynion mwyaf unan-ymwadol; felly ein brawd yma, nid oedd fawr awa mewn cyssylltiad ag ef. Golvgai nad oedd yr arddangosiad hwn o barch ond megys dim at ei deilyngdod; haeddai rhywbeth mwy s\ toveddol-croesawiad teilwng o ddynioa teiiwag. Gwyddai yn dda fod teiiyngdod yn perthyn i Mr. Edwards, oblegid darllenai y Seren Orllewinol tra ar ei daith ymweliadol yn America; eithr ei gyfaill o Lydaw, roedd yn arbenig adnabyddus iddo ef; a? edrvehwn yn awr ar ei lafur cenadol, sef o ddau fath- y wasg a'r pin. Y mae y pin (pai) wedi gweithio yn galed yn Llydaw. Y mae Mr. J. wedi cael yr anrhydedd Pan Dduw i osod i lawr sylfaen llenyddiaeth "Gristionogol i'r Llydawiaid anllythyrenog; ffaith o'r mwyaf anrhydeddus, ac uwch anrhydedd ms gellir ei osod ar neb. Cyfansuddod 1 lvfrau o'r A B.C." hyd at lyfr hymsau i'r Llvdawiaid. Ei lafur cyfieithadol, mewn traetliod'iu llu- osog, a'r cvfieithad o'r Testament Newydd. Y mae y Fei'bl Gymdeithas yn d sgwyl wrth ei ysgrifbin yn awr mewn cyfieithad o'r Salmau. Efe sydd yn addas at y gwaith athraw. Dr. Owen Pughe oedd Legonidec, y cyfieithydd cyntaf; ond y mae Mr. J. yndeall iaith y bollI, ac yu med-u gosod y Beibl mewn iaith ddealladwy. Nid oedd efe yn .cytuno a Dr. Thomas yn son am orphwvs a myned i'r bedd angen gweithio sydd-cael holl air Duw i'r Llydawiaid ein ttrawd all wne d hyn, ac y mae angen iddo frysio. Yna torodd y Dr. allan mewn modi hyawdl, braidd dihafal, gan ddesgrifio lla urwaith y cenadwr fel yn fwy goruchel, pwysig, ac anrhydeddus, a theilwng o glod, nag Alex- ander Fawr yn concro y byd, Csesir a'i hwoddd\sg, Napoleon a'i deyrnasiad, na Napier a i goncwest. Yr oe id ganddo barch mawr i'n brawd, ac hefyd i'w briod serchog- lawn. Yr oedd wedi ei siomi-wrth fethu ei gweled y dydd hwn. Nid oedd ef yn bro- phw\d, eithr yr oedd yn arfer rhagfeddwl a rhagddweyd ac os nad oedd efe yn cam- syrned, buasai eu mab etto yn dyfod allan yn dedwng o'i dad, ac yu cario allan y gwaith. pwysig yr oedd ef wedi cael y fraint o'i udechreu. Gwrandawwyd ar araeth hyawdl y Dr. gvda sylw didor, a churo ami a chyffredinol gan y dyrfa. Gorhpenodd trwy adroidynymodd mwyaf effeittuol y darn arddonol canlynol o'i gyfansoddiad ei hun ar Lydaw:— Trwy hen wlad y Celtiaid, Armoric babyddol, Goleum yn raddol sy'n t'wynu yn aw Ar Morlitix a Quimper, ac ar eu hardaloedd, Yn gyntaf ymdaenodd fel toriad y Wt.wr. Yr haulwen a gyfyd yn uwch ac uwch beuiiydd, Ar ddySryn a rr.ynydd ei llewyrch a rydd; Trwy Ffinistere dywyll, a b, o.v(id Morbihan, Daw'r deillion yn fuan i weled y dydd. Traethodau a Beiblau yn iaith y trigolion, Pregethau cenadon iel moddion o ras, Dan fendith y nefoedd a faeddant Babyddiaeth, Hen olion Derwyddiaeth a lldiant y ma's Yr e.lwys Hhuleinig a'i chyfeiliomadau, A'i haml gyfryngau sy'n barchus yn awr, Ei delwau a'i chreiriau, a'i heilun-addoliaeth, Fel hen adeiladaeth ddaw'n chwilfriw i'r llawr. Bydd etto yn Llydaw eglwysi blodeuog, Ac athrofeydd enwog, a dynion o ddysg, Q-wybodaeth o'r celfau a'r gwerthfawr wyddorion, A hoff dduwinyddion ddaw etto i'w mysg Hen Garmon a Chadlan a goJant o'u beddau, Ac yn eu holynwyr hwy etto gant lyIV Yn wresog a chadarn, a'r Beibl yn rheol Ddiffllant, yn wrol wirionedd ein Duw,