Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

BEIRNIADAETH EISTEDDFOD *…

News
Cite
Share

BEIRNIADAETH EISTEDDFOD LLWYNHENDY. (PABHAD). Yr anweddeidd-dra sydd yn ein haddol- iadau, yn nghyd â'r moddion effeithiolaf i'w ddiwygio."—Deg traethawd a dderbyniwyd ar y testun hwn, wedi cael eu hvsgrifenu gan Sylwedydd, Addolwr laf, Pererin, Martin Revnard, Addolwr Gweddus, Eryr, Gomer Bach, Eleazar, Ap lolo, ac Addolwr 2il. Sylwedydd. — Traethawd eyffredin iawn sydd gan Sylwedydd, ond er hyny, cynnwysa un peth da, ac yn ol barn yr awdwr, peth da iawn hefyd; a pha beth feddyliech ch'i ydyw hwnw? Wel, nid ydyw yn cldim llai nS fflangelliad go lew i'r pregethwyr yma— fflangelliad i bwrpas ydyw hefyd. Pe gwnelai Sylwedydd argraiffn ei bamphlet, ac anrbegu pob pregethwr trwy Gymrn, a'r byd yn grwn o ran hyny, a chopi o hono, byddai yn sicr o wneyd lies dirfawr. Addolwr laf.—Pwt byr sydd gan y brawd hwn-yn rhy fyr o'r hnnner i feddwl ennill y gamp. Y mae yn lied wych o ran diffygion orgraffyddol. Pererio.- Sylwa y dysgawdwr hwn ar ddeuddeg o bethau sydd yn ymddangos iddo ef yn anwed<!aidd vn ein haddoliadau. Y mae yn syn genyf fod meddyliwr mor dda yn gallu vsgrifenu mor wallus. Y raae ei draethawd yn un swrn o wallau sillebol a chystrawenol o'i ddechreu i'w ddiwedd. Bydded i'r brawd ddiwygio yn hyn, a bydd iddo obaith am y gamp. Martin Reynard.- Y mae yr awdwr hwn yn eithno ychydig oddiwrth ei frodyr o barthed ystyr y testun. Wrth addoliadau, neu addoliad, y golyga efe gydnabyddiaeth o fôd dwyfol," yn cael ei wneyd felly trwy ddarllen, gweddio, pregethu, gwrando, canu, cymmuno, a bedyddio; a thrafody cyfryngau yma yn anweddaidd a olyga wrth yr anwedd- eidd-dra yn eiu haddoliadau. Y mae yr awdwr yn lied iach yn y ffydd, ond yn unig fod cylch ei gredo dipvn yn rhy gyfyng. Yn ein cynnulliadau addoliadoi yn gyffredin, y mae yno rywrai yn nghyd heblaw gweddi- wyr cyhoeddus, darllenwyr cyhoeddus, pre- gethwyr cyhoeddus, &c.; a dylid talu ychydig o sylw i agwedd a sefyllfa y cyfryw. Pe buasai Mr. Reynard wedi gwneyd hyn, yr wyf yn hollol o'r fam y buasai yn hawlio y wobr. Y mae efe yn ysgrifenydd gwych. Addolwr Gweddus—Bachgen lied isel ei chwaeth ydyw hwn. Defnvddia weithiau yinadroddion basaidd dychrynllyd. Wrth ddesgrifio y pesychwyr yn yr addoliad, dywed:—" Gellid meddwl mai unwaith yr wythnos y maent yn carthu eu hunain— gellid meiddwl fod l'hywbeth wedi glynu yn iVL cyrn gwynt—y fenyw svdd yn glanhau y capel mewn ysbryd i chwilio am stwe." Y mae y darlun hefyd a dynir ganddo o'r sawl sydd yn cnoi myglys dipyn yn Hed arw ac annerbyniol. Cynnwysa y traethawd hwn lawer iawn o wallau mewn sillebu a chvs- trawenu. Bydded i Addolwr Gweddus goetbi ei chwaeth, ac ymdrechu meistroli iaith ei wlad yn weU. Eryr.—Un doniol dros ben ydyw hwn. Wrth draethu ar agwedd pobl yn gwrando yr efengvl, dywed fod Hengist rhyw dro wedi cael gatael yn Amen, ac wedi ei gludo ar ei ysgwydd ei hun yn llawen tua choryn Cadair Idris. Wedi cyrhaeddyd trwmyn uchaf y mynydd, i Hengist daflu ei faich i lawr ben- dramwnwgl dros y clogwyni serth, hyd nes iddo ddisgyn yn Ueprwch banner marw ar y gwaelodion iglaw. Yn ddamweiniol, daeth 8h6n Gorff heibio, a chymmerodd afael yn Amen, yn yr agwedd ydoedd, a chyda Shdn y bu am dymhor; ond yn y dyddiau diweddaf hyn, daeth gwyr y droch, Pont-y-fendith, yn mlaen, a chymmerasant afael yn ngharcharor Shdn, a chyda hwy y mae hyd y dydd hwn. Cynnwysa y traethawd vrca lawer o wersi buddiol, gwerth 1 dalu sylw iddynt, ond cyn- nwysa hefyd lawer o bethau lied anmher- thynasol i'r testun. Nid oe8 nemawr i attal- nod o'i ddechreu i'w ddiwedd yn eu Ueoedd priodol. Gomer Bach.—Traethawd maith sydd gan Gomer, yn trafod braidd yr oil o'r anwedd- eidd-dra a ganfyddir yn ein lleoedd addoliad. Gwallus iawn ydyw yr orgraff, ac ambell i fan, cyfarfyddir A brawddegau hollol aneglur. Ond prif fai Gomer Bach ydyw y moddion a ddefnyddia i symud \r annhrefno'n haddol- iadau. Gwir fody moddion yn' effeithiol, ond ofnwvf Bad yw Gotner yn ddigon o fachgen i'w cymhw^so at yr afiechyd; ond beth bynag, gwn nad ydyw ei gvfarwyddyd yn y traethawd hwn yn ateb un dyben. Eleasar.—Traethawd maith etto, dim Ifti ilk 38 o dudalenau. Cynnwysa lawer o bethau buddiol, a chynnwysa hefyd lawer o bethau anfuddiol. Wrth draethu artf gnoi myglys mewn lleoedd o addoliad, defnyddir ymad- roddion tra annheilwng o awdwr fel Eleasar. Hefvd, defnyddir gormod o ansodd-eiriau, yn neillduol pan y tynir darlun o ryw bechod erchyll iawn felly. Tiidalen 34, dywedir :— "Gair etto wrth ddiweddu "r y dall mochyn- aidd, anweddaidd, a brwnt." Dyna dri gair ag yr oedd un o honynt yn llawn ddigon. Ap lolo.—Traethawd da ydyw eiddo Ap 1010. Dengys vr anweddeidd-dra yn ein lle- oedd o addoliad yn hynod feistrolaidd a phe buasai Addolwr wedi gweled yn dda i sefvll draw, buaswn o galon yn gorchymyn y wobr iddo; ond yn awr, rhaid iddo ymfoddloni hebddi. Addolwr.—Dyma.y traethawd goreu yn vr ymdrechfa hon; ac os caiff ei gyhoeddi, bydd vn sier o wneyd lies dirfawr. Drwg genvf am na buasai ail wobr, fel y gallai Ap lolo ei chael. Y mae efe wedi rhedeg yn dda, ond Addolwr a gafodd y gamp. Caffed Addolwr y wobr. Haelioni."—Naw cyfansoddiad a dder- byniais ar Haelloni, wedi cael eu harwyddo a'r ffugenwau Jephtha, Plato, Ab Caradog, Howard, 2il, Gau Syner, Ifor Hael, 2il, Nedd, Ifor Hael, laf, a Howard, laf. Jephtha.—Traethawd byr ac hynod arwyn. ebol ydyw hwn. Nid ydyw yn cynnwys ond y nesaf peth i ddim o wallau orgraffyddol; ond er hyny, rhaid i'r awdwr sefyll draw y waith hon. Bydded iddo gynnyg etto. Plato.-Diohon, ond nid yr hen Blato hwnw gynt ydyw. Cynnwysa ei ysgrif lawer o sylwadau buddiol, ond y niaent oil wedi cael eu gwisgo mewn carpiau. Y mae ei orgraff yn enbyd iawn o ddrwg. Ym- dreched ddiwygio yn hyn, neu ynte newidied ei enw. Ab Caradog.—Yn y tudalenau cyntaf o'r traethawd hwn, eawn sylwadau go wych ar Fenyddeg. Dywedir wrthym nifer yr or- ganau, yn nghyd ag yn mha ran o'r benglog y trigant; ac hefyd lawer o bethau pwysig ereill nad ydynt o bwys i'w henwi ar hyn o bryd. Yr wyf yn meddwi nad oes yr un dewin yn ddigon o fachgen i gyfrif gwallau sillebol a chystrawenol Ab Caradog. Rhaid iddo wybod rhagor yn nghyleh teithi y Gym- raeg cyn y gall ennill buddugoliaeth Éis. teddfbdol. Howard, 2il.—Tybia yr Howard hwn mai pethach diddeddf ydyw y rhagenwau medd- lannolei ac 6U, yn nghyd a'r lythyren h. Y mae sefyllfaoedd priodol y naill a'r Hall yn dra dveithr iddo ef; ond nid Ijyflyma ydyw prif fai Howard, Silt Ei brif fai ydyw llwytho ei ysgrif k gormod o bethach an- mherthynasol i'r testun; ac y mae ef hefyd yn euog o un bai bychan arall, sef gosod ei enw priodol a'i breswylfod ar gynffon ei draethawd. Dyma yr oil a ddywedaf yn nghylch Howard, 2il. Gau Syner.—Traethawd byr, lied dda, yn fwy diwallau o ran celfyddyd nå'r un yn yr r ymdreohfa ond y mae tri neu bedwar wedi gafaelyd ynfwy nerthol yn y pwne nag ef, ac felly, rhaid iddo ef sefyll draw. Ifor Hael, 2il.—Traethawd da iawn etto- hynod ddiwallau. Rhy fyr ydyw o un rheswm i wneyd cyfiawnder 6'r testun. N edd.- Y sgrifenydd doniol ydyw yr awdwr hwn. Cyfansodda ei frawddegau yn fyrion a threfnus. Nid ydyw un amser yn cadw ei syniadau dan lfen. Llefara yn ddigon eglur i'r mwyaf anwybodus i'w ddeall. Pe buasai wedi astudio gwell cynllun, cawsai y wobr yn rhwydd; ond yn awr, rhaid ystyried fod gan Ifor Hael, laf,' a Howard, iaf, fwy o hawl iddo nag ef. Drwg genyf orfod troi Nedd o'r neiUdu. Ymwroled, a chynnygied etto. Ifor Hael, laf, a Howard, laf.—Yr wyf yn cyplysu y ddau yma yn nghyd, am fy mod yn methu yn IAn loyw a phenderfynu pa un o honynt ydyw y goreu. Y mae Ifor wedi cyfansoddi gwell pregeth o lawer n& Howard. Y mae efe wedi troi y gyfundrefn Gristionogol yn gyfangwbl yn, Haelioai; ao os ydyw yn gywir yn hyn, efe bia'r belt. Ond oa traethawd da, cyfyngedig i un o'r rhin- weddau dynol—yn wahamaethol oddiwrth arugaredd, amynedd, cariad, gwirionedd, &c. —Howard sydd i gael y fuddugoliaeth. Yr wyf fi yngogwyddo gyda Howard, a hyny am mai traethawd, ac nid pregeth, a ddywedir ar yr hysbyslen. Caffed Howard, lhf, y wobr.. (Tw barhau).

GAIR AM GAERODOB.

YSTRADIANA : NEU HAVES BED.…