Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Advertising
Cite
Share

NEUADD DDIRWESTOL, ABERDAR. «Y GLOWR A' I BERYGLON." TRADDODIR DARL1TH ar y testun uchod JL yma nos LUN, Medi 25ain, 1865, gan DR. PRICE. Cymmerir y gadair am 7 o'r gloch, gan, DAVID DAVIS, Ysw., Maesyffynnon. iTocynau-Swilt yr un. fjp" Yr holl elw i Weithiwr a gafodd ei anafu yn Ngwaith Glo y Gadlys. Dymunir cydweithrediad y Glowyr fi'r aiiacau mewn golwg. BARDDONIAETH TELYNOG. Yn awr yn barod i'r Wasg., ac a gyhoeddir yn fuan, HOLL, Gyfansoddiadau Barddonol y diweddar D .I a-wenydd ieuanc, TELYNOG. Cyhoeddir y gwaith yn un gyfrol, gwedi ei rhwymo yn hardd mewii Ilian, gyda darlun cywir o'r awdwr, pris 2s. 6ch. Bwriedir gosod rhes o tnwan y tanysgrifwyr ar ddi- wedd v llyfr am hyny, dymunir ar bawb It. fwnadant ei dderbyn anfon eu henwau ar unwaith i Dafydd Morcanwc, 6, Alma Terrace, Merthyr Howel Wil- liams, Pant y Gerdinen, Aberdar neu i Swyddfa y (rwlttdg*rwr. Pwy bynag a ddospartho chwech, gan ofalu am y tal, a gaifl y seithfed am ei lafur. Yr elw arferol i Lyfrwerthwyr. BETHANIA, CASTELLNEDD. BYDDED hysbys y cynnelir Eisteddfod Fawreddog, 1) mewn cyssylltiad a'r capel uchod, DYDU NADOLIG, IS65. Y BRIF ANTHEM. I'r c6r o"r un gynnulleidfa, ddim dan 40 mewn rhif, a gano yn oreu "The Missionary Requiem of the Rev. John Williams," Music by John King, ar y g«i™w 0 waith j Parch. B. Evans, Trist alar »ydd, &c. Gwobr, ^10. 1r ail orea, X4. Rhoddir caniatad i'r c6rau i ddewis arweinydd. Beirniaid.-Y Gerddoriaeth, &c. — Eos Rhondda. Y Traethawd, y Farddoniaeth, a'r Adroddiadau, &c. -y Parch. J. Rowlands, Cwmafon. Gellir cael cyfres gweddill o'r testunau ond danfon dau stamp i'r Ysgrifenydd,— T. W. JONSS. 2, Henry-street, Neath. I GADLYS ABERDAR. ~n"V"n~n ZLsT-A-DOXilO, 1865. BYDD i Eglwys a Chynnulleidfa y Gadlys iTYIllial GflL DE FA WEED D 0 G! Dydd Llun, Rhagfyr 25, 1865. Dymuna yr eglwys a'i gwemidog am nawdd a «hydymdeimlad, cynnorthwy a chydweithrediad eglwysi a chorau cynnulleidfeol y Bedyddwyr drwy yr ardal ar ddydd ei gyl. SW Yn gymmaint ag na ddaeth Rhagdrefn y Cwrdd Misol allan mewn pryd i'r eglwys gynnal y wledd yn Awst eleni, bydd iddi gymmeryd lie y tro hwn dydd Nudolig; yna yn oltcynllun y Cwrdd Misol. AT EIN GOHEBWYR, &c. Kin DERBYNIADAu.(oan ,Cynon-Capt. Williams -loan-Heri Veiliwr Parch. Evan Thomas- Crydd o Aberaman—David Williams Jestyn- Samuel Job-R. :Rees Nennius Parch. J. E. Jones, A.C.—William Reynolds-Ll. Jenkins- W. M. Jones—Shon o'r lad — Parch. Samuel Williams-Parch. J. H. Millard, A.M. Llew Dyfed. Ø" Mae genym amryw draethodau da yn aros yn y Swyddfa. Hyderwn yn y man i wneyd cyfiawnder a'r oil o honynt.. 1. IOAN CYNON.-Byddai yn resyn i ddynoethi ffolineb y fath nifer o bobl yn Merthyr, a golygu fod yr hanes a roddwch yn wir; ond gwyddoch ein bod ni wedi cael ein blino a chwedleuon gau o Ferthyr, felly yr ydym yn. dra hwyrfrydig i gyhoeddi unrhyw beth ddaw oddiyna heb sicrwydd diymwad o'i wir- ionedd. CAPT. THOMAS WILLIAMS.—Yr ydym yn ateb 1. Fod hawl gan swyddogion y plwyf i godi treth y tlawd ar y ty by w sydd yn ymyl y capel, ond nid ar y capel ei hun. 2. Am y degwm, mae yn ymddi- bynu ar delerau gwerthiad y tir. Y tebygolrwydd yw, fod hawl i godi y degwm ar y darn tir yn ol y pris a delir am y gweddill o'r fferm ar ba un y mae yn seiyll ond anaml iawn y bydd trachwant y deg- ymwyr yn myned mor bell a hyn. HEN DEILIWR.-Nid yw yr Hen Bacman yn werth v sylw ? delwch iddo. MR. SPURGEON YN NGIIASNEWYDD.-Mae y rhan fwyaf on daillen wyr erbyn hyn yn gwybod am ddy- fodiad y gwr enwog hwn i ymweled a Chasnewydd. Mae ein cyfeillion yno wedi gwneyd pob darpanaeth er rhwyddhau y ffordd i ddyeithnaid i ymweled a r lIe o wahanol fanau. Bydded i'r rhai a iwnadant fyned yno ddarllen llythyr Mr. Thomas yn y rhifyn presenol, ac edrych yr hysbysiadau. DA VID WILLIAMS.—Yr ydych o dan y nod gyda golwg ar y swm a gafwyd i'r Undeb. Costiodd i in lawer iawn o draul, amser, a thrafferth, a r oil am ddim ond yr oeddem yn credu ein bod yn gwneyd daioni. Byddai yr hanes yn ddyddorol iawn i chwi, ond y mae y mater yn rhy bersonol i ni wneyd syhv o hono yn y SEREN. Dichon y daw yr hanes allan ar ryw adeg ddytodol. WILLIAM REYNOLDS, Pittston, America. Yr ydycb chwi wedi cael eich cam-hyfforddi. Ni dder- byniasom ni lythyr o fath yn y byd am danoch chwi. N-' wyddom ddim am danoch, ond yr hyn a wyddom trwy y llytryn bychan hwnw a gyhoeddwyd er yll amser yn ol, yn rhoddi hanes y ddadl ar ol Cym- manfa Ashland. EWYLLYS.— Daeth ewyllys I'n Haw boreu dydd Sadwrn. Medi 16, heb un llythyr na gair gyda hi. Danfoned y perchen ei gyfarwyddyd, a stamp, a chaiff hi yn ol gyda nodiad neu ddau ar ei chyn- ■AGP CATHAU.—Mae yn dda genym ni ddeall fod pobl Y stalyfera wedi adnabod eu hunain a il cym- mydogion yn Nghynnadledd y Cathau ond gresyn genym feadwl eu bod yn credu mai Adolphus yw awdwr yr ysgrif ar y Cathau. Yr ydym ni yn rhoddi ein gair i bawb sydd yn teimlo dyddordeb yn y Cathau, na wyddai Adolphus ddim am yr ysgrif cyn ei gweled yn argraffedii, oe gwelodd hi hefyd. "OweIl i'r bobl hyn ofalu am eu materion eu hunain, a gadael eu cymmydogion yn llonydd. ac yna ni g: bydd eisieu i'r Cathau gynnal Cymmanfa etto. Y DRYSOBFA.—A gawn ni daer ddymuno sylw ein holl ddarllenwyr at Fynegydd y Drysorfa yn ein rhifyn presenol. O am ilwyddyn o gyd-ymdrech, ac yna byddwn wedi gwneyd gorchestwaith yn y Jlwybr hwn, ae wedi hyny yn barod i wneyd daioni mawr mewn ffyrdd ereill. "LLEW Dypjci)," Merthyr, a hysbysa 11 Llew Dyfed, Cwmafon, mai efe, sef y Llew o Ferthyr, bia yr enw Llew Dy<ed er's deng mlynedd. UN o'R YSGOL STJL.—Dienw, ac felly, fel llawer o'i > frodyr, i'r fasged. CENADIAETH AETREFOI SWYDD FYNWV.— Dygwyddodd gwall yn y SEBEN ddiweddaf, drwy osod tanysgrifwyr o £ b ac uchod"—5s. ddylai fod; AT EIN GOHEBWYR AWENYDDOL. DANI SHION -Nid ydym ni yn proffesa bod yn ddi- gon galluog i ymwneyd a. Dychymmygion," &c.; felly, yr ydym yn cadw ein dwylaw yn lan oddi- wrthynt. JOSEPH HUGHES, Sen., Llandudno.—Diolch yn fawr i chwi. GOMER DÐU. Mewn hyder yn Mharadwys"- dim cynghanedd- CREIDIOL.— Y mae y cyfa:ll hwn wedi aufon i ni gan fach dlos, yn nghyd a'r bygythiad canlynol, os na chaiff ymddangos:— Terfysgu, tori y fasged-a wnaf, Os yno caf fyned Y gwr, rbowch ddrws agored I fy nghan, mae'n gan o ged-" Gwarchod pawb! bellach yn ddiau bydd yn rhaid i ni gael y I,fagged fawr" wedi ei gwneuthur o faen neu haiarn. Y mae y gan yn y Swyddfa rhag ofn Creidiol. DIDYMTJS H YDRKP.—Er fod eich pennillion yn fudd- ugol mewn cyfarfod llenyddol, «tto, nid ydynt yn ddigon da i ni. JOHN R. Bo WEN.—Nid ydych chwithau i fyny i'n safon. AMANDER.—Y mae eich croen <chwi, frawd, yn o deneu. Pa un aichwi ai rhywun arall oedd awdwr y llinellau yr ysgrifenwch atom 0'\1 plegid. Aman- der oedd yr enw wrthynt, ac nid oes genym ni etto i'w ddywedyd am danynt, ond Owl am wendid Amander." ERYR BR YN AMAH.—Y r ydym yn parcbu eich teim- lad, ond nid ydyw eich can yn deilwng. B. S. T.-Brithyll Morlais Didymus-Creidiol- loan Morganwg-Ioan Ddu-Spinther—Myrddinfab -,Brwynog-J, Morgans—R. M. Hevin-Didymus .( Dowlais)-yn y Swyddfa. "SEREN CYMRU." W Danfoner pob hanesion Crefyddol a Chymdeith- asol, arcbebion a thaliadau, at y Cyhoeddwr,— Mr. W. Morgan Evans, Seren Cymru Office, Carmarthen. tggf Y Traethodau, Gohebiaethau, Gofyniadau, a Llyfrau i'w hadolygu, &c., at-Rev. T. Price, MJl., Ph.D., Aberdare. ifig- Y Farddoniaeth, Rev. J. Rhys Morgan (Lleurwg), Llanelly, Carmarthenshire. PaIs SEREN CYMRU i dderbynwyr a dalant am dani wrth ei derbyn, neu a dalant cyn pen wythnos ar ol i'r chwarter ddyfod yn ddyledus, yw Is. Ie. y chwarter, neu Is. 3c. os na wneir hyny. TEIMLIR yn ddiolchgari'n dosparthwyr am gael nifer y derbynwyr yn 4, 8, 12, &c., er arbed postage. Nis gellir caniatau y postage pan fyddo y nifer dan bedwar. .A-IMISIEIE, T-A-XITJ- Dymunir hysbysu fod y biliau am y chwarter sydd yn awr ar ben yn cael eu hanfon gyda'r syp ynau yr wythnos hon. Teimlir yn ddiolchgar i'r Derbynwyr am dalu i'r Dosparthwyr, fel y gallont hwy ateb eiu gofynion. Cydnabyddir yr oil yn y SEREN.

DYFODIAD Y PARCH. J. EDRED…

NEWYDDION DIWEDDARAF.;

,aUtiou at,tfDt --,: