Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

TR EGLWYS WLADOL — Y PARCH.…

News
Cite
Share

TR EGLWYS WLADOL — Y PARCH. 1. DODSON, FICER COCKERHAM— ABERTH ER MWYN Y GWIR. Nid oes dim yn fwy cydweddol a'n teim- Jad, ac t'n bwriad yn ein hysgrifau ar yr 2Eglwys Wladol, na chyhoeddi ffeithiau, a'r ffeithiau hyn yn dal perthynas ag offeiriaid a lleygwyr" parchus yr Eglwys Sefydledig ei bun. Felly, bydd i ni gyhoeddi traethodyn 1>acl a gyiaoeddwyd er's amser yn ol gan Gymdeithas y Dadgyssylltiad. Mae y traeth- odyn bach hwn yn cynnwys dyfyniadau o lyfr a gyhoeddwyd gan y Parch. I. Dodson yn 1849, o dan y teiti o &ESYMAU GWR EGLWYSIG DROS ADAEL YR EGLWYS SEFYDLEDIG. Yn Mawrth, 1849, yn fuan ar ol i waith Uv. Noel ar Undeb yr Eglwys a'r Wladwr- iaeth ymddangos, darfu i'r Parch. I. Dodson 3foddi i fyny ficeriaeth Cockerham, yn agos i Lancaster, a gadawodd gymmundeb Eglwys -toegr. Yr oedd efe wedi dal y ficeriaeth hOTl-cyllid yr hon oedd rhwng .£600 a £ 700 yn y ilwyddyn-am bedair blynedd ar ddeg, ac yr oedd efe yn cael ei barchu yn fawr gan ei blwyfolion, a chan ei gymmydog- Ion yn gyffredinol. Yn fuan wedi hyny, cy- hoeddodd Mr. Dodson lyfryn, yr hwn a elwid, "Rhcsymau byrion dros adael yr Eglwys Sefydledig. Y maent yn cynnwys ffurf-lywodraeth yr Eglwys, ei haddysgiaeth, a'i dysgvblaeth, ac hefvd gymmeriad anys- grythyrol a drygionus cyssylltiad eglwys a gwladwriaeth ond ni chynnwys y tudalenau csnlynol ond ei brif wrthwynebiadau i Eglwys Loegr fel sefydliad gwladol. Y Siaent yn cael eu gosod gerbron agos yn Ilythyrenol; ni wnaed unrhyw gyfnewidiad ynddynt ond yn unig yr hyn oedd yn rheidiol er eu cael i gylch bychan. Rheswm I.-Fy rheswm cyntaf yw, nid filhif amddiffyn fy llofnodiadau (subscriptions). "Wrth ddyfod yn Wr Eglwysig, ac ar amryw fcchlysuron wedi hyny, fe geisiwyd genyf Wnodi amryw bethau, ac nid wvf ond drwy fy ymlyniad wrthynt yn cael fy ngoddef i ddal fy urdd a'r elw. Y cyntaf o dri erthygl o'r 36 canon a ofynir i Eglwyswr arwyddo sydd fel y canlyn :—" Mai Mswrhydi y ^nines, o dan Dduw, yw yr unig lywodr- Sethydd goruchel yn y deyrnas yma, yn gys- Jal mewn pethau neu achosion ysbrydol, eg- Jwysig, a thymhorol." Yr wyf yn credu fod fcyn yn anwiredd. Yr wyf yn credu nad oes gan y Frenines, mewn rhai pethau neu Scliosion, yn amgylchiadau ysbrydol a thu- fe^~nol yr Eglwysi Cristionogol, un hawl yn J byd i ymyraeth. Yr wvf yn credu mai yr ^g'\Tys ei hun sydd i fod yn unig reolydd a ■tornydd, o dan Grist, yn y fath achosion." Rheswm II.—Yr wyf yn credu fod 11awer 9 egwyddorion sylfaenol yr Eglwys Sefyd- ledig yn anysgrythyrol ac yn niweidiol. Y mae yn mysg y rhai hyn, 1. Ei nawdd, y drefn o appwyntio ei gweinidogion, yn trin iachad enaid fel eiddo, gan ganiatau yr hawl o appwyntio iddo i fod yn nwydd f-rosglwydcladwy a marchnadwy o 11:1 blaid-i blaid arall, ac i gael ei harfer gan Y jnwyaf bydol a'r mwyaf annuwiol; tra y Ibae y rhai y mae eu lleshad tragywyddol yn Cael ei beryglu, yn cael eu gorfodi i fod mor °ddefol yn ysfcod yr amser y eymmer y gor- Chwyl le a negroaid yn marchnad y caeth- ^'nsiou; y mae hon yn egwyddor berthynol 1)1; sefydliad, yn cael ei haddef yn gyffredinol a 1 chydnabod, yr hon ni phetrusaf ei galw J" un hollol anysgrythyrol a drygionus. ~^d all neb* If agio ei ham'ddiffyn fel peth ys- ^'ythyroL tra na byddo ond ychydig sydd j. e .i ystyried dim o berthynas i wir gym- tiG ^la Y fogciliaeth Gristionogol yn cael eu ^,leddniv hystyried yn ddimamgennadrwg r dueclc! fwyaf marwol yn yr Eglwys. 2. Y mae yr egwyddor orfodol o gynnal gweinidogion yn gyfryw nad allaf edrych arni ond fel un yr un mor niweidiol i leshad yr Eglwys (gweinidogion yn gystal a phobl) a'r byd; yn tueddu, megys y mae, i ddwyn gweinidogion i sefyllfa y maent yn hollol an- nghymhwys iddi; ac i'w cynnal ynddi, tra y mae eu dyledswyddau yn cael eu hollol es- geuluso, ac eneidiau yn newynu ac yn colli o'u cwmpas wrth y cannoedd a'r miloedd yn tueddu hefyd, megys y mae, i annghofio rhwymedigaethau Cristionogol, ac i attal teimlad Cristionogol yn yr eglwysi eu hun- ain; ac er mwyhad dirfawr i anymddiried- aeth, dyeithrwch,a gwrthwynebiad cyhoeddus yn y lluaws oddiallan. 3. Y mae yr egwyddor o uchafiaeth wladol yn un o'r egwyddorion addefedig ag sydd ar waith bob dydd yn Eglwy s Loegr. Y mae yr Eglwys Sefydledig yn Eglwys y Llywodraeth. Y mae yn ddarostyngedig i lywodraeth, a rheolaeth hollol y llywodraeth. Awdurdod y llywodraeth, hyny ydyw, y Senedd, a'r rhai hyny y mae hi yn ymddiried ei hawdurdod iddynt i appwyntio prif wein- idogion y sefydliad, ac i wneyd y cyfreithiau sydd yn rheoli, nid yn unig ei llywodraeth fewnol a'i dysgyblaeth, ond ei hunig faen prawf athrawiaeth a ffurf o wasanaeth; y mae awdurdod y llywodraeth i wneyd hyn yn anwahanadwy; y mae mewn ymarferiad awrol a dyddiol. Y mae yr holl esgobion wedi eu pennodi gan y llywodraeth, ac y maent yn dal eu swydd, nid drwy ddewisiad rhydd yr Eglwys, ond drwy awdurdod y Senedd. Ac felly y mae pob mater o ddys- gyblaeth yn cael ei benderfynu, nid gan gyf- reithiau Crist a barn dynion Cristionogol, ond gan gyfreithiau a wnaed gan y llyw- odraeth, a chan farnwyr o bennodiad y llyw- odraeth. A c y mae unig safon a ffurfiau yr Eglwys Sefydledig y peth ydynt, yn hollol ac yn gwbl am fod y Senedd yn ewyllysio idd- ynt fod felly. Y Senedd a'u gwnaeth yn rhwymedigaethol, a'r Senedd sydd yn eu cadw yn rhwymedigaethol. Mewn gair, y Senedd yw pen goruchaf y sefydliad. Dynion o bob math o grefyddau, a dynion heb fod o un grefydd yn y byd, yw penderfynwyr addefedig a chaniataedig pob peth, pa un bynag ai mewn athrawiaeth, llywodraeth, neu ddysgyblaeth perthynol i'r Sefydliad Cenedl- aethol. Y mae dynion na chaniateid iddynt, pe byddai drefn ar bethau, fod yn aelodau o'r Eglwys, yn cael ymostyngiad iddynt fel rheolwyr. Ond Crist yw unig ben cyfreith- lawn yr Eglwys. Y mae pob Cristion yn rhwym o dalu ufydd-dod llawn a diraniad yn mhob peth gwladol i'r Frenines a'r Senedd ond mewn pethau ysbrydol, mewn materion ffydd ac addoliad, a gweinvddiad llywodraeth dufewnol a dysgyblaeth yr Eglwys, nid ydyw a dan un math o rwymau i'r Frenines a'r Senedd. 4. Y mae taliad v llywodraeth yn egwyddor arall anysgrythyrol yn y sefydliad. Tal y llywodraeth yw cyflog yr Eglwyswr, ac nid dim arall. Dywedir nad ydyw y llywodr- aeth ddim yn talu cyflog gweinidog yr Eglwys mwy nag y mae yn talu rhent per- chenog y tir, neu dalu arian a adawwyd i weinidog Ymneillduol, neu rent ei eisteddle- oedd, yn gymmaint a'u bod yn eu hamddiffyn oil yn y mwynhad o'u heiddo, a dim yn ychwaneg. Ond ai nid oes gwahaniaeth yn y geiriau ar ba rai y mae yr amddi. ffyniad wedi ei uno ? Nid ydyw y llywodr- aeth yn gosod unrhyw reolau o'i heiddo ei hun gyda golwg ar ei chredoau neu ei haddysg, ar berchenog y tir, nac ar y gwein- idog ymneillduol ychwaith. Ond a ddichon i'r dadleuydd dros sefydliad Eglwysig honi yr un peth gyda golwg ar y Gwr Eglwysig ? iN a ddichon.^ Y mae y llywodraeth, yn wir, yn sicrhau i'r Gwr Eglwysig ei eglwysdir, ei bersondy, a'i rent-dal a gaiff yn lie degwm, neu pa beth bynag arall y mae ganddo hawl iddo ond y mae ar ammodau o'i phennodiad ac o'i gosodiad ei hun ac os bydd i'r Gwr Eglwysig dori y rhai hyn, gwna y llywodr- aeth ddefnyddio y Llys Eglwysig, ac attal ei dal. Yr ammodau ydynt y rhai byn-fod iddo ef lofnodi pethau neillduol, a meddwl a gweithredu yn ol hyny, pa mor dwyllodrus bynag y byddont; fod iddo arfer ffurfiau neillduol o addoliad, pa mor anysgrythyrol bynag y byddont; fod iddo bregethu athraw- iaethau neillduol, nid ydyw o un pwys pa un a ydyw ef yn eu hystyried yn wirionedd ai peidio ac, yn mhellach, ac yn neillduol, fod iddo fod yn ddystaw gyda golwg ar bob peth yn y trefniant a ystyrir yn wrthwynebus ganddo ef, ac a allai ef dybied yn deilwng o gondemniad. Nid oes un perchenog tir, na gweinidog ymneillduol, yn dal eu heiddo ar yr un ammodau a gweithred yr unflurfiaeth, megys y mae y Gwr Eglwysig ac megys y daw efe i deimlo yn fuan ei fod, os trosedda rai o'r darpariaethau. Nid ydynt hwy o dan un math o reolau, oddigerth gofalu am ym- ddwyn fel deiliaid ufydd ac heddychol; tra y mae y cais a'r gwasanaeth a fynir oddiwrth y Gwr Eglwysig, megys ammodau ei ddaliad ef, yn dangos yn rhy eglur y sefyllfa gyda golwg ar eiddo y sefydliad a feddiennir gan y Senedd, a'r cymhwysder y mae y Gwr Eglwysig yn derbyn ei dal ynddo. Rheswm III. — Yr wyf yn ystyried fod effeithiau y sefydliad y fath eu hunain ag y maent yn rhoddi tir digon cadarn i'w goll- farnu. Tra y mae y sefydliad yn rymus i wneyd drwg, nid ydyw y daioni y mae yn ei wneuthur ond bach neillduol, a'i gymharu I-Iblrlxioddionsyddgatiddo. Er ei bum miliwn o gyllid blynyddol (cyfarfcal i tua £300 yn y flwyddyn i bob un o'i 16,000 o weinidogion, nifer cyfartal i ranu holl boblogaeth Lloegr a Chymru yn eu plith, gan gymmeryd tua mil o bob un braidd), y mae y cyffredin o'r bobl yn baganiaid, tra nad ydyw corffy gweddill (gan adael allan y 3,000,000 sydd wedi ym neillduo o'r sefydliad), corfF y rhai hyny a fedyddiwyd ac a addvsgwyd yn y sefydliad, ac ydynt wedi eu conffirmio gan esgobion, ac ydynt yn ymgynnull at ei fwrdd cymmundeb, fawr gwell na Christionogion mewn enw, a'r mwyrif o'i weinidogion ydynt yn y cyfamser yn ddynion annychweledig—dynion a ddir- mygant y meddylddrych am ddychweliad, ar wahan oddiwrth fedydd. Gwn y diiir y mynegiad hwn fel gwarthnod ond yr wyf fi yn ei gredu, ac o herwydd hyny yr wyf wedi ei ddweyd. Ac yr wyf wedi siarad felly, nid yn unig oddiar grediniaeth gydwybodol, ond oddiar brofiad a sylw hir. Rheswm IV. Gallaf nodi, fel rheswm arall, fy nghrediniaeth yn ngallu anfeidrol Crist i amddiffyn ei achos ei hun; mewn geiriau ereill, na fyddai yr egwyddor wir- foddol, pe byddai i bob ffurf o Gristionogaeth gael ei dadsefydlu yfory, ond y gwelid yn dra buan gymmaint gwell yw amddiffyniad Crist i'r Eglwys nac amddiffyniad y llywodraeth —y byddai i'r Eglwys wrth orphwys ar yr egwyddor yma (ar yr hon y gadawodd Crist hi i orphwys, a'r hon na ddylasai byth adael) yn fuan yn dyfod i wneyd peth na wnaeth er pan adawodd yr egwyddor hono, sef codi i weithredu yn gyfartal i'r hyn y mae ei sef- yllfa yn ei ofyn, ac y mae ei galwedigaeth uchel yn gorchymyn am dano. Os ydym yn gweled llywodraeth y sefydliad yn llygredig, ac yn llygru, ei gweinidogaeth yn fydol, ei dysgyblaeth wedi darfod, ac yn ei chymmun- deb yr Eglwys a'r byd wedi eu cymmysgu yn drefnus yr ydym yn teimlo nad ydyw fod mwyach yn fater o ammheuaeth ond yn ddy- ledswydd, mor eglur a'r goleuni, i ardystio yn uchel ac yn effeithiol yn erbyn y drygau hyn, yn yr unig ffordd y gellir gwnevd, sef drwy ddyfod allan o'u canol, acymddidoli. Yr wyf yn credu fod ffyddlondeb i Grist, a dyledswydd at ei Eglwys (nid yn unig tuallan i'r sefydliad, ond ynddo), ac nid yn unig at yr Eglwys, ond at y genedl, ac yn ddiweddaf at y byd yn gyffredinol, yn gofyn i mi gym- meryd y fath safle gyda golwg ar y sefydliad agjaj • a fy ystyriaeth o beth sydd iawn, ac a fydd yn gyfiawnhad yn. ngwyneb fy nghydwybod ar awr fy marwol- aeth. A r fath safle, ar ol ystyriaeth hir, ddofn, a phoenus, yr wyf yn bresenol yn ei gymmeryd pan ddadganaf fy nghredo fod y Sefydliacl Eglwysig yn y wlad hon yn anys- grythyrol o ran ei egwyddorion, ac yn groes i'r efengyl mewn ymarferiad ac fel y cyfrvw yn dramgwydd i Grist, yn faich i'r Eglwys ac yn rhwvstr drygionus i leshad penaf dyn- olry w a chan fy mod yn barnu felly am dam, yr wyf yn rhoi i fyny fy ennill oddi- wrth!, yn gadael ei gweinidogaeth, ac vn en- cilio o'i chymmundeb. Ond wrth adael y sefydliad, nid ydym yn gadael yr Eglwys. Nid yr Eglwys yw y sefydliad; yr Eglwys yn Lloegr yw corff pobl Crist yn Lloegr. Wrth adael y sefydliad, nid ydwyf yn ym- y wahanu oddiwrthynt hwy, ond yr wyf yn hytrach yn bwrw i lawr attalfeydd sydd yn fy ngwahanu oddiwrth lawer o honynt, ac yn tynu y rhwymau sydd yn fy uno a hwynt yn agosach. Dyna farn dyn 0 deimlad, yr hwn a aberth- odd £ 700 yn y flwyddyn er mwyn cael bod yn ddyn rhydd. Mae llawer yn ddiddadl vn teimlo fel Mr. Dodson, ond heb feddu digon o wroldeb i wneyd yr aberth.

¡IEITHYDDIAETH.