Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

PWYLLGOR COLEG Y BEDYDDWYR…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

PWYLLGOR COLEG Y BEDYDDWYR YN HWLFFORDD. Cynnaliodd Pwyllgor y Coleg yn Hwlffordd gyfarfod neillduol yn addoldy y Bedyddwyr Seisnig, ar ddydd Llun, Medi 25ain, 1865. Wedi ethol W. Rees, Yaw., y Trysorydd henaf, i'r gadair, darllenodd yr Ysgrifenydd, y Parch. T. E. Thomas, Trehael, lythyr oddi- wrth y Parch. Thos. Burditt, M. A., yn mha un yr hysbysai, mewn ymadroddion cryf a phenderfynol, ei fod yn rhoddi fyny ei swydd fel Athraw yn y Coleg. Wedi vmddyddan ychydig ar y mater, pen- derfynwyd 1. Ar gynnygiad y Parch. T. E. Thomas, Trehael, ac eiliad y Parch. H. W. Jones, Caerfyrddin, Nad oedd gan y Pwyllgor ddim i w wneyd ond derbyn resignation y Parch. T.. Burditt, fel Athraw clasurol a gwyddonawl yn y Coleg. 2. Ar gynnygiad y Parch. H. J. Morgan, Pater, ac eiliad y Parch. J. Williams, B.A., Narberth, fod diolchgarwch mwyaf didwyll a gwresog y Pwyllgor i gael ei gyflwyno i'r Parch. Thomas Burditt, M.A., am ei was- anaeth effeithiol mewn cyssylltiad a'r Coleg yn ystod y deuddeg mlynedd diweddaf.—UN O'R PWYLLGOB.

ATHROFA HWLFFORDD.

MYNEGYDD Y DRYSOR-FA. I

CWRDD MISOL DYFFRYN ABERDAR.

LLANIDLOES.

LLITH 0 GWMAMAN, ABERDAR.'"

GOHEBIAETH 0 FYNWY.

[No title]

tfvffijtltlijl