Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
:1 ^.0..
1 ^.0.. GWIRIONEDD A CHYFEILIORNAD neu Lythyrau at gyfaill ar rai o brif bynciau dadlengar y dydd, gan y Parch. Horatius Bonar, D.D., golygydd y "Christian Treasury," &c. Y ddegfed fil. Cyfieithedig i'r Gymraeg gan T. Williams (Hafrenydd), Llanidloes. MAE y Dr. Bonar yma wedi gwneyd gwas- anaeth o'r pwys mwyaf i grefydd trwy gy- hoeddiad y Uyfr hwn. Testunau y llvthyron ydynt y canlynol:—Egwyddorion CyfFredinol Ewvllys Duw, ac Ewyllys Dyn—Etholedig aeth — Rhagluniaeth a Rhag-wybodaeth — Gwaith Chst—Ffvdd—Yr Efengy l-Sicrwydd Ffydd-Anallu Dyn—Yr Ysbryd a'r Gair— Sefyllfa bresehol crefydd ein gwlad ac mewn attodiad cawn draethodau ar Natur ac helaeth- rwydd lawn Crist-Calfioiaeth ac Arminiaeth "■"Ol-ysgrifau Calfin a Servetus. Mewn un frawddeg, mae y llyfr hwn yn wir werthfawr ar yr adeg bresenol. Byddai yn dda genym Rlywed ei fod yn cael derbyniad helaeth, a sylw InaDwl »an ein dynion ieuainc a svlwgar. /JUUnem «yflv,ryno eiu diolchgarwch i Hafren- ydd atn ei ran ef yn nygiad trysor mor werth- «wr i sylvv y Cymry. Y RRAWD CVNTAF 0 GYMRAEG A SAES- NEG. The First Course of Welsh and English; being a Graduated Series of In- ductive Lessons in both Languages. By •Job Richards, Schoolmaster. Llandilo: Printed by D. W. & G. Jones, Post Office. DYMA lyfryn bach newydd a defnyddiol. V I1 det»yg ° ddyfod i sylw ein hathravvon, ° 0!' ° les yn ein hysgolion.
[No title]
8eri'Iv^Uw',u na 0 bersonau farw o'r Y sbaercystenyn o'r dechreu hyd yma. o ^'y^oJraetli wedi dyfod i'r penderfyniad nel'eubarthTl1^/ catroilau s>'dd y» g'>rsafuyn J'eniaeth WJrddoJl new,, canlyniud i ledaeniad
Y SABBOTH.
Y SABBOTH. MR. Got.—GUllaf weled symudiad pwysig ar droed, neu ar ei (jychwvniad yn bresenol, myned o ddrwg i a gosod y drwg ar gylch raw; eang. Cadwwyd cyfarfod cyhoeddus nos Fawrth diweddaf yn Cambridge Hull, Llundain, sef cael agoriad i'r Amgueddfa Brydeinig, yr Oriel Cenedl. aethol, a'r Palas Gwydr. Mawr mor wrpsog y siaradent ar y lleoedd uchod; mor fuddiol acad!onol y byddeut i'r dosparth gweithgar, peondyu agored ar brydnawniau Sabbothan; y cynlluniau trefnus oedd yn cael eu tori allan yno er gwneyd y peth yn effeithiol; ac yn mhlith pethau ereill, Dr. Pur. fitt yn rhoddi cymmaint ag ugain o ddarjithiau yn rhad i gyfifwrdd a'r mater yn ei wabanol gyssyllt- iadau yn ystod y gauaf nesaf. Penderfynasant I' hefyd i ffurfio pwyllgorau dosparthiadol. nes mynu cael ea gwrando yn Senedd-dy Prydain Fawr a'r Iwerddon, os yn bossibl. Yr oedd yno un o'r enw Simeon (Ffrancwr), yn gynnrycbiolwr dros estron- iaid Llundain, a'i gynllun ef oedd ffurffo psvyllgor q estroniaid Llundain i gydweithioyn yr amcan "clodwiw." Ar yr un pryd, dans;osent ychvdig o bareh i grefydd, a chydnabrddent fod yr Ysgol Sab- bothol yn allu; "With the Sunday School machinery, they can outnumber us in the matter of signatures." Diolch iddynt am y fatb gompliment i'n Hysgol Sibbothol, un o sefydliadau goreu'r ddaaar etto, dyfais ar of dyfais fel yr uchod wna ladd ddylanwad yr Ysgol Sabbothol, a phob sefydliad da arall. Wrth sylwi ar y gwa- hanot ddvfeisiadau, a chynnifer o ffyrdd sydd i dori'r Sabboth yn ein gwlad, gallem feddwl ar rai adegau ein bod i gael ein gordoi a thywyllwch y canol oesoedd unwaith yn ychwaneg. Mae galwad uchel arnom fel Cristionogion i weddio, gweithio, a chynllunio yn erbyn cynlluniau yr oes. Mae Pabyddiaeth yn lledu ei hadenydd dros ein hynys, yn estyn cortynau ei phreswylteydd, ac yn cym- meryd gafael yn gyflym o Eglwys Loegr. Beth fydd diwedd y pethau hyn? Gwneyd dydd yr Argiwydd i rodiana, pleser-deithio, digon o ddig- rifwch, ac i astudio celfyddyd, Os caniateir hyn i'r Sunday League, bydd angen arnynt i gael y chwareudai yn agored, rhedegfeydd cetfylau, a phob math o chwareuyddiaethau ereill ar ddydd yr Ar- giwydd, o dan yr esgus o fudd i'r dosparth gweith- gar, yr hwn ddydd y mae gweithwyr Prydain (y brodorion) yn edrych arno yn gyssegredig. Beth sydd i ddysgwyl oddiar law Rhoddwr pob daioni ? A phwy a all rwgnach pan mae'r Arglwydd yn ymweled a'n gwrlad a barnedigaethau ? Gallwn weled hyd yn oed blaen gwialen y gelyn dinystriol, y geri marwol, neu rywbeth tebyg iawn, mewn ambell i fanyn y dyddiau presenol. Beth sydd i'w ddysgwyl, pan mae'n gwlad mor farbaraidd yn ei llofruddiaethau! Mae tynerwch miloedd o'i mamau wedi ei golli yn llwyr, cyn y gallent ladd a mygu eu rhai bychain mor ami; a phob dyfais yn cael ei gwneyd i yspeilio Duw o'i ddydd. Mae yn wir fod rheilffyrdd yn fendith fawr i'r wlad a mawr y rhiaitwch a wnawd y dydd Sabboth wythnos i'r diweddaf ar agoriad y llinell hono o Edinburgh i Glasgow i redeg yn ol a blaen ar y Sabboth. Beth bynag yw barn y wlad ar y mater, credwyf fl, fel un, fod pleserdeithlo ar y Sabboth yn gwaetbygu tnoesauy trigolion, a bod yrymadrodd, Cofia gadw yn santaidd y dydd Sabboth," yn cael ei ddirmygu. Dylai gweinidogion yr efengyl ddefnyddio eu holl ddylanwad i droi'r llifeiriant hwn yn ol, sydd yn by- gwth gorddiwes ein gwlad. Os ydyw'r parks yn agored ar brydnawnau Sabbothuu, a'r seindorfau yn cliwareu, a rhyw ddifyrwch cyffelyb, y maent yn sicr o fod j n lladd dylanwad yr Ysifol Sabbothol, yn annghymhwyso nifer lluosog i fyned i wrando efengyj tangnefedd, a gwrthweithio gwaith cenadon hedd, Gallwn edrych yn nes gartref, a bydded i ni ys- gubo o flaen ein tai ein hunain yn gyntaf. Pa nifer o'r man-weitliwyr, yr hwcsteriaid, &c., ar hyd y wlad, sydd yn gwerthu i'n plant bychain, sef mas nachu ar ddydd neillduol yr Arglwydd, ac ar yr un pryd yn aelodau yn ein heglwysi ? yn arddel gwell, etto dysgant i'n hieuenctyd, trwy eu gweithredoedd, mai ychydig o bwys sydd i roddi ar gadwraeth y Sabboth. Dysgant hefyd iddynt fasnachu, a diys- tyru y dydd neiliduol hwn. Mae meistriaid amryw o'n gweithfeydd yn cym- meryd mantaiso'r fiyd-I hwn, a llawergaffer balch, gormeslyd, yn ysbeilio Duw o'i ddydd, trwy osod gwaith i'w wneuthur y ne)Hr ei hebgor hyd yr wythnos ganlynol. Mae eisieu rhoddi terfyn ar y gweithio, y gwerthu, a'r pleserdeithio ar y Sabboth hyd y gellir. Peidied neb a bod yn ffroen-uchel; gall yr Argiwydd ddywedyd wrth freninoedd a thywysogion y ddaear, Fy Sabboth," ac wrth bob dosparth, o'r amhera<vdwyr i'r cardotwyr, "Cofia gadw yn santaidd y dydd Sabboth." Yr hwn sydd yn gweithio ar y Sabbotii heb wir angen rhaid, sydd yn tori gorchymyn yr Hwn a roddes ei lef nes toddi y ddaear." Mae ynddyledswydd arbenig arnom ni fel Crist- ionogion i ymysgwyd o'r llwch, golchi ein gwisg- oedd yn lan, ac ymdrechu fel un gwr erbyn y Sen- edd nesaf, i gael darfod ar y gwerthu yn hollol (diod, neu beth bynag y b'o). Bydded i bob Crist- ion fod yn effro, a bod ar ei oreu i wrthwvnebu agoriad drysau y sefydliadau uchod ar y Sabbothau, gan y byddent yn debyg iawn o fod yn niweidiol i grefydd Mab Duw. a llWyddiant yr achos goreu. Medi 12. SHON O'R WLAD.
TV NEWYDD ATHROFA HWLFFORDD.
TV NEWYDD ATHROFA HWLFFORDD. At y Parch. T. E. Thomas, Trehael. ANWYL.SYR,—Yr wyf yn cymmeryd yr hyfdra o alw eich sylw at y mater hwn, gan y teimlwyf fod genyf hawl i wneyd hyny, fel aelod o'r pwyllgor, ac fel brawd yn y weinidogaeth. Mae yn llawenydd nid bychan genyf fod y Pwyll. gor wedi hod mor ddoeth a phrynn ty newydd eang a chyfleus, mewn lie manteisiol, er cynrial yr Athrofa barchus yn Hwlftordd. Mae hyn yn sier o effeithio er daioni mewn llawer ffordd ary sefydliad, fel nad oes yr ammheuaeth leiaf yn ein meddwl nad yw pryniad y ty newydd yn step in the right direction yn inhob ystyr o'r gair. Mor bell ag yr wyf wedi sylwi, credwyf fod yr eglwysi yn gyffredin I y" teimlo yn llawen am y peth hwn, ac yn hiroil i i.vnnorthwyo a chydweith- redu er talu am yr adfilad. Yindden<r\s i mi, anwyl Syr, fod un peth y dylid galw sylw arbenig y Pwyllgor ato, a liyny mewn pryd, h.y., y dylid cym- meryd gofal neilldllol vn ngwneuthuriMd v Deed, er i'r meddiant (property) spiel ei sicrhau yn eiddo i Fedyddwvr Caetli Cyuirti. Fel y gwyddoch, mae holl eglwysi Cymreig y Bedyddwyr trwy y Dywys- ogaeth, heb gymmaint ag un eithriad (diolch i'r Nefoedd), yn credu nad oes gan neb pwy bynag hawl i eistedd wrth fwrdd yr Arghvydd ond credin- wyr yn unig wedi eu bedyddio (nid wedi eu taen- ellu) ar broffes o'u ffydd yn Mab Duw. Ell bod yn gywir yn hyn, yn ol Gair Duw, sydd yn beth a ellid ei brofi to a -demonstration; ond nid oes angen gwneyd hyny i chwi, gan eich bod mor "iBeh yn y ffydd" a ninnau. Yr eglwysi Cymreig, gan mwyaf, os nid yr oil, sydd i gynnal yr Athrofa, ae atyut hwy yn benaf y bydd y PwyUgor yn appelio am gynnorthwy arianol, er talu am y ty newydd. Gan mai yr eglwysi hyn sydd i dala am yr adeilad, ac i gynnal y sefydliad, mae yn gyfiawn gerbron Duw a dynion iddynt gael meddiant hollol a digamsyniad o hono. 0 Yn awr, Syr, yr ydym am gael gwybod genych ar ba egwyddor mae y Deed wedi, neu i gael ei thynu ? A yw y property i fod yn eiddo i Fedyddwyr Caeth Cymru —yn eiddo i'r rhai hyny sydd i dalu am dano ? Yr ydym yn teimlo fod eisieu bod yn ofalus gyda'r mater hwn, ac yn awr yw yr adeg. Yr ydym wedi colli amryw o addoldai, a hyny yn ddiweddar iawn, yn herwydd diffyg yn y gweith- redoedd. Mae yn deg i'r eglwysi wybod pa fodd y mae pethau i fod, ac yr ydym am iddynt i gael deall pa fodd y mae y Pwyllgor yn bwriadu gwneyd. Gallaf eich sicrhau, Syr, ond i'r Pwyllgor gym- meryd gofal priodol yn y mater hwn, ac i'r eglwysi gael deall eu bod wedi gwneyd hyny, y bydd hvny yn sier o ddylanwadu yn rymus er eu dwyn allan, un ac oil, i gyfranu yn deilwng tuag at y ty newydd. Gan ddysgwyl am eich ateb caredig a dioedi i'r llythyr hwn, y gorphwys, eyfaill i'r Athrofa, gyda chofion gwir barchus at deulu anrhydeddus Trehael. Yr eiddoch, Syr, Felinfoel. WM. LEWIS,
YSGOLFREINTIAU PONTYPWL.
YSGOLFREINTIAU PONTYPWL. Camsyniad oedd gosod £3 ar gyfer enw Dr. Tho- mas; £ oedd y Doctor caredig wedi roddi. Y 11 mae'r envtau canlynol i'w hychwanegu :— £ s. c. Parch. J. Edred Jones, M.A., America 5 0 0 W. Lewis, Felinfoel 5 0 0 Mr. D. J. Thomas, Castell-new- ydd-Emlyn 1 0 0 Mr. S. Davies, Cilvallen 1 0 0 Miss R. Hughes, C. N. Emlyn 10 0 Paham y mae'r hen fyfyrwyr mor hwyrfrydig gyda'r mudiad daionus hwn ? Merthyr, Medi 22ain. J. EMLYN JONES.
CONGL YR EFRYDYDD.
CONGL YR EFRYDYDD. GOFYNIADAU. At y Parch Thomas Lewis, Caerfyrddin. SYR,—Gan fod yn hysbys i Gymru oil eich cym- hwysderau i ddysgu i Gristionogion pa fodd i gadw pob peth a orchymynodd Crist iddynt, byddaf yn ddi- olchgar i chwi am atebion i'r holiadau canlynol :-JI e.1 1. A ddylem ni faddeu i'r saw I a fyddo yn parhau i bechu yn ein herbynf — 2. A ddylem ni amlygu ein bod wedi maddeu i'r troseddvvr, heb iddo el ddangos fod yn edifar ganddo am yr hyn a wnaeth ? 3. A allwn ni fod wedi maddeu o'r galon i'r pech- adur, ac etto heb gymdeithasu ag ef,fel cyntj? Llangunnog. THOMA-s WILLTAMS. Ateb. Wrth fyned yn ol ac yn mlaen i Swyddfa y SKREN, cefais olwg ar y tri ch westi wn uchod, ac yr yd wyf vn eu hateb heb beru i'r brawd Williams aros wythnos yn hwy* um 1. Nid wyf yn tybied fod y Tad nefol a chyfiawn am i ni wneyd yr hyn na wna Ef ei hun. Nid yw Ef yn maddeu i'r rhai sydd yn mynu parhau i bechu yn ei erbyn. Ei reol ef yw rhoddi maddeuant i'r neb a gyfaddefo ei bechod, ac a'i gadawo. Ond, fel ag y mae Duw yn ewvllysio daioni hyd y nod i'w elynion, felly y dylem ninnau i'r rhai sydd am ein niweidio. 2. Na ddylem. Nid yw Daw yn cyhoeddi maddeu- ant i neb ond i'r edifeiriol. Gwel Salm 32. 5. Ac yr ydym yn sicr o fod ar dir diogel pan y hyddom yn "ddilynwyr Duw fel plant anwyl." Sylwer, ni a ddylem wneyd ein goreu i argyhoeddi y brawd pech- adurus o'i drosedd; ac os llwyddwn i gael ganddo i gydnabod ei fod ar fai, dylem ddangos y parodrwydd mwyaf i faddeu iddo. Ond y mae lie i ofni fod ambell frawd cyndyn i'w gael na wna gydnabod ei fod wedi troseddu mewn modd yn y byd nis gall neb ei droi na'i berswadio ac nid oes dim i'w wneyd a'r cyfryw un, namyn ei adael, a gweddio drosto. Trneni mawr fyddai i neb ychwanegu dim at ei boen, canys y mae yn hunan-boenvdiwr o'r fath erchyllaf. Cenfigen a ladd ei pherchenog." 3. Na allwn. Pan y mae Du IV yn maddeu, rhodda Ef ei gymdeithas a'i danguefedd i'r h wn sydd yn edi- farhau. urer i ni ddweyd ein bod yn maddeu, os heb ddangos hyny; a pha fodd y gellir dangos ein teimlad yn well na thrwy gymdeithasu a'r hwn y buom yn ysgaredig oddiwrtho? Byddai yn werth i bawb gofio, nas gall un pechadur fod yn ddedwydd hyd nes yr edifarhao am ei droseddau, nas gall edifeirwch fod yn wirioneddol heb adael y pechod ac y dylai pob dyn wneyd ei oreu i symud pob digasedd o'i fyn wes. THOS. LEWIS. llanes y Bedyddwyrgan Dr. Evans. At Mr% I. Evans. SYR,-A oes gobaith y daw rhagor o'r hanes dydd- orol uchod o'r wasg? Dywedodd Dr. Prichard wrthyf fod y defnyddiau wrth law, ond fod eisieu tretnu ychydig arnynt; ac os felly, paham na cheir ef allan? Onid yw yn drueni fod Ilyfrau da, fel Hanes y Bed- yddwyr, ac Esboniad Ellis, yn aios byth yn anorphen- edig ? Ac onid yw y (faith eu bod felly yn lleihau ymddiried y Bedyddwyr yn eu hawdwyr eu hunain, ac yn peru iddynt fyned i gyd-iasnachu ag enwadau ereill Dymunaf ^?ich sy!w buan ar fy ngofyniad. CEKEDIG.
Y CYFARFODYDD LLENYDDOL.
Y CYFARFODYDD LLENYDDOL. Rhyw ddybeu daionus ac un adeiladol I buro ein deall a'n gallu meddyliol, I'll dw-j n yn adroddwyr, yn gantwyr rhagorol, Yn wir oedd sefydlu Cyfarfod Llenyddol. Rhwng ffyrdd yr ieuenctyd mae dirfawr wahaniaeth Wrth ddringo i gangau brenin-bren gwybodaeth, Ond credaf yn hollol mai ysgol bwrpasol I'w esgyu i fyny yw'r Cyrddau Lleayddol. Fe glywir rhai llanciau rhwng pedair a phum* mlwydd Yn darllen ac adrodd gwir eiriau yr Arglwydd, A'r hyn sy'n eu hannog yw ymdrech egniol I ennill y gwobrau mewn Cyrddau Llenyddol. R-)edd ilu;tiys o ddynion yti n.vddiati'n ben deidiatt Yn treulio eu hamser i adrodd hen chwedlau, Ae hefyd gyflawnu hen gampau anllowiol Nid gwagedd fel yna yw'r Cyrddau Llenyddol. Ond etto rhaid imi gyfadde'n anfoddol Fod rhai o'r perth'nasau i'w cael yn bresenol; Hwy roddant eu sylltauam gwrw coch meddwol, Ond ni ddaw dwy geiniog i Gwrddbach Llenyddol. Maent felly yn hanner cybyddion a meddwon, Yri rhodio yn Ilawen 'nol tuedd y galon Hwv gawsant dalentau er mwyn. eu defnyddio, Ond cloddiu'n y ddaear maent hwythau i'w cuddio. Eu ffrymliiiu hwy'n wastad pan maent yn cyfarfod Yw'r bibell, dybaco, a Ilymaid o ddiod A thyna p'am byddant hwy mor wrthwynebol— Nid yw eu cymdeithion mewu Cyrddau Llenyddol. Brydyddion, llenorion, cantorion hen Gymru, Cydunwn yn unfryd i'w lwyr ymgeleddu; Oherwydd arweinydd i'r bywyd tragwyddol Oedd dyben sefydliad Cyfarfod Llenyddol. Pumsaint School. BRITHYLL MARLAIS.
PRESWYLFA'R BARDD.
PRESWYLFA'R BARDD. Mewn bythyn bach wrth droed y bryn, Trigfana'r enwog Fardd, Yn swyn golygfa ferth y glyn, Lie chwery anian hardd. Hoff anian gain sy'n gwisgo'r roan Lie saif ei fwthwn clyd, Y man dedwyddaf yw i fardd 0 fewn yr eang fyd. Mae'r pistyll bach o flaen y drws, Yn sisial nos a dydd, A swynol gan y gornant fach A'i Ilona pan fo'n bi-udd. Y boreu a o'i fwthyn gwyn I rodio llwybrau'r ardd, Y blodaucain, d'u gwenau Hon, Oil yn ei wyneb chwardd. Yr awel denau falmaidd fwyn A ddawrisiaar ei rudd, Ac odlau glwys yr adar man 'Ddo'n wledd foreuol sydd. A gwenaullon eistedda lawr Tan gysgod ywen werdd, A'i awen fach wrtk fon y pren A eilia anian gerdd. Glyn Ebwy. DEWI IOLOES.
CAN
CAN I Mr. D. Davies a'i Deulu, Factory Uchaf, Caerfyrddin. T6n—" Robin yn Swil." Pan aethym i'r Factory 'roedd arnaf chwant bwyd. Fy nghliniau yn curo, a'm gwyneb yn llwyd Ond buan canfyddais Frenines y ty, A d'wedodd dan wenu, Pa beth fynwch chwi f Atebais yn chwim, Rho'wch giniaw fach ioa', A chefais y cwbl yn rhad ac am ddim. Y garr a eisteddai yn brydferth ei wawr, Ei olwg yn serchog, a thalaidd fel cuwr Ei wyneb oedd oleu gan nwyfiant a hedd, A dawnsiai hyfrydwch yn lion ar ei weda A rhoddodd i mi, a rbllddodd i mi, Roesawiad caredig, yn serchog a ffri. Miss Davies edrychai yn swynol a hardd, Gwir deilwng 0 glodydd, a moliant y bardd Ffraethineb a synwyr addurnai ei Hith, A'i geiriau ddyferent fel mel yn ein phth O! mae hi'n un dlos, O mae hi'n dlos, Ei ilygaid sydd decacb na ser yn y nos. Mae Dafydd, a Mari, a Gweno fwyn gun, Am wneuthur yn ddedwydd a sirlol bob un A ddelo i dreulio ddiwrnodau i'w plith, A'u haml fendithion ddisgynaat fel gwlith Er lloni v lie, er lloni y lie, Ddisgynant yn esmwyth gan loni y Ile. Llaweroedd o rymus lefarwyr ein gwlad, A gawsant eu nodded yn rhwydd ac yn rhad, Eu calon a unwyd a gweision y nef, Ac mae ell haelioni yn enwog trwy'r dref. 0 boed iddynt lwydd, O boed iddynt Iwydd, Yn mhob rhyw gyssylltiad, 0 boed iddynt lwydd. Os byth bydd i Student fod mewn anghen lie I gysgu am noswaith 'nol cyrhaedd y dre, Cyfeiried ei gamrau at mam ar ei hynt, A chaiff ynu locbes rhag angen a gwynt, Yn rhad ac am ddim, yn rhad nc am ddim, A ch iff yno lodgings yn rhad ac am ddim. Boed gwenau Rhagluniaeth y Nef arnoch chwi, Ac eled eich masnach yn uwch uwch mewn bri, A phan y ffarweliwch a'r ddaear a'i plioen, Boedi cliwi dderbyniad i deyrnas yr Oen, I foli heb daw trwy'r oesoedd a ddaw, Y GHVr a fu farw ar Galfari draw. Pontypool. CEREDIG.
DR. PRICE A'R QUACK GERMANAIDD.
DR. PRICE A'R QUACK GERMANAIDD. Er menyd* Quack Germanaidd-yr hen gorff, Druan gwr, brwnt, ffiaidd, Y Doctor fedd drysor a draidd I ddolur y Lord (?) eiddilaidd. Intellect,
GOHEBIAETH 0 ARFON.
"Eithr os gwaig a fydd gwallt-laes, clod yw iddi; oblegid ei Uaeswallt a ddodwyd yn t orchudd iddi." Nid yw y Beibl mor hander- fynol ag y tybia yr anwyhodus yn erbv i ferchlefaru, n bod yn ganintaoliddiymdJangos yn y gorrhudd a drefnodd naturiaeth iddi, sef ei Uaeswallt. Od oes neb a fyn fod yn yra rysongar, nid oes genym gyt'ryw ddefod, na ehan eglwysi Daw. Ein defod ni vw byw mewn rhyddid a thangnefedd, ac nid mewn bidlo gwibed. Mae'r wlad yn gyffredinol yn gofyn, pa bryd yr vrnwtM Mis'! Evans ag Arfon etto? Bu gyda Mr. Hughes, yr artist, yn Nghaernarfon, yn tynu ei darlun, a llwyddodd i gael un tra chywir. Pan oeddwn yn dych- welyd oddiwrtb Mr. Hughes ddoe, a'r darlunian yn fy llogell, tybiwn fod yr awen yn troi yn ventriloquist, ae yn ymleferydd a mi o'r mur gerllaw, ac yn dywedyd wrth y bobl Cynddelw pwv can ddyled ?—arafwch Mae'lI rhvfedd ei weled. Yn rhodio 11awr, hyd a lied, A Beccrt yn ei bocced Ond y mae yn rhaid i mi adael yr awen yn Uonydd, canys y mae cywydd gorchestol I. ab loan wedi ei thaflu a'i thraed i fvoy er's tua mis yn ol; eithr y mae yn dal i ddweyd o hyd yn ddystaw y f bydd iddi ddadebru yn fuan i dalu'r benthyg adre !'r Cymrawd awenyddol hwnw. Fy ngofid wrth deithio j wlad yna, Mr. Gol., tua deufis yn ol, oedd "fod y Deau a'r Gogledd mor bell oddiwrth eu gilydd. Mae yn rhaid i ni amgylchynu swvdd Callestr a Chilgwri, a myned trwy Gaerlleon Gawr a'r Am wy this, cyn y cyrhaeddwn ni yna; ond y ttae amser gwell ar ddyfod. Bydd railway Otldiyrna i Fachynlleth yn dra buan. Mae gweithwyr lawer ar y darn sydd oddiyma i Berthmadog ac ymae y pontydd gan mwyaf wedi eu gwneuthur. Nis gwn beth i'w ddweyd am y tfordd oddiyma i Lanberis. DyweJed amser yn ol y byddai twryn o Saeson 75 0 flynyddoedd, yn ol fel yr oeddynt yn gweithio, yn myned trwy glogwyn o graig heb fod yn agos i [ wythfed ran o filltir o hyd! Ond cifodd y giwed hono ei gwasgaiu, a rhoddwyd Cymry yn eu He; dynion a fedrent ddrjllio craig er ei bod o'r fath galetaf; ac os nad ant drwyddo yn fuan, bydd raid i'r Hen Gloddiwr daro ei gaib o dan y clogwyn, a'i ddymchwel i Lyn Padarn! Bydd railway glanau Cymru yn ein cymmeryd drwy y golygfeydd godid- ,ocaf a wyddom ni am danynt. Tybiwch eich bod tYB cychwyn o Forfa Snint wrth Gaernarfon- ffwrdd a ni mewn dim o amser dros afon Gwyrfai i Lanllyfni, ac oddiyno at Gricieth, a chyda glati y mor i Borthmadog, a thros y Traethmawr a'r Traethbach i Ardudwy, heibio Harlech, a thros afon Artro i'r Abermaw we-'i hyny ar frys gwyllt i Aberdyfi, ac oddiyno i Aberystwyth, neu Fachyn- Uaith, fel y byddo angen. Bydd gobaith fel hyn am gael ail-olwg ar y wlad a deithiem 20 mlynedd yn ol drwy lafur a Uudded ar ol ein eyhoeddi-'dau, pryd nad oedd teithio felly yn warth, a chyn i ferweidd-dra hen oed ladd yr awch teithiol ynom. Mae Cymrawd wedi gofyn yn y SEREN, Pa beth a ddaw o'r Esboniad? Wel, gobeithio y daw y gwaith allan yn fuan, wedi ei orphen. Y mae ail- gytutuleb rhyngwyf a'r argraffydd, oblegid o'r blaen yr oeddwn I yn cymmeryd gormod o'r baich ar fy ysgwyddau fy hun oleiaf, cymmeryd IDWY nag oeddwn yn allu ei ddwyn yn hwylus; ond bellach, byddaf yn llai fy ngofal i orphen y gwaith. G:<hr pob cyhoeddwr llyfr yn rhanau, fod yn haws anfon y gwaith allan, na chael y tal i mewn. Yr wyf fi yn foddlawn i'w orphen ar eIw bychan iawn, yn hytrach nWi adael yn anorphenedig ond yr wyf yn dychrynu rhag myned i ddyled. Gan hyderu yn amynedd a ffyddlondeb y caredigion sydd yn dysgwyl am dano, y gorphwys, yr eiddoch, Caernarfon, Medi 22, 1865. CYNDDELW. -====-==--=:-