Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
PREGETH Y PARCH. H. W. BEECHER…
PREGETH Y PARCH. H. W. BEECHER AR FEDYDD BABANOD. At Olygydd SEREK CnfRu. ANWYL FRAWI),—Gwelais yn SEREN CYMRU am Awsfc 12, gai.3 arnaf gvfieithu y bregeth uchcd, a'i chyhoeddi yn Gymraeg. Bwriedais roddi ateb i'r gais ar y pryd, ond daeth rhyw drafFerthion ar fy ffordd y pryd hyny, ac annghofiais am dano hyd y fynyd hon. Dymunaf hysbysu y brodyr hoff oedd a'u henwau wrth y gais, a'r cyhoedd hefyd, fy mod yn bwriadu ymgymmeryd a'r gorchwyl gynted gallaf. Rhoddaf wybod etto pa fodd a pha bryd y bydd y bregeth hon yn cael ei chyhoeddi yn ei diwvg Gymreig. Yr eiddooh yn wir serchog, Pontypridd, Medi 6. EDWARD ROBERTS.
AT Y PARCH. ROBERT JONES,…
AT Y PARCH. ROBERT JONES, LLANLLYFNI. BABCH. SYR,—Yn ddiweddar, rhoddwyd SEBEIT CYMR.U am Mai 13eg, yn fy llaw, yn mha un y darllenais ysgrif o'r eiddoch ar Achos y Bedydd- wyr yn Llanllyfni." Byddai yn dda genyf gael ychwaneg o wybodaeth am rai pethau a grybwyllir; a gaf eich trafferfchu i ateb yr ychydig ofyniadau a ganlyn, trwy gyfrwng SEREN CYMRU 1. Pa faint oedd nifer yr Eglwys Fedyddiedig yn Llanllyfni cyn yr ymraniad yn 1805 ? 2. Pa nifer o'r aelodau heblaw yr Ymddiriedol- wyr a droisant o du Ramoth ? 3. Pa faint o'r nifer a ddychwelasant yn ol i'r hen gyfundeb, pan ail sefydlwyd eglwys y.no gan y Bedyddwyr neillduol? 4. A arosodd yr oil a ddychwelasant yn ol i'r lien gyfundeb; ynte a ymnnodd rhai drachefn gyda'r rhai a droisant o du Ramoth ? 5. Pa un ai eicldo yr Eglwys Fedyddiedig yn Llanllyfni, ynte eiddo v Cyfundeb Bedyddiedig oedd yr hen gapel, yn ol y gweithredoedd (trust deeds) ? 6. A gyfranodd yr eglwys yn Llanllyfni at adeil- adu y capel, ynte ai trwy haelioni dyeithriaid y dygwyd y draul yn gwbl ? 7. Ai nid oes pregethu yn achlysurol yn yr hen gapel hyd y dydd hwn ? Gan ddysgwyl clywed oddiwrthych, Yd wyf, yr eiddoch yn ostyngedig, Trawsfynydd, Medi 6. DAVID JOKES.
AT GANTORION" A CHORATJ CANU…
AT GANTORION" A CHORATJ CANU CAS- TELLNEDD, À'R CYMMYDOGAETHAU AGOSACH A PHELLACH. GAN fod amryw o gantorion yn ymholi S mi, a hyny o herwydd fod y sibrwd wedi myned allan i'w clustiau, A oes Eisteddfod Gerddorol i fod yn nghapel y Bedyddwyr, yn Nghastelldedd, ar y dydd LIun Nadolig nesaf, sef Rhagfyr 26ain ? I hyn yr wyf yn ateb yn gadarnhaol, sef fod Eis- teddfod o'r fath i fod, naill ai yn y capel nchod, neu mewn Taan cyfleus yn y dref, ar y dydd LIun, y 26ain o Ragfyr nesaf, a gwobrau anarferol i'r corau a ganont yn orea anthemau a t-honau, &c. Bydd i'r pwyllgor, yn mhen ychydig ddyddiau. ar y 11 ol penderfynu y manylion, wneyd y cwbl yn hys- bys i gymmydogaeth a gwlad. Hyd hyny, wyf, yr eiddooh oil, Castellnedd, Medi 6. BHNJAMUf EVAXS.
CYMMANFA RHYDARGAEAU.
CYMMANFA RHYDARGAEAU. Os oes rhyw bethau anhyfryd wedi dygwydd yn yr ymdrafodaeth hon, yr wyf fi yn mynegu yn ngwyneb haul a llygad goleuni," mai nid wrth fy nrws I y gorwedda y hai. Y facts sydd fel hyn 1. Yr oedd achwyniadau ar ol y Gymmanfa ddiweddaf. 2. Ysgrifenodd ts Themiskopo3 i'r SEREN yn galw sylw at y Gymmanfa, a dygodd "grave charges&c. 3. Ysgrifenodd y Trysorydd ddau lythyr i'r SEREN, a dangosodd fod annghyssondeb yn y cyf- rif arianol. 4. Danfonais innau nodyn byr a difeddwl.drwg i'r SEREN. Cyfeiriais at y gohebiaethau oedd eisioes wedi ymddangos; ac yn briodol, yn ol fy meddwl I, ceisiais gan yr Ysgrifenydd i roddi eglurhad ar y fusnes, fel y buasai heddwch yn cymmeryd lie. Ac yr wyf fi o'r farn fod gan unrhyw frawd hawl i ofyn cwestiwn, a dysgwyl civil answer ac y mae hawl gan holl eglwysi y Gymmanfa i wybod beth wneir a'u harian. 5. Yn lie fy ateb vn garedig, rhoddodd Mr. Jones y whip ar fy ngwar. Dyna ddechreuad y drtvg. Yr hyn ddylasai Mr. Jones wneyd oedd, ateb y gofyniadau, neu ddweyd, nad oedd yn dewis eu hateb hyd y Gynnadledd a darfod fan hyny. Pegwnaethai Mr. Jones hyny, ni fuasai dim yn anhyfryd yn dygwydd. 6. Wrth gwrs, nid oeddwn yn myned i orwedd dan fflangell annghyfiawnder a'r canlyniad fu, i mi i epistoleiddio dipyn yn effeithiol. 7. Dywed Mr. Jones yn ei nodyn diweddaf, fod fy ysbryd yn annghristionogol." Minnau a ddywedaf, Ei eiddo ef yn fwy." Anwiredd yw fy mod yn gwylio argyfleusdra igablu, &c. Na ddwg garn-dystiolaeth," &c. 8. Gair at y brodyr Abraham Jones a James Thomas. Frodyr bach, yr ydych wedi gwneyd cam mawr a mi. Nid wyf wedi gwneyd ymosod- iad ar eich Cymmanfa; ae ni ddywedais air am y dull y cynnaliwyd hi. Peidiwch llusgo i'r ddadi yr hyn na pherthyna iddi. Buasai .yn ddymunol i chwi roddi cyfrif am y gweddill o'r arian, canys nid yw balance byth yn myned yn ddisylw dyna farn masnachwyr, bid y fyno, a chasglwyr trethi hefyd. Pa un a gasglasoch ai peidio, ni wn I; ond hyn wyf yn sicr. fy mod I gyda chwi Sul y cymmundeb ar ol y Gymmanfa, ac i frawd oddi- yna ddweyd wrthyf na chasglasoch at y Gym- manfa. Os nad ydych yn fy nghoelio, galwwch yn fy nhy, a rhoddaf i chwi foddlonrwydd. Etto, yr ydych yn gofidio yn fawr fod Mr. Jones wedi cael unrhyw sarhad am eich gwasanaethu. Nonsense Pwy sydd yn el sarhau am eich gwas- anaethu ? Pwy ond y chwi sydd wedi son am hyny? Cedwch allan bob peth anmherthynasol, frodyr. Rhai ag oedd yn y Pwyllgor ddywedo id wrthyf fod Mr. Jones yn mynu ei ffordd, &c. Rhoddaf i chwi eu henwau, os mynwch. Peid- iwch meddwl fy mod I yn llunio anwiredd; dyna beth na wnes yn fy mywyd. Dyma fi wedi gosod y mater gerbron yn deg; a phe cadwesid at y pwnc y dylasid ei drin, ni buasai dim diflasdod wedi bod. Gorphwysaf yn dawel. lC Asgre lan diogel ei pherchen." Caerfyrddin. Tnos. LEWIS. O.Y.-Clywais fod rhai yn achwyn fod fy llythyrau wedi gwneyd tipyn o niwed i'w duwiol- deb h wy; ond hyn yw fy nghysur, gan fod eu duwioldeb mor rymus a bywiog, bydd iddi yn fuan recovero ,-T. L.
CONGL YR EFRYDYDD.
CONGL YR EFRYDYDD. ATEB. ,RF,N- At Olygydd y SEREN. Syr,—Gan y cymmerai eglurhad cyflawn o'r modd i weithio allan ofyniad Quack ormod o'ch gofod, f'eallai y boddlona ar gael gwybod y pellder yn unig, sef 23 3-10ths o filltiroedd Seisnig. ISAAC Y BORTH. 'i
GOFYNIADAU.
GOFYNIADAU. Achos Tywyll heh ei Egluro. Olygydd Palchus,-Gan mai eich gwaith chwi, yn nghyd gohebwyr lluosog, yw dysgu yr antighall, a chyfarwyddo yr arnvybodus mewn pethau crefyddo], yn gystal a g wlad wriaethol. y mae dadl yn y gymmy- dngaeth hon rhwng Uaweroedd yn nghylch achoj, nid y llciaf ei bwys chwaith, pa fodd y dylid ymddwyn at ddyn o dan yr ellw brawd crefyddol, pregethwr, a gweinidog yr efengyl, a gwneuthur hyny yn Gristion- ogo:, heb dir cyfiawn i feio yr eglwys y perthyna iddi. na'r enwad chwaith. Drwg genyf fy mod yn gorfod gofyn eich cyfarwyddyd yn yr achos, ond y mae hyny yn dygwydd o herwydd nad oes gen:-m achos cyffelyb a hanes am dano yn y Beibl, ac felly nis gellir cael rheol yno y ffordd i ymddwyn yn yr achos. Gwir y IV, geJJir codi ein casgliadau ein hunain oddiwrth y gwerthfawr hwnw, rcegys y gwria taenellwyr plant dros y ddefod orwael hono. Ond at y pwnc, pa ddys- gvblaeth sydd deihvng (os yn galw o gwbl am ddys- gyblaeth) sydd i'w gweinyddu ar frawd o'r cymmeriad, nodwedd, a'r swydd uchod, am, yn 1. Hudo merch ieuanc gyfrifol o dan 20 oed oddiwrth ei theulu yn lledradaidd, a llwyr wrthvvynebol iddynt (wedi ei gomedd yn flaenorol ganddynt), er ei phriodi, er bod mwy nag ugain mlynedd o wahaniaeth oedran rhyng- ddynt a'r fusnes hon yn cael ei chario yn rftlaen ar ddydd yr Arsjlwydd, er gwell cyfli i d ivyllo ? 2. Cadw y cyfan yn ddirgel am fwy na thair wythnos oddiwrth deulu y ferch, er cael amser cyhoeddi gostei<ion priodas, am na allent briodi drvvy drwydded, am fod y llances dan oedran, yn cydgyfaneddu yn rhywle, mor ddirgel ag y gallent tna gororau Merthyr, medd yr hanes a theulu parchus yr eneth ar Ie wygu yn yr achos, heb wybod yn y byd beth oedd wedi dyfod o honi, ai byw ai marw. 3. Ac i goroni y cyfan yn yr achos, myned i'r llan, neu Eglwys Loegr, fel y gelwir hi, i briodi, pan yr oedd llawer o gapeli y lie wedi eu trwyddedu gan yr enwad at y gorchwyl, yn gystal a Swyddfa y Cofrestrydd yn agor d yn y dref. Beth, gan hyny, yw'r peth goreu i'w wneyd a ciiymmeriadau fel hyn? Ai eu goddef fel aelodau, heb ddysgyblaeth o gwbl, ac i gario yn'mlaen eu gweinidogaeth, neu pa fodd ? Mae yr achos yn goddef yn ddirfawr trwy fradychiadau o'r natur hyn oddiwrth elynion crefvdd, a'i phleidvvyr yn caei eu harcholli i'r galon, fel mae yr amgylchiad yn destun ymddyddan braidd rhwng pob dau yma. At. tolwg, rhoddwch y cyfarwyddyd troreu yn yr achos dirmygus hwn, a'r modd goreu i weithredu ac os bydd angen am wybodaeth helaethach am fanylion yr achos, dywedir yma fod Parchedig Esgobol o Lyntawe yn y briodas, ac yn debyg yn swyddol felly ac yna gellir cael un ag oedd yn dyst gwyddfodol yn mlaen. Yr eiddoch, GOFIDUS. [Oni huasai fod yr ohebiaeth hon wedi dyfod oddi wrth foneddwr ag y mae genym ni hollol ymddiried yn ei wirionedd, nis gallasem roddi coel i'r fath hanes. Nid ydym ni yn hoffi rhagfarnu unrhyw achos ond am ddyledsvvydd yr eglwys o ba un y mae y dyn hwn yn aelod, a'r enwad i ba un y perthyna iddo, gallem ni i'edd wl fod y llwybr yn eglur ac amlwg. Tra mae dynion fel hyn yn ceisio, ac yn cael blaenori yr achos, ai rhyfedd fod sefvllta crefydd fel y mae? Mae ym ddygiadau fel hyn yn ddigon i ddifa Seion o'i nerth, i oeri cariad plant Duw, ac i yru ein gwrandawwyr i dir inffidelaidd, a gwneyd yr enwad yn wawd a dirmyg pob dyn ystyriol yn Nghymru.—Goii.]
DYCHYMMYG.
DYCHYMMYG. Pan oeddwn ryw nos yn esmwyth yn cysgu, A'm meddwl yn lion yn nghwmni ty nheulu, Och clywais wrthddrych, ei swn wnaeth i'm synu, Trwy nerth ei fawr allu bu bron a fy Ilethu Yn nghanol yr ofnau yn union gwnes godi, Diflanodd yn sydyn, er na wnaeth fy siomi; Oad b' an gwnacth weithred ddifaol 'n yr awyr, Nes synu bro Prydain. mae hyn yn dra eglur; Ar doriad y dydd yn brudd ei olygon, Hen gyfaill ddaeth ataf gan ledu ei gwynion, Sef, i'r un hen wrthddrych wneyd gweithred wir Trwy ladd iddo'n gelain ddau fochyn a dafad[anfad Er nad yw yn fyw. 'dyw gvyiw amheu ei allu, Rhag ofn yn brudd cawn etto ei brofi Rho'wch i mi wir enw 'rhwn berodd i m ofni, Trwy lwybr y SEREN, ohebwyr heb oedi. ¡' Llannon. E. OWEN WYNN.
'LLINELLAU COFFADWRIAETHOL…
'LLINELLAU COFFADWRIAETHOL I'r diwedd&r John Thomas, Penybanc, Mountainashf yr hwn a fu farw yn America. Gwnaeth John Thomas fwyn ymfudo O'i hoff enedigol wlad, Yn ei berson ymadawodd Priod ffyddlon, tirion dad, Hiraeth dwys orleinw eglwys Fach Bryncerdin 'nawr yn Ilwyr, Ar 01 brawd a chyfaiJI Gywir, Aeth ei foreu teg yn hwyr. f Ii' Yn mhen enyd wedi ymadael, Fe ddaeth awel oddi draw, A gwnaeth chwythu'r du gymylau, Tywynodd haulwen wedi gwlaw Ffydd a gobaith wnaent gyd-dd'wedyd, Ni gawn etto gwrdd yn nghyd, A'n brawd mewn golud, parch, ac hawddfyd, Yn ei fwthyn bychan elyd. Pan flai awel deg y nawnddydd Yn chwythu o'r Gorllewin draw, Y fiin a'r plant a elent allan, Gan gydrodio law yn llaw Pryd daw Data," meddai'r bychan, Mam, mi glywat swn ei dro'd, 'Taw, fy machgen, fe ddaw'n fuan ,Jt Gydag arian lon'd ei god. Daw o'r tiroedd pell tuag adrau, Bydd di'n fachgen duwiol da, Gochel bechu a diogi, Byth na ddywed wrthyf, Na Ti gei gwnad dysg a moesau, ..< Bydd hi'n amser gwych bryd hyn, Byw mewn cytoeth parch ac urddas Yn y palas ar y bryn. Pan y wraig yn prysur ddysgwyl Ei ddynesiad at y ty, Cenad angau ddaeth yn sydyn, Gan estyn iddi lythyr du Dyna saeth dryivanai'i chalon, Fel y cleddvf miniog llym, Nis gall doethion na meddygon Byth wellhau yr archoll hyn. Y newydd daenodd fet trvdaniaeth Trwy'r gym'dogaeth ar bob llaw, Fod John Thomas dan Jaw angau 'N eithaf y Gorllewin draw Dyma alaeth, dyma hiraeth Dyma sioinedigaeth 'nawr, Nid oes bardd ar wyneb ducar Eill ddesgrifio'r tristw-ch mawr. Cristion o gymmeriad dysglaer > Oedd ein brawd tra gyda ni,, t:) Nid rhyfeddod yw fod Seion Ar ei ol mewn galar du 'Roedd yn teinsio yn doddedig, Ac yn wylo dagrau'n lli, Pan yn gwrando gweision Iesu, ,N son om Aberth Calfari. Mae ei 'siampiau a'i gynghorion Heddyw'n byw yn Seion wiw, Credaf fod ei da-r weddiau Yn nghof gerbron gorseddfainc Duw j ( Mae yr ys^ol Sal gyferfydd 0 fewn capel hardd y Rhos, Q Ar ei ol yn teitnlo hiraeth 0 dan leni du y nos. 0 drueni iddo farw Draw ar draethau estron wlad, Yn swn megnvl croch y rhyfel, A lie bloeddia corn y gad Na chawsai fedd yn Nghymru lonydd o dan gysgod ywen werdd, Rhywle'n ymylnant y mynydd, Lie y dyrcha'r adar gerdd. 0 America! ti ledrattaist Lawer un o feib y Pan, A fu'n moli Dinv eu tadau 'N beraidd iawn yn Nghymru lan Un o'r cyfryw oedd John Thomas, Sydd yn llechu yn y llawr Halleliwia gwelaf forau Cwyd yn ddysgiaer fel y wawr. W. Morgan.
AWELON Y BOREU.
AWELON Y BOREU. Fwyn awelon per y boreu, Sydd vn sÏ) vn v dail, Melus gwrando'ch swynol fiwsig, Gwrando'r adar bob yn ail; Mwyn beroiiaeth eich alawon, Sydd vn lloni'm hysbryd prudd, Hoff yw'ch yfed, iach awelon, Pan yr egyr dorau'r dydd. Fwvn awelon per y boreu, Hedwch drosy blodau hardd, Dygwch ar eich esmwyth aden, Berarogliu inwys yr ardd Col well deyrnged ar y blodau, A'r rho-iynau teg eu lliw, A thyw,llitwch y per ddiliau, I gwpanau dynolrywi Ftvyn awelon per y boreu, Tyner gwrddwch a fy min, Do 1 wch gusan av fy ngwefus, (i Casan (elus fel y gwin Gan nad pwy fo yn cyfnewid, Pur a newydd y'ch i mi, 0 na byddai pob rhyw gusan Mor ddidwyll a'ch cusan chwi. m Fwyn awelon per v boreu, Codwch hiraeth dan fy mron, Am gael yfed eich awelon, f l Purach gwlad na'r ddaear hon i:C& Nos a boreu yw hi yma, -¡'/Hi. Awel afiach, awel cliwyth, if-i.—rt Yno caf an idlu purdeb, a Awel iach y boreu byth. f Athrofa Llangollen, RHYDWENFRO- i»
DADL - PA UN OREU PRIODI AT…
demnio; ie, menyw fu yn achos o gwymp dyn- oliaefch ? Pa beth a ddvwedi di wrth y pethau hyn ? J ohn.-Nid ydyw y rhyw deg vn is am dy fod ti yn ceisio eu darostwng. Nid wyf yn ammheu am foment nad oes yn eu plith rai aanlieilwng, eithr y mae y rhai hyny yn eithriad i'r rheol. Yn mhlith crefyddwyr y 27aae rhai rhagrithwyr, ac yn mhlith engyl gwynion gwynfa bu rhai na chadwasant eu dechreuad eithr byddai yn afresvmol con- denmio yr lioll grefyddwyr, neu holl engyl 3)uw am -fod rhai o honynt yn ddrwg. Os Lydd i aelod o deulu ledrata, trueni ac an- BghySawnder ydyw haeru eu bod oil yn Madron ac nid yw fod ambell i wraig, neu atnbell i ferch yn ddrwg, yn brawf nac yn Jfheswm eu bod oil yn annheilwng. Na, y mae -genym ffeithiau (chwedl Edwards) cedyrn a fcrofant mai hwy sydd uwchaf mewn ayml- *Wydd, gweddeidd-dra, a theilyngdod. Os w Mari Waedlyd ar orsedd Prydain yn creu dychryn a braw, y mae genym yn awr ein Victoria dirion yn eistedd mewn dylanwad a gallu cariadlawn yn nghalonau ei deiliaid; Os bu Jesebel yn offerynol i ladd prophwydi yr Arglwydd, bu Elizabeth yn fam i un ag oedd yn fwy na holl feibion dynion os llw, yddodcl Delilah i ddmystrio un Samson, bu Deborah, mewn cysswllt a Barac, yn foddion gwaredigacth holl Israel Duw ac os bu Efa yn gyfrwng dinvstr dynoliaeth, drwy Mair catVyd IT N sydd yn oleuni i'r bobloedd, ac yn llewyrch i'r cenedloedd, ie, cafwyd un ag a fuisai yn codi dyn o'i bechod, ac a ddygai gyfiavvnder tragwyddol i mewn. Pwy oedd yn canlyn Ceidwad pechadur pan oedd Judas wedi ei foHychu, Pedr wedi ei wadu, a'r dysgyblion oil wedi ffoi? Oaid y gwrag- edd ? Gan hynv, gwel, os oes ychydig yn ddrwg, fod eu daioni yn fwy; a chaniata i mi I mi ddywedyd fy meddwl yn eglur, Hwynt- hwy ydynt angylion y ddaear, cerubiaid a Seraffiaid y llawr. Cxwilym.—Yr wyt bron a'm henuill i gol- eddu dv svniadau, eithr oni ddyweda Paul, Da yw priodi, ond gwell bod fel myfi ?" John.—Dywed, ond cofia fod Un anfeidrol fwy na Phaul wedi dywedyd, Nid da bod dyn ei hunan." Bwriadwyd i ddyn briodi, ac os na ehydvmffurfia dyn a deddfau Duw, bydd yn pechu vn erbyn: ei Wneuthurwr. Gran hyny, gyfaill, edifarha am dy gyndvn- Twydd, prioda a chei fenditbion a gweddiau Xfiiloedd'o'r rhyw deg i dy ganlyn. Gwilym.—Gwnaf dy gynghor, chwiliaf am gycimares bywyd, a gobeithio y maddeui dithau i mi am dy gadw cyhyd o gwmpeini dy feinwen lawen. ■ John.-All right. Ffarwel. Gwilym.—Ffarwel. Aeth John gartref at ei briod, ac erbyn heddyw y mae Gwilym yn berchen gwraig. P-n-p-1. CEEEDIG. A WYR AC YMARFEEIAD. — Dylai dyn ieuanc gerdde yn yr awyr agored chwe railltir bob dydd; dynes ieuanc dair neu bedair. Pan fyddwn yn llonydd, yr ydym yn treulio 500 o fodfeddi chwe- chyfoclirog o awyr bob mynyd. Os cerddwn yn ol un filltir yr awr, 800 dwy filltir yr awr, 1,000 tair milltir yr awr, 1,600; pedair milltir yr awr, 2,300. Oa "rhedwn yn ol chwe milltir yr awr, 3,000 tuthiad ceffyl, 1,750; rhygyngiad, 1,500. BWYTAWYB LOCUSTIAID.- Y mae locustiaid-yn Cael eu bwyta yn ami gan yr Arabiaid, hyd y nod pan nad oes prinder yd. Y maent yn eu berwi, eu goferwi gvdag ymenyn, ac yn eu gwneyd yn fath o ffurfrithog, bl,s yr hwn nid ydyw yn annymunol. Dywed Dr. Sparman fod locustinid weithiau yn amezithvii tra blasus i'r rhan fwyaf anwaraidd o'r Botentotiaid, pan, yn ddumweiniol, ar ol cyfwng 0 wyth, deg, pumtheg, neu ugain mlynedd, y toaent yn gwneyd eu hymddangosiad yn rhifedi annghredadwy. Yn yr amseroedd hyn y maent yn dyfod o'r Gogledd, ac ni chymmerant eu riiwystro gan un peih yn y byd ond ehedant yn yn tnlaen, ac y maent yn boddi yn y mor, bryd bynag yr ant ato. Y mae y rhyw fenywaidd O'r tryohfilod hyn yn llawn wyau, ac yn fuan ar 01 eu gosod yn y tywod, y maent yn marw. 0 hon ynt, yn neillduol, y mae yr Hotentotiaid yn gwneyd llymeidfwyd melyngoch, o liw colli, yr hwn sydd yn ennill o'r wyau fath o frasder seim- toyd ei olwg. Y mae yr Hotentotiaid yn mawr låwenhau ar eu liymweiiad, er eu bod yn sier o ddystrvwio nob gronyn o wyrddlesni; ond y mae y hobl hyn yn mynu iawn dda ganddynt am y gollod, drwy ddisgyn ar y creaduriaid, gan eu bwyta gyda'r fath nifer, fel, yn ysbaid ychydig ddnvrnudau, y maent yn dyfod yn amlwg yn j«awer tewach yn eu cyrff nag oeddynt o'r blaen. mae trigolion Holland N ewydd yn dra hoff o'r 'Un ymhoi-th hwn. Yn y modd hyn yr oedd rhan ymbovth loan Fedyddiwr. EWROP NN 1864.- Y mae pamphlet newydd Or enw "Ewrop yn 1864," newydd gael ei Ryhoeddi yn Paris, yr hwn, yn ol barn rhai o new. ydotaduron Ffrainc, sydd yn sier o greu teimlad PWys vr) y byti ^wleidyddol. Y mae yn dadlea o Oluid tfurfiad cynghrair rhwng Ffrainc, Rwsia, a ac fel moddion i ochelyd rhyfel, annoga fod fynghor o gyfreithwyr gael ei 3efydlu, I'r rhai yr y^ddiriedir y gorchwyl o wtieyd cyfreitliiau i'r ^lt?dydii. Creda yr awdwr fod sefyHta at.foddhao) J esenol Ewrop yn galw am rhyw gynllun o'r fath.