Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

YR EISTEDDFOD,

News
Cite
Share

YR EISTEDDFOD, 4. qynnaliwyd yn Aberysttoyth, Medi 12fed, 13eg,. ( 14e^, a'r 15/«<f, 1865. •f; V DYDD CYNTAF. DECHEBTJODD gweithrediadau yr Eisteddfod fiiwreddoglion tuag un-ar-ddeg o'r gloch boreu didd Mawrth, pan yr ymgyfarfu aelodau y Pwyllgor Lleol a chyffredinol, ya nghyd a lluaws eraill, yn aeuadd y dref. Wedi myned trwy ryw bethau angenrheidiol, ymfturfiwyd yn orymdaith fawreddog ftfthrefnus, ac awd trwy y brif heol, yn cael ein blaenori gan y seindorf i'r Castell. Yna agorwyd yr orsedd gan Clwydfardd, yn y geiriati a ganlyn Y gwir yn erbyn y byd. Yn y flwyddyn un fil th gant a thriug-ain a phump, pan yw yr huan yn nesau at Alban Elfed, yn awr anterth, ar y ddeu- ddegfed dydd ofis Medi, wedi cyhoeddiad teilwng agorir yr oraedd hon- yn Aberystwyth, i roddi gwys a gwahawdd i bawb a gyrchant yma, lie nad oes noeth arf yn eu herbyn, ac y eyhoeddir barn gorsedd ar bob aVenydd a barddoni a. roddir dan ystyriaeth. Yn ngwyneb haul a llygad goleuni." Y gwir yn erbyn y byd." Yna darllenodd Nicander yr un cyhoeddiad yn yr iaith Saesneg. Wedi hyny darllenodd y weddi ganlynol Duw, dyro dy nawdd Ac yn dy nawdd nerth; Ac yn dy nerth, deall; ,,i 1 .Ac yn neall, gwybod, Ac yn ngwybod, gwybod y cyfiawn, Ac yn ngwybod y cyfiawn, ei garu Ac o garu, caru pob hanfod Ac o garu pob hanfod, caru Duw a phob daioni." Wedi hyny, awd yn dorf ddifyrus i babeH eang yr Eisteddfod, yn cael ein blaenori gan ein llywydd parchus. Yr oedd y babell wedi ei hadeiladu yn gryf a destlus, ac yn ddigim o faint i gynnwys o bump i chwech mil o bobl. Yr oedd wedi ei hadd. orno o fewn a garlantau o flodau, gyda'r ar- wyddeiriau canlynol yn britho y lie — Daw gadwo'r Frenines," "Cymru fu, Cymru fydd," ittra Mor tra Brython," "Oes y byd i'r Iaith GVmreig;" "Calon wrth galon," &e. Wedi i'r orymdaith gyrhaedd yno, yr oedd y lie yn orlawn. Bernir fud yn y cyfarfod boreol hwn tua 5,000, yna canwyd y gan genedlaethol gan Owain Alaw, Pen- cerdd a chydgan, Merch Megan," gan gor yr Eisteddfod, y tiaill a'r llall yn hynod dda a swynol. Cawsom ein sionii y dydd hwn ya y llywydd bwr. iadedig, sef y Tywysog Lucien Buonaparte, yr hwn a rwystrwyd gan afiechyd i ddyfod i'n plith. Cyn- nygiwyd a' pbasiwyd yn unfrydol fod y Parch. J. G-tfffiths, Rector Castellnedd, i gyifcmeryd y gadair am y dydd. Yna cododd y Rector yn nghanol y fonllef 0 gymmeradwyaeth fwyaf dryd- n g a anol a glywsom ac a deimlasom erioed, ac agorodd y cyfarfod trwy un o'r areithiau mwyaf hyawdl a doniol a wraudawsom hyd yn hyn. Anerchwyd yr Eisteddfod mewn englynion gan Alltud Eifion. Yaa cafwyd beirniadaeth y Parch. W. Roberts (Nefydd), ac O. Jones, ar y Traethodau ar Hyn- aflaethau a Thraddodiadau sir Aberteifi. Gwobr Riot a thlws. Un ymgeisydd, a barnwyd ef yn gwir deilyngu y wobr. Awdwr y traethawd hwn yw Gwynionydd, Llanfihangel.ar-Arth. Wedi hyny, cafwyd unawd ar y delyn yn berswynol gan Mfr. Griffith, Llanofer. TDarllenodd Caledfryn ei feirniadaeth ef a'r eiddo Dewt Wyno Essyllt, ar y Cywydd ar Cartref." Gwobr je5, a thlwys. Dyfarnwyd y tlws i loan Arfon, a rhanwyd yr arian rhwng Coryn Nant y Cltrw, a Dewi Glan Peryddon. Canwyd Home, sweet home," gan Miss Edith Wynne yn swynol iawn. Darllenwyd beirniadaeth Mr. Ambrose Lloyd a'r Parch. E. Stephen ar y deuawd goreu priodol i'w ganu gan ddwy fenyw. Gwobr, dau gini, gan Gyf- aill. Y goren, Brython. Nid atebodd i'w enw. Yr oedd wedi cael ei gynnyg i'r Seindorf a chwareuai oreu y Rhyfelgyrch," allan o {{ Faust," 4^10 i'r goreu, a X5 i'r ail oreu; ond ni ddaeth yr un yn mlaen. Darllenodd Hwfa MÔII ei feirniadaeth ef ae I. D. Ffraid ar y Bryddest ar Gastell Aberystwyth. Gwobr .£5 a thlws. Dyfarnwyd y wobr i D. Harries (Caeronwy). Cafodd gymmeradwyaeth uchel gan y beirniaid. Cystadleuaeth Gorawl. I'r Cor (yn gynnwysedig o ddim llai na 14 o leisiau cymmysg). a gano oreu, "I Up, quit thy bower." Gwobr, £5 5s, a thlws. Cor Bualit yn unig a ganodd, a chafodd y wobr. Beirniaid, Mr. Ambrose Lloyd ac Owain Alaw. Darllenodd Caledfryn ei feirniadaeth ef a Dewi Wyn ar yr englyuion ar "Pont ar Pynach." Gwobr gini y goren, Manod Wyllt; a thyma un o'r rhai goreu:— Bwa certh uwch rhyferthwy—hen Fynach, 0 feini safadwy, Yw'r bont hên-dolen rhwng dwy Graig, odiaeth gaerog adwy. Cystadleuaeth ar y delyn deir-res. GwobrR5, a thlws. Tri yn vmgystadlu. Goreu, Mr. Lewis Williams, Dowlais. Gwrnvd i fyny bunt o wobr i bob un o'r ddau ereill. Beirniad, Pencerdd Gwalia. Wedi hyny, darllenodd y Llywydd ran o feirn- iadaeth v Tywysog Louis Lucieii Buonaparte, J. Johnes, Ysw., Garthmyl; a'r Parch. W. Basil Jones, A.C., Rhydychain, ar y traethodau ar 4i Dechreuad Cenedl y Saeson." Gwobr, can gini. Unarddez wedi ymgystadlu. Yr oedd tri yn tra ragori ar y lleill; ond yn annheilwng o'r wobr. Cymmeradwyent fod y testun i gael ei adael yn a<»-ored hyd yr Eisteddfod nesaf, ac ychwanegu at y'wobr, yr byn a gymmeradwyid yn fawr, gan uad oedd teilyngdod. Canwyd pennillioti gydar delyn, gan ldns Fechan," Eos Mon, ac Eos Mai; telynwr, Mr. Llewelyn Williams. Rhoddasant ddifyrwch mawr i'r dorf anferth oedd yn bresenol. Yna traddodwyd araeth Gymraeg gan Caledfryn. Dywedai fad r'-ai yn dweyd fod yr iaith Gymrae, i farw. Yr oedd y cynnulliadlluosog yn Eisteddfod Aberystwyth yn profi na cbelai farw. Olrheiniodd lawer o enwogiun Cymru yn yr oesoedd gvnt, a'u gorchestion; purdeb y wasg Gymreig, a'r pwlpud. Dywedai na feiddndd Tom Payne a Voltaire ddangos eu gwynebau erioed yn Gymraeg. Wrth .derfynu, taniodd y dorf aruthrol a'i hyawdledd wrth ddarllen y pennillion a wnaeth ar yr iaith Gymraeg. Gosodir rhai ohonynt yma ar antur Cafodd lawer gelyn chwerw Yn ei herbyn yma athraw Fe brophwydid er's can mlynedd 1 Fod ei thranc yn mron gerllaw; Parotoid ei harch a'i hamdo, Cloddiwyd beddrod iddi hi, Ond y gelyn a fa f#rw, Byw yw'r faith mewn parch a bri. "Gwelhigiaddumiloeddetto Na fydd galar ar eu hot, Hithau'n fvw yn ei gogoniant, Henaint heb wneyd ami ei 61; Y bradychwyr sydd yr awrhon Yn sychedu am ei gwaed, Wedi cwympo mewn gwaradwydd, Y n garneddau wrth ei thraed. Ceisiodd rhai wrth fyn'd i Loegr I'w hanghoflo-'i bwrw i bant; Ond yr oedd ei gwraidd yn Nghymru, Yii ngbalonau pawb o'i phlant; Nid oedd grym y fath lewyrnod Ond fel niwlen o flaen gwynt, Mae'r hen iaith yn fil cadarnach Nag yr oedd yr amser gynt." Cystadleuaeth mewn canu etto. I'r heb fod dan 30, nathros 100, a ganai yn oreu "Motett Fuddugol Abertawe." Gwobr gyntgf, £15, a thlws i'r arweinydd; ail wobr, £10, a thlws i'r arweinydd. Dyfarnwyd y wobr flaenaf i g6r Llanrhystyd, dan arweiniad Mr. D. Lewis; a'r ail i Llanidloes, Chwareuwyd Unawd ar y Delyn, gan Mr. Ellis Roberts. Terfynwyd y cyfarfod hwn trwy i'r dorf ganu, Hen Wlad fy Nhadau;" Llew Llwyfo yn blaenori. Yr oedd calon pob Cymro yn cael ei gwefreiddio gan swn y dorf. y Am chwech o'r gloch yn yr hwyr, cynnaliwyd CyNGHERDD ARDDBRCHOG yn y babell, pan y cjmmerwyd rhan yudtli gan y ddwy Miss Wynne, Miss Owens, Mr. L. Thomas, Llew Llwyfo, Mr. W. H. Cummings, Mr. J. R Thomas, America, Owain Alaw (Pencerdd), can- torion. Telynorion; Mr. J. Balsir Chatterton, prif delynor Lloegr; Mr. E. Roberts Mr. Llewelyn Williams (Pencerdd y De); a Mr. Griffiths, Llanofer. Chwareuwyd gyda'r Berdoneg gan Mr. Brinley Richards, Mr. W. H. Owen, ac amryw ereill. Yr oedd prif foneddigion a boneddigesau sir Aberteifi, a llawer o wahanol siroedd ereill, yn y naill a'r llall o'r cyfarfodydd. YR AIL DDYDD. Dechreuwyd ar waith y dydd hwn yn gyfTelyb i'r dydd o'r blaen. Y Llywydd ydoedd E. L. Pryse, Ysw., A.S., Arglwydd Raglaw sir Aberteifi. Cafwyd anerchiad lied wresog ganddo yn Saesneg a Chymraeg, yr hyn oedd yn ateb yr Eisteddfod i'r dim. Canwyd cângenedlaethol gan J. R. Thomas, America, yn orgampus. Wedi hyny, cafwyd cystadleuaeth gorawl. Heb fod dan 16 o leisiau cymmysg, a gano oreu, Telyn Cymru," gan Brinley Richards, yn Gymraeg, neu Saesneg. Gwobr, pedwar gini, a thlws i'r arwein- ydd. Un cor yn unig yn ymerystadlu, sef cor Buallt, a chafodd y wobr. Beirniaid, Mr. Ambrose Lloyd, ac Owain Alaw. Yn nesaf ydoedd beirniadaeth Caledfryn a Dewi Wyn ar yr Awdl er coffadwriaeth am y diweddur John VBughan, Ysw., Penmaendyfi, Meiiionydd. Gwobr, deg gini. Dau ymgeisydd, ond nid oedd un yn deilwng o'r wobr. Unawd ar y delyn, gan Mr. Llewelyn Williams (Cerddor y de). Beirniadaeth Mr. Ambrose Lloyd a'r Parch. E. Stephen, ar y Canigan. Gwobr, pum punt. Tri yn ymgvstadlu. Rhanwvd y wobr rhyngddynt. Gorwenydd, £ 2 Orpheus, £ 110 Joseph, zel 10s. Beirniadaeth 1. D. Ffraid a Hwfa Mon ar y Bryddest ar "Dafydd." Gwobr, f20 a thlws. Deg yn ymgystadlu. Goreu, Llew Uwyfo. Unawd, "Adgofioo am Gymru" ar y berdoneg, gan Mr. Brinley Richards, yn benigamp. Araeth Saesneg gan y Parch. J. Kilsby Jones. Rhagorol, ond ei bod yn Saesneg. Cyfeiriodd ar ddechreu ei araeth at fedd argraff a welodd ar gofadail yn Penzance, yr hwn a godwyd gan y Tywysog Lucien Buonaparte, a'r Parch. M. Garret, er cof am yr hen fenyw, yr hon a ddywedid a lefarai y Gerniwaeg ddiweddaf, a chymmerodd ef y rhyddid o ddychwetyd ei ddiolchgarwch i'w Uchelder, ac i offeiriad y plwyf, am godi y fath gofadail ardderchog. Pa ysgolhaig mewn oesoedd dyfodol a godai gofadail i'r dyn a lefarai y Gymraeg ddiweddaf, ni wydda: efe. Pa un a oedd y cyfryw amgylchiad yn agos neu yn mhell, ymholer a gwneuthurwyr rheilffyrdd; ond nid oedd pf yo tybied yr ymhyfrydai unrhyw Gymro i anfon hanes marwolaeth yr hen iaith i'r newyddiaduron Seisnig. Oos y byd i'r iaith Gymraeg" oedd lleferydd pob Cymro. Yna gwnaeth gyfeiriadau parchus at Dywysog Cymru ac wedi hyny gwnaeth sylwadau pwrpasol ar neillduolion cenedl y Cymry, a'r safle a feddiennir yn bresenol gan yr iaith Gymraeg. Beirniadaeth y mrif-athraw Ramsay, ar y traethodau Saesneg ar Ddaeareg Deheudir Cymru. Gwobr, deg punt a thlws. Un cyfans >ddiad, a hwnw yn deilwng o'r wobr, saf eiddo Mr. J. E. Thomas, Rhaiadr, Cymrawd o'r Geological Society. Yn nesaf oedd yr ymgystadlu am yr Y sgoloriaeth Gerddorol. Gwobrwyo y ferch ieuanc, a rydd yr argoelion goreu i ragori fel cantores, ag ysgoloriaeth o £50. Cyfyngid y gystadleuaeth i rai rhwng 16 a 21 oed, yn enedigol o Gymru, ac yn hyddysg yn y Gymraeg. Beirniaid, Mr. Brinley Richards, Pencerdd, a Mr. Ambrose Lloyd. Bu chwech yn ymgystadlu; ond dyfarnwyd y wobr i Miss Ed- munds, Abertawe. Beirniadaeth Hugh Owen, Ysw., a J. Maurice Davies, Ysw., Antaron, ar y traethawd ar Y Dosparth Gweithiol yn Nghymru." Gwobr, £20, a thrws. Buddugol, eiddo y Parch. D. Griffiths, ien., Bethel, Sir Gaernarfon. Terfynwyd tiwy ganu can a chydgan Hen Wlaù fy Nhadau ynhyfryd a swynol. Cynnaliwyd cyngherdd fawreddog yr ail noson hefyd. ,piciion y rhoddir hanes hefaethach o honi etto. ■. r. Gellir dweyd dau beth tra phwysig mewri cys- I sylltiad ag Eisteddfod Aberystwyth. Trodd allan mewn poblogrwydd ac arian yn grand success; ond mewn gallu meddyliol trodd yn flat iawn, oblegid collwyd i prif wobrwyon o ddifFyg teilyngdod. (Y gweddill yn y nesaf.) TALIESIN. Fi

MAESTEG. T EISTEDDFOD CYMRODORION…

[No title]

CWRDD MISOL CWM RHYMN1.

TEILWNG 0 EFELYCHIAD.

LLANELLI A'R GYMMYDOGAETH.