Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
TYSTEB Y PARCH. D. EVANS,…
TYSTEB Y PARCH. D. EVANS, FFYNNON- HENRY. MR. GOL. -Mae cydymdeimlad y brodyr yn yr eglwysi yn parbau i ddyfod i'r amlwg; a chefais bleser mawr wrth weled y teimlad cariadus hwn yn cael ei ddangos, yn neillduol gan Fyfyrwyr Coleg' Hwlffordd H wlffordd, Coleg y Bedyddwyr- Athrawon, c' Parch. T. Davies, D.D • 0 2 6 T. Burditt, M.A. 0 2 o Myfyvwyr, Mr. Daniel Davies 0 1 0 J. Williams tI 1 0 D. T. Phillips 0 1 n D. Morris 0 1 D. Jones 0 1 0 D. Lewis 0 1 0 B.Thomas 0 1 0 L.Roderick. 0 1 0 T. Williams 0 1 0 E. Davies 0 1 0 W. Evans. 0 1 0 James Williams 0 1 0 John Williams 0 1 0 O. John 0 1 0 T. Griffiths 0 1 0 J. Davies. 0 1 0 S. Williams. 0 1 0 J. Lewis. 0 1 0 D. Davies J( J Dl. Davies « 9 H. Hushes 0 1 0 D. Richards 0 0 Joseph Thomas, Ysw., Hwlffordd 0 2 6 *iss Evans, British School, etto 0 J 0 Croesgoch a Threfin J 1 W. S. Lloyd, Ysw 0 10 • D. Reynolds, Ysw., Treglemais 0 5 0 Sittim, gan Mr. Henry Daniel 0 18 3 ^alybont, gan Mr. J. Richards 0 15 6 Aberteifi, gan y Parch. E. Thomas 6 0 0 [Rhoddir y gofres yn ein nesaf.] Tregolwyn, gan Mr. W. Evans,— Mr. David Williams 0 1 0 J.Jones 0 1 0 Mrs. Jennett Thomas 0 1 0 Symiau bychain 0 0 9 r, Yr eiddoch yn flyddlon, Cawfyrddin, Medi U. H. W. JONBS. »
Family Notices
PRIO DW YD,— Medi 8, yn Nhabernacl y Methodistiaid Calfin. aidd, Aberteifi, drwy drwydded, gan y Parch. W. Jones, Mr. David Evans, Gwrddon, Aberporth, a Miss Eleanor Jenkins, Llwynllwyd, Llangoedmore. Medi 10. yn yr un lie. yn mhresenoldeb y cof- restrydd, Mr. Thomas Elias, Heol-las, Ferwig, a Miss Jane Phillips, Troedyrhiw. Medi 10, yn swyddfa y cofrestrydd, Bridge Parade, Aberteifi, Mr. Stephen Lewis, Carnhuan, Eglwyserw, a Miss Hannah Thomas, Pantygarn, Eglwyserw. Medi 13, yn yr un lie, drwy drwydded, Captain John Davies, Aberporth, a Miss Hannah Davies, o'r un dref. Medi 11, yn Nghaersalem, Dowlais, gan y Parch. E. Evans, yn ngwydd y cofrestrydd, Mr. Mesech Evans, a Miss Elinor Jones, y ddau o Ddowlais. Medi 9, yn eglwys Caledfwleh, gan Mr. A. W. Davies, periglor Llandilo, unwyd mewn glan bri- odds, Mr. Owen Roberts, Athraw Ysgol Frytanaidd Cwmifor, a Miss Sarah Evans, Glanbrydan Lodge. Dymunaf bob llwyddiant i'r par priodasol, Hir oes fyddo iddynt, a bywyd cysurol Adnabod a gaffout yr undeb ysbrydol A ddeil yn ddiffuant yn gwlwm tragwyddol. BU FARW,— Yn Llangollen, yn oh9 yr Athrofa, bu farw David Morris, argraffydd. Yr oedd y brawd ieuanc hwn ar y pryd yn aelod aphregethwryn eglwys Calfaria, Aberdar, ac wedi bod yn gweithio yn swyddfa y Gwyliedydd. Yn herwydd afiechyd, dychwelodd i'wartref clud gyda'i rieni yn Llangollen, Ile, wedi hir gystudd, y bu farw, gan bwyso ar y Crist anwyl a fu yn ei bregethu i ereill. Medi 8, yn 22 oed, ar ol naw diwrnod o gystudd trwm, yn mherMndy Llanefydd, Margaret, merch Elin ae Abel Williams, Rhwngyddwyffordd. Yr oedd yn un o'r gweinyddesau mwyaf ffyddlon a diwyd; a pbe buasai glendid a pbrydferthwch gwedd yn lluddias marwolaeth, gallasai herio angeu i ddynesn at ei phabell. Ond Nid ydyw dyn, na neb o'i ryw, Ond megys gwan flodetiyn gwyw- Y boreu'a tyfu'n hardd ei wedd, Brydnawn yn pydru yn y bedd I Powrs. Medi 9, yn 23 oed, wedi tair wythnol o gystudd trwm, Jane Williams, Twynyrodyn, Merthyr. Prydnawn dydd Liun, y 12fed, gosodwyd ei chorff yn mynwent Seion, i orwedd hyd ganiad yr udgorn. Pregethwyd ar yr achlysur gan y Parch. C. Griffiths. Cwyna perth'nasau ceinwedd,-a degau 0 gym'dogion glan wedd, Am Sian lan wiwlan o wedd, A orfu fyn'd i'w hoerfedd. THALAMUS. Awst 24, yn 12 mlwydd oed, Sarah, merch i Mr. Henry Jones, oriorydd, Handyssul, ac ftyres i'r diweddar Barch. John Jones, gweinidog y Bedydd- wyr yn y lie uchod. Dyoddefodd yr ymadawedig dair blynedd o gystudd. 0 Sarah anwylaf, ti hedaist yn awr, Diengaist ar fyd o orthrymder Ni theimli un gwendid na llesgedd tramawr— Darfyddodd dy drallod a'th ninder. 0 Sarah, ti laniaist mewn gwlad uwch y ser 0 afael pob helbul daearol, Ac heddyw y seini dy anthem yn her, 0 fawl i'th Greawdwr anfeidrol. Gadewaist chwiorydd a brodyr a thad I wylo mewn galar a thristwch; Derbyniaist yn ieuanc y nefoedd yn 'stad, 'R hon bair it' dragwyddol ddedwyddweh. Defnyddiwn yr adeg, ymgodwn yn awr Uwch byd sydd a'i ddirfawr ofalon, Fel meddom addasrwydd yn unol i'w chwrdd, I wledda ar fwrdd Brenin Seion. D. LEWIS. Medi 3, yn 47 mlwydd oed, Mr. John Hobson, Albion House, Llandudno. Dydd Mawrth can- lynol, wedi i dorf fawr ac hynod barchus ymgasglu yn nghyd i wrando ar yr hen dad, Griffiths, Llan. dudno, yn anerch a gweddio wrth y ty, aetbpwyd tua mynwent Glanwydden. Wedi cyrhaedd yno, a rhoddi ein brawd a'n cyfaill yn y bedd oer, anerch wyd y dorf mewn modd tarawiadol iawn, ar y Bedd, gan y Parch. J. James, LIanelian; a dilynwyd ef ag ychydig eiriau a gweddi gan Mr. E.Jones, Llan- dudno. Am 7 o'r gl >ch yr hwyr, pregetliodd y Parch. R. Evans, L'erpwl, bregeth angladdol ar yr achlysur; y testun oedd, "Mi a ymdrechais ym- drech deg, mi a gedwois y ffydd, &< P) sgethodd Mr. Evans yn sylweddol, cysurlawn, ac hwyliog iawn. Cafodd Mr. H. ei fedyddio yn Manchester, gan yr Hybarch. E. Willams, Aberystwyth, er ys tua 25 o flynyddoedd yn ol ac er bod ei fywyd crefyddol wedi bod braidd yn symudol, etto callw. odd ei grefydd yn ei grym, ac ymwthiai at ei frodyr pa le bynag yr elai. Yr oedd yn ddyn gwir ddefn- yddiol yn yr eglwys, yn fasnachydd parchus yn y dref, ac yn gyfaill gwerth ei fwynhau. Y Duw hwnw sydd wedi dal i fyny ysbrydoedd ei blant mewn cyfyngder drwy yr oesoedd fyddo yn cysuro ac yn dyddanu gweddw yr ymadawedig, ac ereill o'i berthynasau, y rhai oil sydd yn awr mewn galar.-J. E. MARW-GOFFA. Chwefror 25, 1864, bu farw John Jones, Ty- capel, Soar, Llanfaethlu, Mon. Mab mabwysiedig oedd ef i William a Margaret Jones, sydd yn byw yn y ty-capel crybwylledigr; ond er nad oedd yn fab naturiol iddynt hwy, etto credwn na ymddygodd rliieni erioed yn well at blentyn nag yr ymddygas- ant hwy ato ef-yr oedd eu cariad hwy yn fawr ato ef, a'r eiddoef yn fawr tuag atynt hwythau. Braiat fawr i blant yw cael eu dwyn i fyny mewn teulu crefyddol. Cafodd ef y fraint hono, a chafodd ei rieni le i gredu nad ofer fu y cyngborion a'r siamplau crefyddol a roddasant iddo. Cafodd ei fedyddio pan yn 14 mlwydd oed gan yr ysgrifenydd, a bu farw yn ugain mlwydd oed; felly chwech mlynedd oedd hyd ei daith grefyddol. Taith fer, ond hynod o gywir. Ni welsom ddyn iauane erioed yn ym- ddwyn yn well gyda chrefydd nag ef. Un peth neillduol ynddo oedd syched am wybodaeth. Prynai lyfrau buddiol, a darllenai a myfyriai hwynt yn fanwl; ond ei brif lyfr oedd y Beibl; myfyriai yn hwn ddydd a nos, a chloddiai yn ddwfn i gael gafael yn ei drysorau. Yr oedd ganddo gasgliad helaeth o wybodaeth, a gallu mwy na'r cyffredin o'i gyfoedion i osod allan ei feddwl yn ddebeuig a der- byniol. 0 herwydd v pethau a nodwyd, yr oedd yn dra defnyddiol yn y cyfeillachau a'r V sgol Sul, fel y teimla yr eglwys a'r Ysgol Sul mai nid ychydig yw eu colled arianol. Yr oeddem ni fel eglwys yn meddwl fod ynddo gymhwysderau at y gwaith pwysig o bregethu, ac yn bwriadu ei gymhell i d'techreu ond nid ein meddwl ni oedd meddwl Duw—cymmerwyd ef gan ei Arglwydd o fyd y cys- tudd mawr i'r wlad well yr ochr draw. Clsddwyd ef yn y gladdfa berthynol i gapel y Bedyddwyr, Llantachreth a phregethais innau yn ei angladd, oddiwrth 2 Cor. 4. 17. Llanfaethlu. EZEKIEL JONES.
Hanesion Cartrefol. -
Hanesion Cartrefol. ABEBTEIFI.—Cynnaliwyd Arddangos'fa Flodau yn y dref hon dydd Mercher, Medi 7fed, a da genym ddeall iddi droi allan yn hollol Iwyddiannus, LLANELM.— Drwg genym hysbysu i ddau o Ulots y He hwn golli eu bywydau dydd Gwener diweddaf. Aeth pedwar o honynt o'r oleulong sydd gerllaw y Worm's Head, mewn cwch, i fyrddio Hong oedd yn dynesu at y porthladd, mewn angen pilot. Gosodwyd un ar ei bwrdd, a chyfeiriodd y tri ereill tua'r oleulong. Yr oedd yn chwythu yn drwm ar y pryd, a methodd y bad gyrhaedd y Hong. Ar hyn cyfeiriasant tua'r tir ond torodd ton fawr ar y bad, yr hwn a droes wyneb i waered. Collodd dau, sef John Bowen a Wm. Gray; ond Uwyddodd y llall, Hector Rees, i noflo i dir. Cafwyd cyrff y ddau ddyn yn yr hwyr. Y mae yr amgylchiad wedi gordoi y lie a galar. Pwxx. y MOHFA, TAIBACH. — Damwatn Angeuot-Dydd Sadwrn diweddaf, Medi lOfed, fel yr oedd bachgenyn o'r enw Daniel George, tua 14 oed, yn dyfod allan a dramaid o lo ar hyd yr heading, ac yntau yn eistedd ar ben ol y shaft, gafaelodd collar oedd yn groes i'r heading yn ei ben, a chafodd ei ladd yn y man rhwng y dram a'r collar. Yr oedd yr ymadawedig yn un o'r rhai a achubwyd yn y danchwa ddiweddar fu yn y pwlI; felly, yr oedd saith niwrnod yn fyr o un mis ar ddeg oddiar y dygwyddiad hyny.—AP HABRI. MELLTEN.—Dydd Sadwrn, Medi 3ydd, daeth mellten i lawr i dy fferm o'r enw Gwerna Ganol, yn mhlwyf Bedwas, Swydd Pynwy, ond ni laddodd neb, yr hyn sydd yn syndod i bawb ag sydd wedi gweled y He. Oddiallan i'r ty, drylliodd gorn y simne, neu yn bytrach ei hollti, fel y gailai Mr. Thos. Edwards, gwr y tf, osod ei fraich yn yr hollt. Torodd dwll yn y to hefyd gerllaw i'r simne, a thrwy hwn y bernir iddi ddyfod i'r ty. Oddifewn yn y llofft, mae twit yn y ceiling o dan y twll sydd yn y tO, ac mae ei hol ar y mur fel ergyd o ddryll. Yn yr ystafell hon, drylliodd y mantle-piece pren, a'r grate yn ddarnau, a'r ffenestr bob gwydryn yn chwilfriw man. Niweidiodd hefyd washing stand, ond y gwely a'r curtain ni chyffyrddodd. Drylliodd gareg yr aelwyd yn ddau, a chododd hi yn hollol o'i lie, ac mae yn debyg mai o dan hon yr aeth i lawr i'r ystafell odditan, sef y parlwr. Yn yr ystafell hon etto, drylliodd y mantle piece, y grate, a'r ffenestr, fel ar y llolfl. Tybir iddi ddyfod o'r parlwr i'r parth, naill ai trwv dwll yr allwedd yn y clo, neu trwy higol fach oedd tu cefn i ffram y drws. Yn y parth hwn ni wnaeth un niwed, ond codi darn o'r plaster wrth y drws, agor case y cloc, a dryllio un gadair. Yna aeth ar hyd y passage i'r hen barth (darn newydd i'r ty yw y llall), yn yr hwn yr oedd wyth o blant, a gwas a morwyn, newydd ddarfod yfed te. Dywed y gwas iddo ei gweled yn dyfod gyda'r mur yn glamp mawr o dan, a daeth i gareg yr aelwyd, yna ymagorodd. Ni wnaeth ddim yn y He hwn ond tori twll bach yn y mur ger- llaw y drws, symud y plant a'r forwyn o'u lie, heb wueyd un niwed iddynt. Yr oedd fel pe bai yn clirio y plant oddiar yr aelwyd, iddi hi gael lle i ymagor. Pan dorodd, gwnaeth, swn fel magnel mawr, nes dychrynodd pawb i'r fath raddau, felna allent wneyd dim drostynt eu hunain ond medd- iannodd y gwas ei hun, a chariodd y plant allan, yr hyn fu dda, onite buasent oil wedi mogi gan y sulfer brwmstanaidd a adawodd ar ol. Dyma dm- garedd, le, dyma drugaredd, meddai pawb. Duw roddo galonau i deulu y Gwerna i ddiolch am dani.- W. H.
Hanesion Crefyddol.
Hanesion Crefyddol. TABERNACL, CAEHITRDDIN.—Dydd Sul a nos Lun diweddaf, cynnaliwyd cyfarfodydd yn y lie uchod, er casglu tuag at y ddyled yr awd iddi eleni wrth adgyweirio a phaentio y capel. Grwasanaeth- wyd yr eglwys ar yr achlysur gan y brodyr parchus W. Harries, Heol-y-felin, Aberdar, a J. Morris, Cwmifor, y rhai a bregethasant yn ddylanwadol ac effeithiol iawn. Yr oedd y ddyled ychydig dros £ 98, yr hon erbyn nos Lun a ddiflanodd yn liwyr, gan i'r casgliadau a'r tanysgrifiadau gyrhaedd y swm o J6108 a rhai sylltau. Yr oedd yr eglwys wedi amcanu clirio y ddyled ar un cynnyg, a chan- fyddir iddi fyned rai punnoedd dros ben y mark. PKNYBONT- AR-OGWY.- Y mae y Parch. J. D. Evans, o Langefni, wedi derbyn galwad daer, gwresog, ae unfrydol yr eglwys Gymreig yn y dref 9 hou, a'r ganghen yn Nhrelales, ac yn golygu dechreu ar ei weinidogaeth yn ei faes newydd ar y Sabboth cyntaf o Dachwedd. Os yw dyn serchog, cyfaill diffuant, a phregethwr doniol a destlus yn ateb Penybont, diau y bydd Mr. Evans, gyda ben- dith yr lor, yn gaffaeliad gwerthfawr i Benybont a'r wlad oddiamgylch,—AELOD. TRELETTERT, GER HWLFFOROD.—Hysbys i'ch darllenwyr i'r brawd David Rees, o Athrofa Pont- ypwl, gael ei ordeinio yn y lie uchod er ys ychydig fisoedd yn ol, ac oddiar hyny hyd yn bre- senol y mae ei iechyd wedi bod yn lied wanaidd, ac yn bresenol y mae ei afiechyd yn ei analluogi i gyflawnu ei lafur gweinidogaethol, a rhoddodd yr eglwys i fyny y Sabboth cyntaf yn Medi am ysbaid 0 amser er mwyn cael gweled pa beth a ddaw o hono yn y dyfodol. Dywedai fod ei galon gyda'r eglwys, ond fod ei afiechyd yn rhy drwm iddo allu ei gwasanaethu a chan nad beth ddaw o hono ef yn y dyfodol, ei lod yn dymuno iddi hi bresenoldeb y Pen Bugail. Perodd yr achlysur o roddiad yr eglwys i fyny gan Mr. Rees i'r He fyned yn foddfa o ddagraa, yr hyn a ddangosai gariad a serch yr aelodau tuag ato. Y mae yr eglwys wedi derbyn llawer o les oddiar yr amser y mae efe yn weinidog ami, a boddiona ei dderbyn yn 01 etto unrhyw amser, os gwel Duw fod yn dda ei adferyd, a gweddi ddyfal sydd yn cael ei gwneyd gan yr eglwys at Dduw drosto ef.-CYPAILL. TABERNACL, MAESTEG.—Dyddiau Mercher ac lau, y 7fed a'r 8fed cyfisol, cynnaliwyd yma gyfar- fodydd cyhoeddus er cydnabod y Parch. David Griffiths, diweddar o Ebeneser, Dyfed, yn weinidog y Tabernacl. Nos Fercher, anerchwyd gorsedd gras gan y Parch. B. James, Pil; a phregethodd y Parchedigion T. Johns, Ynyslwyd; T. E. James, Glyn Nedd; a B. Evans, Castellnedd. Dranoeth, am 10, dechreuwyd g,an yr Hybarch Thomas Hop- kins, Bettws (sylfaenydd achos y Bedyddwyr yn Maesteg); a phregethodd y Parchedigion T. Johns, Ynyslwyd; B James, Pil; a T. E. James, Glyn Nedd. Am hanner awr wedi 6, dechreuwyd gan Mr. Johns; a phregethodd y Parchedigion B. Evans, Castellnedd; Dr. Price, Aberdar; a R. A. Jones, Abertawy. Yr oedd hwn yn un o'r cyfar- fodydd goreu mewn pregethu a gwrandaw. Mae Mr. Griffiths yn dechreu ar ei weinidogueth yma gyda derbyniad mawr, ac yn debyg, yn aerth ei Dduw, o fod o fendith neillduol yma. CAKRDYDD.—Y Cyrddaw Gweddi.- Y mae y cyrddau gweddi yn tfilu eu ffordd, er nad oes oad ychydig yn dweyd, I- Awn gyda chwi." Y mae yn dda iawn genym eich hysbysu, serch hyny, fod ambell i un yn dod, gyda tbeimladau toddedig a gostyngedig, gan ofyn am le yn mhlith y plant. Yr Arglwydd a gynnorthwyo lawer etto cyn diwedd yr wythnos i ddweyd, Fe a'm clwyfwyd, ac a'm ceir ynddo Ef." Gobeithiaf nad oes neb eglwysi yn esgeulus o'r cyrddau yma, am, fel y mae llawer yn dweyd, mai penderfyniad Cymmanfayw, &c. Ofn- wyf fod rhyw deimladau fel yna yn ffynu yn myn- wesau llawer, am, meddent, nad yw penderfyniadau y Gymmanfa ond yn arifynych yn cael eu caria allan. Yr Arglwydd yn ei ras a ymwelo a'r eglwysi y Sul nesaf, ae a fendithio y mudiad, er dwyn llawer i ymofyn beth i wneyd er bod yn gadwedig. TREHERBERT.— Cynnaliwyd cyfarfod llenyddol yn Ysgoldy Brytanaidd y lie uchod ar nos Fercher, Medi 7, pryd y dygwyd y cyfarfod yn mlaen yn y drefn ganlynol --I Anerchiad gan y Cadeiryddr 2 Anerchiadau gan blant yr awen. 3 Beimiadaeth y Traetliodau ar Fanteision ac Anfanteision Cyfar- fodydd Llenyddol; goreu, M. Rosser. 4 CyEtadIu ar un o Solos Russell; un ddaeth yn mlaen, ac yr oedd yn deilwng o'r wobr, sef D. Gibbon. 5 Ad- rodd Ei Gair Ymadawol; un ymgeisydd, ac yn teilyngu'r wohr, sef Miss Jane Lewis. 6 Beirn- iadaeth y Gan Ddesgrifiadol ar y Go'ygfeydd oddiar Fynydd Penpych tri ymgeisydd; goreu, D. Weeks. Cystadlu ar y Solo & Chorus, Cymru Lan tri pharti; goreu, D. Gibbon a'i barti. 8 Adrodd Y Fenyw Siomedig; un ymgeisydd, sef Miss M. Edwards, yr lion oedd yn deilwng o'r wobr. 9 Ar- eithio difyfyr ar Gusan 7 yn cystadlu goieu, Fvan Cule. 10 Canu y Duett, The Minute Gun at Sea 4 cwmni yn cystadlu goreu. D. Gibbon a'i gyfaill. 11 Beimiadaeth y Traethodau ar y Buddioldeb o gael Darllenfa Gyhoeddus yn Nhre- herbert; dau yn gydysgwydd, sef D. Weeks a D. Richards. 12 Canu unrhyw Gatch; un cwmni ddaeth yn mlaen, y rhai a ganasant er difyrwch y cyfarfod. 13 Beimiadaeth yr Alawon ar y mesur 8au., 8 ttin. ugain o alawon wedi dyfod i mewn; goreu, Thos. Jones, Treorci. 14 Canu unrhyw ddernyn rhoddedig ar y pryd 4 yn ymgeisio; goreu, D. Gibbon. 15 Beimiadaeth y Gan Gyf- archiadol i Gwmni Gwaith Glo Treorci ar yr achlysur o agor y Pwll Newydd daeth tair can i law; goreu, M. Rosser. 16 Areithio difyfyr yn Saesneg ar The Qualities Requisite in a Young Woman to make a Good Wife pump yn cystadlu barnwyd tri yn gvfartal, sef R. Thomas, E. Cule, a M. Rosser. 17 Canu Llwyn On dau gor yn cystadlu; goreu, Darkie's. Gyda hyn terfynwyd y cyfarfod. Y cadeirydd ydoecld Mr. Henry Mor- gan, Dunraven Colliery; efe hefyd oedd Beirniad yr Adroddiadau a'r Areithio. Beirniad y Traeth- odau oedd y Parch. W. Jenkins; y Farddoniaeth, y Parch. R. Whittington y Gerddoriaeth, Mri. M. Llewelyn a R. Hopkins. Cawsom gyfarfod difyrut ac adeiladol dros ben, acymadawodd pawb wrth eu bodd. Yn ystod y gauaf dyfodol, bwriedir cynnal Penny Readings yn y lie uchod bob mis a dydd Llun Nadolig, bwriedir cynnal eisteddfod a chyng- herdd yma. Felly, chwi a welwch, er ein bod yn trigo rhwng bryniau cribog, a cherllaw godreu myn- ydd Penpych, fel pe baem o'r neilldu oddiwrth y byd a'i ddwndwr, ac wedi ein cau i fyny yma, nad- ydym ar ol manau ereill yn Nghymru yn ein chwaeth at lenyddiaeth a cherddoriaeth, ac nad ydym yn segur a diwaith yn y cwmwd cul hwn.— Ysg.
YR EISTEDDFOD.
felly yn y blacu, yr ail ddydil, cawn ail adroddiad, gyda rhyw ychydig bach iawn o Syfnewidiadau, o'r hyn a gawsoin y dydd cyntaf; a'r trydydd dydd yn ail argraffiad o'r 40; a'r pedwerydd o'r trydydd! A rhyw Second edition yn bur agos ydyw areithiau 1861 0 areithiau 1860, a 62 o 61, a 63 o 62, a 64 o 8reithiau 63. A'r hyn sydd yn ein synu yn fwy fyth ydyw, yr un pethau fyth a hefyd ydyw y rhan iwyaf o lawei o'r hyn fydd wedi ei barotoi i drachefn yn y cyngherddau—ahyny gan y Professionals, sy'n gwneyd dim oil o un pen l'r flvvyddyn i'r Hall beblaw canu Yn ystod y gyngherdd yn Llandudno y noson gyntaf, os "'y'n eofio yn iawn, dygwyddais fod yn eistedd yn nyhanol nifer o'r frawdoliaeth eisteddfodol; a dyna Lewis Thomas i fyny. Canwr campus, di-ail, yn ddiammheuol. Ond dyma i ni etto yr hen don fyth— Oh ruddier than the cherry, Oh I sweeter than the berry." Yn enw'r taid," ebe un o'r brodyr a eis- *eddai gerllaw i ni, mae'n bryd bellach i Ruddier than the cherry" gerdded ei hunan.'| "ydyw," ebe'r llall, y mae'n llawn bryd iddi gael myn'd am dair neu bedair blynedd i'r Dorfa''—Rw'i, eh efe, wedi ei chlywed ganddo ddwywaith yn 'Steddfod Caernarfon. Canodd hi amtyw weithiau wedi hyny yn y Rhyl; yn Abertawe drachefn, clywsom y Ruddier than the cherry," beth bynag ddwywaith neu dair dyma hi wedi d'od i'n cyfarfod i Landudno mwy na thebyg na chawn hi amryw droion ttto cyn diwedd yr Eisteddfod, (ac fe'i cafwyd hi o gwbl bedair gwaith). A thyna yr hen 46a anfarwol "Rhyfelgyrch gwyr Harlech"; y d6n o herwydd pa un y tynodd Tal. gym- Biaint o wawd y papyrau Seisnig ar ei ben o Wwydd haeru yn Abertawe am dani ei bod yn curo'r Marseilles Hymn like fiddle sticks hen ardderchog ydyw'r Rhyfelgyrch," 'does dim dwy farn ar y pwnc. Ond druan 0 hoai !—y mae'n bryd iddi hithau gael gor- phwys bellach. Cawsom hi yn Llandudno yn Dihob ffurf a gwedd. Cawsom hi i ddechreu gan seindorf bres yr Eisteddfod ar yr heol, o flaen y procession; cawsom hi yn mhobfan- tasiia drwy gydol yr Eisteddfod; cafwyd hi Wedi hyny ddau dro neu dri yn y ddeuawd delynol gan Chatterton a'r Pencerdd gan gor Birkenhead (yr unig gor o ran hyny a ganodd yr hyn a ganwvd o gwbl) ar agoriad Cantata Harlech — yn overture Cantata Tywysog Cymru; gan Lewis Thomas wedi hynv drachefn nos Sadwrn. Ac yn ychwaneol at hyn oil, rbygnid yr hen don aurhydeddus hon, druan o honi, ar hyd yr heolydd gan bob Hurdy-gurdy, ac organ-grinder, a German Band a ymwelodd a Llandudno drwy ystod wythnos yr Eisteddfod. Gwarchod pawb, anwyl blant! Peidiwch bod yn greulawn. Chwareu teg-Chwareu teg Peidiwch da chwi a gyru Gwyr Har- lech'' druain i farwolaeth! Ai nid ydywpethfel yna-gyda yr holl Saes- neg-yn ddigon i laild unrhyw sefydliad o dan haul ?