Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

RHYS LLEWELYN,

News
Cite
Share

RHYS LLEWELYN, Y BiCHGEN AMDDIFAD. PENNOD 1. Nis gwn I amcan paham y galwwyd y ty bychan yn mha un y llettyai Llewelyn Phylip Byffuddgynt ar yr enw Cilmaenllwyn. Yno y bu fyw ei dad, yr hen Phylip Ryffudd, er y pryd yr ymunodd mewn "glâa briodas a Sali Shon Leyshon, o Flaennant-yr-hesg a dyna lie bu feirw yr hen bobl, mewn oedran teg, o fewn i lai nag wvthnos y naill i'r llall, yn mhen o saith i wyth mis wedi priodas Llewelyn, eu hunig fab, a Shoned Forgan Shincin; ac i Shoned, trwy ganiatad yr hen wraig, gael rheolaeth, trafodaeth, a chogin- iaeth y ty. Bu yr hen vvr farw ar ddydd Llun, a'r hen wraig ddydd Gwener, yr un wythnos, wedi bod yn briod am saith mlynedd a deugain a saith mis. Bu iddynt saith o blant, ond claddwyd hwy oil pan yn blant, ond Llewelyn efe yn unig a fu byw i dyfu i fynv i gyflawn faintioli. Y mae rhai dynion go ddysgedig wedi bod yn mlaeneuach Cymru hyd y nod yn y ganrif a aeth heibio. Un o'r cyfryw oedd Ifan, Pantygwastad. Yr oedd ef wedi bod yn yr ysgol gyda yr hen Gadwgan Reinallt. Yr oedd Cadwgan wedi colli grym ei gliniau er yn ieuanc; ond yr oedd, er hyny, wedi llwyddo i bigo ei doc yn wych iawn wrth gadw ysgol ddyddiol. Yr oedd ef (Cadwgan) yn gwybod Groeg a Lladin, a rhyw ddwy neu dair o ieithoedd ereill, anadnabyddus i'r werin (meddai ef), ac yn dipyn o gonsurwr hefyd. Byddai yn ennill ambell i hwyr- bryd a boreu-fwyd, a Hetty noswaith, wrth gael allan, trwy gonsuriaeth, pwy fyddai wedi lledrata rhywbeth a fyddai ar goll, neu wedi cyflawnu y drwg hwn neu arall. Cafodd olwyth tew mawr o gig mochyn, a phar o fara eeirch bach, heblaw dau bryd o fwyd, a Hetty dros nos, gan wraig Hywel, o'r Glyn, am ddewinio pwy a gylymasai gynffonau y ddwy ruwch, Mwynen a Shoncen, wrth eu gilydd, yr hyn a fu yn achos i Shoncen golli ei llosg- wrn, am nad oedd mor gryfed ei gwreiddiau a'r eiddo Mwynen. Pan ddywedwyd am yr ystranc wrth Mr. Reinallt, mynodd ei gario (oblegid nis medrai gerdded) i'r drydedd llofft, lie yr oeddchwech neu saith o farilau gweigion, acysgerbydau dwy hen badell bres. Rhoddodd orchymyn caeth i bawb o'r tylwyth ymneillduo i'r gegin, a gofalu pa fodd yr ymddvgent yno hefyd, tra y byddai efe yn ymofyn a'r boaau ysbryd- aidd. Yn fuan, clywid taranau dychrynllyd uwchben—tybiasant oil fod y ty yn myned yn chwilfriw; ac yn nghanol y dychryn, neidiodd Lewsyn, y gwas bach, at ei feistres, a deisyfodd arni, trwy ddagrau, i ymdrechu cael attalfa ar y dymhestl, na wnai ef byth y fath beth ond hyny, ac y dyoddefai unrhyw gosp o'i gweinyddiad hi, yn hytrach na myned dan driniaeth y consurwr. Ar hyny, torodd Hywel a Mali allan i chwerthin— peidiodd y taranau, a maddeuwyd i Lewsyn. Yr oedd Ifan Bantygwastad wedi bod dair blynedd yn yr ysgol gyda Reinallt, ac felly naturiol i ni feddwl ei fod yn ddyn dysgedig, ac felly yr oedd a dywedai ef mai ystyr yr enw oedd Eglwys-maen-y-llwyn, ac i'r man gael ei alw felly am fod gynt gynnulliadau crefyddol i ymyl y maen llwyd a gysgodid gan lwyn o ddrain spyddyd a dyfai yn agos i'r lie y saif y ty bychan hwn; ond dywedai hen Sh6n o'r Ty-brith, mai oddiwrth y cilio i gysgod maen y Ilwyn y tarddodd yr enw. Ond dyna ddigon, a gormod, feallai, o philosophi. Deuwn at y pwnc. Yr oedd gwraig Llewelyn yn anmhlant- adwy, ac yn groes i'r cyffredin o wragedd diblant, nid oedd yn dymuno cael plentyn ychwaith-tybiai ei hun yn ddedwyddach fel yr oedd. Yr oedd Llewelyn o hono yntau, a llefaru yn iaith y werin, yn dwli ar bob plentyn a welai. Rhyw noswaith lwydrew- 11yd yn mis Tachwedd, 1801, rhwng naw a deg o'r gloch-y wraig o'r CilmaenUwyn wedi myned i'w gorphwysle, a Llewelyn wedi aros ar lawr ar ei hoi i orphen llwy ddaupen ag oedd yn ei gwneuthur i ferch Dafydd Gae'rlan, erbyn ei phriodas y Sadwrn dyfodol, dyma alw wrth y drws,- "Hawyr, Llewelyn, Shoned, a odych ch,i wedi myn'd i'r gwelv P" "Nac ydym," ebe Llewelyn. "Ynenw'r anwyl, Shiwi fach, beth sy'n bod y pryd hyn o'r nos ?" Pwy sy'na P'' ebe Shoned, rhwng ewsg ac effro. Shiwi Dy'nywaun, debygwn wrth ei llais," oedd yr ateb ac erbyn hyny yr oedd y tri ar ganol y parth, yn edrych dipyn yn syn yn ngwynebau eu gilydd, wrth olcu tan pelau a boncyff Llewelyn a Shoned.. Buan y deehreuodd Shiwi ar ei chwedl. Yr oedd Einon a Wil bach wedi myn'd i spio'r fuwch, fel mae 'nhw'n arfer cyn myned i gysgu: a chyda bod Einon yn nrws y beudy, fe glywai lais bach gwanaidd yn y ty copyn— fe dro'ws yn ol i alw arna' I. Fe ge'so ine' ormod o ofon myn'd yno, a fi redais hyd yma. Da chi'the, de'wch gyda fi i gael gwei'd beth sy' oco." A ydych chwi yn siwr," ebe Llewelyn, fod y plant i gyd yn y ty ?'' "Odw'n siwr yn ngwala," ebe Shiwi; er amled yw 'nhw, fi wn I eu rhif a'u henwe' un amser o'r dydd neu'r nos." Erbyn hyn, yr oedd Llewelyn a'i wraig yn barod wedi gwisgo, a'r ganwyll gin Llewelyn rhwng ei fysedd, mewn telpyn o glai melyn, ac ymaith yr aethant tua Thy'rwaun, ac at y ty copyn, lie y eawsant Einon a thri o'r plant hynaf, a chwpan a llwy yn gweinyddu y gymmwynas o arllwys ychydig ddyterion o laeth a siwgr i enau baban bychan, diwrnod oed, debygid. Yr oedd y bychan gwan wedi ei lapio i fyny mewn dernyn o frethyn llwyd newydd, yr hwn oedd 3 n ei ddi- ogelu, i raddau helaeth, rhag oerder yr hin; ac erbyn hyny, yr oedd yn dechreu tawelu dan effeithiau y llaeth clauar, a'r siwgr. Cymmerodd gwraig Einon ef i'r ty, gan ei faldodi, a dywedyd, Taw di, yr un bach anwl, 'chei di ddim marw heno, os galla' I; 'taswn I yn gwbod gyne' taw ti o'dd yna, 'choll'swn I ddim o'r holl amser i fyned tua thy Llewelyn. B'le mae dy fam-y faeden ddinatur-ei bod hi yn gallu gad'el yr un bach diniwed yn y llwydrew ar shwd nos- waith a hyn ? Beth all'set ti, yr un gwan bach oddiwrthyn 'nhw a'u whilboethdra P Trueni dy ddibrisio di, y bitw bach. Lydia (y ferch hynaf), dere yn y fynyd a'r badell fach yna i fi, ac arllwys y dw'r yna iddi, a dere a chrys bach gwlanen newydd, rhwymyn coch, a ffrog fraith Einon bach i fi. Edryeh yn y dra'r bach nesa'r clock yna, a weli di ddim taleth a chlwtyn coch i ddodi ar ei dalcen bach e', a rhaid i ni gael gintsay hefyd i gadw ei ben bach e' yn steady." Yn ystod llefariad yr ymadroddion hyn, a llawer o'r cyffelyb, nad wyf yn eu cofio, golchwyd a gwisgwyd y caffaeliad bychan, a dodwyd ef mewn mantell i'w gynhesu ar fynwes Shiwan. Plentyn braf digynnyg, ebe Llewelyn, Pwy all fod ei fam e' ? Pwy yn y gym- mydogaeth oedd a son ei bod yn fraisg P Wn i ddim am neb; ond efallai y gwyddoch ch'i, fenywod." "Na wn I," meddai un "Na wn innau," meddai y llall; ond fe fu son fod merch Morris Domos Ifan, ond'doedd e' ddim gwir, waeth fi gwelais hi ddoe, mor feined a fine' Wei,meddai Shiwi, bachgen braf yw'r bachgen, nad pwy yw ei fam e'—y mae mam a thad iddo yn rhywle; ond y cwestiwn yn awr yw, Beth 'newn ni iddo." IL Ni a'i eadwn, e' meddai Einon, "ac s'i magwn e' gydag Einon bach, fel magu dau efeill." ° Na chadwwn ni yn wir," meddai Shiwi, y mae genym ni ddigon hebddo-os gallwn u1 ^aTaa^ fagu y saith sydd genym, bydd yn beth mawr, a mawr fydd ein dyled i ■ i°lch i Dduw am hyny, heb achos i ni rjfygji eymmeryd plant na wyddom ni pwy y byd, ar eiu cefnau." "Betli sydd genych idd ei wneuthur," ebai gwraig Llewelyn, "ond myn'd ag e' i dY'r cwn- stab ? Mae hwnw yn bound o'i dderbyn e', a'i ro i e' ma's idd ei fagu; ac fe fydd y plwyf ynrhwym o dalu, os na ellir ffeindio ei dad a i fam e' ma's, a gwneuthur i'r rheiny dalu." 'i • tgei.U ,wir'" ebe Shiwi' y mae Llewelyn a chi the heb un plentyn, cymmerwch ch'i^ a magwch e'; fe all ddwad yn fachgen braf, i gwni eich cefnau pan fyddoch yn hen ddyn- lon." J ."Na wnnmni," meddai Shoned: «san ein bod heb blentyn ein hunain, ffolineb i ni ymboeni i fagu crop dynion ereill." "Na, nad elwi," ebe Llewelyn, "'fyddai well i ni ei gymmeryd e', ni a fyddwn yn hen greadunaid dibris a diamddiffyn iawn heb vn S2\° tTWynan Pan'eIom yn hen, ac i ffaelu Fe allai plentyn, er mai plentyn mabwysiedig fyddai, fod yn gysur mawr i m." J sj01" W ? gysur f>'ddai bachgen," meddai Shoned; doea dim crynodeb mewn v^wbl f^l t?na 1 ond annibena arall. 8'' PC buaSai yn ferch' V<*h "Paid bod yn bengam, Shini," ebe Llew- 7 ?/' yn y b^d bet^ all ddyg- Tuhwnt trTb m°I ^8Ur,U8 y mae Gweni WhT ^WugyAai bach^en' ar <>i colli nanfvd^ T 7 -Wn yn gefn 1 tithatt ,y I yn priddro.' "ebe Shoned, "fi w'ranta fod yn fnw?' ga6i! dy fforddj on<l, cofia di, taw ti sydd x ymboeni ag e', i eodi evdas- e' vn ?read flhfU fellj' !°8 dygwydd iddo fod yngreadurllefogacanhywaetb,"&c. FeHv cymmerodd Llewelyn a'i wraig at y plentyn.

GOHEBIAETH 0 ARFON.

Y RHi DDFRYDWYR, Y CEIDWADWYR,…