Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Y CYMMUNDEB EGLWYSIG.

News
Cite
Share

Y CYMMUNDEB EGLWYSIG. DARLITH T. Tuedd ac efeithiau Rhydd- Gymmundeb. (Parhad.) y mae Rhycld-gymmundeb, nid yn unig yn beth Had oes dim da ynddo, ond hefyd yn un o'r pethau mwy- af drygionus a dinystriol yn ei duedd a'i effeithiau. Yr ydym eisioes wedi dangos hyn mor fynych, fel nas gallwn yn awr roddi ond ychydig o enghreifftiau ychwanegol:— I. Y mae yn taflu dirmyg ar awdurdod a doethineb Brenin Seion. Y mae y Cymmysgwyr, a'u genau, yn cyfaddef mai Iesu Grist yw Brenin yr eglwys; cyfaddefant fod holl dryaorau doethineb a gwybodaeth yn ei feddiant Ef— eyfaddefant fod commissiwn lesu Grist, a gweithrediad cysson yr Apostolion, yn ol y commissiwn yma, yn gosod bèdydd o flaen y Swper-cyfaddefant pe buasai rhyw un yn yr oes Apostolaidd yn ceisio cymmundeb, heb yn gyntaf ufyddhau i fedydd, y buasai yn euog o'r annuw- toldeb mwyaf beiddgar-cyfaddefant fod lesu Grist yn Waredwr i bob oes, a bod ei grefydd Ef yn grefydd i bob ftttiseroedd. Ond, er eu bod yn cyfaddef hyn oil, deuant yn rnlaen yn ddigywilydd; ac wrth ddyfod yn mlaen hon- ant mai hwynthwy yw y prif ddynion, a dywedant fod Jtngylchiadau pethau yn awr wedi cyfnewid cymmaint 1 r hyn oeddynt gynt, fel nad ydyw trefn yr eglwysi yn yr oes Apostolaidd yn gyfaddas i oleuni, a dealltwriaeth, pholiteness yr oes bresenol; ac am hyny, mai dyled- SWydd arbenig y Bedyddwyr yn awr yw, troseddu com- toissiwn Crist, a threfn amlwg yr eglwysi Apostolaidd, a tterbyn dynion difedydd at fwrdd yr Arglwydd, a bod yn jWiolchgar iawn am gael y fraint o wneyd hyny. Ac fel yn> drwy ddyrysu trefniadau amlwg, a gwrthod esiampl- eglur y Testament Newydd, y mae y. dynion yma, ^th hvnag a gyfaddefant a'u geneuau—y maent, er J^y, drwy eu gweithredoedd, yn dywedyd am Iesu wist, fynwn ni y dyn hwn i deyrnasu arnom." mae ein hawdurdod ni yn uwch na'r eiddo ef—y mae eiu doethineb ni yn fwy na'r eiddo ef; ac am hyny yr yn dyfod i'w eglwys Ef, yr hon a bwrcasodd Ef briod waed, ac yn sefydlu ynddi y trefniadau a welwn Orgu." II. Y mae Rhydd-gymmundeb yn iselhad ar y Testa- ent Newydd fel deddf-lyfr yr eglwys. ma.e y Cymmysgwyr, mae yn wir, yn proffesu ym- p ng i awdurdod y Testament Newydd ond yn achos y ^ywmundeb y maent, meddant hwy, yn appelio oddi- wrth y llythyren at yr ysbryd, fel pe buasai yn bosibl ^y^ryd wahaniaethu oddiwrth y llythyren mewn cys- y ^tiad a deddf neu orchymyn pendant. Gwesgwch ynt dipyn yn galed drwy gyflwyno i'w sylw gommis- Dr^ ^"r^' ac arferiad ei Apostolion, ac a gwyneb- Vn ^eiddgar dywedant fod achos newydd wedi cyfodi JL awr. Gosodwch chwi hwynt o dan farn llys uchel y yiraith Ddwyfol, a dywedant yn ngwyneb y Brenin ei Han nad oeddynt hwy yn meddwl dim drwg wrth y ddeddf, ond yn unig dangos y peth a alwant Christian Charity." Y maent hwy yn appelio at D lrnladau dynol oddiwrth egwyddorion dadguddiad 2a j am hyny> J maent yn son yn barhaus am ?nde^j am daerbyn y brodyr gwanaidd, ac tra dlniweidrw7dd catnsyniadau mewn pethau crefyddol, a y mae deddf v ty o hyd vn cael ei hesgeuluso, a'i dan draeS. i i,n wir> y mae Ehydd-gymmundeb yn gymmaint o ae.,ad ar y Testament Newydd fel cyfraith Cristionog- jj. y amcanu mewn modd anuniongyrchol at IVl V, deddf ysgrythyrol bedydd. Pa fodd hyny ? Y yn>Wrth amddiffyn bedydd y Testament Newydd, Cvf ?e. y Cymmysgwyr yn myned at y Taenellwyr, ac yn aidd-—a^i ar^er^a yr Apostolion a'r eglwysi Apostol- 11»^ eu ood yn gweinyddu yr ordinhad mewn manau dwfl a? ■" dyfroedd lawer "— eu bod yn trochi yn y bvi-l! J^yni0U .ar broffes 0 yn Nghrist—nad oeddynt j Sweinyddu yr ordinhad lie nad oedd digon o yn bedldrlf0 ^ndd°J ac ^ad oeddynt' ,hyd y gwyddent, yoi neb oad credinwyr. "Wedi hyny, troant at 'on a^f a dywedant. ^elly y gwnelai yr Apostol- BerW/U^6 y gwnawn ninnau." Ond pan y mae y Wi-thvnt xrU/yf!od at y Cymmysgwyr, ac yn dywedyd rlldydyw commissiwn Crist, yn ol trefn ei a ysgeidiaeth nac esiampl yr Apostolion, na'r u 1! llijA I; eglwysi Apostolaidd, yn cynnwys un enghraifft o neb yn cael eu derbyn at fwrdd yr Arglwydd ond personau wedi eu derbyn yn gyntaf yn aelodau eglwysig drwy ymos- twng i'r ordinhad o fedydd; felly y gwnelai yr Apostol- ion, ac felly y gwnawn ninnau." "Na," meddant hwythau, nid felly, ond y mae acfcee newydd wedi cyf- odi yn breseDol." Ond, os gall y Cymmysgwr ddangos fod yr ymresymiad oddiwrth y comnilssiwn, ac arferiad yr Apostolion, a'r eglwysi Apostolaidd, o berthynas i'r Cymmundeb, yn ddiwerth yn ngenau y Bedyddiwr, paham nas gall y Taenellwr brofi fod yr yinresymiad oddiwrth y commissiwn, ac arferiad yr Apostolion a'r eglwysi Apostolaidd o berthynas i fedydd, yn ddiwerth yn ngenau y Cymmysgwr ? Dywed y Rhydd-gymmunwr nadydyw yr ymresymiad yma yn werth dim yn ei gyssylltiad a'r Swper. Os nad by .1 ydyw yn werth dim mewn cyssylltiad a'r Swper, nid ydyw ychwaith yn werth dim mewn cyssylltiad a bedydd, Ac os nad ydyw dysgeidiaeth y Testament Newydd o berthynas i ddwy ordinhad bendant Crist yn ei eglwys yn werth dim, yna, pwy all ddywedyd fod dim ar sydd yi, y Testament Newydd yn teilyngu y sylw, y gredin- iaeth, na'r ymostyngiad lleiaf ? Ac fel hyn y mae tuedd 1 9 uniongyrchol Rhydd-gymmundeb, nid yn unig at iselhau, ond at gwbl ddymchweliad y Testament Newydd fel rheol ffydd ac ymarweddiad crefyddol. III. Y mae Rhydd-gymmundeb, yn fwy na dim arall, yn rhanu ac yn gwanhau cyfenwad y Bedyddwyr. Y inae dadl y Cymmundeb wedi achosi mwy o ymry- sonau, ac ymraniadau, na dim arall sydd wedi bod erioed yn cynhyrfu yr enwad. Y mae yr aelodau wedi bod yn dadleu yn nghylch y cymhwysderau i gymmundeb, yn lie bod yn mwynhau cymmundeb. Y mae dygiad y Cymmysgedd i mewn i eglwysi wedi gorfodi llawer o'r aelodau mwyaf cydwybodol i ymadael, ac i ffurfio achosion eiddil a gweiniaid-wedi gyru llawer un fuasai yn addurn i'r enwad i unigedd ac o'r golwg—wedi annog a chefnogi miloedd o aelodau bedyddiedig i ymuno ag eglwysi y Taenellwyr—y mae y Cymmysgedd wedi gwneuthur toriadau a rhwygiadau yn ngwrthglawdd ein Hiorddonen, drwy ba rai y mae ffrydiaii mawrion o nerth ac egni y Bedyddwyr wedi dylifo i ffrwythloni anialwch Taenell- yddiaeth. Nid ydym, fel Bedyddwyr, yn llwyddo i'r graddau y dylem lwyddo, oblegid nad ydyw ein hym- drechion yn ddigon egniol ac y mae ein hymdrechion yn ddiffygiol o egni, oblegid fod ein cyfenwad yn ddiffygiol o undeb. Pe buasai pob Bedyddiwr wedi aros yn tlydd- lawn i'w egwyddorion—pe buasent yn unfrydol wedi gwrthod gwrandaw ar swynion hyawdledd, ac ar raiadr- au dirmyg o blaid cyfeiliornad, fel y buasai un yn ym- lid mil, a dau yn gyru deng mil i ffoi." Ond y mae dadleuon mewnol, ac ymraniadau o achos y Gymmysg- edd, i raddau helaeth, wedi ein gwerthu i ddwylaw ein gelynion. Ni fu erioed gymmaint o angenrheidrwydd am undeb a chydweithrediad yn mhlith y Bedyddwyr ag yn awr. Y mae cyfeiliornadau dinystriol, a heresiau damniol, yn ymgryfhau o'n hamgylch. Arnoin ni yn y diwedd y syrthia baich y frwydr yn eu herbyn. Gan hyny, cyn y gall ein llwythau symud yn mlaen i ymosod ar Ai ofergoeledd, bydded i'n brodyr fwrw o'u mysg y fantell Fabilonig deg, a'r lIafn aur" sydd wedi cael eu dwyn ganddynt i'w gwersylloedd, yn groes i orchymyn y Brenin—bydded iddynt fwrw ymaith y Gymmysgedd oddiwrthynt. Ac wedi ymffurfio yn un lleng gref a chryno, â'u baner wedi cael ei haddurno a'r ben arwydd- air cynnwynol, Un Arglwydd, un frydd, un bedydd," heb ddim o nwyddau y gelyn yn ein gwersyll. Wedi gwisgo holl arfogaeth Daw am danom, gallwn fyned yn mlaen yn enw ein Brenin, ac yn nerth ein Blaenor, yn erbyn pob peth sydd yn cyfodi yn erbyn y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu," a dymchwelyd, a dymckwelyd, a dymchwelyd, nes y byddo gwirionedd Duw wedi ei sefydlu ar yr holl ddaear, ac ordinhadau y Testament Newydd yn cael ufydd-dod priodol gan holl genedloedd y byd. lV. Y mae Rhydd-gymmundeb yn amcanu yn union- gyrchol at gwbl ddifodiad Enwad y Bedyddwyr. Gyda golwg ar y eyfeiliornadau mawrion a lluosog sydd a'u gwreiddyn mewn taenellu ar fabanod, yr ydym wedi dywedyd yn barod fod y Bedyddwyr o'u dechreuad yn ei bystyried yn ddyledswydd grefyddol arnynt ddwyn tystiolaeth uchel yn erbyn y cyfeiliornadau yma." Ac, mewn trefn i ardystiad y Bedyddwyr yn erbyn cyfeiliorn- adau y Taenellwyr fod yn gysson, mae yn rhaid iddo gael ei ddadgan mewn gair, a'i ddangos mewn gweithred." L Ond y mae Rhydd-gymmundeb, nid yn unig yn cwbl ddi- rymu y rhan bwysicaf o'n ardystiad, yr un ymarferol y mae, "a- nid yn unig yn peru i ni lefaru un peth, ac arfer peth hollol groes i hyny, ond y mae yn tueddu yn uniongyrchol at ddifodi ein hardystiad o gwbl. Y mae cymmundeb cymmysg yo arwainar unwaith i aelodi,aeth gymmysg, ac y mae aelodiaeth eglwysig gymmysg yn tueddu yn union- gyrchol at ddifodiad eglwysi y Bedyddwyr, ac at ddiddym- iad egwyddorion y Bedyddwyr. Y mae hyn oil yn burion os nad ydym ni, ac os nad oedd ein tadau o'n blaen, yn iawn; ond y mae yn beth truenus os ydym ni, ac os oedd ein tadau o'n blaen ni, yn iawn gyda golwg ar ddull a deil. iaid bedydd. Yn wir, y mae Robert Hall ei hunan yn cyfaddef mai tuedd uniongyrchol ei gyfundraeth ef yvr gwneuthur yr enw Bedyddwyr yn gymhwys nid i eglwysit ond i unigolion. Ac yn wir, y mae genym ddigonedd o enghreifftiau i brofi fod golygiad Robert Hall yn hyn o beth yn lied gywir. "Yn y flwyddyn 1736, yr oedd o saith i naw o eglwysi yn dal cymmundeb cymmvsg yn Nghymru, yn y rhai yr oedd llawer o Fedyddwyr; ond y mae y rhai hyn oil, er ys talm, wedi eu colli i'r Bedydd- wyr, fel effaith naturiol cymmuudeb cymmysg."l Ar farwolaeth John Bunyan, yr bwn, fel y gwyr pawb, oedd Fedyddiwr yn arfer Rhydd-gymmundeh, dewiswyd Taenellwr i fod yn ganlyniedydd iddo fel gweinidog, a Thaenellwyr fu yn llenwi ei areithfa ef am gan mlynedd olynol. Yn y flwyddyn 1772, rhai blynyddau ar ol ei ym- sefydliad fel gweinidog ar yr eglwys bon, cafodd Mr. Joshua Symonds ei argyhoeddi o berthynas i fedydd, ac efe a ddaeth yn Fedyddiwr. Ac wedi hyny, ni fuasai yr eglwys yn caniatau iddo aros yn weinidog iddynt ond yn uiiig ar yr ammod iddo ef beidio cyflwyno y pwnc o fedydd i'r pwlpid, na son am dano mewn unrhyw ymddyddan cyf- rinachol, oddieithr iddo gael ei ddwyn i tylw yn gyntaf gan ereill. Fe welodd Joshua Symonds yn dda gyduno a'r ammod yma, er na fu cyfammod yn fwy gwarthus erioed-gwarthus i'r bobl oeddynt fel hyn yn rhwymo tafod eu gweinidog, a gwarthus i'r gweinidog am gyrnmeryd r) 9 zY ei rwymo drwyddo; ac fe gafodd yr iau yma ei gosod ar whr Symonds gan ei eglwys ar un llaw, ac fe aberthodd yntau ei annibyniaeth a'i egwyddor ar y Ilaw arall, er mwyn Z5 i aelodiaeth eglwysig, yn ol trefn cymmundeb cvmmvse. gael sefyll. o Y Parch. Mr. Wheelock, o America, mewn llythyr o'i eiddo o Loegr, a gyhoeddwyd yn y Christian Watchman am Rhagfyr, 1847, addywed Tra yr oeddwn yn LIun- dain, deallais yn ddamweiniol fod yr ordinhad o fedydd i gael ei gweinyddu yn un o'r eglwysi lluosocaf a mwyaf poblogaiddyn y ddinas hono. Ar yr awr appwyntiedig, yn nghyleh y cyfnos, ar brydnawn dydd Iau, aethym i'r capel i weled y bedydd. Yr oedd yr eglwys yn cynnwys dros wyth cant o aelodau. Wrth fyned i'r lie, canfyddais fod y lampau wedi eu goleuo, nad oedd ond ychydig yn bresenol, a bod y gweinidog yn anerch y gwyddfodolion. 6 y Cafodd unarddeg eu bedyddio, ac ar ol newid eu dillad, dychwelasant i'r capel, a derbyniasant ddeheulaw cym- deithas. Gofynais i'r gweinyddwr paham yr oedd y bed- ydd yn cael ei weinyddu ar hwyrddydd o'r wythnos, ac ar awr pan nas gallasai ond y fath ychydig o bobl fod yn wyddfodol ? Ei ateb oedd, fod un hanner o'r eglwys yn cael ei gwneyd i fyny o Faban-fedyddwyr, ac er mwyn beddwch yr eglwys, eu bod yu ofalus i ddewis noswaith ac awr (i fedyddio) pan nad oedd unrhyw gyfarfod arall, dim cymmaint a phwyllgor, na chwrdd athrawon yr Ysgol Sul, na dosparth Beiblaidd, na dim arall yn cael ei gynnal, rhag i heddwch yr eglwys gael ei aflonyddu gan yr aelodau Maban fedyddiol, drwy iddynt gael lie i feddwl eu bod wedi cael eu hudo i fod yn bresenol yn y bedydd. Am yr un rheswm, meddai wrthyf, y mae de- heulaw cymdeithas yn cael ei rboddi ar y bedyddiad, yn lie ar y cymmundeb y Sabboth canlynol, fel na aUai dim gael ei ddywedyd y pryd hwnw a allai gythryblu hedd- wch yr eglwys." Fel eglurhad pellach o gaulyniad an- ocheladwy Rhydd-gymmundeb, y mae yr un gwr yn dy- wedyd yn yr un llythyr, a hyny mewn cyssylltiad ag eglwys y Bedyddwyr yn Norwich, hen eglwys Joseph Kinghorn, gwrthwynebydd tra adnafcyddus Robert Hall ar bwnc y cymmundeb. Wedi marwolaeth Kinghorn, canlynwyd ef yn y weinidogaeth gan Mr. Brock, sydd yn awr yn weinidog yn Bloomsbury Chapel, Llundain:— Wedi i Mr. Brock chwyldroi yr eglwys yn Norwich, a derbyn Maban-fedyddwyr iddi, efe a ddechreuodd ddys- gyblu y rhai hyny o'r aelodau a wrthodent fyned at fwrdd yr Arglwydd gydag aelodau Maban-fedyddiol. Y cyntaf a ddiaelodwyd oedd y brawd Keif. Ar yr 28ain o Fehefin diweddaf (1847), canfyddaf i'r eglwys hon drwy bleidlais o 95 yn erbyn 22, ddiaelodi deg yn ychwaneg. Yr hanea 1 Llythyr Cymraanfa Morganwg, gan Dr. Price, Aberdar, tud. 5.