Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

.'".".,(gglttutsifl. ';,r.;:,..."".f).…

News
Cite
Share

(gglttutsifl. ,r f ) Y CYMMUNDEB EGLWYSIG. DARLITH V. Tuedd ac effeithiau Hhydd- Gymmundeb. ER ei fod yn wir na ddylai neb ymffrostio o'r dydd yfory, oblegid nad oes neb yn gwybod beth a ddygwydd mewn diwrnod; etto, fe ddylai pob dyn edrych yn graff o'i amgylch ar ddylanwadau y gwahanol gelfyddydau a'r gwyddonau, ar y cyfnewidiadau parhaus mewn cym-I deithas, at y pynciau sydd yn ymgyfodi amlycaf mewn llywodraetbau gwladol, ac at y gweithrediadau sydd yn cymmeryd lie yn y byd crefyddol—dylai pob dyn ddal sylw manwl ar arwyddion yr aioserau y mae yn byw yn- ddynt. Yn mhlith y penaethiaid, a'r rhai a ddaethant i ryfel at Ddafydd i Hebron, i droi breniniaeth Saul ato ef, dywedir, er clod i ddeucant penaeth meibion Isachar, eu bod yn rhai a fedrent ddeall yr amseroedd, i wybod ieth a ddylai Israel ei wneuthur." Yr Arglwydd lesu Grist a ddywedai wrth y Phariseaid a'r Saduceaid a ddaethant ato, Chwi a fedrwch ddeall wyneb yr wybren, ac oni fedrwch arwyddion yr amseroedd ?" Felly, wrth ein bod yn edrych ar amgylchiadau pethau yn y byd crefyddol yn bresenol, nis gallwn lai na chanfod fod pwnc y Cymmundeb, neu Swper yr Arglwydd, yn cael sylw mawr gan ddynion. Os yw arwyddion yr amserau yn dywedyd yn iawn, y maent yn ddiau yn aw- grymu fod yr ordinhad yma, ac nid yrordinhad ofedydd, a gael amcanu ei gosod i fyny fel y llinell fawr wahan- iaethol rhwng yr hyn a elwir gan ddynion yn ganlynwyr Crist mewn gwirionedd, a'i ganlynwyr ef mewn enw. Y Hod fawr y mae tueddiadau cynnyddol pethau yn arwain ati yw, cydymgynnulliad, unoliaeth, neu ail eglwys gyff- redinol. Ammod anhebgorol y cydgreiddiad yma yw, fod pob plaid yn barod i roddi rhyw bethau i fyny. Rbaid i'r pethau hyny a elwir gan ddynion yn wahan- iaethau bychain, ac yn ddihanfodolion, gael eu cadw o'r golwg. Ac fel y byddo cylch y symudiad yn eangu, a'r elfenau amrywiol y ceisir eu cyssylltu yn cynnyddu, rhaid i'r dihanfodolion yma luosogi mor fawr, fel na fydd swm y gwirionedd derbyniedig ond bychan mewn gwir- ionedd. Y mae y cynlluniau er dwyn hyn i ben yn cael Bu parhaus ddadlenu. Y mae sylfeini yr adeilad yma o goed, gwair, sofi, a chlai yn cael eu gosod i lawr yn ddys- taw, ond yn llydan a dwfn drwy weithrediadau y fath gymdeithasau a'r Feibl Gymdeithas Gartrefol a Thra- :mOl', y Sunday School Union, cymdeithasau cyffelyb yn America, ac yn enwedig gan y Cynghrair Efengylaidd (Evangelical Alliance). Yn wir, y mae yn ymddangos yn ddigon tebyg fod yr Evangelical Alliance wedi ei bwriadu i ffurfio dechreuad (neucleus) yr eglwys Brotes- tanaidd fawr gyffredinol. Y mae y cymdeithasau hvn yn gweithredu ar yr egwyddor o ddifodi y pethau a elwir ganddynt hwy yn ddihanfodolion. Ac ar y cyfan, rhyngddynt oil, nid ydyw swm y dyledswyddau, a'r gosodiadau ysgrythyrol a ddifodir ganddynt, yn iychain, Dac yn ddibwys. Y mae y prif feddyliau, neu y medd- ynau arwemiol, yn y sefydliadau yma, yn myned yn mia,en ar yr egwyddor fod unrhyw gynnydd mewn dylan- Wad, neu mewn arian, yn ddigon i wrtbbwyso pob aberthiad a wneir o wirionedd. Ac fel hyn y maent yn aytod i ymddibynu ar ddymon, ar dalent, ar ddysgeid- aeth, ar yni, ac ar arian; ac nid ydynt yn gofalu dim faint o wirionedd fyddo yn cael ei aberthu er mwyn cyr- Aaedd y pwnc mewn golwg. Ac felly, y mae trefuiadau ^tydhadau yma mor hawdd eu cyfnewid i gyfateb gylchiadau gwahanol ac amrywiol y dydd neu yr oes, Yn ge^r dysgwyl, os a pethau yn mlaen fel y maent cr n'Tnj yn awr, y byddyr hen amseroedd etto wedi dy- e y ? a Phabyddiaeth Brotestanaidd yn llanw ein tir, n ett,° yn gwneutlmr deddfau i lywodraethu eadyhau a chydwybodau eu cyd-ddynion. Yn ngwyneb hyn oIl, beth mae y Bedyddwyr yn ei fel maent hwy erioed wedi bod yn mlaeuaf firvthl; JnWyr a?'durdod Crist' a gosodiadau yr ys- Vnt pn iT7 maent hw-v erioed wedi bod yn sefyll* wrth- 711 b?bI heb Sael eu cyfrif gyda'r Cenedl- Te^mT r eu hunam yn dal i fyny ordinhadau y Xn ^7jdd^Tth^nt eu hunai» 7" tjrtio yn pleidio yr a ^awr—wrthynt eu hunain yn boll fvd vnTh1 7 mae yn yr Iesu' Pan oedd Vr ^abaidd^rt&du atK' ac- yn myned ar ol y Bwystfil a'u merthvr,, t 6U unain yn cymmeryd eu carcharu y > yn hytrach nag aberthu eu hegwvddorion. '.1 ,') I Yn yr ail a'r drydedd ganrif, arwyddion cyffelyb i'r rhai a welir yn awr a ganlynwyd:gan ffurfiad, ac yn y diwedd, gan gyflawn sefydliad yr Eglwys Babyddol. Ein teidiau yn yr oesoedd hyny a gymmerasant eu herlid fel petris ar y mynyddoedd; "Hwy a gawsant brofedigaeth drwy wiitwor, a fflangellau, le, drwy rwymau hefyd, a charchar. Hwynthwy a labuddiwyd, a dorwyd a Uif, a demtiwyd, a laddwyd yn feirw a'r cleddyf, a grwydrasant mewn crwyn defaid, a chrwyn geifr, yn ddiddym, yn gystuddiol, yn ddrwg eu cyflwr." Ond yn ein dyddiau ni, wrth weled arwyddion a dechreuad yr un egwyddorion a'r un gallu- oedd a fu yn difetha ein tadau, yn ymddangos ac yn ym- gyfodi, y mae rhai o'r Bedyddwyr, rhai o weinidogion y Bedyddwyr, ïe, y rhai sydd yn galw eu hunain yn unig ddynion o ddysg, o dalent, o ddylanwad, ac o enwogrwydd yn mhlith y Bedyddwyr, gan wenu ar eu brodyr, yn chwareu i ddwylaw y Taenellwyr—yn bradychu cadernid yr Arglwydd i ddwylaw y rhai dienwaededig. Pan ofynom i'r brodyr yma, Pa fudd sydd o'ch ymddyg- iad P" Yr ateb croyw a gawn ydyw, Llawer iawn yn wir yn mhob rhyw fodd." Dywedant- 1. Fod Rhydd-gymmundeb yn amddiffyn iawnderau cydwyhod. Ond pa fodd y gall hyn fod, y mae yn an- mhosibl deall. Nid ydyw y Bedyddwyr mewn un modd yn amcanu, nac yn ewyllysio, attal y Cymmysgwyr, na'r Taenellwyr, i feddwl a gweithredu drostynt eu hunain. Y mae y Bedyddiwr yn derbyn y gyfraith o enau ei Frenin, ac yn ymdrechu rhodio yn ei hoi. Traetha ei farn yn gyhoeddus o berthynas i ordinhadau y Testament Newydd, ond nid oes ganddo yr un ewyllvs i geisio rhwymo ereill i ufyddhau iddynt o'u hanfodd. Yn wir, os oes ymosod ar iawnderau cydwybod yn cymmeryd lie o gwbl, ymddengys mai o du y Cymmysgwyr y mae hyny. Dyna eglwys gryno o Fedyddwyr, yn byw yn unol ac yn weithgar o blaid eu hegwyddorion, a dyna ddyn yn dyfod at y bobl yna i weinidogaethu iddynt. Nid hir y mae heb ddechreu son am Fedyddwyr feI gwyr o olyg- iadau cyfyng ac annheilwng, a llefaru am yr angenrheid- rwydd o feithrin broad views in religion "-fod y cyfan o grefydd yn gynnwysedig yn y peth a elwir ganddo ef yn Charity, ac y dylid uwchlaw pob peth fod yn dyner iawn o deimladau a chydwybodau Taenellwyr ar fabanod. Wrth barhau. i fyned o df i d^, a siarad y pethau yma yn ei ddull mwyaf swynol, o dipyn i beth y mae y rhai ieuainc, a'r rhai mwyaf dibrofiad yn yr eglwys, yn cael eu hennill i fod yn danbaid gwyllt o'i blaid. Yn mhen ychydig, y mae y grand battery yn cael ei agor. Cym- mundeb y Bedyddwyr yn cael ei warthnodi yn un o weddillion Pabyddiaeth-y Bedyddwyr yn cael eu gosod allan fel rhai sydd wedi bod drwy yr oesoedd yn ymladd dros sacramentau, a'r eglwys fawr Gatholig ddyfodol yn cael eudarlunio mewn lliwiau gorwych, pan fydd bedydd! wedi darfod, a phob Bedyddiwr wedi dystewi am byth! Ac ar gefn hyn y mae drysau yr eglwys yn cael eu taflu led y pen i dderbyn y neb a welo fod yn dda ddyfod at fwrdd yr Arglwydd, a'r ychydig aelodau henaf a mwyaf profiadol yn cael dywedyd wrthynt mewn modd polite annghyffredin, Os nad ydych chwi yn caru hyn, gwell i chwi ymadael." A dywedyd y lleiaf am ymddygiad fel hyn, onid oes yma dipyn o fathru, nid yn unig ar deim- ladau dynion da, ond hefyd ar eu cydwybodau ? Medd ysgrifenydd yn y New York Independent, Onid oes ganddynt hwy (y Bedyddwyr) hawl i farnu drostynt eu hunain-yr hawl sydd gan Brotestaniaid yri gyffredinol ? Os felly, y mae ganddynt hawl i gredu fod bedydd drwy drochiad mewn dwfr yn gymhwysder anhebgorol i aelod- iaeth a chymmundeb ac os bydd i ni gyfodi cynhwrf yn ^ljb?rbyn am eU cref^niaeth, a chyssondeb eu hymarfer- lad, byddwn yn eu herlid er mwyn cydwybod. Gallwn, os medrwn, brofi nad ydynt yn iawn ond na fydded i ni eu goriodi i ychwanegu annghyssondeb a rhagrith at gyf- eiliornad. Gradawer iddynt ymarfer yn ol fel y maent yn credu. Mewn rhyw ystyr y mae pob eglwys yn dal cym- mundeb caeth." Dyna ddigon i brofi pa fath amddiffyn- ydd o iawnderau cydwybod yw Rhydd-gymmundeb. Ond (medd ei bleidwyr) yn "2- mae Rhydd-gymmundeb yn pleidio cariad ac undeb Ond gellir gofyn, Cariad at beth P Ai cariad at y gwirionedd ? Pa undeb y mae yn ei bleidio ? Ai undeb yr Ysbryd yn nghwlwm tangnefedd ? Onid ydyw yn bosibl i gymmaint o gariad at y pethau yma fodoli vn ^y^S y Bedyddwyr ag yn mhlith y Cymmysgwvr? t j ydyw y Bedyddwyr yn rhoddi fyny i neb am y car- iad a feithrinant tuag at bawb y ca'nt le i gredu sydd yn caru yr Arglwydd lesu. Cerddant gyda hwynt i bob man, ond i'r man lie y maent yn credu a'u holl galon fod I'I*l gorchymyn Dwyfol yn dywedyd wrthynt am beidio. T maent hwy yn credu y dylai hyd y nod cariad at y bro- dyr gael ei reoli gan gyfraith yr Arglwydd. Ond (meddir etto) y mae Rhydd-gymmundeb yn foddion effeithiol i uno Cristionogion a'u gilydd." Mewn pa beth y mae yn eu huno ? Yn Swper yr Arglwydd, a dim ond hyny ? Bydded i gant, mwy neu lai, abobl dduwiol, yn gynnwysedig o rifedi cyfartal o Fedyddwyr a Thaenellwyr, Pabyddion a Phrotestaniaid, Eglwyswyr ac Ymneillduwyr, Calfiniaid ac Arminiaid, eistedd i lawr gyda eu gilydd i gofio marwolaeth yr Arglwydd. Gwir, tra y byddont yn eistedd wrth y bwrdd, eu bod yn ym- ddangos mewn undeb allanol, ond y mynyd yr ymadawont y mae pob nndeb wedi darfod. Nis gallant gredu yr un erthyglau, nis gallant eistedd dan yr un weinidogaeth, nis gallant gynnal yr un ddysgyblaeth, nis gallant ddef- nyddio yr un moddion, ac nis gallant ymgyrhaedd at yr 1 9 un amcanion. Nis gall hyd y nod ordinhad ddwyfol rwymo y fath ddefnyddiau gwahanol mewn gwir undeb.. Hawlfraint Hollalluogrwydd yn unig yw crogi byd ar ddim nis gall neb dynion wneuthur hyn. Rhaid i gariad gwirioneddol at Gristionogion darddu oddiwrth gariad at Grist, a'r ffordd, medd Crist ei hunan, i ni ddangos ein cariad ato ef, yw drwy gadw ei orchymynion ef. Ond (medd y Cymmysgwr etto) 3. Y mae Rhydd-gymmundeb yn cvflwyno golygfa hyfryd gerbron y byd." Gwir fod yr eglwysi Cristion.. ogol wedi eu bwriadu i ddylanwadu ar y byd annuwiol. Am hyny, y mae lesu Grist yn dywedyd, Chwi yw goleuni y byd" Llewyrched felly eich goleuni gerbron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd;" Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, ar garu. o honoch eich .gilydd; wrth hyn y gwybydd pawb mai dysgyblion i mi ydych, os bydd genych gariad i'ch gilydd." Ond os yw dynion y byd yn alluog i werthfawrogi cariad Cristionogol, rhaid i ni gofio eu bod hefyd yr un mor alluog i werthfawrogi cydwybodolrwydd Cristionogol, y n ac y bydd y rhan fwyaf o honynt yn methu gweled y cyssondeb na'r duwioldeb cynnwysedig mewn aberthu cydwybodolrwydd er mwyn cariad. Ac wedi y cyfan, beth yw yr olygfa hefyd y mae Rhydd-gymmundeb yn ei chyflwyno gerbron y byd ? Cynnulleidfa o bobl perthynol i'r gwahanol gyfenwadau yn eistedd yn nghyd i gyfran- ogi o Swper yr Arglwydd. Gadewch i ni edrych ar yr olygfa yma fel y mae mewn gwirionedd yn ymddangos gerbron y byd. Y mae y dyn yna yn Galfin uchel, y mae y dyn arall yn Armin cryf, y mae y dyn arall yn Eglwyswr nerthol, y mae y dyn arall yn Daenellwr gwresog, ac y mae y dyn arall yn Fedyddiwr cadarn. Os yw yCalfin uchel yn gydwybodol, y mae yn credu fod yr Armin yn gyfeillornwr; os yw yr Armin yn 0" egwyddorol, y mae yntau yn credu fod y Calfin ar dir cyfeiliornad. Os yw yr Eglwyswr yn gydwybodol, y mae yn rhwym o fod yn credu fod pob Ymneiilduwr yn cyfemorni o berthynas i natur yr eglwys Gristionogol, addoliad eglwysig, awdurdod eglwysig, yn nghyd a'r dull o gynnal crefydd. Os yw y Taenellwr yn gydwybodol, y mae yn rhwym o gredu fod y Bedyddiwr yn cyfeiliorni; ac os yw y Bedyddiwr yn gydwybodol, y mae yntau, o'r tu arall, yn rhwym o edrych ar daenelliad' fel defod ddynol a Phabyddol. Dyma yr olygfa y mae y Oym- mysgwyr am ei chyflwyno gerbron y byd. A pha beth y mae y byd yn ei weled ynddi ? Hyn, a dim ond hyn Raid o bobl wedi ymgynnull at eu gilydd i warthruddo yr ordinhad sydd yn gosod allan farwolaeth Ceidwad pechadur, drwy ei gwneyd yn foddion iddynt hwy ddangos eu gweniaith y naill i'r llall. Dyma yr olygfa y mae y byd yn ei chael ar Rhydd-gymmundeb, ac y mae yn ei ffieiddio. Ac nid r-kyfedd, oblegid nid bwrdd yr Arglwydd yw peth fel hyn, ac y mae yn hawdd dywedyd beth yw yr enw mwyaf priodol arno. (I'w barkau).

[No title]