Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

"CYNGHORWCH EICH GILYDD."

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

"CYNGHORWCH EICH GILYDD." Y CYNGHORWE rhyfeddaf fu yn ein byd ni erioed, fel dyn, oedd yr Apostol Paul. Mae ei Epistolau yn llawn o gynghorion da, ac i bwr- pas. Rhybydiwch y rhai afreolus, dyddan- wch y gwan eu meddwl, byddwch ymarhous -wrth bawb dilynwch yr hyn sydd dda tuag at eich gilydd, a thuag at bawb." Ym- gedwch rhag pob rhith drygioni." Gwisg- wch am danoch holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrth-sefyll, ac wedi gorphen pob peth, sefyll." Gweddiwch yn ddibaid." Gweddi- weh drosom." Prynwch yr amser." Ac yn y testun uchod, dywed wrthym am gynghori ein gilydd. Mae pob gradd a dosparth o ddynion yn galw am ryw gynghor neu gynghorion. Y cynghor hyn i hwn, ac arall i'r llall. Odid nad oes unrhyw gynghor nadoes rhyw un, neu rai, yn ei haeddu. Tra fyddo pechod yn y byd, cyhyd a hyny bydd cynghori. Nid oes neb yn rhy sanctaidd, yn rhy dda, yn rhy ddrwg, nac yn rhy aflan, i dderbyn gair o gynghor. Felly ynte," Cyng- horwch eich gilydd." Cynghorwn ein gilydd i adael pob drwg, a dilyn yr hyn sydd dda; i fyw bywyd sanctaidd, sobr, a duwiol, ac i fod yn ffyddlon gyda'i achos ef, yn y byd sydd yr awr hon. Cynghorwn ein gilydd, yn gyntaf, i fod yn ffydlawn. Yn ffyddlawn mewn dyfod mewn pryd i'r cyfarfodydd. Mae lie i ofni fod yr arferiad dirmygedig a rhagrithiol hwn yn cynnyddu y dyddiau yma. Y gwasanaeth boreuol y Sabboth yn dechreu am ddeg; y rhan fwyaf yn dyfod yn nghyd am hanner awr wedi, neu am un-ar-ddeg. Y canu, y darllen, a'r gweddio drosodd, sef y rhan bwysicaf o'r gwasanaeth heibio cyn bod y bobl yn nghyd! Y pregethwr yn aros ac aros i'r bobl ddyfod yn nghyd, nes y bydd amynedd y rhai sydd yno wedi darfod. Pa fodd y mae gwella peth fel hyn ? Fel hyn bydd y cyfarfod y Sabboth nesaf yn dechreu am un-ar-ddeg, yn lle am ddeg, fel y gallo pawb ddyfod yn brydlawn. Daeth y Sabboth i ddechfeu am un-ar-ddeg, y -bobl yn parhau yr un fath i ddyfod am hanner awr wedi hvny. Maent fel yn cellwair a thy a phobl Dduw. Maent yn gofalu bod gyda eu gorchwylion a'u galwedigaethau tymhorol yn brydlawn. Deuant a rhyw esgusodion gwaelyn barhaus. Y ffordd yn bell; y tywydd yn arw; yr iechyd yn wael, &c. Tra:gydftphethau y byd i hwn, nid oesaa ffordd yn rhy bell, tywydd yn rhy arw, na iechyd yn rhy wael, i'w rhwystro. 2. Peidio myned allan cyn; bod y cyfarfod drosodd. Mae hyfi. etto yr un mor warthus, os nad mwy. Cyn gynted ag y dywed y pregethwr, neu fyw un arall, Amen, bydd y rhan fwyaf yn ned allan ar garlam gwyllt, fel pe baent wedi cael insult o'r mwyaf yn y cyfarfod. Yn gyffredin, y rhai diwedd f yn dyfod i yVv y,rhai blaenaf i fyr^d allan. Anwyl Gymry, os had yw crefydd a moesoldeb yn ddigon i ddysgu hyn i ni, cymmerwn siampl oddiwrth y Saeson. Yn hyn o beth, sef dyfod mewn pryd, ae, aros y hyd y diwedd a mwy na hyny, aros ychydig wedi yr Amen. 3. Peidiwn a dysgwyl gormod oddiwrth y gweinidog. Cofiwn mai dyn ydyw; ac mai wrth ddynion y mae yn siarad. Mae llawer yn credu fod llwyddiant neu aflwyddiant crefydd yn ymddibynu yn hollol ar ein gweinidogion, heb ystyried fod undeb, cyd- weitlurediad, a gweddio unfrydol pob aelod, yn anhebgorol i'w llwyddiant. Fel y mae undeb aelodauy corff, felly y Mae, yn rhaid i undeb yr eglwys fod. "Fel y byddant oil yn un." Gofalu fod ein bucheddau yn gysson I'n proffes. Crefydd dda yn cynnyrchu gweithredoedd da. Crefydd i'w hactio yw crefydd; ac fel y byddwn ni yn actio, dyna fel y bydd ein crefydd. Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt." Blodau ein meddwl yw ein ymadroddion. 4. Ymddygiad addas yn y cyfarfodydd. Peidio plygu ein penau, neu edrych ar hwn a'r Hall; ac yn wir, y mae rhai yn ymddwyn mor warthus a chysgu. Cofiwn fod dylanwad mawr gan siampl yn hyn. Bydded ein dyben a'n amcan yn dda wrth fyned i'rcyfarfodydd. Nid myned yno o ran fashiwn, neu o herwydd fod ereill yn myned yno. Na, awn er mwyn gwrando, a gweddio am nerth i wrando, a nerth i lefaru; ac yna, bydd gobaith cryf am fendithion i waered. 5. Bod yn ffyddlon yn ein cyfraniadau at achosion crefydd, yn ol fel y mae Duw yn ein llwyddo. Llawer o rwgnach sydd gan rai am- y casglu. Yr hen gasglu yma o hyd o hyd, a byth a hefyd." Y rhai sydd yn rhoi y peth nesaf i ddim, ac, yn wir, y rhai na roddant o gwbl, yw y rhai sydd yn grwgnach fwyaf. Pe byddai ddim ond un casgliad yny flwyddyn, yr un faint fydd eu rhoddion a phe byddai bob mis, neu bob wythnos. Pan yn casglu bob Sabbath bydd yn 15 swllt; ond wrth gasglu dim ond unwaith yn y mis, ni fydd yn rhagor na 10 swllt. Wrth hyn, gweilwn nad yw ffyddlondeb y cyfryw o nemawr gwerth. Maent yn rhoi am fod ereill yn rhoi, ac yn peidio am yr un rheswm. Bydded i ni ystyried, gyfeillion anwyl, fod rheswm, ys- grythyr, cyfiawnder, a gonestrwydd, yn galw arnom, ac yn hawlio oddiwrthym fel y mae yr Arglwydd yn ein llwyddo. Derbyniasom yn rhad, rhoddwn yn rhad." 6. Peidiwn a meddwl yn rhy fach am danom ein hunain. Feallai fod llawer yn barod i feddwl nad oes un perygl i ddyn feddwl yn fach am dano ei hun; oblegid meddwl gormod y mae y rhan fwyaf o hil Adda. Nage, yn wir, nid felly. Y mae llawer o ddynion, ie, ein dynion goreu hefyd, yn meddwl yn rhy fach am danynt eu hunain. Y maent yn barod i feddwl am ddynion ereill yn well, ac yn fwy santaidd a duwiol, na. hwynthwy. Nid ymffrost ynom yw credu ein bod y peth ydym ac nid gostyngeiddrwydd yw credu am bawb ereill yn well na. ti ? Nid yw yn un niwed i ddyn feddwl yn fawr am dano ei hun ond meddwl ei fod yn fwy na neb arall sydd yn niweidiol. Credwn ein bod yn ddynion mawr, ond peidiwn a chredu ein bod yn ddigon mawr, ac nad oes modd dyfod yn fwy. Meddwl meddyliau priodoI ac addas am danom ein hunain; bod yn barod i gymmeryd ein dysgu derbyn csrydd neu gynghor mewn ysbryd aeddfwyn a chariad- lawn. Peidiwn a meddwl gormod am ereill: Cofiwn mai dynion ydynt. Dynion oedd ein tadau, dynion oedd ein prif wroniaid, a'n prif enwogion, a'n dysgedigion. Cofiwn hefyd mai nid ar unwaith y daethant i'r safle yn mha un yr oeddent yn sefyll, ond trwy ddiwydrwydd, dyfal-barhad, a phenderfyniad. Nid yn fardd nac yn athronydd, y ganed neb i'r byd." 7. Na fyddcd genym un ammheuaeth yn nghylch ein cymmeriadau gerbron Duw. Byddwn yn sicr. Fe ddywed rhai nas gallwn gyrhaedd y sicrwydd hwnw. Paham ? A oes genym ammheuaeth ? A ydym yn onest ? yn sobr ? yn ymddwyn fel y dylasem at bob dyn ? yn caru ein cymmydogion ? yn maddeu i'n diledwyr, &c. ? A oes ammheuaeth ynom gyda golwg ar ein bod yn credu yn lesu Grist, yn cadw ei orchymynion, ac yn gwneuthur hyd y mae ynom tuag ein gilydd, a thuag at Dduw ? Nac oes ? WeI, ynte, pa fodd yr ydym yn ammheu a ydym yn gymmeradwy neu nad ydym? "Mi a wn i bwy y credais, canys y mae yn ddiogel genyf, nas gall nac angeu, nac einioes, ein gwahanu ni oddiwrth gariad Duw." Bydded pob dyn yn sicr yn ei feddwl ei hun." 8. Peidiwn a chadw gormod o gyfarfodydd. Clywsom am un cyhoeddwr yn cyhoeddi deg o gyfarfodydd yr un Sabbath. Mae tri phryd America yn well na'n pedwar ni. Os ydym yn bwyta o hyd, ni fydd iddo gael amser i dreulio. Nid yr hyn yr ydym yn ei fwyta sydd yA gwneyd lies, ond yr hyn yr ydym yn di4reltfi0- Nid y quantity bob atkser, ond y quality. Y mae genym gymmaint parch ac fiwyda am gyrddau a neb pwy bynag ond nid ydym yn caru gormod o honynt. Peidied y clyn hwnw sydd yn dilyn pob. cyfarfod, a diystyru y dyn nad yw yn eu hatpendo. Mae ambell un yn y cyfarfod saith boreu Sul, nad yw yn yr ysgol am ddau, a rhai yn yr ysgol' am ddau nad ydynt yn y cyfarfod boreu Sul. Peidied y uaill ag edrych ynrug ar y Ilall. anwyl gyd-ieuenctyd, a gawn niymdrechu bod yn ffyddlon ? bod yn filwyr glew i lesu ar y maes ? Ymdrechu ymdrech deg ? Bod mewn undeb a'r gwirionedd, undeb a'r brodvr. undeb a'r eglwys, ac undeb a Christy Abertawy. B. B.

DWY CHWAER.

LLYNLLEIFIAD, YNYS MANAW,…

Y CYMMUNDEB EGLWYSIG.